Daeth newid hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru â Phlaid Cymru i mewn i lywodraeth am y tro cyntaf, gyda thai yn gadarn wrth galon ei rhaglen genedlaethol. Mae Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, yn siarad â golygydd WHQ, Sally Hales, am gydweithio, ffyrdd newydd o fynd ati, a meddwl y tu hwnt i’r tymor byr.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru raglen dai orlawn ar gyfer tymor y Senedd hwn: 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol, newidiadau mawr i wasanaethau digartrefedd, rhenti tecach yn y sector rhentu preifat, a pharhau i weithio i uwchraddio perfformiad ynni rhai o gartrefi hynaf Ewrop.
Croesawodd y sector yr uchelgais yn gyffredinol. Ond y gwir amdani yw bod tai yn un o’r problemau hynny sy’n gwrthod cael ei datrys gan un addewid neu un polisi. Mae costau’n codi beunydd. Mae’r system gynllunio yn araf o hyd. Teimlir bylchau sgiliau ym mhobman, o grefftau safle i swyddi proffesiynol. Mae cyllidebau’n dynn, a gofynion amgylcheddol, er mor angenrheidiol, yn straen bellach at her a oedd eisoes yn un anodd.
Felly mae’r cwestiwn amlwg yn dilyn: a ellir dileu’r rhwystrau hyn mewn pryd i fodloni maint yr addewid?
Nid yw Siân Gwenllian, sydd newydd ei phenodi’n weinidog tai Cymru, yn esgus bod llwybr hawdd drwyddo. Yr hyn y daw hi nôl ato, dro ar ôl tro, yw’r angen am ymdrech gydlynol, cynghorau, cymdeithasau tai a phartneriaid ehangach yn gweithio i’r un cyfeiriad.
Dyna’r agwedd y tu ôl i gynllun Plaid Cymru ar gyfer Unnos, corff datblygu hyd-braich newydd. Y gobaith yw yr â’n gyfrwng darparu tai ymarferol, ac yn ffordd o agor opsiynau sy’n teimlo’n gaeedig ar hyn o bryd.
‘Fel y gwela’i hi, mae [Unnos] yn alluogwr tai cymdeithasol i ddadflocio rhai o’r problemau mawr sydd gennym’ meddai. ‘Mae problemau mewn cynllunio. Mae problemau mewn cyllid. Rhaid i ni edrych ar ffyrdd arloesol o godi cyllid ar gyfer adeiladu mwy o gartrefi neu gaffael mwy o gartrefi.’
Cyn cymryd y briff tai, cynhyrchodd Gwenllian, AS Arfon yng ngogledd Cymru, gyfres o bapurau polisi yn cyffwrdd â’r hawl i dai digonol, amddiffynfeydd i rentwyr, hybu cyflenwad a gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru.
Ond mae’r ffordd y penderfynir yr un mor bwysig iddi â’r prif ymrwymiadau. Mae hi am i Unnos gael ei lunio gyda’r sector, nid ei gyflwyno iddo.
‘Dwi am fod yn siarad â phobl yn y sector, y LCCiaid a’r awdurdodau lleol am yr hyn y maen nhw’n feddwl y dylai’r cylch gwaith fod, nid dim ond fi yn dweud, “Dyma beth y bydda i’n ei wneud.” Dyna sut dwi wedi gweithio erioed.’
CYLLID
Rhydd datganoli reolaeth i Gymru dros bolisi tai, ond nid dros lawer o’r penderfyniadau ariannol y tu ôl iddo. Mae cyllid yn dal i ddibynnu’n drwm ar San Steffan, a beirniadwyd fformiwla Barnett ers oes am fethu adlewyrchu ein hanghenion economaidd-gymdeithasol.
Dywed Gwenllian y bydd trafodaethau gyda San Steffan yn gyfrifoldeb y prif weinidog, Rhun ap Iorwerth. Ond eto, mae hi’n glir na fydd setliad mwy gan Lywodraeth y DU, er ei fod i’w groesawu, yn datrys yr argyfwng tai ar ei ben ei hun.
‘Dydy o ddim ynglŷn â phres y llywodraeth yn unig’ meddai. Iddi hi, mae a wnelo Unnos yn rhannol ag ehangu’r offerynnau sydd ar gael, yn enwedig wedi i Brexit gau un llwybr tuag at fenthyca a buddsoddi hirdymor.
‘Dwi am bwysleisio hyn, a dyna pam y bydd gan y corff newydd rydym yn ei sefydlu rôl o edrych ar gyllid’ meddai. ‘Yn anffodus, am nad ydym yn yr Undeb Ewropeaidd, does gennym ni ddim mynediad at Fanc Buddsoddi Ewrop, y mae llawer o wledydd Ewropeaidd wedi manteisio arno. Felly mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd amgen o gyllido, a dwi’n siŵr bod cyfleoedd allan yna.’
Mae beth fydd y dewisiadau eraill hynny yn dal dan ystyriaeth. Fodd bynnag, mae hi am i unrhyw fodel gael ei ddatblygu ochr yn ochr â’r sefydliadau y disgwylir iddynt ddarparu cartrefi newydd.
‘Byddwn yn edrych ar hynny o ran pwrpas, strwythur a chylch gwaith y corff. Dwi am glywed barn pobl yn y sector.”
CYRCHU SERO NET
Mae cymdeithasau tai eisoes yn byw gyda’r tensiwn rhwng cyflymder a safonau: adeiladu digon o gartrefi, yn ddigon cyflym, tra’n dal i gyrraedd targedau datgarboneiddio a chadw cynlluniau’n fforddiadwy.
Mae Gwenllian yn dadlau nad yw Cymru’n dechrau o ddim. ‘Bu’r rhaglen Cartrefi Cynnes yn eithaf llwyddiannus’ meddai. Iddi hi, y cam nesaf yw penderfynu beth sy’n dod wedyn, a sut y caiff ei ddylunio.
Yn hytrach na thrin pob eiddo fel prosiect ar wahân, mae hi am edrych ar ddull ehangach o fynd ati sy’n gweithio ar draws cymdogaethau a deiliadaethau. ‘Dwi’n awyddus i edrych ar atebion ar sail ardal a niwtral o ran deiliadaeth.’ O’i wneud yn dda, gallai gwella cymunedau cyfan gynnig effeithlonrwydd, ac ymestyn y buddiannau y tu hwnt i un grŵp, gan gyrraedd perchentywyr, tenantiaid cyngor a chymdeithasau tai, a rhentwyr preifat fel ei gilydd.
Mae hi hefyd yn cadw llygad ar yr hyn sy’n dod o San Steffan. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynigion pellach ar effeithlonrwydd ynni domestig, ac mae hi am eglurder parthed sut y bydd y rhain yn cyd-fynd â rhaglenni presennol Cymru.
‘Dwi am ddeall sut y bydd cynlluniau Ed Miliband yn cyd-fynd â’r hyn rydym yn ei wneud yma, gan nodi gwahaniaethau a pha gyllid canlyniadol y gallem ei sicrhau.’
Mae tonnau gwres diweddar wedi newid y ffordd y mae llawer yn meddwl am ansawdd tai hefyd. Nid sgwrs aeaf yn unig mo inswleiddio mwyach. ‘Rydyn ni’n mynd nôl at hanfodion go iawn’ meddai. “Nid dim ond yn meddwl am gadw cartrefi’n gynnes yn y gaeaf, ond sut i’w cadw’n oer yn yr haf hefyd.”

Credit: Welsh Parliament/Senedd Cymru
RHEOLAETHAU RHENT
Mae rheolaethau rhent yn dal i fod yn un o’r pynciau tai mwyaf dadleuol, ac ymrwymodd y Blaid yn ei maniffesto i ymchwilio i opsiynau. Daw’r pwnc gyda rhybuddion am effeithiau anfwriadol, o landlordiaid yn cefnu ar y farchnad i effeithiau canlyniadol ar gyllid LCCiaid, ac arafu o bosib mewn adeiladu tai cymdeithasol.
‘Dwi’n ymwybodol iawn o’r pryderon am y maes hwn’ meddai Gwenllian. Ond mae hefyd yn cysylltu’r mater yn uniongyrchol â digartrefedd. ‘Mae rhenti sector preifat anfforddiadwy yn arwain at ddigartrefedd mewn llawer sefyllfa.’
Mae’n mynnu na fydd gweinidogion yn rhuthro i ddewis model cyn archwilio’r dystiolaeth. Bydd y gwaith yn cynnwys edrych ar ffyrdd mannau eraill o fynd ati, yn cynnwys yr Alban, a siarad â landlordiaid yn gynt yn hytrach na’n hwyrach.
‘Dydyn ni ddim yn mynd i ruthro. Mae llawer o landlordiaid yn iawn ynglŷn â hyn cyhyd â’u bod nhw’n rhan ohono o’r dechrau. Mae llawer o waith i’w wneud ar hyn, a bydd yn seiliedig ar y dystiolaeth.’
DIGARTREFEDD
Mae’r Ddeddf Digartrefedd newydd yn un o’r newidiadau pwysicaf i gyfraith tai Cymru ers blynyddoedd, yn symud y canolbwynt disgyrchiant tuag at atal argyfyngau cyn iddynt ddigwydd.
Mae Gwenllian yn gweld hynny fel y pwynt. ‘Roeddwn i’n hapus iawn i gyfranogi gyda’r Ddeddf Digartrefedd oherwydd mae’r ochr ataliol yn greiddiol.’
Mae swyddogion eisoes wedi cychwyn ar y gwaith o drosi’r ddeddfwriaeth yn wasanaethau ar lawr gwlad, a disgwylia y caiff Cymru ei gwthio ymhellach tuag at ddulliau wedi’u gwreiddio yn egwyddorion Tai yn Gyntaf ac arfer sy’n seiliedig ar drawma. ‘Dwi’n credu y bydd hyn yn ein helpu i symud ymlaen i’r sail honno.’
Does dim o hyn yn dod ag atebion twt. Mae Cymru’n ceisio creu mwy o dai cymdeithasol ar raddfa tra’n newid rheolau rhentu, datgarboneiddio cartrefi ac ad-drefnu gwasanaethau digartrefedd. Bydd hyn oll yn gofyn penderfyniad gwleidyddol disyfl.
PWY YW SIÂN GWENLLIAN?
Mae Siân Gwenllian wedi cynrychioli Arfon yn y Senedd dros Blaid Cymru ers 2016.
Cyn dod i’r Senedd, adeiladodd Gwenllian yrfa mewn newyddiaduraeth, gan weithio i’r BBC,
HTV a Golwg, cyn symud i gysylltiadau cyhoeddus, yn cynnwys swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd.
Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Friars ym Mangor cyn astudio ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Mae hi wedi ymgyrchu dros gydraddoldeb menywod a’r iaith Gymraeg am fwy na phedair degawd.
Gwasanaethodd Gwenllian fel cynghorydd Gwynedd rhwng 2008 a 2016, gan gynrychioli ei phentref genedigol, Y Felinheli. Ers dod i’r Senedd, bu mewn nifer o swyddi uwch o fewn Plaid Cymru, yn cynnwys dirprwy arweinydd yn y Senedd, prif chwip, Trefnydd a
chomisiynydd y Senedd.
Rhwng 2021 a 2024, hi oedd prif aelod dynodedig Plaid Cymru yn goruchwylio Cytundeb Cydweithredu’r blaid gyda llywodraeth Lafur Cymru. Yn ystod pedwerydd a phumed tymor y Senedd, roedd ganddi hefyd bortffolios yn cwmpasu addysg, llywodraeth leol, cynllunio, yr
Iaith Gymraeg a diwylliant.
Ers 2024, mae Gwenllian wedi arwain ar dai a chynllunio dros Blaid Cymru, gyda chyfrifoldeb
dros graffu ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyflenwad tai, diwygio cynllunio, fforddiadwyedd a darparu tai newydd.
Y tu allan i wleidyddiaeth, mae ei diddordebau’n cynnwys theatr, y celfyddydau, cerddoriaeth Gymraeg, pêl-droed a rygbi.