English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol: Dim troi nôl

Cafodd cymaint o’n rhagdybiaethau eu troi wyneb i waered yn ystod pandemig Covid-19 fel ei bod yn anodd cadw cyfrif. Pwy allai fod wedi dychmygu cyn mis Mawrth y gallem weithio gartref a chadw ein sefydliadau i redeg am fisoedd? Neu y byddai llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn talu cyflogau miliynau o weithwyr yn y pen draw ac yn cynnig bargen o brydau bwyd hanner-pris?

Yn agosach adref, edrychai’r posibilrwydd o ddod â digartrefedd i ben yn well nag am flynyddoedd. Roedd Cymru’n ffodus bod llawer o’r tir wedi ei fraenaru cyn y pandemig. Roedd y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer gwireddu’r dyhead gyda chefnogaeth eang ar draws y sbectrwm gwleidyddol a chymdeithasol ond edrychai’n debygol o hyd y byddai gweithredu hynny’n cymryd amser. Yn sgil y cloi mawr ym mis Mawrth, cyflawnwyd hynny mewn ychydig wythnosau.

Mae’r rhifyn hwn o WHQ yn edrych nôl ar ymdrech unedig cyfnod 1 ar draws y llywodraeth ganol, llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol i ddod â rhai sy’n cysgu allan ac eraill heb gartref parhaol i mewn i lety diogel. Ond wrth i westai ddechrau troi’n ôl yn westai, edrychwn hefyd ar waith cyfnod 2 i sicrhau bod digon o lety parhaol ar gael i sicrhau na fydd rhaid i neb fynd yn ddigartref drachefn. Mae cyfweliadau gyda Julie James a Lynda Thorne yn cynnig golwg ar waith Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd ill dau.

Arweiniodd marwolaeth George Floyd ym Minneapolis, ac effaith ehangach y pandemig, at wrthdystiadau byd-eang yn erbyn anghydraddoldeb hiliol. Rhoddwn bersbectif Cymreig ar Bywydau Du yn Cyfrif mewn erthyglau gan bedwar o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr cwrs Astudiaethau Tai Met Caerdydd ar eu gobeithion am y dyfodol fel gweithwyr tai proffesiynol du.

Clywn hefyd gan Tai Pawb am ei addewid Gweithredoedd Nid Geiriau ar anghydraddoldeb hiliol a rhydd Tamsin Stirling safbwynt aelod bwrdd ar ein dyletswydd unigol a thorfol i fynd i’r afael ag ef.

Yn fwy uniongyrchol gysylltiedig â Coronafirws, mae cymdeithasau tai o bob rhan o Gymru yn myfyrio ar effaith y pandemig ar eu sefydliadau a’u cymunedau. Cawn hefyd ddau gyfraniad o’r byd academaidd: gan Ken Gibb a Chris Foye ar broject ymchwil sy’n edrych ar yr effaith ar bolisi tai yn y DU ac Awstralia, a Craig Gurney ar y ffordd y bu’r cartref yn hafan ddiogel i lawer ohonom yn ystod y cyfnod dan glo ond gan adael eraill yn agored i niwed.

Gobeithio y bydd y rhifyn hwn o WHQ yn adlewyrchu profiadau cyfnod ysgytwol i bawb a’r heriau sy’n dal i fod yn y dyddiau ansicr o’n blaenau. Cadwch yn saff.

Jules Birch, golygydd, WHQ   


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »