English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Tŷ unedig?

Mae\’r addewid o fwy o ddatganoli i\’r Alban ar ôl y bleidlais Na yn y refferendwm annibyniaeth wedi ennyn trafodajeth gyfansoddiadol ledled y DU. Mae WHQ yn dadansoddi\’r oblygiadau pell-gyrhaeddol i dai yng Nghymru ac yn yr Alban ei hun.

 

Beth mae Cymru ei eisiau?

Jules Birch yn gofyn lle mae Cymru a thai Cymru yn sefyll yn y ddadl ddatganoli.

Gweithredu gyda\’n gilydd

Beth am Gymru? Neu, o ran hynny, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn sgîl refferendwm annibyniaeth yr Alban?

Er y byddai Ie gan yr Alban wedi arwain at gwestiynau llawer mwy sylfaenol, mae\’r galw am atebion i\’r cwestiynau hyn wedi cynnydd yn sgîl y bleidlais Na. Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi galw am gynhadledd gyfansoddiadol i bennu trefn newydd ar gyfer Cymru. Mae Plaid Cymru wedi galw am gydraddoldeb â\’r Alban, er mwyn \’dod â\’n Llywodraeth adref\’.

Fodd bynnag, un o\’r themâu allweddol a ddeilliodd o gynhadledd gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) oedd bod angen i Gymru benderfynu beth yn union mae arni ei eisiau. Dadl yr economegydd Gerry Holtham oedd: ‘Os ydyn ni eisiau rhywbeth gwahanol  rhaid i ni fynd allan a gweithredu gyda\’n gilydd a phenderfynu be \’dan ni ei eisiau.\’ Yn ôl y colofnydd Simon Jenkins, cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: \’Problem Cymru yw na ŵyr neb beth mae Cymru ei eisiau. Yn yr Alban, fe wyddoch beth yw\’r nod derfynol, yng Nghymru, does dim ymdeimlad o hynny.\’

Fodd bynnag, mae termau’r drafodaeth yn newid ar garlam. Arwyddodd y tair prif blaid Brydeinig \’Y Llw\’ i drosglwyddo mwy o bwerau i Senedd yr Alban, ac i gynnal Fformiwla Barnett sy\’n ymdrin yn fwy hael â\’r Alban na Chymru a Lloegr. Mae\’r Ceidwadwyr yn benderfynol o sicrhau \’pleidleisio Seisnig ar ddeddfau Seisnig\’ yn San Steffan, gydag aelodau o rannau eraill y DU wedi eu heithrio rhag pleidleisio ar faterion datganoledig fel iechyd ac addysg. Ac mae rhanbarthau a dinasoedd Lloegr yn galw am yr un pwerau â\’r Alban.

Y cyd-destun Cymreig

Yn sgîl Rhan 1 o Gomisiwn Silk, cynigir datganoli rhai pwerau trethu a benthyca i Gymru, ynghyd â refferendwm ar reolaeth gyfyngedig dros dreth incwm. Mae adroddiad Rhan 2 Silk yn argymell trosglwyddo mwy o bwerau ynghyd â newid y setliad datganoli o fodel cadw pwerau (San Steffan yn dweud beth all y Cynulliad ei wneud) i\’r model rhoi pwerau sydd eisoes mewn grym yn yr Alban (San Steffan yn dweud beth na all ei wneud).

Dydy hi ddim yn glir eto sut y bydd y bleidlais Na ac \’Ymreolaeth i\’r Alban\’ yn newid dynameg y ddadl yng Nghymru. Crynhodd Gerry Holtham yr hyn a wêl fel record ddigon symol datganoli hyd yn hyn: \’Ni chafwyd yr un drychineb ond mae\’n anodd iawn nodi polisi sydd wedi gwir effeithio\’n faterol ar ganlyniadau. Rydyn ni braidd yn ddi-sôn ar ôl datganoli. Ein tôn gron yw rhowch fwy o arian i ni, ond pam y bydden nhw am wrando arnom? Fy nghyngor i weinidogion yw defnyddio\’r pwerau sydd gennym.\’

Problemau sy’n wynebu tai yng Nghymru

Felly ble mae hyn yn gadael tai? Megis yn yr Alban, mae polisi tai mewn safle cymysgryw. Ar y naill law, gall deddfwriaeth sylfaenol gael ei ‘gwneud yng Nghymru’ bellach: derbyniodd y Ddeddf Tai (Cymru) hanesyddol Gydsyniad Brenhinol yr un wythnos â refferendwm yr Alban, a mawr yw’r gobeithion am ganlyniadau o’r math y cyfeiria Holtham atynt. Gall Cymru bennu ei blaenoriaethau gwario ei hun o fewn cyfanswm cyllido a bennwyd gan San Steffan, a gwrthod syniadau newydd o Loegr fel ‘rhent fforddiadwy’. Ar y llaw arall, pan ddaw hi’n fater o benderfyniadau ar yr economi, nawdd cymdeithasol a threthi (gan mwyaf) sy’n gosod y cyd-destun ar gyfer polisi tai, mae peirianwaith grym yn dal yn ddiogel yn nwylo Llundain.

Ystyrier budd-dâl tai. Mae hwn yn un o’r meysydd allweddol y dywed pleidiau San Steffan y bydd yn rhan o’r ‘llw’: mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi lliniaru cost y dreth stafell wely yn llawn ond yn y dyfodol, fe all ei dileu. Ond efallai na fydd mor syml â hynny, fel y canfu Gogledd Iwerddon gyda’r anghytyndeb llwyr yno ynglŷn â diwygio lles.

Mae budd-dâl tai yn ymateb i’r galw, felly sut y gall Llundain a Cheredin, Cymru a Belfast (neu hyd yn oed Manceinion a Leeds o dan rhai o’r cynigion datganoli mwy radicalaidd ar gyfer Lloegr) ddod i gytundeb ynglŷn â’r gost heb i’r naill ochr neu’r llall ddioddef anfantais? A sut y gall y credyd cynhwysol fod yn wirioneddol gynhwysol os datganolir budd-dâl tai?

A hithau o dan anfantais oherwydd fformiwla Barnett, doedd gan Gymru mo’r un gallu i liniaru effaith y dreth stafell wely â’r Alban. Roedd Silk 2 yn erbyn datganoli budd-dâl tai am y gallai hynny danseilio’r ‘undeb cymdeithasol’ sy’n sicrhau bod pobl yn derbyn yr un budd-dâl ble bynnag y bônt yn byw yn y DU.

Casgliadau

Neu ystyrier y dreth stamp. Fe’i datganolwyd eisoes i’r Alban a chaiff ei datganoli i Gymru o dan Fil Cymru. Fodd bynnag, mae Boris Johnson yn mynnu rheolaeth yn awr dros y biliynau o bunnau o dreth stamp a godir yn Llundain. Gallai hynny adael Cymru’n dioddef oherwydd datganoli yn Lloegr. Fel y dywedodd aelod o Gomisiwn Silk, Rob Humphreys, yng nghynhadledd IWA: ‘Ar Silk, roeddem yn argymell y dylai Cymru gael y dreth stamp, ond yn gobeithio na fyddai Llundain yn ei chael.’

Mae’n ein hatgoffa am gyd-destun ehangach tai yn y ddadl ynglŷn â datganoli. Yn llercian yn y cefndir (ac yn y blaendir a’r canol hefyd weithiau) mae parhad polisi llymder llywodraeth y DU. Ystyriaeth ddifrifol Lee Waters, cyfarwyddwr IWA, mewn digwyddiad diweddar, oedd: ‘Am bob punt effeithiol sy gan Lywodraeth Cymru i’w gwario eleni efallai mai dim ond 75-80 ceiniog fydd ar gael erbyn diwedd y degawd.’

 

Dilyniant a Newid

Ken Gibb yn gofyn beth fydd oblygiadau’r bleidlais Na i dai yn yr Alban.

Ydy Na yn golygu Ie?

Yn y dyddiau ers canlyniad y Refferendwm, mae’r drafodaeth yn yr Alban yn dal i fod ynglŷn â’r cyfansoddiad, lle mae priodoli bai a chlod, ac ymdeimlad sylfaenol o beth i’w wneud nesaf i gynnal y brwdfrydedd gwleidyddol anhygoel a amlygwyd gan yr holl ddiddordeb yn y bleidlais. Heblaw am statws y ‘Llw’ i ehangu pwerau datganoli trwy senedd y DU, mae diddordeb o’r newydd, wrth gwrs, yn y modd y gallai’r pwerau hyn weithredu mewn meysydd polisi cyhoeddus penodol, yn cynnwys diwygiadau blaengar yn y sector tai.

Y Cyd-destun Albanaidd

Yn gyntaf, mae polisi tai’r Alban yn gymysgedd o elfennau datganoledig a neilltuedig. Mae’n neilltuedig yn yr ystyr bod polisi morgeisiau, nawdd cymdeithasol, rheolau gwario cyhoeddus, polisi ariannol, a llawer o’r trethi perthnasol (er enghraifft, sut yr ymdrinir â pherchentyaeth a rhentu preifat yn ogystal â rheolau treth gorfforaeth) yn cael eu pennu a’u rhedeg o Lundain. Ar y llaw arall, mae polisi tai o safbwynt ei effaith ar rentu, y system gynllunio, digartrefedd, rheoli tai cymdeithasol, trethi lleol a chyllido tai cymdeithasol a fforddiadwy wedi ei ddatganoli i raddau sylweddol. Tra bod polisi tai’n amrywio mewn agweddau pwysig, fel y ddeddwriaeth i ddileu’r hawl i brynu, mae ei natur hanfodol gymysgryw yn ei gwneud hi’n anodd meddwl am bolisi tai mewn modd cyfanol.

Dyna ddull yr Alban wedyn o fynd i’r afael â pholisi cyhoeddus. Er ethol llywodraeth leiafrifol yr SNP yn 2007, mae’r Alban wedi gweithredu fframwaith perfformio esblygiadol, cydsyniadol a chyson, ar y cyfan, yn seiliedig ar ganlyniadau. Cefnogai Comisiwn Christie 2011 y symudiad i’r cyfeiriad hwn. Nodweddion y dull arbennig hwn o fynd ati yw integreiddio ar draws pob rhan o’r llywodraeth, y ffocws a grybwyllir uchod ar ganlyniadau a dangosyddion perfformiad, ond hefyd, pwyslais ar wario ataliol, partneriaethau cydgynhyrchu a chydweithio, a pholisïau ardal-gyfan yn seiliedig ar asedau, i’w darparu’n lleol gan bartneriaethau cynllunio cymunedol gwell. Rhaid i dai fod yn bartner llawn yn y broses.

Problemau sy’n wynebu tai yn yr Alban

Mae ffurf perchentyaeth yn dal yn gaeth i bolisï cyfraddau llog y DU ac i newidiadau mewn polisi ac arfer yn sectorau benthyca ac adeiladu cartrefi’r DU. Fodd bynnag, mae’r bleidlais Na hefyd yn golygu dod â Deddf yr Alban 2012 i rym, a fydd yn cynyddu’r gyfran o dreth incwm a ddatganolir i’r Alban, yn rhoi pwerau benthyca newydd cyfyngedig i Lywodraeth yr Alban ac yn datganoli’r dreth stamp. Mae’r pwerau benthyca’n ehangu’r gallu i godi arian ar gyfer isadeiledd, a bydd y Dreth Gwerthiant Tir ac Adeiladau arfaethedig yn dileu natur unffurf treth stamp y DU gan newid cyfraddau a lefelau eithrio a ddefnyddir (mae’r cyfraddau’n dal heb eu cadarnhau).

Ond, yn y bon, mae llymder a rheolaeth dymor-hir ar wariant cyhoeddus yn parhau a rhaid i landlordiaid cymdeithasol yr Alban, fel pobman arall, gydbwyso’r peryglon a fydd yn eu hwynebu wrth geisio llywio ffyrdd drwodd tuag at ddyfodol mwy sicr. Yr unig fân gysur o’r refferendwm yw bod mesur o sicrwydd yn awr ynglŷn â pharhad y status quo – nid bod hyn yn newyddion da ond bydd llu o benderfyniadau a ddaliwyd yn ôl nes bod y canlyniad yn hysbys bellach yn mynd rhagddynt.

Y mater amlycaf yw datganoli budd-dâl tai. Ymrwymodd y tair plaid unoliaethol  i wneud hynny, er y gellid ystyried hynny’n wleidydda da ac yn bolisi gwael. Efallai y bydd datganoli budd-dâl tai yn gymorth i ddileu’r dreth stafell wely, ond sut mae diwygio hynny mewn modd blaengar (a thalu amdano)? A sut, os mai dyna’r bwried, y gellir ei wahanu oddi wrth Gredyd Cynhwysfawr? Gallai’r cwbl fod yn ofer hefyd os daw etholiad cyffredinol Prydeinig â’r dreth stafell wely i ben ar fyrder.

Casgliadau

Eleni, cafodd yr Alban adroddiad gan Gomisiwn RICS ar Dai ac rwyf innau’n chwarae rhan fechan yng Nghomisiwn Shelter Scotland ar Dai a Lles a fydd yn adrodd y flwyddyn nesaf. Mae’r cyntaf yn cyflwyno achos cryf o blaid strategaeth dai genedlaethol integredig, gan ddadlau mai prin y gellid ystyried y drefn gyfredol, yn cynnwys y dull diweddaraf o fesur canlyniadau o ran tai ac adfywio yn y fframwaith perfformiad cenedlaethol, yn strategaeth gynhwysfawr sy’n cwmpasu’r holl system. Dylid ymgymryd â hyn yn unol â ffordd Christie a’r Alban o fynd ati.

Nid yw’r bleidlais Na yn golygu dychwelyd at y status quo. Mae pwerau newydd yn dod o ganlyniad i Ddeddf 2012 a, gobeithio, trwy’r cynlluniau i ehangu datganoli ymhellach yn sgîl y canlyniad. Caiff mwy o bolisi tai ei ddatganoli, a bydd mwy o gyfle i arloesi, gellid tybio, ond os yw diwygiadau diweddar yn esiampl, fe gymer sawl blwyddyn i’w gweithredu. Gall y ddau gomisiwn, ynghyd â’r swm sylweddol o waith a wnaed ar bolisi tai yn y cyfnod cyn pleidlais Medi’r 18fed, oll helpu i roi ffurf i’r drafodaeth bolisi a’i hyrwyddo.

Yr Athro Ken Gibb yw cyfarwyddwr Policy Scotland ym Mhrifysgol Glasgow. Mae’n blogio am dai, economeg, academia, diwylliant a pholisi cyhoeddus yn kengibb.wordpress.com

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »