English | Cymraeg Tel: 07979 362076 Connect: LinkedIn

Arolwg Essex

Yr adroddiad

Cyfeiriwyd ar Arolwg Essex, a gwblhawyd gan Sue Essex, Lisa Dobbins, Peter Williams a Robert Smith ac a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2008, gan wahanol bobl fel ‘glasbrint’ ac ‘adroddiad arloesol’ ar gyfer y sector tai. Ehangodd cwmpas yr arolwg, a gychwynnodd fel archwiliad o reoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn sylweddol wrth iddo ddatblygu, ac y mae cynnwys ac argymhellion yr adroddiad yn berthnasol i bawb sy’n gweithio yn y maes tai yng Nghymru. Mae hefyd yn llenwi bwlch pwysig yn y broses o ystyried polisi tai ar lefel genedlaethol yng Nghymru – bwlch a oedd yn mynd yn fwyfwy amlwg o’i gymharu â’r toreth o arolygon a gwblhawyd yn ddiweddar yn Lloegr, fel:

  • Arolwg Elton – ar ofynion rheoliadol a chydymffurfiol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Arolwg Hills– ar swyddogaethau tai cymdeithasol yn y dyfodol
  • Arolwg Calcutt – ar y ddarpariaeth adeiladu tai
  • Arolwg Cave – ar reoliad tai cymdeithasol
  • Arolwg Taylor – ar yr economi wledig a thai fforddiadwy
  • Arolwg Cole – ar reoliad traws-barthol ar gyfer tai cymdeithasol

Yr argymhellion

Prif fyrdwn adroddiad Arolwg Essex yw bod angen newidiadau eang, ar fyrder i’r ffordd y mae’r broses o ddarparu tai fforddiadwy yn cael ei rheoleiddio, ei chyllido, ei chynllunio, eu hasesu a’i gweithredu yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynnwys 43 o argymhellion, yn seiliedig ar y rhagdybiaeth fod yn rhaid i holl fudd-ddeiliaid y maes tai weithio mewn partneriaeth, yn unol â model Beecham. Mae’n pwysleisio, onid eir ati yn y modd hwn, gyda Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi arweiniad, nad yw argymhellion yr adroddiad, ac o ganlyniad ymrwymiadau Cymru’n Un ar dai, yn debygol o gael eu gwireddu.

Mae’r argymhellion wedi eu hanelu at y Cynulliad, llywodraeth leol, cymdeithasau tai/landlordiaid cymdeithasol cofrestredig unigol a’r sector cymdeithasau tai/landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ei grynswth. Mae’r argymhellion yn cynnwys pob deiliadaeth gan gwmpasu problemau cynllunio a materion amgylcheddol ac yn cynnwys creu gwell cysylltiadau strategol a gweithredol rhwng tai, datblygiad economaidd ac adfywio.

Gweithredu agenda Essex

Mae ymadroddion fel cydgynhyrchu cydweithrediadol ac arweinyddiaeth ddosbarthiadol yn dechrau dod yn gyfarwydd mewn cylchoedd tai, o ran disgrifio’r ffordd y bydd y Cynulliad yn gweithio gyda sefydliadau budd-ddeiliadol i weithredu llawer o argymhellion Arolwg Essex.

Nodwyd pump o ffrydiau gwaith, pob un yn gysylltiedig â chyfres o argymhellion yn yr adroddiad, gyda’r rhaglen waith yn ei chrynswth yn cael ei rheoli gan fwrdd rhaglen a bwrdd strategol wedi ei gadeirio gan y Dirprwy Weinidog fel y dengys y diagram. Wrth i ni fynd i’r wasg, mae aelodaeth y pum ffrwd waith yn cael ei therfynoli a disgwylir i’r grwpiau gyfarfod yn ystod yr wythnosau nesaf i gychwyn ar eu rhaglen waith.

Mewn perthynas â’r argymhellion ynglŷn â gallu a strwythur Adran Tai y Cynulliad ei hun, mae proses o newid rheolaeth ar y gweill, wedi ei hwyluso gan Kath Palmer. Bydd yr ad-drefnu’n digwydd ar sail tair swyddogaeth – polisi, gweithredu a rheoleiddio – gyda’r nod o weithio’n fwy call, mewn ffordd wahanol, fwy cydgysylltiedig.

Bwrdd Strategol
Cadeiriwyd gan y Dirprwy Weinidog

Bwrdd Rhaglen
SRO Matthew Quinn
CLlLC
CCC

Ffrwd Waith
Eiddo Presennol
LlyC i arwain Darparu Tai Fforddiadwy
CLlLC i arwain Gwybodaeth Perfformiad a Monitro
CCC i arwain Rheoleiddio
LlyC i arwain Cyllid
LlyC i arwain

Cynhaliwyd seminar ar y cyd rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar sut i fwrw ymlaen ag Arolwg Essex ar y 18fed o Fedi. Yn y cyfarfod, nododd y Dirprwy Weinidog Jocelyn Davies mai ei blaenoriaethau hi o ran gweithredu argymhellion yr arolwg yw:

  • sefydlu trefn reoleiddio newydd
  • arweiniad cryfach, cyfarwyddyd strategol a chefnogaeth alluogol gan y ynulliad
  • ailffocysu’r ffordd y mae’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol yn gweithredu
  • mynd i’r afael â bylchau yn y data

oll o fewn cyd-destun rhaglen waith sydd yn cyd-berthyn i’r holl wahanol gyrff ac yn cael ei gweithredu ar y cyd ganddynt.

Cyhoeddodd rai enillion cyflym, gyda’r disgwyliad y bydd cylchlythyr diwygiedig ar strwythurau grŵp landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac ymgynghoriad at ffordd ddiwygiedig o fynd ati yn achos cydsyniadau adran 9 wedi eu cynhyrchu erbyn cyhoeddi’r rhifyn hwn o WHQ. Bwriedir ymgynghori ar gynnyrch HomeBuy newydd hefyd. Nododd y Dirprwy Weinidog hefyd y bydd y strategaeth dai genedlaethol newydd hefyd yn sefydlu cyd-destun cyffredinol ar gyfer polisi tai Cymru, ac y bydd yn adleisio negeseuon allweddol Arolwg Essex.

Nododd nifer o siaradwyr eraill yn y seminar yr hyn a oedd wedi digwydd yn y sector cyllidol yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf. Roeddynt o’r farn fod parhad y wasgfa gredyd yn ei gwneud hi’n bwysicach byth gweithredu agenda Arolwg Essex ar fyrder.

Mae Arolwg Essex – Tai Fforddiadwy yng Nghymru – ar-lein yn http://new.wales.gov.uk


Sign up to our newsletter

Join WHQ’s free monthly newsletter for Welsh housing news, magazine highlights and opportunities to contribute. No magazine subscription needed.Get involved with WHQContribute an article, share your experience or have your say on housing and regeneration in Wales. We’d love to hear from you.Get in touch »

Sign up for the newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision-makers in Wales

Find out more »