English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

AGP yn ennill apeliadau treth stafell-wely a therfyn budd-dâl

Dyfarnodd y Llys Apêl bod y dreth stafell-wely a’r terfyn uchaf ar fudd-dal yn gyfreithlon mewn dau achos gwahanol a ddygwyd gerbron gan deuluoedd sy’n dioddef effeithiau’r polisïau.

Dadleuodd cyfreithwyr ar ran y teuluoedd bod y gosb tanfeddiant yn gosb annheg ar oedolion anabl sydd ag angen cartref mwy oherwydd eu hanabledd, ond roedd y llys yn fodlon derbyn bod taliadau tai disgresiynol yn ateb eu hanghenion. Gwrthododd y barnwyr hawliadau hefyd bod y terfyn budd-dâl yn tramgwyddo hawliau dynol oherwydd ei effaith ar deuluoedd diymgeledd. Dywedodd y llys na allai ymyrryd oni bai fod y polisïau ‘yn amlwg heb sail resymol iddynt’.

Yn achos y dreth stafell-wely, dadleuodd cyfreithwyr y teulu y dylid eithrio oedolion anabl yn yr un modd â phlant anabl ac nad oedd taliadau tai disgresiynol yn eu diogelu’n ddigonol. Meddai Ugo Hayter o gwmni Leigh Day: ‘Rydym ar hyn o bryd yn ystyried a yw hi’n bosibl apelio at y Goruchaf Lys. Mae ein cydymdeimlad gyda’r miloedd o denantiaid anabl sy’n dal i wynebu ansicrwydd, tlodi a’r perygl o gael eu troi allan.’

Dywedodd cyfreithwyr yn cynrychioli rhieni sengl yn achos y terfyn budd-dâl eu bod hwythau’n gobeithio parhau i herio yn y Goruchaf Lys. Meddai Rebekah Carrier o Hopkin Murray Berskine Solicitors: ‘Mae’n enwedig o siomedig i’r Llys wrthod penderfynu ar faterion pwysig o egwyddor sy’n effeithio ar y nifer fawr o fenywod a phlant a wneir yn ddigartref gan drais yn y cartref bob blwyddyn. Addawodd y Llywodraeth ymdrin â hyn yn Ebrill 2013, ddeng mis yn ôl, ond nid yw wedi gwneud.’

Croesawodd yr Adran Gwaith a Phensiynau y ddau ddyfarniad.

Gweler yr erthygl Blwyddyn o Ddiwygiadau Lles.

Lloegr

Perchentyaeth yn lleihau eto a thwf y sector rhentu preifat yn parhau

Syrthiodd perchentyaeth yn Lloegr i’w lefel isaf ers 1987 wrth i’r sector rhentu preifat barhau i dyfu. Dangosodd Arolwg Tai Lloegr bod 65.2 y cant o aelwydydd yn Lloegr yn berchen ar eu cartref yn 2012/13, gostyngiad o uchafbwynt o 70.9 y cant yn 2003.

Mae rhyw 18 y cant o deuluoedd bellach yn rhentu’n breifat, cyfran a ddyblodd ers 1992. Goddiweddwyd rhentu cymdeithasol (16.8 y cant o deuluoedd) gan rentu preifat yn 2011/12 a thyfodd y bwlch rhwng y ddau ymhellach.

Mae’r data’n awgrymu y bydd y tueddiadau hyn yn parhau. Yn y sector perchentyaeth, tyfodd y nifer y perchenogion cyflawn (tueuoedd hŷn, gan mwyaf, sydd wedi ad-dalu eu morgais) i 7.15 miliwn tra gostyngodd y nifer yn prynu â morgais i ddim ond 7.18 miliwn. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd 8.5 miliwn o deuluoedd yn prynu â morgais yn Lloegr.

Bellach mae cyfanswm o bron bedair miliwn o rentwyr preifat yn Lloegr, cynnydd o ddwy filiwn ers troad y ganrif a’r cyfanswm uchaf er y 1960au. Crebachodd y sector rhentu cymdeithasol i 3.68 miliwn o’i gymharu â 5.38 miliwn ar ddechrau’r 1980au.

Ymateb y gweinidog tai Prydeinig, Kris Hopkins, oedd hawlio bod 100,000 o deuluoedd yn cael help i ddringo i’r ysgol eiddo trwy gynlluniau’r llywodraeth ganol, yn cynnwys Help to Buy, a chynnydd mewn gostyngiadau Right to Buy.

Fodd bynnag, dengys yr arolwg i’r nifer o deuluoedd sy’n prynu â morgais ostwng o fwy na 500,000 yn ystod tair blynedd gyntaf y llywodraeth glymblaid.

 

Yr Alban

Holyrood yn ceisio amddiffyn dioddefwyr y dreth stafell-wely

Galwodd Llywodraeth yr Alban am ddileu cyfyngiadau cyfreithiol ar faint o daliadau tai disgresiynol (TTDau) y gall ei ddarparu fel rhan o ymgais i liniaru effeithiau’r dreth stafell-wely yn llwyr.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Nicola Sturgeon bod Holyrood am ychwanegu £15 miliwn at y £35 miliwn sydd eisoes yng nghronfa TTD 2014/15. Amcangyfrifir y bydd y cyfanswm o £50 miliwn yn ddigon i helpu’r 76,000 o deuluoedd Albanaidd sy’n dioddef effaith y gosb tanfeddiant.

Er mwyn darparu mwy o arian, byddai’n rhaid i lywodraeth y DU ddileu terfyn cyfreithiol ar faint o gymorth y gellir ei gynnig. Wrth i WHQ fynd i’r wasg, roedd opsiynau eraill yn cael eu hystyried.

Meddai Nicola Sturgeon: ‘Rydym eisoes wedi darparu cymaint o help ag a fedrwn yn gyfreithlon i ddioddefwyr y polisi anghyfiawn hwn, ond mae cyfyngiad annheg ar yr hyn y gallwn ei wneud.

‘Mae Llywodraeth yr Alban eisoes yn gwario hyd at y terfyn cyfreithlon er mwyn lliniaru effeithiau’r dreth stafell-wely ar filoedd o bobl ledled yr Alban. Rydym yn fwy na pharod i gyfrannu’r £15 miliwn ychwanegol a fyddai’n cynyddu swm y cymorth sydd ar gael i gyfanswm o £50 miliwn.’

Gogledd Iwerddon

Cychwyn cofrestru landlordiaid

Rhaid i landlordiaid preifat sy’n gosod eiddo yng Ngogledd Iwerddon fod wedi eu cofrestru bellach o dan gynllun a lansiwyd gan y gweinidog tai Nelson McCausland ddiwedd mis Chwefror.

Mae’r Cynllun Cofrestru Landlordiaid yn gorfodi pob landlord preifat i dalu i gofrestru am dair blynedd – £70 ar-lein neu £80 trwy ddull anelectronig. Codir y tâl hwn ni waeth sawl eiddo sydd gan landlord.

Rhaid i bob landlord preifat gofrestru ar unwaith cyn gosod tenantiaeth newydd neu o fewn 12 mis os oes ganddo/ganddi denantiaethau eisoes ond dim rhai newydd. Os bydd landlord yn methu cofrestru neu’n darparu gwybodaeth ffug wrth gofrestru, bydd yn wynebu cosb sefydlog o hyd at £500, neu ddirwy o hyd at £2,500 os daw gerbron llys.

Meddai Nelson McCausland: ‘Bydd cychwyn cofrestru landlordiaid yn helpu i wneud y sector rhentu preifat yn fwy atyniadol i fwy o bobl.’ Bydd y cynllun yn galluogi cynghorau i sicrhau bod landlordiaid preifat yn ufuddhau i’r gyfraith bresennol.

Anogir tenantiaid i edrych am y logo a’r rhif Cofrestru Landlordiaid wrth ymrwymo i denantiaeth newydd. Bydd hyn yn gyfrwng eu sicrhau bod eu landlord wedi ufuddhau i’r gofyniad statudol i gofrestru.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yn http://www.nidirect.gov.uk/landlord

LLYWODRAETH CYMRU

Galw am ehangu rhan mudiadau cydfuddiannol yn y maes tai

Mae comisiwn a benodwyd gan Lywodraeth Cymru wedi galw am ehangu rhan cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol mewn darparu tai.

Dywedodd Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru y gellid datblygu eu rhan yn y maes tai mewn tair ffordd:

  • Cymdeithasau tai cydfuddiannol cymunedol i ehangu eu portffolios tai a datblygu sgîl-wasanaethau dan berchnogaeth gydfuddiannol sy’n ymwneud â rheoli a datblygu tai, fel cynnal a chadw tir, ailwampio tai, gwasanaethau gosod eiddo a gofal cymdeithasol.
  • Deiliadaeth gydweithredol newydd, i ddod â thai a fyddai’n anfforddiadwy fel arall o fewn gafael pobl trwy gyfuno adnoddau er mwyn prynu neu ddatblygu eiddo.
  • Swyddogaeth i gymdeithasau tai cydfuddiannol cymunedol mewn darparu’r sylfaen asedau ar gyfer menter gyllid cydweithredol.

Mae pedwar o’r deg cwmni cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru yn gymdeithasau tai: Cartrefi RhCT, Tai Cymunedol Bron Afon, Cymdeithas Tai Sir Fynwy a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru.

Defynyddiodd adroddiad cysylltiedig ar gyfer Llywodraeth Cymru gan Altair dai cymdeithasol fel astudiaeth achos o wahanol strwythurau ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Archwiliodd yr adroddiad y ddarpariaeth o safbwynt gwerthoedd y sector cyhoeddus, dyraniad adnoddau teg, cynaliadwyedd ariannol, a thelerau ac amodau gweithwyr, a chael ychydig iawn o wahaniaeth rhwng awdurdodau lleol a chwmnïau cydfuddiannol.

Daw i’r casgliad: ‘Mae’r ymchwil o’r astudiaethau achos o dai cymdeithasol yng Nghymru yn rhoi darlun tra gwahanol o weithrediad cymdeithasau tai a chwmnïau cymunedol cydfuddiannol i\’r un a roddwyd gan yr ymchwil i raglen gydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr.’

Mae’r ddau adroddiad ar gael ynhttp://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/welsh-coop-mutuals-commission/?lang=cy

£100m o gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i 11 awdurdod lleol

Mae’r gweinidog tai ac adfywio Carl Sargeant wedi cyhoeddi sut y dyrennir cyllid rhaglen adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru. Cynyddwyd cyfanswm y cyllid i £100 miliwn dros dair blynedd, a bydd pob o’r 11 o awdurdodau lleol a wahoddwyd i roi cynigion manwl gerbron yn derbyn dyraniad o hyd at £15 miliwn: Pen-y-bont, Conwy, Sir y Fflint, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Wrecsam. Defnyddir yr arian ar gyfer projectau adfywio, helpu i greu swyddi, mynd i’r afael â thlodi, cynyddu’r cyflenwad tai a gwella cyfleusterau cymunedol.

Meddai Carl Sargeant: ‘Mae llawer o’r cynigion llwyddiannus yn canolbwyntio ar adfywio canol trefi, sy’n golygu llawer mwy na llenwi siopau gwag. Mae’n ymwneud â chreu canol tref amrywiol a bywiog gyda gwasanaethau eraill fel hamdden, iechyd ac addysg wrth ei graidd, gan wneud y canol yn lle deniadol i fyw.’

Y Bil Tai ar fin cwblhau cyfnod 1

Mae Bil Tai (Cymru) ar fin cwblhau cyfnod cyntaf y broses ddeddfwriaethol yn y Cynulliad gyda dadl mewn cyfarfod llawn ar Ebrill 1.

Wrth i WHQ fynd i’r wasg, roedd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i osod ei adroddiad ar y Bil gerbron ddim diweddarach na Mawrth 21.

Bydd y ddadl yn y cyfarfod llawn ar egwyddorion cyffredinol y Bil, a gall y llywodraeth a’r wrthblaid gynnig gwelliannau o’r diwrnod canlynol, Ebrill 2, ymlaen.

Y dyddiad hwnnw fydd dechrau cyfnod 2, sef ystyried gwelliannau, gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol eto, mewn cyfarfodydd yn ystod mis Mai.

Sargeant yn gosod nod uwch ar gyfer cartrefi fforddiadwy newydd

Mae’r gweinidog tai Carl Sargeant wedi gosod nod ddiwygiedig o 10,000 o gartrefi newydd fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon fel rhan o’i gyrch i gynyddu’r cyflenwad. Cefnogir y cynnydd o’r nod flaenorol o 7,500 o gartrefi fforddiadwy gan gytundeb darparu a gytunwyd gyda Chartrefi Cymunedol Cymru (CCC) sy’n rhestru ymrwymiadau’r ddwy ochr.

Meddai’r gweinidog: ‘Rhaid mynd i’r afael â phrinder cartrefi difrifol Cymru, ond gwn nad oes un ffordd hudolus o ddatrys y broblem hon. Mae angen i’r Llywodraeth a phob sefydliad sydd wrthi’n adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru weithredu ar y cyd.’

Mae hefyd yn penodi cynghorydd cyflenwad tai a fydd yn gweithio gydag adeiladwyr tai, tirfeddianwyr, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, gyda chylch gorchwyl a chwmpas y swydd i’w trafod.

Meddai Nick Bennett, prif weithredydd CCC: ‘Croesawn y dull newydd hwn o fynd ati yn gynnes a chredwn ei fod yn adlewyrchu cydweithirediad gwirioneddol. Bydd cymdeithasau tai yn dal i ddarparu, ond po fwyaf o sicrwydd cynllunio a gawn gan Lywodraeth Cymru, y mwyaf y gallwn ei wneud.’

Gweler yr erthygl ar y Gweithlu Cyflenwad Tai

Papurau ymgynghori

Bydd nifer o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ:

  • Offerynnau Statudol Drafft i’w gwneud o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 – Ymatebion erbyn Mai 6
  • Adolygiad o\’r Cylchlythyr Amodau Cynllunio a\’r amodau enghreifftiol – Ymatebion erbyn Ebrill 25
  • Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020: Awgrymiadau Terfynol – Ymatebion erbyn Ebrill 14

Mae ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar-lein yn http://wales.gov.uk/consultations/?lang=cy

 

CYHOEDDIADAU

10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

1) All that is Solid: the Great Housing Disaster – Danny Dorling, Chwefror 2014

http://www.penguin.co.uk/nf/Book/BookDisplay/0,,9781846147159,00.html

2) An Ambition to Deliver – housing associations unbounded – Y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Chwefror 2014

http://www.hothouse.org.uk/towards-a-vision/housing-associations-in-2033/research/an-ambition-to-deliver/

3) Dadansoddi effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru – Dadansoddiad Cam 3, Rhan 2: Effeithiau yn ardaloedd yr awdurdodau lleol – Llywodraeth Cymru, Ionawr 2014

Click to access 140217-wr-stage3-part2-full-report-cy.pdf

4) Effeithiau newidiadau i’r system les ar y Sector Rhentu Cymdeithasol Grŵp Gorchwyl a Gorffen Diwygio Lles Llywodraeth Cymru, Chwefror 2014

http://wales.gov.uk/topics/housing-and-regeneration/welfare-reform/impacts-of-welfare-reforms-on-the-social-rented-sector/?lang=cy

5) The Role of Housing Organisations in Reducing Poverty – Sefydliad Joseph Rowntree, Chwefror 2014

http://www.jrf.org.uk/publications/role-housing-organisations-reducing-poverty

6) Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru – Comisiwn Silk, adroddiad Rhan II, Mawrth 2014

7) Social Lettings Agencies in Wales – Cyngor Llywodraeth Leol Cymru, Rhagfyr 2013

http://www.wlga.gov.uk/housing-pubs/report-l-social-lettings-agencies-in-wales

8) New Towns Act 2015 – Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref, Chwefror 2014

Click to access NTA2015.pdf

9) Counting the cuts: What the Government doesn’t want the public to know – Y Ganolfan Ddiwygio Lles, Chwefror 2014

http://www.centreforwelfarereform.org/library/type/pdfs/counting-the-cuts.html

10) A Roof over my Head: The Final Report of the Sustain Project – Shelter a Crisis, Chwefror 2014 http://england.shelter.org.uk/professional_resources/policy_and_research/sustain

 

CYMRU

Y dreth stafell-wely yn sbarduno datblygu eiddo un-llofft

Mae galw cynyddol am lety un-llofft, wedi ei ddwysáu gan effaith y dreth stafell-wely, wedi helpu i ysgogi datblygiad cynllun naw-cartref newydd yn Llandudno.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi sicrhau safle tir-llwyd ar Ffordd Bodhyfryd, dymchwel yr adeilad gwag a safai yno a chreu’r datblygiad newydd o naw o fflatiau un-llofft, o’r enw ‘Y Stablau’.

Bydd tenantiaid y cartrefi newydd yn gymysgedd o bobl sengl a pharau, yn cynnwys rhai a fydd ag angen cymorth i fyw’n annibynnol. Meddai Paul Diggory, prif weithredydd Tai Gogledd Cymru: ‘Mae galw amlwg am y math hwn o eiddo, ac er na chafodd neb o denantiaid Y Stablau eu hailgartrefu oherwydd effaith y dreth stafell-wely, rydym yn edrych ar nifer o safleoedd eraill ledled gogledd Cymru y gallwn eu hailddatblygu neu adeiladu eiddo tebyg.

‘Rydym yn dal i geisio ymdopi â dyrannu ein heiddo yn unol â chanllawiau’r dreth stafell-wely, ond rydym wedi llwyddo i ostwng cyfanswm y tenantiaid sy’n tanfeddiannu o 309 o achosion ym mis Ebrill i 268 heddiw. Ychydig dros 10 y cant o gyfanswm ein tenantiaid cyfredol sy’n tanfeddiannu o hyd. Rydym yn cydweithio’n glòs gyda nhw i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r dewisiadau sydd ar gael, a’u bod yn y sefyllfa orau bosibl i dalu’r diffyg yn eu rhent wythnosol.’

Gardd gymuned nôl ar y trywydd iawn

Bu gwirfoddolwyr o Balfour Beatty Rail a Chymdeithas Tai Newydd yn gweithio gyda thenantiaid â dawn am dyfu yn Llys Gwyn James, Penarth yn ddiweddar i ailddatblygu’r ardd gymuned a chefnogi tyfu cymunedol.

Mae’r fenter hon yn rhan o broject Gwneud Gwahaniaeth Tai Newydd sy’n annog pobl i wirfoddoli yn y gymuned. Yn nannedd y tywydd, gweithiodd gwirfoddolwyr yn galed am ddeuddydd i greu llwybrau newydd, codi arwynebau anwastad, creu gwelyau dyrchafedig a darparu’r gofal tyner a chariadus roedd mawr angen amdano ar y tir o gwmpas.

Dywedodd Val Garland, tenant a garddwraig frwd: ‘All tenantiaid Llys Gwyn James ddim diolch digon i Balfour Beatty Rail am eu gwaith aruthrol o galed yn y deuddydd diwethaf, sydd wedi gweddnewid anialwch di-ddefnydd yn rhywbeth sydd bellach yn ganolbwynt i’r ardd.’

Paratoi ar gyfer credyd cynhwysol

Mae Cartrefi RhCT wedi lansio ymgyrch newydd i helpu pobl i baratoi ar gyfer dyfodiad credyd cynhwysol.

Gallai’r diwygiad lles sylfaenol hwn effeithio ar filoedd o bobl ledled Rhondda Cynon Taf sydd ar hyn o bryd yn derbyn gwahanol fudd-daliadau ar wahanol adegau o’r mis. Telir credyd cynhwysfawr mewn un swm bob mis. Ac yn hytrach na bod eu budd-dal tai yn cael ei dalu’n syth i’w landlord, byddant yn derbyn yr elfen dai yn uniongyrchol ac yn gorfod gwneud eu trefniadau eu hunain i dalu’r rhent.

Mae’r ymgyrch ‘1,2,3 … Barod’ yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i baratoi ar gyfer credyd cynhwysol a bydd yn cyngori tenantiaid i:

• agor cyfrif banc – bydd angen un ar denantiaid i dalu’r credyd cynhwysol i mewn iddo

• i fynd ar lein – bydd pob hawliad yn cael ei wneud ar y rhyngrwyd

• i gynllunio cyllideb – a pharatoi i wneud i un taliad bara’r mis cyfan

Dywedodd Richard Haddock, swyddog mwyhau incwm Cartrefi RhCT:

‘Does dim dwywaith na fydd y credyd cynhwysol, pan ddaw i rym, yn effeithio’n anferthol ar sefyllfa ariannol pobl a’u gallu i bara drwy’r mis. Dyna pam rydym am gefnogi tenantaid i fod mor barod ag y gallant fod ar gyfer y newidiadau cyn i gredyd cynhwysol ddod i mewn.’

Arddangosfa’n uno artistiaid o 16 i 94

Cafodd project celf arloesol a helpodd bobl o bob oed i wneud ffrindiau, magu hyder a darganfod doniau cudd ei ganmol gan wleidyddion lleol blaenllaw a ymwelodd ag arddangosfa o’r gwaith a drefnwyd gan fenter ‘Can of Worms’.

Roedd Mark Isherwood AC a Mark Tami AS ymhlith yr ymwelwyr â’r arddangosfa yng nghynllun gofal ychwanegol Llys Eleanor yn Shotton o waith tenantiaid a phreswylwyr naw cynllun byw â chymorth a reolir gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn ledled gogledd Cymru, a dywedodd y ddau y gwnaeth y ddawn greadigol a welsant gryn argraff arnynt.

Yn ogystal â gwaith tenantiaid Llys Eleanor, roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys gwaith gan bobl ifanc ac oedolion a fuasai’n ddigartref, o gynlluniau byw â chymorth sydd hefyd dan reolaeth Clwyd Alyn.

Eglurodd tiwtor celf CAG Cymru, Karen Ball:

Roedd y rhan fwyaf o’r cyrsiau gyda phobl ifanc 16-25 oed yn y projectau byw â chymorth, ond buom mor ffodus â gallu rhedeg un cwrs gyda phobl 60-94 oed yn y cynllun gofal ychwanegol. Rhan allweddol o’r dosbarthiadau oedd cael y grwpiau i weithio gyda’i gilydd, a helpodd i gryfhau cyfeillgarwch a datblygu sgiliau gweithio fel tîm. Defnyddiwyd amrywiaeth eang o dechnegau, yn cynnwys peintio, papier mâché, gwneud mygydau a gwaith mosaïg.’

Help llaw gan Gofal a Thrwsio

Dywed mam-gu o Lanelli ei bod wrth ei bodd gyda’r gwaith y mae Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin wedi ei wneud yn ei chartref.

Cafodd Elizabeth Jarman (ar y dde yn y llun, gyda’r gweithiwr, Elwyn Morgan) amrywiaeth o reiliau llaw wedi eu gosod yn ei thŷ, ynghyd â chawod hawdd myned iddi.

Roedd yn siarad yn ystod Wythnos Gofal a Thrwsio ym mis Chwefror, â’r nod o hysbysu pobl am y gefnogaeth y gall yr asiantaeth ei chynnig i bobl hŷn i’w helpu i fyw’n fwy diogel a chysurus yn eu cartrefi. Gan weithio ar y cyd â’r Cyngor Sir, cwblhaodd Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin werth mwy na miliwn o bunnau o waith y llynedd, gan helpu mwy na 2,000 o gleientiaid a darparu gwaith ar gyfer contractwyr lleol.

Pâr o Gaerffili’n cael help i brynu

Danielle a Matthew Llewellyn oedd y prynwyr cyntaf i sicrhau cartref ym Mhentre’r Ffawydd yng Nghaerffili trwy gynllun newydd Help i Brynu – Cymru.

Roedd y pâr ifanc wedi derbyn mai rhentu fyddai raid er eu bod am brynu eu cartref eu hunain. Mae’r cynllun yn cynnig benthyciad ecwiti cyfrannol o hyd at 20 y cant, gan ofyn am ddim ond 5 y cant o ernes gan brynwyr.

Meddai Danielle Llewellyn:

Allen ni ddim fod wedi gwneud hyn heb Help i Brynu – Cymru gan na fyddem wedi gallu fforddio’r ad-daliadau morgais. Rydym wedi bod yn rhentu ers tair blynedd ac mae cynilo ernes ddigon mawr yn anodd iawn. Rydych yn teimlo eich bod mewn sefyllfa Catch-22, po hira mae’n para, y mwyaf amhosibl yw hi, gyda phrisau tai yn codi o hyd.’

Datblygiad ar safle Ysbyty Glowyr hanesyddol Caerffili yw Pentre’r Ffawydd, sy’n cael ei ddarparu trwy bartneriaeth rhwng Lovell ac United Welsh, gyda chefnogaeth Cyngor Caerffili a Llywodraeth Cymru.

Cadeirydd Bwrdd cynghorol WHQ

Mae Welsh Housing Quarterly yn gwahodd diddordeb yn swydd cadeirydd y Bwrdd cynghorol.

I ymholi, cysyllter â Judy Wayne, tel: 029 2037 7268, ebost: judy.wayne@altairltd.co.uk


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »