English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Merthyr Ddigidol

Jules Birch yn adrodd sut mae Cartrefi Cymoedd Merthyr yn dod â wifi i\’w tenantiaid gyda thipyn back o help o Gatalwnia.

Ceir eithrio digidol ynghyd ag eithrio cymdeithasol ym Merthyr. Yn ôl arolwg gan Brifysgol Sheffield Hallam, dyma\’r dref yr effeithiwyd arni fwyaf gan y dreth stafell wely, a chafodd arolwg arall gan Ofcom nad oes gan bron hanner y boblogaeth gyfleuster band-eang.

Gyda chredyd cynhwysfawr ar y gorwel hefyd, roedd Cartrefi Cymoedd Merthyr (CCM) am wneud rhywbeth i ddod â\’r rhyngrwyd i\’w cymunedau – ond beth yn union? ‘Roeddem yn meddwl sut y gallem ddarparu wifi, ond roedd angen nifer o benderfyniadau\’ meddai\’r prif weithredydd, Mike Owen. ‘Roedd popeth yn ymddangos yn gymhleth pan oedd yr ateb yn reit syml mewn gwirionedd.\’

Daeth Merthyr Ddigidol i fod trwy gyfrwng grant gan Ymddiriedolaeth Nominet, help Creative Coop, consortiwm o weithwyr creadigol a thechnoleg proffesiynol yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol, a thrafod gyda Guifi-net, arbenigwyr mewn rhwydweithiau cymuned hunan-reoledig sydd wedi cysylltu 35,000 o Gatalwniaid. Talodd y grant am gyflogi Nick Giles, sydd â gradd mewn cyfrifiadureg, fel swyddog project, ac i ffwrdd ag ef i Barcelona i dderbyn hyfforddiant.

Ardal Gellideg, lle mae\’r diwygiadau lles yn effeithio ar 80 y cant o\’r trigolion ond lle nad oes ond traean ar-lein, oedd y cyntaf i elwa. \’Dyma ni\’n dewis y stad lle câi\’r cynllun fwyaf o effaith a lle roedd gennym gysylltiadau da â\’r ganolfan gymuned\’, meddai Owen, ‘a gweithio gyda\’r ysgol gynradd leol i weld pa gartrefi a oedd heb wifi i alluogi plant i wneud eu gwaith cartref, a blaenoriaethu\’r rheini.\’

Mae\’r cynllun yn golygu hollti\’r wifi o swyddfa CCM. \’Roedd y llinell gyntaf a wnaethon ni yn dod o\’m swyddfa i\’, meddai. \’Gosodwyd erial ar ochr yr adeilad a throsglwyddo ar draws y cwm i\’r stad.\’

Y cysylltiad hwnnw yw asgwrn cefn y system o hyd. Oddi yno, esbonia Nick Giles: \’Ceir cyfres o nodau neu erialau ar y stad, ac mae cebl o\’r rheini yn dod â wifi i mewn i\’r tai, gyda llwybrydd ym mhob un.\’

Mae\’r system yn rhad – rhyw £30 y cysylltiad – a\’r gost hyd yn hyn yw cyfanswm o ryw £80,000, yn cynnwys grant o £50,000 gan Nominet. Mae hefyd yn wydn: \’Cawsom dywydd garw, yn cynnwys stormydd mellt a achosodd statig a niweidiodd un darn o offer ond mae\’r system wedi dal yn reit dda\’, meddai Giles.

Cymharwch hynny â chost cysylltiad band-eang masnachol, ac fe welwch yn syth pam mae hyn yn syniad da. Does dim angen llinell tir (£17 y mis o rent) neu gytundeb Sky neu ddongl symudol drud. Bu CCM yn siarad â BT yn flaenorol, a gynigodd osod wifi ym mhob tŷ fel rhan o\’i becyn i landlordiaid cymdeithasol, ond byddai CCM wedi gorfod gwarantu casglu\’r bil ffôn er mwyn cael gostyngiad. \’Roedd hynny\’n 4,000 eiddo, a ninnau\’n cymryd y risg, a byddai wedi costio rhywbeth fel £1.2 miliwn y flwyddyn\’, meddai Mike Owen.

Hyd yn oed cyn credyd cynhwysol, mae buddiannau cynhwysiant digidol yn ymddangos yn amlwg, gyda thrigolion yn gallu ymgeisio am swyddi heb orfod defnyddio cysylltiadau symudol talu-wrth-alw drud, ac felly mewn llai o berygl dioddef atal eu budd-dal.

Cafodd gwerthusiad o gam cyntaf y project bod: \’y posibilrwydd yn bodoli y gall ateb chwyldroadol i broblem darparu mynediad isrwydweithiol i gymunededau difreintiedig ddeillio o broject Merthyr Ddigidol, yn seiliedig ar egwyddorion economi cydgyfrannol neu fodel o ddefnydd cydweithredol, ac mae eisoes yn effeithio ar y ffordd y mae budd-ddeilwyr sylweddol yn meddwl am eu hagwedd tuag at yr agendâu \’digidol diofyn\’ a \’digidol a gynorthwyir\’.\’

Datblygwyd y system gyda chymorth arbenigol gan Guifi-net, sy\’n dal i gynnig cymorth technegol, ond o\’r pwynt hwnnw ymlaen, bwriwyd ati gydag ethos o hunan-gymorth, trwy gyfrwng grŵp craidd o chwe hyrwyddydd digidol lleol. \’Does dim rheswm pam na all neb ei ddysgu\’, meddai Nick Giles.

Mae gan yr adroddiad gwerthuso ddigonedd o enghreifftiau o denantiaid sydd wedi elwa hefyd:

  • Doedd gan Rachel a\’i phartner ddim mynediad i\’r rhyngrwyd cyn hyn ond nawr mae\’r plant yn ei ddefnyddio i wneud eu gwaith cartref, a gall hithau chwilio am swyddi\’n llawer haws
  • Bu gan Terry a\’i bartner gysylltiad band-eang masnachol ond roedd hi\’n anodd talu\’r biliau. Bellach, maen nhw\’n arbed £25 y mis ac mae yntau\’n ystyried sefydlu busnes dylunio crysau-t pwrpasol, a\’i redeg yn bennaf ar gysylltiad Merthyr Ddigidol
  • Mae Chris yn byw gyda\’i fam ac ef yw ei phrif ofalydd. Doedd ganddo ddim cysylltiad rhyngrwyd o\’r blaen ond nawr, gall fynd ar lein i gael y fargen orau pan gaiff gyfle i siopa, ac mae\’n gobeithio darganfod gwasanaethau iechyd ychwanegol iddi ar-lein.

Y cam nesaf yw ehangu\’r project i Fandeg, cymuned sy\’n ynysedig ac ymhell o swyddfa CCM, ac sydd newydd golli ei gwasanaethau bws. Yn y tymor hwy, mae CCM yn siarad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ynglŷn ag arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac mae am sefydlu menter gymdeithasol i redeg y rhwydwaith.

‘Mae\’r rhwydwaith yn rhad ac am ddim nawr, ond mae arnom angen cynllun busnes iawn\’ meddai Mike Owen. \’Os yw\’n fwy na £5 y mis, wneith pobl ddim talu, ond mae £5 y mis yn dal yn swm sylweddol. Mae arnom angen i eraill ymuno â ni. Fel rhan o\’n hymrwymiad, hoffem gysylltu pob un o\’n cartrefi.\’ Mae\’n cymharu hyn â\’r sefyllfa yn y 1930au pan ddaeth pobl at ei gilydd i ddarparu ysgolion a llyfrgelloedd. ‘Gyda llinellau ffôn drud a chytundebau Sky, a dibyniaeth ar y prif ddarparwyr, mae cymunedau fel Merthyr bob amser yn mynd i fod yn ddifreintiedig. Roedden ni\’n meddwl bod hyn yn bwysig.\’

Gan edrych y tu hwnt i Ferthyr, mae\’n credu bod posibiliadau ledled Cymru ar gyfer cynlluniau. \’Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi\’n helaeth mewn wifi. Mae pob ysgol yng Nghymru\’n gysylltiedig â\’r system a gallent rannu\’r signal ar benwythnosau ac ar ôl pedwar o\’r gloch am ddim.\’

Am fwy o wybodaeth, gweler www.digitalmerthyr.org.uk


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »