English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

Problemau TG yn oedi credyd cynhwysol

Addefodd yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau, Iain Duncan Smith, am y tro cyntaf ei bod yn bosib na fydd ei bolisi credyd cynhwysfawr blaenllaw yn gyflawn erbyn 2017 yn ôl y bwriad.

Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn yn mynnu fod yr amserlen yn dal mewn grym, cyfaddefodd ym mis Rhagfyr y gallai hyd at 700,000 o bobl sy’n derbyn lwfans cyflogaeth a chymorth gael eu symud i gredyd cynhwysfawr wedi’r dyddiad cau gwreiddiol yn 2017.

Dywedodd hefyd fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gorfod ail-lunio’r system TG yn llwyr am gost sylweddol am nad oedd y system wreiddiol yn gweithio.

Yn yr amserlen ddiweddaraf, bydd nifer y canolfannau gwaith sy’n defnyddio credyd cynhwysfawr yn codi o saith i 10 yng ngwanwyn 2014, y dyddiad gwreiddiol ar gyfer trosglwyddo hawliadau newydd. Ni fydd hyn yn digwydd yn awr tan 2016, gyda hawliadau cyfredol yn dilyn yn ystod 2016 a 2017.

Meddai Duncan Smith:

‘Diwygiad unwaith mewn cenhedlaeth yw hwn. Ac rydym yn mynd i’w wneud yn iawn trwy ei gyflwyno’n ofalus ac yn gyfrifol. Bydd ein dull gweithredu yn sicrhau, tra’n parhau i wella’r TG ar gyfer Credyd Cynhwysfawr, ein bod yn dysgu gan y gwasanaeth presennol a’i ehangu er mwyn deall sut mae pobl yn rhyngweithio gydag ef, a’r ffordd orau o’u cefnogi. Mae’r arwyddion cynnar  yn dangos bod pobl yn bositif ynglŷn â’r budd-dâl newydd, ac mae fy adran yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cynnydd da hwn yn parhau.’

Cyhoeddwyd yr amserlen newydd ar ddiwrnod datganiad yr Hydref, pan gadarnhaodd George Osborne y byddai’r ‘mwyafrif helaeth’ o daliadau budd-dâl tai yn cael eu cynnwys o fewn y terfyn arfaethedig ar wariant lles yn ei grynswth. Dim ond budd-daliadau cylchredol, yn cynnwys budd-daliadau tai a delir i bobl ar lwfans ceisio gwaith, a eithrir.

Dywedodd ysgrifennydd gwaith a phensiynau’r wrthblaid, Rachel Reeves: ‘Cyfaddefodd Iain Duncan Smith heddiw yn hyn a oedd yn hysbys i bawb ers misoedd, sef bod credyd cynhwysfawr ymhell ar ei hôl hi. Ond ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd wrth y Senedd y byddai’r llywodraeth yn “rhoi credyd cynhwysfawr ar waith yn unol â’r cynllun a’r rhaglen a bennwyd eisoes”.’

Lloegr

Gwerthiannau Hawl i Brynu yn fwy na 10,000

Prynodd mwy na 10,000 o denantiaid cynghorau a chymdeithasau tai eu cartrefi o dan 15 mis cyntaf hawl i brynu ‘adfywiedig’ llywodraeth glymblaid Lloegr.

Cynyddodd y glymblaid uchafswm y gostyngiad i £75,000 yn Lloegr o fis Ebrill 2012, a’i gynyddu eto i £100,000 yn Llundain ym mis Ebrill 2013. Bydd tenantiaid hefyd cyn hir yn gymwys i brynu ar ôl tair yn hyrach na phum mlynedd.

Yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2013, prynodd 8,398  o denantiaid eu cartrefi, a dilynwyd hynny gan 2,149 arall yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

Meddai’r gweinidog tai, Kris Hopkins: ‘Ers blynyddoedd, gadawyd yr Hawl i Brynu i wywo, gyda gostyngiadau llai beunydd yn rhoi’r gobaith o berchenogaeth cartref y tu hwnt i afael gormod o lawer o denantiaid cymdeithasol.

‘Ac oherwydd ein hymrwymiad i ddefnyddio’r arian ychwanegol a godir i dalu am gartrefi newydd fforddiadwy i’w rhentu, rydym hefyd yn ysgogi Prydain i adeiladu, a chyn hir bydd gennym y gyfradd adeiladu tai fforddiadwy gyflymaf ers dau ddegawd.’

Fodd bynnag, mae’r blaid Lafur wedi cyhuddo’r llywodraeth o dorri ei haddewid ynglŷn â chartrefi newydd fforddiadwy i gymryd lle’r cartrefi a werthwyd.

Datgelodd gweinidog tai yr wrthblaid, Emma Reynolds, y cychwynwyd adeiladu dim ond 1,662 o gartrefi newydd yn ystod yr un cyfnod, un am bob saith a werthwyd yn hytrach na’r un am bob un a addawodd y llywodraeth.

Dywedodd: ‘Mae Llafur yn cefnogi’r rheini sydd am brynu eu cartrefi eu hunain, ond mae bron i ddwy filiwn o deuluoedd ar restri aros cynghorau sy’n crefu am gartref, ac mae’r llywodraeth yn methu cyflawni ei haddewid y byddai’n adeiladu cartref newydd am bob cartref a gâi ei werthu.’

Yr Alban 

Dileu’r dreth stafell wely yn rhan allweddol o ddadl yr SNP dros annibyniaeth

Mae papur gwyn llywodraeth yr SNP yn cynnwys addewidion i ddileu’r dreth stafell wely ac atal cyflwyno credyd cynhwysfawr.

Mae’r papur gwyn yn dadlau, tra bod llywodraethau olynol yn yr Alban wedi ymdrin â thai mewn ffordd benodol Albanaidd, y gall hyblygrwydd llwyr dros y gyllideb eu galluogi i ddarparu mwy o dai fforddiadwy i ateb y galw am dai a mynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Mae’n crybwyll tystiolaeth gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol bod ‘Llywodraeth yr Alban, o dan y setliad datganoli presennol, yn talu’r gost am fwy o fuddsoddi mewn tai cymdeithasol a rhenti is, tra bod San Steffan yn elwa ar rai o fuddiaddau’r gwariant hwnnw ar ffurf taliadau budd-dâl tai is.’

Ac mae’n dadlau nad yw rheolau Trysorlys y DU wedi eu llunio i ateb anghenion ac amgylchiadau’r Alban, ac nad yw opsiynau polisi eraill fel cynyddu buddsoddi mewn tai cymdeithasol wedi bod yn bosibl.

Yn ôl y papur gwyn, byddai annibyniaeth yn ‘gwarantu y byddai cyfraddau treth a lles cymdeithasol yn cael eu pennu’n unol â dymuniadau pobl yr Alban. Byddai hynny’n golygu terfyn ar orfodi polisïau fel y ‘dreth stafell wely’ ar yr Alban. Byddai ei dileu ‘o fewn blwyddyn i ethol Senedd annibynnol i’r Alban’ yn arbed £50 y mis i 82,500 o aelwydydd.

Mae’r papur gwyn hefyd yn addo atal ymdrechion pellach i gyflwyno credyd cynhwysol a thaliadau annibyniaeth personol yn yr Alban, ac yn sicrhau y bydd budd-daliadau a chredydau treth yn cynyddu’n gymesur â chwyddiant, o leiaf.

Dywed y byddai llywodraeth annibynnol yn tynnu budd-dâl tai allan o’r taliad sengl ac yn parhau i’w dalu’n uniongyrchol i landlordiaid cymdeithasol, a hefyd yn adfer gallu hawlwyr i dderbyn cefnogaeth unigol yn hytrach na thaliadau teuluol yn unig.

Cynhelir y refferendwm ar annibyniaeth ar yr 16 Medi 2014.

Gogledd Iwerddon

Gweinidog yn galw am help y sector i ddylunio model newydd

Galwodd y gweinidog tai Nelson McCausland ar y sector tai a grwpiau tenantiaid i helpu i ddylunio model newydd ar gyfer tai cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.

Anerchodd fwy na 150 o fudd-ddeiliaid mewn digwyddiad yn Belfast ym mis Tachwedd, yn cynnwys aelodau’r Cynulliad, cymdeithasau tai, Gweithredfa Tai Gogledd Iwerddon a staff tai a chynrychiolwyr tenantiaid.Dywedodd: ‘O’r cychwyn cyntaf gyda’r broses hon, fe’i gwnes yn glir nad oedd gennyf ragdybiaethau na chanlyniadau rhagbenodedig. Mae a wnelo fy rhaglen ddiwygio tai â sefydlu model tai sy’n canolbwyntio ar denantiaid, sy’n gynaliadwy ac sy’n hwyluso buddsoddi yn ein cymunedau. Nid nod dymor-byr mo hynny. Rhaid i unrhyw fodel newydd effeithio’n bositif ar Ogledd Iwerddon a bod yn gynaliadwy am flynyddoedd lawer.’

Anerchodd ffigyrau blaenllaw yn y maes tai o wledydd eraill y DU y gynhadledd hefyd. Dywedodd y gweinidog ei fod wedi ymweld â gwahanol ranbarthau i ddysgu gwersi ynglŷn â darpariaeth.

Mae’r llywodraeth am i ofynion dylunio strategol ei rhaglen ddiwygio tai cymdeithasol gael eu datblygu a’u cymeradwyo erbyn Mawrth 2014, gyda chynlluniau’n barod erbyn Mawrth 2015.

LLYWODRAETH CYMRU

Llywodraeth y DU yn rhoi pwerau cyllidol newydd i Gymru

Mae’r gweinidog cyllid Jane Hutt wedi croesawu’r cadarnhad y bydd llywodraeth San Steffan yn datganoli pwerau cyllidol newydd i helpu Llywodraeth Cymru i hybu economi Cymru.

Wedi ymateb dechreuol gan y prif weinidog a’r dirprwy brif weinidog, cyhoeddodd llywodraeth y DU ei hymateb i 33 argymhelliad Comisiwn Silk ar gyfer atgyfnerthu atebolrwydd cyllidol Llywodraeth a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

MeddaiJane Hutt: ‘Mae cyhoeddiad heddiw yn ganlyniad da i Gymru, ac yn gam mawr ymlaen i ddatganoli.’ Y diwygiad allweddol o ran tai, gellid tybio, yw datganoli treth dir y dreth stamp, a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi marchnad dai Cymru ymhellach.

A nododd Jane Hutt newid tebygol yn ddiymdroi: ‘Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi trafod y mater gydag amrywiaeth o arweinwyr busnes yn y sectorau tai a chysylltiedig, a phwysleisiodd y rheini yr hyn y gallem ei gyflawni trwy ddiwygio’r Dreth Stamp. Byddaf yn ystyried yn enwedig y dewis o ddileu strwythur ‘slab’ presennol y dreth, sy’n gwyrdroi’r farchnad dai i adeiladwyr, prynwyr a gwerthwyr.’

Er y bydd yn rhaid wrth refferendwm cyn datganoli treth incwm, golyga’r diwygiadau y gall Llywodraeth Cymru fenthyca i fuddsoddi mewn projectau isadeiledd newydd. Mae hyn yn cynnwys gallu benthyca yn gynnar i helpu i dalu am wella’r M4, yn amodol ar yr ymgynghori sy’n mynd rhagddo.

Yn amodol ar gytundeb gyda llywodraeth y DU, caiff y Cynulliad bŵer i ddeddfu ar drethi newydd a chredydau treth cysylltiedig, gan agor llwybr newydd ar gyfer datblygu polisi yn y tymor hwy.

Cychwyn y cynllun ecwiti cyfrannol

Agorodd cynllun Help i Brynu – Cymru ar gyfer busnes ar ddechrau mis Ionawr.

Mae’r cynllun £170 miliwn yn ei gwneud hi’n haws i brynwyr  â blaendal bach i brynu cartrefi newydd a rhoi hwb mawr i adeiladwyr tai ledled Cymru. Gwerthwyd mwy na 5,000 o gartrefi newydd o dan gynllun benthyciad ecwiti Help to Buy Lloegr yn y chwe mis wedi ei lawnsio ym mis Ebrill llynedd.

I brynwyr cymwys sydd ag ernes o 5 y cant, bydd Llywodraeth Cymru’n darparu benthyciadau o rhwng 10 ac 20 y cant o bris pwrcasu cartref newydd gwerth hyd at £300,000 oddi wrth adeiladwyr tai cyfranogol.

Bydd prynwyr yn talu swm misol bychan ond dim llog o gwbl yn ystod pum mlynedd cyntaf y benthyciad ecwiti, a chyfradd log isel wedi hynny. Gallant hefyd addasu’r cynllun ad-dalu i weddu i’w hanghenion, a does dim i’w hatal rhag ad-dalu’r benthyciad unrhyw bryd yn ystod y tymor 25 mlynedd. Rhaid ad-dalu’r gyfran o werth yr eiddo sy’n destun benthycad ecwiti os gwerthir y tŷ.

Ar ymweliad â datblygiad tai Redrow yng Nghasnewydd, meddai’r gweinidog tai, Carl Sargeant:

‘Mae’r argyfwng ariannol wedi arwain at gwymp dramatig mewn gweithgaredd adeiladu tai wrth i adeiladwyr gwtogi ar eu cynlluniau yn unol â’r galw gan brynwyr.

‘Bydd y cynllun Help i Brynu – Cymru sy’n cychwyn yn y flwyddyn newydd yn helpu mwy o bobl i esgyn i’r ysgol eiddo ac yn darparu hwb i’w groesawu’n fawr i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad yn cefnogi pwrcasu rhyw 5,000 o dai newydd yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf.

‘Er mwyn osgoi dryswch, mae’r cynllun yng Nghymru yn bur debyg i gynllun llywodraeth y DU, gyda’r fantais ychwanegol ei fod yn haws i gwmnïau adeiladu bach ei ddefnyddio.’

Ychwanegodd Steve Morgan, cadeirydd Redrow Homes:

‘Bydd y cynllun Help i Brynu – Cymru yn dod â momentwm hanfodol i farchnad dai Cymru, ac yn sicrhau bod mwy o gartrefi’n cael eu hadeiladu. Bydd hefyd yn creu swyddi gwerthfawr yn y diwydiant adeiladu.’

Mae cynllun gwarantu morgeisiau Help i Brynu llywodraeth y DU, sydd ar gael i brynwyr unrhyw gartref hyd at £600,000 o werth, wedi cychwyn gweithredu hefyd.

Papurau ymgynghori

Bydd nifer o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ:

Cefnogi Gweithlu’r Gwasanaethau Cyhoeddus drwy Arweiniad ar y Cyd a Deddfwriaeth – Ymatebion erbyn Chwefror 21

Y Bil Cynllunio (Cymru) drafft a Cynllunio cadarnhaol: Cynigion i ddiwygio’r system gynllunio yng Nghymru – Ymatebion erbyn Chwefror 26

• Dangosyddion arfaethedig ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014 – Ymatebion erbyn Chwefror 27

Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru arlein yn http://wales.gov.uk/consultations/?skip=1&lang=cy

 

CYHOEDDIADAU

10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

1 Reducing Poverty in Wales: some examples to inspire change – Sefydliad Bevan, Tachwedd  2013

http://www.bevanfoundation.org/publications/reducing-poverty-in-wales-some-examples-to-inspire-change/                                                                                                                                       

2 Gwerthuso’r broses caniatâd cynllunio ar gyfer tai – Llywodraeth Cymru, Tachwedd 2013

http://www.wales.gov.uk/topics/planning/planningresearch/publishedresearch/evaluating-planning-process-for-housing/?skip=1&lang=cy

3 The impact of changes to housing benefit in Wales – Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin, Hydref 2013

www.publications.parliament.uk/pa/cm201314/cmselect/cmwelaf/159/159.pdf

4 Year 6: The Socio-Economic Impact of the Welsh HA and Community Mutual Sector – Yr Uned Ymchwil i Economi Cymru, Tachwedd 2013

http://chcymru.org.uk/uploads/general/WERU_-_Full_Report.pdf

5 Monitoring Poverty and Social Exclusion 2013 – Sefydliad Joseph Rowntree a’r Sefydliad Polisi Newydd, Rhagfyr 2013

www.jrf.org.uk/publications/monitoring-poverty-and-social-exclusion-2013

6 Cymru\’n Un: Cenedl Un Blaned – Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy 2012-13 – Llywodraeth Cymru, Rhagfyr 2013

http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/publications/sd-annual-report-2012-13/?lang=cy

7 Real Life Reform 2 – Real Life Reform, Rhagfyr 2013

www.northern-consortium.org.uk/reallifereform

8 Why BTL equals ‘Big Tax Let-Off’ – Intergenerational Foundation, Tachwedd 2013 www.if.org.uk/wp-content/uploads/2013/11/Why-BTL-Equals-Big-Tax-Rip-off.pdf

9 The Enabling State: From Rhetoric to Reality – Ymddiriedolaeth Carnegie, Tachwedd 2013 www.carnegieuktrust.org.uk/publications/2013/the-enabling-state-from-rhetoric-to-reality

10 One Foot on the Ladder – how shared ownership can bring owning a home into reach – Resolution Foundation, Tachwedd 2013

www.resolutionfoundation.org/publications/one-foot-ladder-how-shared-ownership-can-bring-own/

 

CYMRU

A’r enillwyr yw…

Cafodd y beirniaid waith barnu’r rhestri byrion o safon eithriadol o uchel, ond dyma’r enillwyr yng Ngwobrau Tai Cymru 2013 a drefnwyd gan STS Cymru, ym mhob categori:

• Ymbweru cymunedau a’u cael i gyfranogi: Dyheu – pŵer gwirfoddoli yn Nhorfaen (Tai Cymuned Bron Afon)

• Contractwr mwyaf cymunedol ei ffocws: Meithrin Uchelgais (Morgan Cole)

• Menter newydd y flwyddyn: MyPad (Cymdeithas Tai Charter ar y cyd â Cefnogi Pobl, Cyngor Dinas Casnewydd, Cartrefi Dinas Casnewydd, Cartrefi Melin a Linc-Cymru)

• Datblygu ac adfywio cymunedau: Gwyrddlasu Caerau (Tai Cymoedd i’r Arfordir mewn partneriaeth â Cynghor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau a Groundwork BNPT)

• Ymgyrch y flwyddyn: Mae’ch budd-daliadau’n newid (Cartrefi Cymunedol Cymru ar y cyd â Chartrefi RhCT)

• Arwr Tai – cyflogedig: Brian Jones, Tai Ceredigion

• Datblygu sgiliau a gallu: Cynllun arweinyddiaeth mewnol y gwasanaethau atgyweirio tai (Tai Cymoedd i’r Arfordir)

• Arweinyddiaeth eithriadol gan awdurdod lleol: Cyd-broject ymyriad teuluol (Cyngor Dinas Abertawe mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Adran Addysg, a Heddlu De Cymru)

• Arwr Tai – Gwirfoddol: Debra Rosser, cadeirydd Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd

• Darparu effeithlonrwydd a gwerth am arian: project Rhannu Gwasanaethau Barcud (Tai Cymoedd i’r Arfordir mewn partneriaeth â Chartrefi Cymoedd Merthyr, Cartrefi NPT, a Thai Cymuned Bron Afon)

• Datblygiad y flwyddyn: Heol Rhedyn (Cymdeithas Tai’r Canolbarth)

• Arweinydd cymuned: Mavis Crofts – cadeirydd, Ffederasiwn Tenantiaid Cyngor Sir y Fflint)

• Dewis y Bobl: project Rhannu Gwasanaethau Barcud (Tai Cymoedd i’r Arfordir mewn partneriaeth â Chartrefi Cymoedd Merthyr, Cartrefi NPT, a Thai Cymuned Bron Afon)

• Cyfraniad eithriadol i dai yng Nghymru (enwebwyd gan aelodau bwrdd STS Cymru: Anne Delaney

Mae’r manylion llawn, yn cynnwys y projectau, mudiadau a phobl eraill ar y rhestr fer, ar gael yn www.cih.org/cymru/welshhousingawards/shortlist2013 

Animeiddio myfyrwyr Caerffili

Mae ffilm-wneuthurwyr ifanc yn Ysgol Sant Martin yng Nghaerffili yn dysgu sgiliau animeiddio mewn stiwdio newydd a grewyd gyda help y datblygwyr, Lovell, a chymdeithas tai United Welsh.

Mae Lovell yn gweithio gydag United Welsh ar Bentref y Ffawydd, datblygiad newydd ar safle hanesyddol Ysbyty’r Glowyr, Caerffili, a helpodd ei arbenigwyr adeiladu i drawsnewid hen stordy yn yr ysgol yn stiwdio animeiddio dechnoleg-uwch.

Bydd y cyfleuster yn helpu myfyrwyr dylunio a chelf TGAU a lefel Uwch i ddatblygu eu sgiliau animeiddio. Fe’i hagorwyd yn swyddogol gan gyflwynydd tywydd BBC Cymru, Behnaz Akhgar, a’r Cyng. Michael Gray, Maer Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dywedodd Steve Cranston, pennaeth buddsoddi cymunedol United Welsh: ‘Rydym wrth ein bodd bod y buddsoddiad hwn yn mynd i greu newid go iawn. Mae’n wych gallu harneisio’r egni creadigol sy’n bodoli yn ein cymunedau.’

Cydnabyddiaeth i fenter ieuenctid

Cafodd Fforwm Ieuenctid Bron Afon ei gynnwys fel astudiaeth achos mewn adroddiad ar ffyrdd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y DU mewn cyfnod o lymder.

Ymchwiliodd Sefydliad Carnegie i’r modd y mae cymunedau’n cael mwy o reolaeth dros wasanaethau, gan symud oddi wrth y model ‘brig i lawr’ traddodiadol.

Sefydlwyd Fforwm Ieuenctid Bron Afon pan nododd uwch-swyddog cyfranogiad cymunedol y gymdeithas tai fod bwlch yng nghyfranogiad pobl ifanc yn y gymuned, a mynd ati i newid y sefyllfa. Pennwyd yr agenda gan bobl ifanc o’r cychwyn cyntaf.

Meddai Maria Jones, uwch-swyddog cyfranogiad cymunedol Bron Afon: ‘Dewisodd aelodau ein fforwm y pethau pwysig roeddent am eu gwneud, a mynd ati i’w gwneud. Roedden nhw’n poeni am bobl ifanc a oedd yn ddigartref ac yn symud i mewn i’w cartref cyntaf, felly dyma sefydlu’r project Own2Feet, sy’n cefnogi tenantiaid ifanc newydd â phecynnau dechreuol sy’n cynnwys cyllyll a ffyrc a bagiau te. Cynhelir gweithdai hefyd ar fwyta ar gyllideb a chwilio am swydd.’

Gartref ar gyfer y Nadolig

Daeth cynllun i drawsnewid tai yn y Rhyl o lofftydd byw yn gartrefi teuluol â llawenydd y Nadolig i Judith ac Andrew Williams a’u tri phlentyn, yn cynnwys Riley 11-mis-oed.

Roedd y teulu’n wynebu cael eu troi allan o’u cartref rhentu preifat wedi i’r landlord anwybyddu eu cais am atgyweirio, ac i hwythau ofyn i’r cyngor ymyrryd. Ond gallasant symud i mewn i un o ddau dŷ yn Stryd y Dywysoges a oedd wedi cael eu trawsffurfio gan Grŵp Tai Pennaf a Chyngor Sir Ddibych gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn fydd yn rheoli’r tai ac mae tri chartref arall yn y Rhyl yn cael eu hadfer yn yr un modd. Mae’r cynlluniau’n cyflenwi gwaith gan Broject Adfywio Gorllewin y Rhyl, lle mae Clwyd Alyn yn gweithio gyda Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i greu cartrefi fforddiadwy i’w gwerthu ac i’w rhentu gerllaw llain glas newydd a gynllunir.

Tocyn adeiladu

Mae Lewis Rees, Tristan Foley a Jamie Davies ymhlith 12 o weithwyr ifanc o Rondda Cynon Taf sy’n dathlu derbyn tocyn i yrfa yn y diwydiant adeiladu ar ôl cael eu cerdyn CSCS. Mae’r Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu yn dynodi pobl â’r sgiliau iawn i allu gweithio’n ddiogel mewn diwydiant a all fod yn un peryglus.

GrEW, y fenter gymdeithasol hyfforddi a chyflogaeth a sefydlwyd gan Gartrefi RhCT, oedd yr uned gyntaf yn Rhondda Cynon Taf i ddarparu hyfforddiant a chymwysterau o dan y cynllun.

Roedd y 12 o dan hyfforddiant yn 16-21 oed ac oll o gynllun Ymddiriedolaeth y Tywysog, a chawsant ddwy wythnos o hyfforddiant dwys gyda GrEW, yn cynnwys trafod â llaw, iechyd a diogelwch, a chymwysterau cymorth cyntaf yn ogystal â’r CSCS. Cafodd y tîm lwyddiant 100%, gyda phob aelod yn ennill cymhwyster a mynd ymlaen i dderbyn wythnos o leoliad gwaith gyda GrEW a Chartrefi RhCT.

Meddai Tristan Foley, 21, o Benygraig: ‘Os nad oes cerdyn CSCS gyda chi, allwch chi ddim mynd ar safle i weithio. Mae’n beth pwysig iawn i’w gael, ac mae’r cwrs yma wedi bod yn wych. O achos yr hyfforddiant arall gawson ni, ynghyd â’r CSCS, mae gennym well cyfle o sefyll allan nawr pan fyddwn ni’n mynd am swyddi.’


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »