English | Cymraeg Tel: 07979 362076 Connect: LinkedIn

Golygyddol – Heneiddio’n Well

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio yn fuan – a thema’r rhifyn Gaeaf hwn o WHQ yw tai a phobl hŷn.

Cydnabyddir yn gynyddol y rhan hanfodol i bydd angen i dai ei chwarae, ochr yn ochr â  gwasanaethau cyhoeddus eraill, i ni allu cyflawni’r uchelgais o wneud Cymru yn wlad orau’r byd i heneiddio ynddi. Ond fel y dywed y Comisiynydd Pobl Hŷn, Heléna Herklots, nid yw materion tai yn cael digon o sylw o hyd, yn enwedig ar lefel y DU.

Yn y cyfamser, mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw’r ddarpariaeth dai yn gymesur â’r ddemograffeg o hyd.

Ac os yw’r blaenoriaethau ar gyfer polisi tai oed-gyfeillgar yn glir, mae adroddiad David Robinson ar ymchwil fanwl mewn un rhan o ogledd Lloegr yn awgrymu bod bwlch sy’n destun gofid rhyngddynt a’r dewisiadau tai go iawn sydd ar gael i bobl hŷn ar lawr gwlad.

Mae darparwyr tai yng Nghymru yn gweithio’n galed i bontio’r bwlch hwnnw â phrojectau newydd a syniadau newydd. Mae Rebecca Mollart a Chris Thomas yn archwilio arfer da o ran cefnogi pobl LGBT hŷn mewn tai gwarchodol a thai ymddeol, mae Angela Stacey yn esbonio sut yr aeth Trivallis ati i adnewyddu ei dai gwarchodol hen-ffasiwn, ac mae Richard Sheahan yn ystyried sut y mae technoleg gynorthwyol o fudd i bobl hŷn mewn tai gofal-ychwanegol a gwarchodol ym Mlaenau Gwent.

I gloi, mae Chris Jones yn adrodd ar waith Gofal a Thrwsio Cymru i gefnogi mwy na 30,000 o bobl hŷn i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi, a Bill Rowlands yn edrych ar broject newydd i helpu pobl sy’n byw gyda dementia yng Nghwm Taf.

Y tu allan i’n thema ganolog, mae Clare Budden yn adrodd ar ymdrechion ClwydAlun i gyflawni ei nod dymor-hir o beidio â throi neb allan, a Jenny Preece yn edrych ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar sut a pham y gwrthodir tai i bobl.

Ceir diweddariad ar reoleiddio gan Doug Elliott ynghyd ag erthygl gan Ceri Victory-Rowe ar ddatblygu’r model newydd ar gyfer llywodraethiant cymdeithasau tai.

Mae Jocelle Lovell hithau yn amlinellu casgliadau ymchwil newydd i fuddiannau tai cydweithredol a rhai dan arweiniad y gymuned.

Gyda hyn oll, y manylion llawn am holl enillwyr Gwobrau Tai Cymru a’n holl nodweddion rheolaidd, mae’r rhifyn hwn yn fan cychwyn i’r hyn a fydd yn 2020 brysur.

Jules Birch, Golygydd, WHQ


Sign up to our newsletter

Join WHQ’s free monthly newsletter for Welsh housing news, magazine highlights and opportunities to contribute. No magazine subscription needed.Get involved with WHQContribute an article, share your experience or have your say on housing and regeneration in Wales. We’d love to hear from you.Get in touch »

Sign up for the newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision-makers in Wales

Find out more »