Flwyddyn i mewn i’r argyfwng nitradau morol, Hayley Eastment sy’n archwilio sut mae cydbwyso ymdrechion hanfodol i amddiffyn ein hamgylchedd naturiol â’r angen llawn mor ddwys am gartrefi diogel a fforddiadwy
Aeth blwyddyn heibio ers i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyhoeddi ei asesiadau cyflwr a’i gyngor cynllunio diweddaraf ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) morol ledled gorllewin Cymru. Fe’i dilynwyd gan un o’r ergydion cynllunio mwyaf i dai yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.
I bob diben, ataliodd cyngor CNC ddatblygiad miloedd o gartrefi cymdeithasol y mae mawr angen amdanynt ledled gorllewin Cymru, gan effeithio ar gymdeithasau tai, awdurdodau lleol, datblygwyr, cadwyni cyflenwi a chymunedau sydd eisoes yn dan bwysau tai difrifol.
Flwyddyn wedyn, er gwaethaf gwaith sylweddol gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyfranddeiliaid ehangach, mae miloedd o gartrefi ar stop, yn cynnwys cartrefi fforddiadwy. Yn erbyn cefndir argyfwng tai, mae’r cwestiwn sy’n wynebu Cymru yn gynyddol ddifrifol: sut mae cydbwyso gweithredu hanfodol i amddiffyn ein hamgylchedd naturiol â’r angen llawn mor ddwys i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy?
BETH DDIGWYDDODD?
Daeth y mater i’r amlwg yn dilyn tystiolaeth ddiweddaraf a chyngor cadwraeth gan CNC ar gyfer sawl ACA forol, yn cynnwys Sir Benfro, Bae ac Aberoedd Caerfyrddin, a Bae Aberteifi. Daeth CNC i’r casgliad bod lefelau uchel o Nitrogen Anorganig Toddedig (DIN) yn cyfrannu at amodau amgylcheddol anffafriol yn y safleoedd gwarchodedig hyn. O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau nad yw datblygiad yn effeithio’n andwyol ar gyfanrwydd yr ardaloedd gwarchodedig hyn.
Yn ymarferol, y canlyniad oedd ansicrwydd ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnynt. Yn sydyn, rhaid oedd i ddatblygiadau tai newydd, a hyd yn oed rai cynlluniau a oedd eisoes yn mynd rhagddynt, arddangos niwtraliaeth maetholion neu fesurau lliniaru i wrthbwyso’u heffaith cyn cael caniatâd cynllunio neu allu ei weithredu’n gyfreithlon.
Bu’r effaith yn ddeifiol. Adroddir yr effeithiodd y cyngor ar gymaint ag 11,000 o gartrefi ledled gorllewin Cymru. Gyda chymdeithasau tai yn unig, effeithiwyd ar fwy na 2,000 o gartrefi fforddiadwy ar hyn o bryd, ac mae 70 o gartrefi fforddiadwy parod-i-fynd mewn perygl o sefyll yn wag yr haf yma oni newidia’r sefyllfa.
Mae hyn yn digwydd yn erbyn cefnlen o bwysau angen digynsail am dai. Mae mwy na 10,500 o bobl yng Nghymru yn byw mewn llety dros-dro ar hyn o bryd, yn cynnwys mwy na 2,000 o blant, gyda awdurdodau lleol yn wynebu costau cynyddol ac yn ei chael hi’n gynyddol anodd i sicrhau llety addas. Pan fo degau o filoedd o bobl ledled Cymru yn parhau ar restrau aros am dai cymdeithasol, testun pryder mawr yw’r ffaith na ellir bwrw ymlaen â thai fforddiadwy a allai helpu i leddfu’r pwysau. Mae Cymru wedi datgan argyfwng tai, ond mewn rhannau o orllewin Cymru daeth y ddarpariaeth o dai fforddiadwy i ben i bob diben.
AMDDIFFYN NATUR A CHYFLENWI TAI

Mae gan gymdeithasau tai ledled Cymru ym
rwymiad dwfn i amddiffyn ac adfer yr amgylchedd naturiol. Mae’r sector yn cydnabod pwysigrwydd diogelu cynefinoedd a gwella canlyniadau bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau i ddod, ac mae llawer o sefydliadau eisoes yn mynd y tu hwnt i’r gofynion lleiafwm mewn meysydd fel effeithlonrwydd ynni, creu lleoedd, gwella bioamrywiaeth a draenio cynaliadwy. Mae’r sector yn llwyr dderbyn yr angen am fesurau cadarn i amddiffyn yr amgylchedd.
Ond mae tensiwn cynyddol rhwng uchelgais amgylcheddol a’r gallu i gyflenwi tai. Dengys adroddiadau CNC ei hun yr achosir llygredd maetholion gan amaethyddiaeth yn bennaf, ynghyd â chyfraniadau o systemau carthffosiaeth preifat a phwysau o fewn y diwydiant dŵr, gydag amaeth yn gyfrifol am tua 95% o’r llwyth maetholion mewn llawer dalgylch. Ac eto, aeth datblygu tai yn un o’r sectorau mwyaf gweladwy yr effeithiwyd arnynt gan yr ymateb cynllunio. Mae rhwystredigaeth yn parhau bod darparu tai wedi arafu’n sylweddol heb i ni weld unrhyw gamau cyfatebol o ran mynd i’r afael â’r cyfrannwr mwyaf at lygredd maetholion. Gallai’r anghydbwysedd hwn greu canfyddiad bod darparu tai yn ysgwyddo baich anghymesur her amgylcheddol lawer ehangach.
YR EFFAITH AR YR ECONOMI EHANGACH
Mae’r effaith bellach yn ymestyn ymhell y tu hwnt i oedi gyda chynlluniau tai yn unig. Ledled gorllewin Cymru, mae cyfyngiadau hirfaith yn dechrau effeithio ar yr ecosystem ddatblygu ac adeiladu ehangach y dib
ynna darparu tai fforddiadwy arni. Mae ymgynghorwyr a chontractwyr lleol eisoes yn nodi gostyngiadau sylweddol mewn gwaith ynghlwm wrth y moratoriwm cynllunio parhaus yn yr ardaloedd dan sylw.
Adroddodd un practis pensaernïol yng ngorllewin Cymru fod refeniw hanner cyntaf y flwyddyn ariannol bron draean yn is o’i gymharu â lefelau cyn y cyfyngiadau, ar ôl gostyngiad cynharach o 20% mewn trosiant oherwydd yr arafu ar weithgaredd cynllunio. Cawsai’r practis ei orfodi eisoes i ddiswyddo pobl o ganlyniad uniongyrchol i weithgaredd datblygu a ataliwyd. Dywed Nick Cox, cyfarwyddwr masnachol RLH Architectural Cyf, bod hon yn ‘sefyllfa enbyd rydym oll ynddi’; heb ymyrraeth frys, rhybuddia ‘y caiff swyddi eu colli, bydd busnesau’n cau, a daw’r gwaith ar y tai hyn y mae cymaint o’u hangen i ben’.
Mae llawer o fusnesau bellach yn chwilio am waith y tu allan i’r siroedd yr effeithir arnynt er mwyn parhau yn hyfyw, tra’n cystadlu yn erbyn nifer gynyddol o gwmnïau sy’n gwneud yr un fath. Mae hyn yn creu risg o wanhau capasiti datblygu lleol a chadwyni cyflenwi cefn gwlad gorllewin Cymru yn y tymor hwy ar yr union adeg y mae angen darparu niferoedd sylweddol o dai. Bydd ailennyn hyder, arbenigedd a chapasiti cadwyn gyflenwi a gollwyd mewn ardaloedd gwledig yn cymryd cryn amser.
Mae’r sector eisoes yn wynebu costau adeiladu cynyddol, ansicrwydd economaidd a phwysau ar gapasiti; mae dileu piblinell ddatblygu sylweddol yn sydyn wedi achosi ansefydlogrwydd mawr. Mae pryderon cynyddol hefyd y gallai tarfu ar biblinellau datblygu am gyfnod hirfaith roi pwysau ychwanegol ar gontractwyr sy’n gweithredu yng Nghymru yn ehangach. Dengys profiadau diweddar ledled y diwydiant adeiladu pa mor gyflym y gall pwysau ariannol dyfu cyn gynted ag y bydd llwythi gwaith yn lleihau a hyder yn gwanhau. Nid problem dai yn unig mo hon. Mae’n broblem economaidd, yn broblem gymunedol ac yn broblem i’r gweithlu.
GWELSOM HYN O’R BLAEN
Fis Ionawr 2021, cyhoeddodd CNC dystiolaeth yn dangos bod cyfran sylweddol o afonydd ACA yng Nghymru yn methu targedau ffosfforws llymach. Arweiniodd hyn at orfodi gofynion niwtraliaeth maetholion ar draws dalgylch sawl afon, gydag effeithiau dwys ar ddarparu tai mewn ardaloedd yn cynnwys dalgylchoedd afonydd Gwy, Wysg, Teifi a Chleddau. Ataliwyd datblygiadau tai, cafodd CDLliau eu gohirio, oedwyd ceisiadau cynllunio, a pheryglwyd cynlluniau tai fforddiadwy. Sefydlodd Llywodraeth Cymru weithgorau, uwchgynadleddau afonydd a rhaglenni cymorth gyda’r nod o ddadflocio datblygu a chanfod mesurau lliniaru. Bu ymdrech sylweddol ledled y sector i ddeall capasiti trin dŵr gwastraff, llwybrau’r maetholion, a mecanweithiau gwrthbwyso posibl.
Ond dyma ni eto fyth, flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, gyda nitradau morol y tro hwn. Mae’r argyfwng diweddar wedi gadael y sector yn cwestiynu a ddysgwyd digon o’r profiad gyda ffosffadau. Mae’n codi cwestiynau parthed sefydlu systemau rhybuddio cynnar, cydlyniad rheoleiddiol cliriach, ac atebion strategol cyflymach cyn i’r argyfwng cyfredol ddwysáu
Mae rhwystredigaeth hefyd bod Cymru’n dal i ymateb yn adweithiol i broblemau cydymffurfio amgylcheddol, ar ôl tarfiadau difrifol i systemau cynllunio a phiblinellau tai, yn hytrach na mynd ati ar sail genedlaethol fwy rhagweithiol i ymdrin â chapasiti amgylcheddol, buddsoddi mewn seilwaith, a rheolaeth ar d
dalgylchoedd. Heb ddysgu gan brofiad blaenorol, mae yna risg wirioneddol yr â niwtraliaeth maetholion yn gylch parhaus o ansicrwydd, oedi a rhwystrau i ddarparu tai mewn gwahanol rannau o Gymru.
YR HER I GEFN GWLAD
Mae’r effaith yn arbennig o ddifrifol mewn cymunedau cefn gwlad, lle mae darparu tai fforddiadwy eisoes yn anodd oherwydd argaeledd tir, pwysau hyfywedd, cyfyngiadau seilwaith a gofynion cynllunio cymhleth. Mae llawer o gymunedau yng ngorllewin Cymru eisoes yn wynebu pwysau fforddiadwyedd, poblogaeth sy’n heneiddio, a cholli pobl iau sy’n methu aros ym mröydd eu mebyd. Mae cymdeithasau tai yn chwarae rhan hanfodol mewn cynnal cymunedau trwy ddarparu cartrefi ar gyfer pobl leol, teuluoedd a gweithwyr allweddol.
Mae problem nitradau morol yn gwaethygu’r heriau hyn ac mewn perygl o wneud yr ardaloedd dan sylw yn llai deniadol i fuddsoddi mewn datblygu yn y dyfodol. Mae pryder cynyddol hefyd, pan wneir asesiadau amgylcheddol pellach yng ngweddill Cymru, y gallai cyfyngiadau tebyg ddod i’r amlwg mewn rhannau eraill o’r wlad. Heb strategaeth genedlaethol hirdymor glir, mae risg wirioneddol y tyfa’r heriau hyn ac y bydd y cadwyni cyflenwi sydd wedi cynnal buddsoddi yng nghefn gwlad Cymru yn dechrau edrych ar fannau eraill.

EFFEITHIO AR GYNLLUNIAU DATBLYGU LLEOL
Mae’r oblygiadau’n ymestyn y tu hwnt i geisiadau cynllunio unigol a safleoedd tai segur. Mae nitradau morol yn dechrau effeithio’n sylweddol ar Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLl), a ddylai gynnig sicrwydd parthed ble y dylid darparu cartrefi, swyddi a seilwaith yn y blynyddoedd nesaf. Yn gynyddol, rhaid i awdurdodau cynllunio ailystyried eu cronfeydd tystiolaeth, Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd, a dyraniad safleoedd, gan bentyrru mwy o bwysau ar dimau cynllunio byr eu hadnoddau.
Mae hyn yn her fawr i gymdeithasau tai sy’n ceisio cynllunio piblinellau datblygu a rhaglenni buddsoddi hirdymor. Mae’r profiad yn adleisio’r argyfwng ffosffadau, a darfodd ar hynt CDLliau mewn llawer rhan o Gymru. Lle mae ansicrwydd yn parhau ynghylch capasiti trin dŵr gwastraff, mesurau lliniaru neu effeithiau amgylcheddol, mae’n anodd i awdurdodau ddyrannu safleoedd yn hyderus ar gyfer twf tai yn y dyfodol. Y canlyniad yw perygl o oedi mewn cynllunio, gwanhau’r cyflenwad tir ar gyfer tai, a lleihau hyder mewn buddsoddi yn y dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad lle mae cyfleoedd datblygu hyfyw eisoes yn brin.
Pan fo Cymru wedi cyhoeddi argyfwng tai, ac yn ceisio cyflymu’r broses o ddarparu tai cymdeithasol, mae ansicrwydd maith o fewn y system gynllunio yn creu perygl o gyflawni’r gwrthwyneb.
YMATEB LLYWODRAETH CYMRU
Symudodd llywodraeth flaenorol Cymru yn gyflym i sefydlu’r Tasglu Datblygu Nitradau Morol, gan ddod â swyddogion, CNC, awdurdodau cynllunio lleol a Dŵr Cymru ynghyd i ddatblygu atebion ymarferol i ddadflocio datblygiad tra’n parhau i ufuddhau i ddeddfwriaeth amgylcheddol. Mae cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys datblygu Cyfrifiannell Maetholion a sefydlu Grŵp Masnachu Credyd Maetholion, a fydd ymhen amser yn caniatáu i ddatblygwyr wrthbwyso effeithiau maetholion trwy fuddsoddi mewn creu gwlyptiroedd, plannu coetiroedd a gwelliannau amgylcheddol ehangach. Fodd bynnag, mae llawer o’r atebion hyn yn dibynnu’n fawr ar argaeledd tir lliniaru, sydd ei hun yn adnodd cyfyngedig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae cyfleoedd datblygu eisoes yn brin.
Comisiynodd llywodraeth Cymru ganllawiau ac astudiaethau achos hefyd i gefnogi awdurdodau cynllunio i fwrw ymlaen â CDLliau a phenderfynu ar geisiadau cynllunio mewn ardaloedd yr effeithir arnynt. Ynghyd â hyn, datblygodd Cyngor Sir Gâr lawlyfr lliniaru ar gyfer datblygwyr. Mae hon yn fenter i’w chroesawu sy’n dangos ymrwymiad cryf awdurdodau lleol i gefnogi cyflawni lle bynnag y bo modd. Ond i lawer o gymdeithasau tai a datblygwyr, codi cwestiynau pellach a wna’r llawlyfr, ac nid yw hyd yma’n cynnig cyfeiriad clir i gynlluniau sydd eisoes ar waith neu bron â’u cwblhau.
Mae rhai awdurdodau’n archwilio i weld a yw tai fforddiadwy preswylwyr dalgylchoedd presennol yn cynhyrchu unrhyw effaith amgylcheddol ychwanegol go iawn – llwybr a allai fod yn bwysig ar gyfer rhai cynlluniau, ag ystyried bod yr aelwydydd hyn eisoes yn cyfrannu at lwythi maetholion lleol. Ond mae ansicrwydd sylweddol yn parhau ynghylch asesiadau capasiti trin dŵr gwastraff gan CNC a Dŵr Cymru, a sut y bydd y rhain yn effeithio ar ddatblygiadau yn y dyfodol.
BETH SY’N DIGWYDD NESAF?
Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r sector yn dal i chwilio am lwybrau ymarferol i ddatgloi’r sefyllfa. Mae llawer o gynlluniau piblinell yn parhau ar stop tra’n aros am ateb clir, a pho hiraf y pery’r sefyllfa honno, y mwyaf anodd yw hi i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol, cynnal hyder buddsoddwyr a momentwm datblygu. Diddymwyd y Tasglu Datblygu Nitradau Morol ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, ond mae llawer o’r problemau y’i sefydlwyd i’w hystyried yn parhau heb eu datrys. Mae pryder dealladwy ar draws y sector tai parthed sut yr â’r gwaith hwn rhagddo o dan lywodraeth newydd Cymru, ac a barheir ag ef â’r cyflymder a’r brys angenrheidiol.
Mae’r realiti’n ddifrifol. Prosiectau mawr yn dal ar stop. Oedi cyn darparu’r cartrefi fforddiadwy y mae ar gymunedau gymaint o’u hangen. Gall cartrefi newydd y cwblhawyd eu hadeiladu sefyll yn segur yng nghanol argyfwng tai. Nid dewis rhwng amddiffyn natur a chyflenwi cartrefi yw’r her sy’n wynebu Cymru: rhaid gwneud y ddau beth. Mae adfer yr amgylchedd yn hanfodol, fel y mae darparu tai diogel a fforddiadwy ar gyfer y miloedd o bobl sy’n dal i aros am gartref.
Bydd datrys y sefyllfa yn mynnu cydweithrediad hirdymor y llywodraeth, rheoleiddwyr, y diwydiant dŵr, amaeth, awdurdodau cynllunio a’r sector tai. Mae’n fater brys oherwydd er bod systemau, canllawiau a strwythurau llywodraethu yn parhau i esblygu, mae teuluoedd ledled Cymru yn dal i fod heb y cartrefi y mae eu taer angen arnynt.
Hayley Eastment yw Rheolydd Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru