English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Creu hanes

MAE\’R RHIFYN HWN O WHQ yn nodi moment hanesyddol yn hanes tai yng Nghymru a moment newydd yn y ddadl ynglŷn â dyfodol Cymru o fewn y DU.

Y foment hanesyddol, wrth gwrs, yw pasio\’r Ddeddf Tai Gymreig gyntaf er i\’r Cynulliad gael yr hawl i lunio deddfwriaeth sylfaenol. Mae clawr y rhifyn hwn yn dangos seremoni selio\’r Ddeddf gyda\’r prif weinidog Carwyn Jones a Carl Sargeant. Y cyn-weinidog tai ac adfywio oedd yn gyfrifol am y Ddeddf, ac mae\’n esbonio sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Dilynir hynny gan gyfres o erthyglau am wahanol agweddau ar weithrediad y Ddeddf, yn cynnwys digartrefedd, rhai sy\’n dod allan o\’r carchar, rhentu preifat a\’r rhyngweithio rhwng y Ddeddf a diwygio tenantiaethau.

Mae\’r drafodaeth ynglŷn â\’r dyfodol wedi codi yn sgîl y refferendwm dyngedfennol ar annibyniaeth i\’r Alban a gynhaliwyd drannoeth seremoni selio\’r Ddeddf. Ar ôl ymgyrch gwbl anghyffredin a nifer anhygoel yn pleidleisio, priodolwyd buddugoliaeth yr ymgyrch Na yn rhannol o leiaf i\’r \’llw\’ a dyngwyd gan y tair prif blaid unoliaethol i drosglwyddo mwy o bwerau i Holyrood. Mae ein herthygl ar y ddadl ddatganoli yn edrych ar yr hyn a allai ddigwydd yn yr Alban, Cymru a gweddill y DU a\’r oblygiadau i\’r maes tai.

Mae amrediad pynciau erthyglau eraill yn y rhifyn hnw yn tystio i bwysigrwydd sylfaenol tai mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae Cathy Davies, a ymddeolodd o fod yn brif weithredydd Hafan Cymru ym mis Mehefin, wedi sgrifennu yr hyn mae\’n ei alw\’n atgofion \’madam\’ lloches, myfyrdod personol ar orffennol, presennol a dyfodol y sector camdriniaeth domestig yng Nghymru.

Mae Dr Steve Sharples yn edrych y tu hwnt i\’r rhagbydiaethau ynglŷn ag \’ymbweru tenantiaid\’ ac yn gofyn beth mae\’r term yn ei olygu mewn gwirionedd i\’r berthynas rhwng tenantiaid a landlordiaid.

Yn sgîl y Ddeddf Tai, mae Jennie Bibbings o Shelter Cymru a Douglas Haig o Gymdeithas y Landlordiaid Preswyl yn trafod dyfodol y sector rhentu preifat yng Nghymru, ac yn ceisio dod o hyd i dir cyffredin rhyngddynt. Mae John Harper yn dadlau bod angen i bolisi tai Cymru wella ei sail dystiolaeth dameidiog bresennol.

Mae Ceri Breeze a chadeirydd newydd bwrdd WHQ Antonia Forte yn edrych ar gasgliadau adroddiad newydd am y cysylltiadau rhwng tai ac iechyd meddwl. Mae hefyd yn gyflwyniad i eitem newydd, sef diweddariad cyson WHQ ar waith y Bwrdd Darparu Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Diymgeledd.

Ac ni fyddai\’r un rhifyn diweddar o WHQ yn gyflawn heb rywbeth ynglŷn â diwygio lles. Alun Thomas sy\’n edrych ar effaith polisïau llywodraeth y DU yng Nghymru hyd yn hyn, tra bod Duncan Forbes yn dadlau mai\’r dreth stafell wely yw\’r methiant mwyaf oll ac y dylid ei dileu.

Mae hyn oll ynghyd â rhagor gan ein holl gyfranwyr rheolaidd yn creu rhifyn yr Hydref a fydd o gryn ddiddordeb, gobeithio.

Jules Birch

Golygydd, WHQ

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »