Enillydd gwobr Seren yn Codi 2026 CIH Cymru yn ateb cwestiynau WHQ
Sut aethoch chi i mewn i fyd tai (a’ch swydd bresennol)?
Fel llawer o bobl, math o syrthio i mewn i’r sector wnes i. Roeddwn i eisiau helpu pobl erioed ond doedd gen i mo’r stumog i feddygaeth na’r alwad i ddysgu. Bûm mewn swyddi gwerth cymdeithasol, yn hyrwyddo buddiannau cymunedol, cyn dod o hyd i Tai Tarian. Chafodd tai erioed ei gyflwyno i mi fel opsiwn gyrfa, ond mae wedi caniatáu i mi o’r diwedd i wireddu’r gobaith plentyntod hwnnw am fod ag effaith wirioneddol. Cefais swydd famolaeth dros-dro yn y tîm Cwsmeriaid a Chymuned, ond pan hysbysebwyd fy swydd bresennol, anogodd fy mrawd-yng-nghyfraith fi i ymgeisio. Y penderfyniad gyrfa gorau erioed.
Dywedwch ychydig wrthym am eich rôl a pham rydych chi’n ei charu.
Fel Swyddog Ymgysylltu Tenantiaid, byddaf yn sicrhau y gweithredir ar leisiau tenantiaid ar bob lefel. Crëwyd fy swydd yn 2024 i gryfhau’r llais hwnnw, gan ein symud o un panel i fframwaith ar sail tair colofn: Hysbysu, Cynnwys, a Dylanwadu. Mae’n caniatáu hyblygrwydd i denantiaid ymgysylltu mewn ffyrdd sy’n gweithio iddyn nhw. Fy ngwaith i yw sicrhau bod y busnes yn defnyddio’r fframwaith hwn – boed yn ymgynghori ar gwynion neu osod paneli solar. Dywedaf wrth gydweithwyr nad yw ymgysylltu yn frawychus; mae’n cychwyn â sgwrs syml. Y rhan fwyaf gwerth chweil yw gweld y trawsnewidiad mewn tenantiaid: pobl a oedd yn teimlo’n ynysig yn dod o hyd i’w llais a’u hyder.
Beth yw eich uchelgais gyrfa?
Fy uchelgais yw para i wneud gwahaniaeth i denantiaid. Wn i ddim a anelaf at rôl Cyfarwyddydd neu Brif Weithredydd, gan mai dim ond ers dwy flynedd dwi yn y sector, ond yn sicr dwi eisiau symud i mewn i reolaeth i helpu i yrru’r newid dwi am ei weld. Dwi i wedi adeiladu sylfaen o ymddiriedaeth gyda’n tenantiaid, a byddai rôl uwch yn caniatáu imi roi ffurf i sut mae hynny’n gwella ein sefydliad. Mae tai yn sector hynod gefnogol heb brinder cyfleoedd, a dwi’n edrych ymlaen at ddarganfod popeth sydd ganddo i’w gynnig!
Pa lwyddiannau ydych chi’n fwyaf balch ohonyn nhw?
Ennill Gwobr Seren yn Codi Sefydliad Tai Siartredig Cymru yw’r hyn dwi’n fwyaf balch ohono, yn enwedig am ei fod yn enwebiad gan fy nghydweithwyr. Dwi hefyd yn hynod falch o’n fframwaith ymgysylltu â thenantiaid newydd. Fe’i lansiwyd yn ddiweddar, ond mae’r ymateb ar draws y busnes yn wych. Dwi hefyd yn falch o brosiect ymchwil Prifysgol Abertawe ar safonau tai newydd; roedd gweld tenant yn dadlau o blaid paneli solar ar ôl deall y cymhlethdodau y tu ôl i’r llenni yn wir uchafbwynt. Ond yn y pen draw, gweld y twf personol yn y tenantiaid dwi’n gweithio gyda nhw – gwylio dieithriaid yn mynd yn ffrindiau – dyna sy’n fwyaf gwerth chweil.

Beth yw prif heriau’r sector?
Ansicrwydd. Gyda llywodraeth leiafrifol, mae bwlch gweithredu rhwng deddfwyr a gweithredwyr. Mae angen dull cydlynol, hirdymor arnom o gyllido a chyflenwi tai. Rydym yn wynebu argyfwng tai enfawr – miloedd ar restrau aros – ac ni allwn ddim ond adeiladu ein ffordd allan ohono. Rhaid sicrhau bod datblygiadau newydd yn cynnig mynediad i adnoddau a chludiant. Mae datgarboneiddio’n hanfodol, ond rhaid ei wneud gyda thenantiaid, nid iddyn nhw. Os anwybyddwn leisiau tenantiaid, gall achosi mwy o ddiffyg ymddiriedaeth.
Beth yw un peth gyda thai yng Nghymru yr hoffech ei newid?
Mae ar Gymru angen un weledigaeth strategol glir a chydlynol ar gyfer tai sy’n cwmpasau’r cwbl. Mae gweledigaeth Aneurin Bevan o dai o safon a integreiddir i mewn i gymunedau incwm-cymysg mor berthnasol heddiw ag ydoedd ym 1945. I ddileu stigma tai cymdeithasol, rhaid dychwelyd at y syniad y dylai cartrefi fod ar gyfer pawb. Rhaid diffinio llwyddiant nid yn ôl nifer y cartrefi a adeiladwyd yn unig, ond yn ôl effaith y cartrefi hynny ar genedlaethau.
Beth yw eich gobeithion a’ch ofnau?
Fy ngobaith yw bod gan wleidyddion y dewrder i drin tai fel blaenoriaeth sylfaenol, yn hytrach na chanran fach o wariant y llywodraeth. Mae angen rhoi terfyn ar ddigartrefedd a rhoi’r gorau i’r meddylfryd ‘ fe wna’r tro’ ynglŷn â thai cymdeithasol. Fy ofn yw, heb newid systemig gwirioneddol ac ymrwymiad i fynd i’r afael â stigma, y bydd y sefyllfa’n gwaethygu. Rhaid gweithio gyda thenantiaid i feithrin eu sgiliau a’u tosturi.
Beth mae ennill y wobr Seren sy’n Codi yn ei olygu i chi?
Mae’n anrhydedd enfawr. Roedd cyflwyno yn TAI2026 yn gyfle i mi rannu stori mamgu a datcu, a atseiniai gyda llawer o gynrychiolwyr. Profai pa mor bwysig yw cartref – sylfaen a newidiodd lwybr eu bywydau. Dwi’n ddiolchgar i’m cydweithwyr am eu cefnogaeth ac am gael fy nghydnabod gan gyfoedion fel rhywun sy’n gwneud cyfraniad. Gobeithio y gallaf gyflawni disgwyliadau’r wobr hon a mynd yn eiriolwr dibynadwy dros denantiaid Cymru.
Katie John yw Swyddog Ymgysylltu â Thenantiaid Tai Tarian