English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Fil Tai – Gwnaed yn Nghymru

Jules Birch yn cyflwyno adran arbennig WHQ ar Fil Tai (Cymru) gyda chrynodeb o elfennau allweddol y ddeddfwriaeth a’r syniadau y tu ôl iddynt

 Prin bod angen dweud bellach bod cyflwyno’r Bil Tai yn foment hanesyddol ar gyfer tai yng Nghymru. Ond wrth i bawb fynd i’r afael â’r gwaith caled o graffu ar fanylion y ddeddfwriaeth, mae’n bwynt sy’n werth ei ailadrodd.

Dilynir yr erthygl hon gan ddarnau unigol gan y gweinidog tai, Carl Sargeant, a chan y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn egluro eu safbwyntiau. Mae gennym safbwyntiau cyferbyniol ar y Bil gan Tai Pawb, Tenantiaid Cymru a Chymdeithas y Landlordiaid Preswyl. Fodd bynnag, ar hyd tudalennau’r rhifyn hwn, cewch farn ein cyfranwyr rheolaidd eraill hefyd.

Mae i’r Bil saith elfen allweddol:

  • Cyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu gorfodol ar gyfer landordiaid ac asiantiaid gosod a rheoli eiddo yn y sector rhentu preifat

Bydd rhaid i landlordiaid ac asiantiaid preifat gofrestru a chael eu trwyddedu gan yr awdurdod lleol yn yr ardal lle lleolir eu heiddio. Bydd y broses drwyddedu yn cychwyn wedi iddynt gofrestru. Fodd bynnag, un newid o’r papur gwyn yw y bydd y drwydded yn ddilys am bum mlynedd yn hytrach na thair. Mae’n debyg y bydd yr adran hon o’r ddeddfwriaeth yn destun sylw neilltuol, gyda’r tair gwrthblaid yn mynegi pryder, a landlordiaid yn dadlau y dylai asiantiaid gael eu cofrestru gyntaf.

Dylwed Llywodraeth Cymru mai ‘y bwriad yw gwella safonau rheolaeth a safonau eiddo yn y sector gynyddol hon o’r farchnad tai, a chefnogi mwy o ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid, landlordiaid ac asiantiaid gosod a rheoli.

  • Diwygio’r gyfraith ar ddigartrefedd, yn cynnwys rhoi dyletswydd cryfach ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd a chaniatáu iddynt ddefnyddio llety addas yn y sector preifat

Cydbwysir y dyletswydd cryfach ar awdurdodau lleol i atal a lliniaru digartrefedd gan allu newydd i gyflawni eu prif ddyletswydd digartrefedd trwy ddefnyddio’r sector rhentu preifat (gyda thenantiaethau chwe-mis). Rhaid gweld y cynlluniau cofrestru a thrwyddedu uchod yn y cyd-destun hwn hefyd.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi encilio oddi wrth rai o gynigion y papur gwyn ar ataliaeth a bwriadusrwydd ymysg pryderon gan lywodraeth leol ynghylch costau gweithredu. Er enghraifft, awgrymai’r papur gwyn y dylai pob teulu â phlant y ceid ei fod yn fwriadol ddigartref ddal i fod â hawl i’r dyletswydd digartrefedd llawn. Mae’r Bil yn cadw’r ddarpariaeth hon, a bwrw mai dyma’r tro cyntaf i’r teulu gael ei ddyfarnu’n fwriadol ddigartref o fewn y pum mlynedd diwethaf.

Un agwedd ar y ddeddfwriaeth sydd yn sicr o wynebu craffu manwl yn y Cynulliad yw cynnig i ‘unioni cydbwysedd statws angen blaenoriaethol i ymgeiswyr diymgeledd trwy adnewid statws angen blaenoriaethol cyn-garcharorion’.

  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr lle nodwyd bod angen

Mae’r Bil yn cynnig, lle bo’r awdurdodau perthnasol wedi nodi angen am safleoedd ond heb ei ddiwallu, y byddai’r dyletswydd yn galluogi gweinidogion i orfodi’r awdurdodau i ddarparu safleoedd addas a digonol. Fodd bynnag, byddai’n ofynnol sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd yn y ffordd arferol.

  • Cyflwyno safonau ar gyfer awdurdodau lleol ar renti, taliadau gwasanaeth ac ansawdd llety

Bydd y Bil yn galluogi pennu safonau ar gyfer cartrefi presennol a rhai newydd, a bydd gofyn i awdurdodau lleol gydymffurfio â’r rhain. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd hyn ‘yn sicrhau y gall ein holl denantiaid fyw mewn llety o safon dderbyniol, p’run ai eu bod yn rhentu eu cartrefi oddi wrth awdurdod lleol neu gymdeithas tai.’ Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod eu holl eiddo presennol yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020.

Bydd y Bil yn pennu safonau rhenti a thaliadau gwasanaeth ar gyfer awdurdodau lleol sy’n berchen stoc ac mae hefyd yn cynnig mân welliannau yn ymwneud â rhenti rhesymol ar gyfer awdurdodau lleol a safonau ar gyfer cymdeithasau tai.

  • Diwygio cyfundrefn gymhorthdal y Cyfrif Refiniw Tai

Yn sgîl cytundeb gyda Thrysorlys y DU ym mis Mehefin 2013, caiff awdurdodau lleol yng Nghymru yr un hawl i gadw’u hincwm rhent ag a fu gan gynghorau yn Lloegr ers 2012. Ar hyn o bryd, mae’r 11 awdurdod sy’n dal i fod â stoc yng Nghymru yn talu cymhorthdal negyddol yn ôl i’r Trysorlys.  O dan y gyfundrefn newydd, byddant yn prynu eu hunain allan o’r gyfundrefn gymhorthdal am werth a ystyrir yn gyllidol niwtral i’r Trysorlys. Gall cynghorau defnyddio’r hyn a arbedir trwy wneud hynny i fuddsoddi yn eu stoc tai. Bydd Trysorlys y DU yn mynnu bod terfyn ar fenthyca sy’n gysylltiedig â thai yn cael ei bennu ar gyfer pob un o’r awdurdodau dan sylw.

  • Rhoi i awdurdodau lleol y pwer i godi 50 y cant yn fwy na’r gyfradd safonol o dreth gyngor ar gartrefi sydd wedi bod yn wag ers blwyddyn neu fwy

Dywed Llywodraeth Cymru er nad yw hi’n bosibl llwyr neilltuo’r arian hwn at ddibenion penodol, y ‘disgwylir i’r refiniw ychwanegol gael ei gyfeirio at ymdrin â phroblemau a achosir gan ddiffyg tai fforddiadwy yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol’.

  • Cynorthwyo’r ddarpariaeth o dai gan gymdeithasau tai cydweithredol

Mae Dave Palmer, rheolydd projectau tai cydweithredol Canolfan Gydweithredol Cymru, yn crynhoi: ‘Bydd y Bil yn helpu i ehangu tai cydweithredol trwy wella’r trefniadau ar gyfer pobl sydd am ymuno neu ymadael â menter gydweithredol. Bydd y mesurau arfaethedig hyn yn hybu tai cydweithredol trwy ganiatáu i fentrau tai cydweithredol cwbl gydfuddiannol roddi tenantiaethau sicr a byrddaliol sicr, gan greu mwy o sicrwydd i denantiaid a helpu mentrau cydweithredol i sicrhau benthyciadau.’

Mae’r holl gynigion hyn wrth gwrs yn dilyn ymgynghori eang gyda’r sector tai yng Nghymru. Wrth i genhedloedd unigol y DU barhau i ddatblygu eu polisïau gwahanol ar dai a digartrefedd, mae’r Bil yn cynnwys gobeithion a dyheadau llawer o bobl ac, yng ngeiriau STS Cymru, yn ‘torri’r llinyn bogail’ gyda San Steffan. Gyda’r Bil Rhentu Cartrefi i ddod yn 2015, rydym yn symud tuag at gyfundrefn tai a wnaed yng Nghymru ar gyfer Cymru.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Cyflwynwyd y Bil yn y Cynulliad Cenedlaethol ar y 18fed o Dachwedd, a rhaid iddo fynd trwy bum cyfnod cyn mynd yn ddeddf.

Ar gyfer Cyfnod 1, atgyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a’r angen am ddeddfwrieth: yn fras, a ydyw’n gwneud yr hyn a ddywed, ac a oes angen deddfwriaeth?

Roedd y sesiwn gyntaf ar y 12 Rhagfyr a bydd pump arall yn Ionawr a Chwefror cyn i’r pwyllgor gynnal tair sesiwn breifat ym mis Mawrth. Gall unrhyw un sydd â buddiant yn y mater ac sydd am gynnig tystiolaeth wneud hynny cyn yr 17 Ionawr trwy e-bost at CELGCommittee@wales.gov.uk neu trwy lythyr at glerc y pwyllgor.

Yn dilyn hynny, ceir Dadl mewn Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol a Chynnig Ariannol. Efallai y bydd pwyllgorau eraill am ystyried yr oblygiadau ariannol ac unrhyw is-ddarpariaethau deddfwriaethol ac adrodd arnynt.

Yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni ar gyfer y Bil, dylai’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol adrodd wrth y Cynulliad erbyn 21 Mawrth 2014.

Bydd Cyfnod 2 yn cynnwys ystyriaeth o’r Bil ac unrhyw welliannau a roddwyd gerbron gan bwyllgor, a dylai’r broses fod wedi ei chwblhau erbyn 23 Mai 2014.

Cyfnod 3 yw ystyriaeth fanwl o’r Bil ac unrhyw welliannau gan y Cynulliad. Cyfnod 4 yw pleidlais gan y Cynulliad ar destun terfynol y Bil.  Gall cyfnod gwella dewisol, o’r enw’r Cyfnod Adrodd, gael ei gynnal rhwng Cyfnod 3 a Chyfnod 4 os cynigir hynny gan yr Aelod Cyfrifol ac os cytunir ar hynny gan y Cynulliad.

Cyfnod 5 yw’r Cydsyniad Brenhinol, a ddisgwylir yn haf 2014.

Dilynwch hynt y Bil yn http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8220

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »