English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Blwyddyn o ddiwygio lles – Ymdopi â Newid Hinsawdd

BLWYDDYN O DDIWYGIO LLES

Ymdopi â Newid Hinsawdd

Jules Birch yn gosod y llwyfan ar gyfer nodwedd arbennig WHQ ar flwyddyn o ddiwygio lles ers newidiadau mis Ebrill 2013

Roedd yn flwyddyn a gychwynnodd â phobl yn rhagweld ‘storm berffaith’ drosiadol, ac ar adegau yn ystod y misoedd diwethaf, mae wedi teimlo felly yn y byd go iawn hefyd.

Ond wrth i’r sylw symud oddi wrth effeithiau uniongyrchol y corwyntoedd a’r llifogydd at ystyried sut i leddfu eu heffaith ac ymaddasu iddo, bu’n rhaid i denantiaid a landlordiaid orfod dysgu sut i ymdopi â’u math arbennig nhw o newid hinsawdd: y don o ddiwygiadau lles a orfodwyd arnynt gan lywodraeth y DU.

Bu’r effeithiau uniongyrchol yn enbyd wrth i ddyledion ac ôl-ddyledion rhent, troi allan a digartrefedd oll gynyddu. Ar lefel Brydeinig, mae’r llywodraeth glymblaid wedi gwrthsefyll pob ymgais i ddileu’r dreth stafell-wely ac mae’r Llys Apêl wedi dyfarnu bod y dreth stafell-wely a’r terfyn uchaf ar fudd-dal yn gyfreithlon, er gwaethaf eu heffaith anghymesur ar bobl anabl a menywod.

A throi’n golygon oddi wrth San Steffan, fodd bynnag, mae pethau’n newid oddi isod. Mae’r rhifyn hwn o WHQ yn adlewyrchu ymdrechion anferth landlordiaid, awdurdodau lleol a thenantiaid yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Mewn rhai achosion, llwyddwyd i liniaru rhai o effeithiau diwygio lles a helpu pobl i ymaddasu i amgylchedd newydd ond â mwy byth o doriadau ar y ffordd, mae terfyn ar yr hyn y gellir ei wneud.

Mae’r erthyglau a ganlyn yn y rhifyn hwn o WHQ yn datgelu’r darlun cymhleth sy’n datblygu ar lawr gwlad. Maent yn archwilio’n fwy manwl:

• Ymgyrch ‘Mae’ch Budd-daliadau’n Newid’ Cartrefi Cymunedol Cymru wrth gychwyn ar gyfnod dau

• Ymdrechion Cyngor Caerdydd i wneud i daliadau tai disgresiynol fynd ymhellach trwy helpu hawlwyr sy’n barod i helpu eu hunain

• Effaith y dreth stafell-wely ar Gartrefi NPT a’u tenantiaid

• Her y diwygiadau lles mewn ardaloedd cefn gwlad, fel yr adlewyrchir hynny gan brofiad Cymdeithas Tai’r Canolbarth

• Sut mae Tai Gogledd Cymru wedi gweithio ar y cyd â Fareshare gogledd Cymru i sefydlu project bwyd ar gyfer tenantiaid diymgeledd

• Sut yr heriodd tenantiaid ddyfarniadau treth stafell-wely mewn Tribiwnlysoedd haen-gyntaf ac ennill buddugoliaethau lu ar sail maint a defnydd stafelloedd, a hawliau dynol

Fodd bynnag, mae’r her yn ddifrifol o hyd ac mae’r pwysau’n cynyddu. Mae pobl anabl yn dioddef ystod o newidiadau i fudd-daliadau anabledd, ac mae effaith y dreth stafell-wely arnynt yn anghymesur. Mae tenantiaid mewn eiddo wedi ei addasu i fod i gael eu diogelu rhag ei effeithiau gwaethaf, ond datgelodd ymchwil gan Tai Wales and West y bwlch rhwng damcaniaeth a realiti, a’r oblygiadau cost a allai ddilyn.

Mae llawer o ddarparwyr llety â chymorth yng Nghymru yn teimlo eu bod wedi eu gadael mewn ansicrwydd ynglŷn â dyfodol budd-dâl tai. Mae cynlluniau’r AGP i eithrio llety â chymorth wedi dod fymryn yn gliriach ond mae’r ansicrwydd yn parhau.

Mae dyfodol credyd cynhwysol yn dal i fod yn ansicr hefyd. Roedd hyn, y diwygiad lles pwysicaf oll o bosib, i fod wedi Mae dyfodol credyd cynhwysol yn dal i fod yn ansicr hefyd. Roedd hyn, y diwygiad lles pwysicaf oll o bosib, i fod wedi dechrau erbyn hyn ond mae’n dal yn gyfyngedig i lond dwrn o ardaloedd peilot. Mae i’r posibilrwydd o dalu’r elfen tai yn uniongyrchol i denantiaid oblygiadau anferth ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer cyllid landlordiaid. Mae’n dal heb fod yn glir pryd – neu hyd oed os – y bydd hyn yn cychwyn, ond mae gwersi eisoes yn cael eu dysgu gyda phroject arbrofol taliadau uniongyrchol Torfaen.

Am y tro, mater o wneud y gorau o’r gwaethaf yw hi i landordiaid a thenantiaid ill dau. Fel mae Shelter Cymru yn egluro, mae cyllido a gweithredu taliadau tai disgresiynol (TTDau) yn awr yn faterion hollbwysig. Ym mis Chwefror, darparodd Llywodraeth Cymru £1.3 miliwn ychwanegol ar gyfer TTDau. Roedd yr ymgais hon i liniaru effeithiau diwygio lles yn destun adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru. Cynigir cyfres o argymhellion ar sut y gellir gwneud y gwaith hwn yn fwy effeithiol a mwy cyson ledled y wlad. Tra bod yr AGP eisoes wedi gwrthod mesurau fel caniatáu i gynghorau gario tanwariant ar TTDau ymlaen, y nod yw manteisio i’r eithaf ar yr help sydd ar gael.

Ond mae mwy o doriadau ar y ffordd a gallai’r flwyddyn nesaf fod yn un dyngedfennol o ran penderfyniadau i droi allan gan landlordiaid. A beth fydd agwedd y llysoedd? O edrych nôl, nid ‘storm berffaith’ oedd y ffordd iawn i ddisgrifio diwygio lles. Mae’n wir bod llwyth o newidiadau wedi taro ym mis Ebrill 2013, ond mae mwy ar y gweill, a gallai mwy eto fod ar y ffordd, yn dibynnu ar ganlyniad etholiad San Steffan 2015.

Gwelwyd darlun pwerus o raddfa’r effeithiau hyn yn yr asesiad o effaith gynyddol yr holl doriadau mewn budd-dal a chredydau treth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr. Mae’r dadansoddiad yn awgrymu y bydd i gost i Gymru yn 2015-16 gyfwerth â £480 am bob oedolyn o oed gwaith (gweler y blwch am amcangyfrifon fesul ardal). Daw’r colledion mwyaf nid o’r diwygiadau mwyaf dadleuol ond o bolisïau a gafodd lai o gyhoeddusrwydd, fel cynyddu budd-daliadau ar raddfa is na chwyddiant sy’n golygu y bydd y toriadau yn parhau i gynyddu.

Mae’r hinsawdd yn newid yn barhaol.

Manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gennym

Mae argymhellion adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar effeithiau diwygio lles ar y sector rhentu cymdeithasol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr yn cynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ychwanegu at y gronfa taliadau tai disgresiynol (TTD) i awdurdodau lleol
  • Dylai’r AGP adael i awdurdodau lleol ddwyn ymlaen unrhyw danwariant TTD
  • Dylai’r AGP newid y canllawiau fel bod grwpiau cleientiaid penodol yn cael eu hamddiffyn ac awdurdodau lleol yn neilltuo TTDau ar eu cyfer, a sicrhau yr ymdrinir yn decach â budd-daliadau anabledd
  • Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio dull ‘triage’ gyda TTDau er mwyn canfod problemau a ffyrdd o’u datrys a manteisio ar brofiad swyddogion lliniaru budd-dal tai
  • Dylai’r AGP gytuno i ystyried incwm anabledd o bob math (heb ddiystyru unrhyw beth) a gwneud iawn am unrhyw wariant perthnasol y talai’r budd-dâl amdano
  • Dylai pecyn cymorth apelio sy’n galluogi pobl i herio penderfyniadau treth stafell-wely fod ar gael i bob awdurdod lleol
  • Dylai tenantiaid sy’n dewis peidio ag yn ymgysylltu na cheisio helpu eu hunain fod yn flaenoriaeth isel ar gyfer TTDau
  • Dylai CCC a’r awdurdodau lleol gyflwyno adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru ar lefelau’r bondiau a’r rhent o flaen llaw a godir i sicrhau tenantiaeth.

Yr effaith gynyddol ar Gymru

Mae astudiaeth gan Lywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd diwygiadau lles yn lleihau hawl i fudd-dal a chredyd treth yng Nghymru o £900 miliwn yn 2015/16.

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod y golled i Gymru gyfan am bob oedolyn oed-gwaith bob blwyddyn yn £480 ar gyfartaledd yn 2015/16.

Dyma’r ffigyrau fesul awdurdod lleol:

Castell-nedd Port Talbot            £606

Blaenau Gwent            £585

Merthyr Tudful            £580

Pen-y-bont ar Ogwr            £548

Rhondda Cynon Taf            £543 

Caerffili            £541

Torfaen            £539

Sir Ddinbych            £522

Casnewydd            £508

Abertawe            £486

Sir Gaerfyrddin            £485

Conwy            £484

CYMRU             £480

Sir Benfro            £470

Ynys Môn             £457

Wrecsam            £449

Bro Morgannwg            £436

Caerdydd            £433 

Sir y Fflint            £410

Sir Fynwy            £394

Powys            £391

Gwynedd            £373

Ceredigion            £363

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »