Nod llawlyfr newydd yw helpu pawb sy’n ceisio gwneud eiddo gwag yn ddefnyddiadwy eto. Helen Taylor sy’n egluro’r syniad
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Llawlyfr Eiddo Gwag newydd, canllaw i awdurdodau lleol, perchnogion eiddo gwag, grwpiau cymunedol, ac unrhyw un sy’n ymwneud ag adfer eiddo masnachol a phreswyl gwag i’w ddefnyddio eto.
Lluniwyd y llawlyfr gan ymchwilwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd gyda chyfraniad ystod eang o arbenigwyr o’r sector tai. Mae’n rhannu arfer gorau, astudiaethau achos ac offerynnau ariannol i helpu i droi gofodau gwag yn fannau sy’n ffynnu.
Mae eiddo gwag yn bwnc amlddimensiwn a chymhleth. Gellir disgrifio eiddo gwag fel problem tai neu broblem iechyd amgylcheddol, problem gydag adfywio a chynllunio neu broblem economaidd. Gall effaith negyddol eiddo gwag beri ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan danseilio cydlyniad cymunedol. Oherwydd natur gymhleth y broblem, mae’r amrywiaeth o gyfranddeiliaid sydd eu hangen i fynd i’r afael â hi yn eang hefyd. Mae gweithio mewn partneriaeth yn elfen allweddol wrth fynd i’r afael â hyn, a bydd angen gwaith cydgysylltiedig gan wahanol weithwyr proffesiynol o fewn ac y tu allan i awdurdodau lleol.
Gellir defnyddio’r llawlyfr mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar y cyfranddeiliad: fel trosolwg eang addysgiadol ar y prosesau, yr offer, y cyd-destun, a’r ffyrdd o weithio wrth ymdrin ag eiddo gwag, neu fel adnodd ymarferol i gefnogi’r rhai sy’n ymwneud â dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol. Mae’n amlinellu ystyriaethau pwysig a’r bras gamau angenrheidiol wrth ymdrin ag eiddo gwag.
Mae mewn dwy ran: y canllaw ac adnoddau. Rhydd y canllaw drosolwg eang ar themâu allweddol a phroblemau cysylltiedig ag ymdrin ag eiddo gwag. Mae mewn pedair adran:
- Problemau gydag eiddo gwag
- Pwy sy’n ymwneud ag eiddo gwag?
- Sut mae ymdrin ag eiddo gwag?
- Pa sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael ag eiddo gwag?
Mae’r wybodaeth a gyflwynir yn yr adrannau hyn yn cynnwys trosolwg o bwy sy’n ymwneud â gwaith ar eiddo gwag y tu fewn a thu allan i awdurdodau lleol, y broses o ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, a throsolwg o ystyriaethau hyfywedd ariannol i bob cyfranddeiliad, yn cynnwys perchnogion eiddo.
Ail ran y llawlyfr yw’r ddogfen adnoddau. Mae hon yn darparu dogfennau templed ac enghreifftiol i gefnogi’r prosesau a amlinellir yn y canllaw, yn ogystal â llawlyfr cyfreithiol sy’n crynhoi’r holl offerynnau deddfwriaethol perthnasol cysylltiedig ag eiddo gwag mewn un man. Bwriedir i’r dogfennau a gyflwynir yma fod yn ymarferol ac yn hwylus i gyfranddeiliaid eu defnyddio. Cynhwysir astudiaethau achos arfer gorau o wahanol awdurdodau lleol hefyd fel enghreifftiau o waith llwyddiannus i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol.
CYFWELIADAU A GWEITHDAI
Datblygwyd y llawlyfr trwy gyfweliadau a gweithdai gyda’r sector tai, gan adlewyrchu’r ystod eang o weithwyr proffesiynol sydd â diddordeb yn y gwaith hwn: rhai sy’n gweithio i awdurdod lleol, ac unigolion o gymdeithasau tai, y trydydd sector, a rhai landlordiaid preifat. Cyfrannodd gweithwyr proffesiynol tai hefyd ddogfennau enghreifftiol, astudiaethau achos, a gweithredu fel ffrindiau beirniadol ar ddrafftiau o’r llawlyfr.
Drwy gydol dyluniad y ddogfen bu ffocws ar ymarferoldeb, i’w gwneud yn adnodd ymarferol. Gellir llenwi’r dogfennau enghreifftiol a thempled yn y ddogfen adnoddau yn ddigidol neu eu lawrlwytho a’u hargraffu, fel nad yw’r dogfennau ond yn disgrifio’r hyn y gall gweithwyr proffesiynol ei wneud; maent yn darparu’r union ddogfen ar eu cyfer fel y gallant ei defnyddio ar unwaith. Darperir dolenni hefyd rhwng y canllaw a’r dogfennau adnoddau fel y gellir agor y ddogfen dempled berthnasol ochr yn ochr â’r adran sy’n ei thrafod yn y canllaw. Gellir gweld enghraifft o hyn isod.
POB CYFRANDDEILIAD
Llywiwyd y llawlyfr gan, ac fe’i bwriedir ar gyfer, pob cyfranddeiliad sy’n ymwneud ag eiddo gwag. Gellir ei ddefnyddio fel cyflwyniad i hyfforddiant rhai sy’n newydd i waith gydag eiddo gwag o fewn yr awdurdod lleol, gan amlinellu’r broses a chymhlethdodau dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd buddiol. Gellir ei ddefnyddio fel canllaw i landlordiaid sy’n berchen ar eiddo gwag ac sydd am wybod sut y gellir ei adfer i’w ddefnyddio unwaith eto, gyda phwy y dylid trafod hyn, a pha gyllid sydd ar gael. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gefnogi grwpiau cymunedol sy’n dilyn y broses.
Gobeithio y bydd hon yn ddogfen ddefnyddiol i rai sy’n gweithio gyda thai, yn cynnig set o adnoddau ymarferol ac addysgiadol i gefnogi gwneud defnydd buddiol o eiddo gwag.
Mae Dr Helen Taylor yn uwch ddarlithydd ar dai ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’r llawlyfr ar gael YMA.