English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

Gall y newid yn y dreth stamp achosi problemau i\’r Alban a Chymru

Daeth Datganiad yr Hydref â newid annisgwyl yn ddi-oed i\’r dreth stamp ledled y DU.

Diddymodd y Canghellor George Osborne yr hen strwythur \’slab\’ lle codir treth ar gyfraddau uwch bob tro y bydd gwerth cartref yn pasio trothwy penodol fel £250,000 a £500,000. 

Yn awr, codir treth ar y swm uwchlaw\’r trothwy o dan gyfundrefn a fydd, meddai Osborne, yn golygu y bydd pawb sy\’n prynu tŷ gwerth hyd at £937,000 (sef 98 y cant o brynwyr) yn talu llai. Bydd prynwyr cartrefi gwerth mwy nag £1.5 miliwn yn talu llawer mwy ond, at ei gilydd, bydd y gyfundrefn newydd yn codi £800 miliwn y flwyddyn yn llai na chynt.

Cafodd y newidiadau groeso cyffredinol, er gwaethaf rhybuddion y gallent beri i werthwyr godi eu prisiau yn hytrach na helpu prynwyr tro-cyntaf gobeithiol.

Ond fe allai\’r gyfundrefn newydd achosi problemau i lywodraethau\’r Alban a Chymru. Roedd yr Alban eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i ddisodli\’r dreth stamp a Threth Gwerthiannau Tir ac Adeiladau. Mae hyn hefyd yn diddymu\’r strwythur slab, ond mae\’r llinell wahanu rhwng talu llai neu fwy o dreth, sef £325,000, yn llawer is. Daeth y dreth stamp newydd i rym noswaith Datganiad yr Hydref, gan roi cyfnod pedwar-mis i brynwyr a gwerthwyr tai drutach i arbed treth ar werthiannau, cyn i\’r drefn newydd ddod i rym o fis Ebrill.

Treth stamp fydd un o\’r trethi cyntaf i gael eu datganoli i Gymru o dan ddeddfwriaeth sy\’n mynd trwy senedd San Steffan, ond golyga newid Osborne y gallai\’r dreth godi llai o arian na chynt.

LLOEGR

Y glymblaid yn datgelu cynlluniau cartrefi newydd

Cyhoedd y llywodraeth glymblaid becyn o fesurau yr hawlir y byddant yn arwain at godi miloedd o dai newydd.

Roedd prif bwyntiau Cynllun Isadeiledd Lloegr a mesurau Datganiad yr Hydref ym mis Rhagfyr yn cynnwys:

  • Cefnogaeth ar gyfer ‘tref erddi’ newydd o 13,000 o gartrefi yn Bicester, Swydd Rydychen, a gefnogir gan y cyngor lleol
  • 10,000 o gartrefi ar dir sector-cyhoeddus di-ddefnydd yn Northstowe, Swydd Gaergrawnt, gyda’r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau yn chwarae rhan flaenllaw yn y datblygiad
  • Targed newydd o ryddhau digon o dir sector-cyhoeddus di-ddefnydd ar gyfer 150,000 o gartrefi rhwng 2015 a 2020
  • Ymestyn y rhaglen cartrefi fforddiadwy o ddwy flynydd er mwyn darparu, fe honnir, 275,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2020
  • Amrywiaeth o fentrau isadeiledd ac adfywio stadau eraill

Meddai’r ysgrifennydd cymunedau, Eric Pickles: ‘Ynghyd â’n cynlluniau ar gyfer rhaglen newydd o adeiladu tai fforddiadwy, gallai’r mesurau hyn ddarparu mwy na 200,000 o gartrefi newydd ledled y wlad.’

YR ALBAN

Holyrood i gael pwerau lles newydd

Argymhellodd Comisiwn hollbleidiol Smith y dylid datganoli pwerau budd-dal tai ychwanegol i Senedd yr Alban, ond heb fynd cyn belled â throsglwyddo pwerau lles mwy radicalaidd.

Mewn adroddiad a gyhoeddodd ddiwedd mis Tachwedd, galwodd am ddau newid i\’r trefniadau presennol ar gyfer credyd hollgynhwysol:

  • Pwerau i Lywodraeth yr Alban newid amledd taliadau credyd hollgynhwysol, ac amrywio’r trefniadau gweinyddol, yn cynnwys taliadau uniongyrchol
  • Pwerau i Lywodraeth yr Alban amrywio elfen cost-tai credyd hollgynhwysol, yn cynnwys y tâl tan-feddiannu (treth stafell wely), cyfraddau lwfans tai lleol, rhent cymwys a didyniadau ar gyfer preswylwr nad ydynt yn ddibynyddion

Bydd pob elfen arall o’r credyd hollgynhwysol wedi eu neilltuo i San Steffan. Datganolir rhai budd-daliadau eraill, yn cynnwys taliadau tai disgresiynol.

Meddai pennaeth polisi a materion cyhoeddus STS yr Alban, David Ogilvie:

‘Fel yr awgrymson yn ein cyflwyniad i’r comisiwn, rhoddir y pŵer i Lywodraeth yr Alban i amrywio neu dalu mwy mewn budd-dâl tai, sy’n golygu y gall roi mwy o gymorth i bobl yr effeithir arnynt gan y dreth stafell wely, er enghraifft, a helpu pobl gyda chostau llety cynyddol.’

GOGLEDD IWERDDON

Toriadau yn y gyllideb ddrafft

Bydd cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft gan yr Adran Datblygiad Cymdeithasol (ADC) yn golygu cwtogi ar ei chyllideb o £68.4 miliwn neu 12.3 y cant.

Daw’r rhan fwyaf o’r gostgyngiad yn y gyllideb £654-miliwn o golli 650 o swyddi yn yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol a 400 yng Ngweithgor Tai Gogledd Iwerddon, ond bydd y gweinidog datblygiad cymdeithasol Mervyn Storey yn ‘ceisio diogelu, cyn belled ag y bo modd’ y Gronfa Gymdeithasol a Chefnogi Pobl.

Meddai cyfarwyddydd STS Gogledd Iwerddon, Nicola McCrudden: ‘Bydd toriadau cyllido ar y raddfa hon yn sicr o effeithio’n wael ar bobl sy’n derbyn y gwasanaethau. Fodd bynnag, rydym yn falch bod yr ADC wedi ymrwymo i ddiogelu’r mwyaf diymgeledd ac, wrth wneud hynny, yn cydnabod y pwysau cynyddol ar dai, a’r angen am leihau’r perygl o ddigartrefedd.’

 

LLYWODRAETH CYMRU

Bron â chyrraedd y nod

Helpodd y cynllun Troi Tai’n Gartrefi i ddyblu nifer y cartrefi gwag y gallwyd eu defnyddio unwaith eto yn 2013/14.

Dengys ffigyrau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru y trowyd 2,178 o unedau eiddo gwag yn gartrefi unwaith eto yn 2013/14, cynnydd o 99 y cant ar 2012/13 a 112 y cant ar 2011/12.

Daw hynny â\’r cyfanswm yr ailddechreuwyd eu defnyddio fel cartrefi yn ystod tymor y Cynulliad hwn yn 4,471. Y targed gwreiddiol oedd 5,000 dros y tymor cyfan, sy\’n dod i ben ym mis Mai 2016.

Mae Troi Tai\’n Gartrefi, a gefnogwyd gan £20 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y ddwy flynedd gyntaf, yn darparu benthyciadau di-log i berchenogion eiddo a fu\’n wag am fwy na chwe mis, i\’w hadfer ar gyfer eu gwerthu neu eu rhentu.

Fodd bynnag, dywedodd llefarydd tai’r Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black bod yna ormod o gartrefi gwag o hyd, a bod y llwyddiant i’w briodoli i weithredu gan gynghorau unigol yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Meddai ‘Mae angen dybryd am Strategaeth Tai Gweigion Genedlaethol i dynnu’r cwbl ynghyd, lledaenu arfer gorau, a sicrhau y defnyddir adnoddau yn y ffordd orau bosib.’

Dywedodd y gweinidog dros gymunedau a threchu tlodi, Lesley Griffiths:

‘Mae\’r ffigyrau diweddaraf hyn yn arwydd clir o\’n hymrwymiad parhaus i ateb anghenion tai. Wrth wneud hynny, rydym yn gwella golwg ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan y problemau a achosir gan eiddo gwag ac yn hybu cyflogaeth yn y diwydiant adeiladu ledled Cymru gyfan.\’

Bygythiad sancsiynau i bobl ddiymgeledd

Mae\’r gweinidog cymunedau a threchu tlodi, Lesley Griffiths, wedi mynegi ei phryder ynglŷn ag effaith y cynnydd mewn sancsiynau budd-daliadau ar bobl ddiymgeledd yng Nghymru.

Wrth siarad yn y Senedd, tanlinellodd y cynnydd mewn sancsiynau ar bobl sy\’n hawlio\’r budd-dal salwch, y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), a\’r nifer o sancsiynau sy\’n cael eu gwrthdroi ar apêl.

Cynyddodd y sancsiynau ar bobl yng Nghymru sy’n hawlio ESA o 150 ym mis Mehefin 2013 i bron 400 ym mis Mehefin 2014. Cafodd chwarter y sancsiynau hyn eu hadolygu, gyda bron i hanner yn cael eu gwrthdroi. Dywedodd Lesley Griffiths: ‘Yn ddiamau, mae Llywodraeth Cymru’n credu y dylai budd-daliadau ddod â chyfrifoldebau gyda nhw. Mae’n bwysig o ran sicrhau bod gennym system cymorth lles sy’n deg i bawb. Fodd bynnag, y realiti yw bod newidiadau Llywodraeth y DU yn peryglu diogelwch pobl ddiymgeledd, gan wasgu incwm teuluoedd ac unigolion sydd eisoes yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd.’

Gwesteiwyr parti cynhesu\’r aelwyd

Rhoddodd erthygl yn y rhifyn diwethaf restr anghyflawn o\’r sefydliadau a gyd-gynhaliodd y parti cynhesu\’r aelwyd i ddathlu i ddathlu pasio Deddf Tai (Cymru).

Gan ymddiheuro i Shelter Cymru am eu hepgor, dyma\’r rhestr gyflawn o\’r naw mudiad a gefnogodd y digwyddiad: STS Cymru; Shelter Cymru; Arweinyddiaeth Tai Cymru; Tai Pawb; Cyngor ar Bopeth; Cartrefi Cymunedol Cymru; HouseMark Cymru; Canolfan Gydweithredol Cymru; a Chymorth Cymru.

Papurau ymgynghori

Strategaeth Tlodi Plant Ddiwygiedig Cymru

http://wales.gov.uk/consultations/people-and-communities/revised-child-poverty-strategy/?lang=cy – ymatebion erbyn 29 Ionawr 2015

 

CYHOEDDIADAU

10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

1) Tacking Homelessness through Financial Inclusion Legacy Report

Canolfan Gydweithredol Cymru, Rhagfyr 2014

www.walescooperative.org/adroddiad-etifeddiaeth

2) The SocioEconomic Impact of the Welsh HA and Community Mutual Sector

Uned Ymchwil i Economi Cymru ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru, Tachwedd 2014

http://chcymru.org.uk/en/publications/weru-report

3) Feeding Britain: A strategy for zero hunger in England, Wales, Scotland and Northern Ireland – Adroddiad yr Ymchwiliad Seneddol Holl-bleidiol i Newyn yn y Deyrnas Unedig, Rhagfyr 2014

foodpovertyinquiry.files.wordpress.com/2014/12/food-poverty-feeding-britain-final.pdf

4) Monitoring Poverty and Social Exclusion 2014

Sefydliad Joseph Rowntree, Tachwedd 2014

www.jrf.org.uk/publications/monitoring-poverty-and-social-exclusion-2014

5) Reaching Safe Places: exploring the journeys of young people who run away from home or care –

Railway Children, Rhagfyr 2014

www.railwaychildren.org.uk/media/37812/14rach001-br-cr-brochure-digital-low.pdf

6) The Home Stretch: coping with high housing costs

Resolution Foundation, Rhagfyr 2014

www.resolutionfoundation.org/publications/the-home-stretch-coping-with-high-housing-costs/

7) Freeing Housing Associations: Better Financing, More Homes

www.policyexchange.org.uk/publications/category/item/freeing-housing-associations-better-financing-more-homes

8) What Will the Housing Market Look Like in 2040

Sefydliad Joseph Rowntree, Tachwedd 2014

www.jrf.org.uk/publications/what-will-housing-market-look-2040

9) No Place Like Home: 5 million reasons to make housing disabled-friendly – 

Leonard Cheshire Disability, Rhagfyr 2014

www.leonardcheshire.org/who-we-are/publications/latest-publications-download/no-place-like-home

10) Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru – Llywodraeth Cymru, Tachwedd 2014

wales.gov.uk/statistics-and-research/welsh-index-multiple-deprivation/?lang=cy

 

Cynnal tenantiaethau

Mae Tai\’r Glannau wedi lansio cynllun i helpu tenantiaid i ddysgu popeth sydd ei angen arnynt ynglŷn â rheoli eu tenantiaieth.

Ymunodd y grŵp tai o Abertawe â Cymunedau Agored a Tenantiaid Cymru i greu rhaglen ddysgu \’tenantiaeth gynaliadwy\’ ddeuddydd. Dywedir mai hon yw\’r gyntaf o\’i bath yn y DU, gan ei bod yn dysgu i staff rheng-flaen landlordiaid cymdeithasol sut i ddysgu\’r rhaglen i\’w tenantiaid. Bydd staff yn cwblhau\’r Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddi – cymhwyster dysgu – trwy gyfrwng cyfleuster dysgu ar-lein Cymunedau Agored. Yna, byddant yn dysgu\’r rhaglen cynnal tenantiaeth i\’w tenantiaid ar sail gyson. Mae\’r rhaglen wedi ei hanelu at ddarpar-denantiaid sydd am fentro ar denantiaeth am y tro cyntaf yn ogystal â thenantiaid sydd yn ei chael hi\’n anodd cynnal eu tenantiaeth.

Fel yr esbonia Rheolydd Cynhwysedd Cymuned Tai\’r Glannau, Janet Gange: ‘Fel landlord cymdeithasol, rydym yn darparu cartrefi i bobl o bob math o gefndiroedd economaidd a chymdeithasol, yn cynnwys tenantiaid diymgeledd a chynorthwyedig yn ogystal ag ymgeiswyr newydd a all fod ag angen help i ddelio â chredyd hollgynhwysol.

Bydd rhai o\’n ymgeiswyr heb fyw\’n annibynnol erioed o\’r blaen, a heb fod yn gwybod y peth cyntaf am sut i reoli tenantiaeth; i lawer, dyma\’r tro cyntaf iddyn nhw orfod cadw at gyllideb. O ganlyniad, mae\’n anorfod y bydd rhai tenantiaethau\’n methu. Mae llawer o resymau am hynny, o broblemau cyllidebu sylfaenol yn arwain at ôl-ddyledion rhent i broblemau mwy dyrys fel cwynion gan gymdogion ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.\’

Meddai Ray Coyle, cyfarwyddydd Cymunedau Agored: ‘Mae hon yn rhaglen sy\’n dod â budd i\’r sefydliad o ran datblygiad staff yn ogystal ag i denantiaid diymgeledd a darpar-denantiaid sydd ag angen cefnogaeth ac arweiniad er mwyn cynnal eu tenantiaethau yn y tymor hwy.\’

Mae i\’r rhaglen wyth modiwl yn cynnwys: ymwybyddiaeth o ddiwygiadau lles; rheoli cyllid personol a theuluol; rheoli dyled; hawliau a chyfrifoldebau landlord a thenant; ymddygiad gwrth-gymdeithasol a sut i fod yn gymydog da; iechyd a diogelwch yn y cartref; diogelwch rhag tân; a DIY sylfaenol.

Bydd pawb sy\’n cwblhau\’r cwrs yn llwyddiannus yn derbyn Tystysgrif Cynllun Achredydu Tenantiaid mewn Cynnal Tenantiaeth. Yn eu plith mae Valerie Stanton, a ddywedodd: \’Roedd y ddau ddiwrnod hyfforddi\’n fwynhad pur. Roedd y wybodaeth ariannol ynglŷn â sgiliau cyllidebu a defnyddio Undebau Credyd yn berffaith.\’

Dywedodd Richard Lee, a gwblhaodd y rhaglen yn llwyddiannus hefyd: ‘Mwynheais y cwrs yn fawr, a gobeithio y bydd yn help i mi sicrhau tenantiaeth yn y dyfodol agos iawn.\’

Golau gwyrdd i gynlluniau Arglawdd Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cefnogi cynlluniau gan y datblygwyr Bellerophon Partnerships a Chymdeithas Tai Linc-Cymru ar gyfer cynllun adfywio gwerth £500 miliwn Arglawdd Caerdydd.

Bydd y Gylchfa Fenter ger Afon Taf yn gartref i raglen eang yn cynnwys cymysgedd o 2,150 o dai fforddiadwy a marchnad-agored, ysgol gynradd, siopau, barrau a bwytai. Disgwylir i\’r gwaith gychwyn ar y safle yn y gwanwyn.

Meddai prif weithredydd Bellerophon Partnerships, Richard Daley:

‘Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gaerdydd. Heol Dumballs yw\’r unig lain o dir yng nghanol y ddinas sydd ag angen dybryd am ei adfywio, a bu\’n graith ar y dirwedd yn llawer rhy hir.\’

Meddai prif weithredydd Linc, Rob Smith: ‘Bydd y cynllun arloesol yma\’n gyfraniad o bwys i uchelgais Cyngor Caerdydd am weld mwy o gartrefi marchnad-agored a fforddiadwy o ansawdd yn cael eu codi ar gyfer pobl sydd am fyw a gweithio ym mhrifddinas Cymru.\’

Meddai arweinydd y Cyngor, y Cyng. Phil Bale: ‘Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol, o ansawdd uchel, ac mae\’n gryn gamp i fod wedi esgor arno heb gyllid sector cyhoeddus. Bydd y project £500 miliwn yn creu swyddi mae mawr angen amdanynt ac yn creu nifer o gyfleusterau newydd a fydd yn waddol barhaol i\’r gymuned.\’

Dal twyllwr tai

Gwnaeth Cartrefi Dinas Casnewydd (CDC) gais llwyddiannus i Lys Sirol Casnewydd i adfeddiannu cartref y sicrhawyd tenantiaeth ar ei gyfer trwy dwyll.

Dywedodd y rheolydd gwasanaethau tenantiaeth fod y diffynnydd wedi dwyn hunaniaeth dinesydd UE a fuasai farw. Doedd y diffynnydd ddim yn ddinesydd UE ac felly nid oedd yn gymwys i dderbyn tenantiaeth eiddo cymdeithasol. Wrth grynhoi, dywedodd y barnwr ei bod hi\’n \’dyst credadwy\’ a\’i bod wedi \’ymddwyn yn gyfrifol\’ trwy ddwyn achos llys ar adeg pan mae cymaint o alw am dai cymdeithasol yng Nghasnewydd. Bydd CDC yn meddiannu\’r eiddo yn yr wythnosau nesaf er mwyn gallu ei ailosod i rywun cymwys o dan y gyfraith.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »