English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Llywodraeth leol ar waith

Mae’r erthygl nodwedd WHQ hon yn cynnig blas ar beth o’r gwaith mae awdurdodau lleol Cymru yn ei wneud i ateb gofynion tai ac anghenion cysylltieg cymunedau ledled Cymru.

Caerffili – grantiau adleoli

Ym mis Gorffennaf 2002, gwnaeth y llywodraeth, trwy gyfrwng Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio, newidiadau pwysig mewn perthynas ag Adnewyddu Tai Sector Preifat trwy ddiddymu llawer o’r ddeddfwriaeth a oedd yn rheoli darparu grantiau tai. Disodlwyd hynny gan bŵer newydd eang yn caniatáu i awdurdodau lleol y gallu i ddarparu cymorth ar gyfer adnewyddu tai mewn unrhyw ffurf. Cynigai’r Gorchymyn hwn lawer mwy o hyblygrwydd o ran dyfeisio strategaeth i ddelio â materion a welid fel blaenoriaeth yn yr ardal leol.

Un o’r amcanion a nodwyd eisoes yn Strategaeth Cymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili oedd galluogi pobl i fyw’n annibynnol mewn cymunedau lleol trwy fecanweithiau cefnogi priodol ar gyfer unigolion, teuluoedd a gofalyddion. At hynny, roedd Astudiaeth Anghenion Tai CBS Caerffili wedi nodi bod 29% o aelwydydd yn cynnwys rhywun a oedd yn dioddef o broblem iechyd/anabledd a effeithiai’n uniongyrchol ar eu hanghenion tai. Nodai hefyd fod 11% o’r teuluoedd hynny a ddymunai symud yn dweud mai’r rheswm dros wneud hynny oedd bod cynllun eu cartref yn anaddas ar gyfer aelod o’r teulu ag anghenion neilltuol. Ystyrid, gan hynny, ei bod hi’n hanfodol mynd i’r afael ag anghenion tai pobl ag afiechyd neu anabledd wrth ddatblygu strategaeth adnewyddu tai newydd.

Er y diddymwyd y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â grantiau tai o ganlyniad i ddiwygio rheoleiddio, cadwyd y ddarpariaeth Grantiau Cyfleusterau Anabledd (GCAiau). Cychwynnodd y grantiau hyn ym 1990 ac maent yn rhoi hawl orfodol i unrhyw berson anabl cymwys i dderbyn grant addasu er mwyn gallu cael mynediad diogel a defnyddio cyfleusterau normal cartref, a gofalu am eraill lle bo hynny’n berthnasol. Mae’r GCA yn esgor ar fuddiannau iechyd sylweddol ac yn atal damweiniau ac arbed gorfod symud i ofal preswyl. Dangosodd gwaith ymchwil bod y rhai sy’n ei dderbyn yn elwa ar well ansawdd bywyd a mwy o annibyniaeth. Mae plant anabl a’u brodyr a’u chwiorydd yn elwa o ran datblygiad, addysg a chyswllt cymdeithasol. Mae gofalyddion o dan lai o bwysau ac yn llai tebygol o ddioddef anaf.

Nid yw darparu GCA gorfodol yn ateb delfrydol ym mhob achos, fodd bynnag. Weithiau ni fydd addasu cartref rhywun yn gam rhesymol pan ystyrir oedran, natur a lleoliad yr eiddo. Mae yna enghreifftiau pan na fydd addasu’r eiddo fel y mae, er bod hynny’n ei wella’n sylweddol, yn ateb anghenion y person anabl a’i deulu/gofalydd yn ddigonol ar y pryd neu yn y tymor hwy. Mewn nifer gyfyngedig o achosion hefyd ni fydd uchafswm y GCA o £36,000 yn ddigon i sicrhau’r canlyniad a ddymunir.

Am y gwahanol resymau hyn, penderfynwyd y byddai Strategaeth Adnewyddu Tai Sector Preifat CBS Caerffili yn cynnwys darparu dau fath o gymhorthdal yn ôl disgresiwn:

  • GCA yn ôl disgresiwn gyda’r un meini prawf cymhwysedd ac amodau wedi cwblhau’r gwaith â GCA gorfodol, ond gydag uchafswm o £7,000. Gellir defnyddio’r grant hwn fel ychwanegiad at GCA gorfodol neu fel grant pwrpas-penodol ar gyfer gwaith yn ôl disgresiwn i wneud tŷ annedd yn addas ar gyfer lletya, cynyddu lles neu gyflogi preswylydd anabl
  • Grant Adleoli yn ôl disgresiwn i helpu gydag adleoli person anabl i lety amgen o dan amgylchiadau priodol. Mae’r grant hwn yn destun yr un gyfundrefn prawf modd a’r un amodau wedi cwblhau â GCA gorfodol, ac wedi ei gyfyngu i’r un uchafswm ariannol

Er mai dim ond nifer fach o deuluoedd sydd wedi manteisio ar y cynnig o Grant Adleoli, mae yna dystiolaeth ei fod wedi trawsffurfio bywydau’r rheini a oedd yn fodlon ystyried y fath gam chwyldroadol.

Perchen-feddianwyr sy’n anfodlon symud i mewn i’r sector tai cymdeithasol yw mwyafrif y rheini â diddordeb yn y posibilrwydd o adleoli. Yn y rhan fwyaf o achosion, p’run bynnag, ychydig iawn o lety cymdeithasol addas sydd ar gael, yn enwedig yn lleol; hyd yn oed os yw’r fath lety yn bodoli, mae pobl yn wynebu cyfnod maith mewn llety anaddas heb ddim sicrwydd y cynigir eiddo addas iddynt yn y pen draw.

Wrth bennu maint y cymorth ariannol a fydd yn cael ei gynnig, ystyrir cost addasu’r cartref presennol, ac a ellir ei addasu, o’i gymharu â chost unrhyw gymorth GCA gorfodol y rhagwelir y bydd ei angen yn yr eiddo newydd arfaethedig. Ystyrir gwerth y ddau eiddo hefyd, ynghyd â maint y ddyled forgais sy’n dal heb ei thalu er mwyn sicrhau na ellir honni y bu cam-elwa.

Wrth bennu cymhwysedd, fe’i gwneir hi’n glir i ymgeiswyr na fydd y cyfanswm a gynigir iddynt ar ffurf Grant Adleoli a GCA gorfodol yn eu cartref newydd yn fwy na chost y GCA a fyddai’n daladwy pe baent yn aros yn eu cartref presennol, neu uchafswm y GCA os nad yw hi’n bosibl addasu eu cartref presennol. Bydd swyddogion o’r Tîm Addasiadau yn cynorthwyo ymgeiswyr i ddod o hyd i un neu sawl eiddo a allai fod yn addas, yn cysylltu â benthycwyr morgais a phartïon cyfrannog, ac yn darparu cynnig mewn egwyddor i gleientiaid er mwyn iddynt allu bwrw ymlaen.

Trosglwyddir yr arian grant i gyfreithwyr y pwrcaswr pan gyfnewidir cytundebau, i’w ddal ganddynt i’w galluogi i fwrw ymlaen i gwblhau; bryd hynny, cofrestrir Arwystl Cyfreithiol yn erbyn yr eiddo newydd. Os bydd angen, cymeradwyir GCA gorfodol ar yr eiddo newydd cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl cwblhau.

Mae’r farchnad tai a’r sefyllfa economaidd bresennol wedi effeithio rywfaint ar ddarpar-ymgeiswyr gan ei bod hi wedi mynd yn fwyfwy anodd dod o hyd i brynwyr ac eiddo addas i ganiatáu i bobl symud. Bu’n rhaid goresgyn rhwystrau o ran gallu teuluoedd i ailforgeisio neu drosglwyddo morgeisiau cyfredol i eiddo newydd.

Mae’r ddwy astudiaeth achos a ganlyn yn enghreifftiau o Grantiau Adleoli a gwblhawyd hyd yn hyn.

Astudiaeth Achos 1

Grace – merch deirblwydd oed sydd wedi cael torri ei choes i ffwrdd, yn byw mewn eiddo canol-teras mewn perchen-feddiant gyda’i rhieni a 3 o blant hŷn

Derbyniwyd argymhelliad ThG ar gyfer:

  • lifft gris i fynedfa flaen y tŷ
  • mynediad cadair-olwyn i’r stafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • darparu llain chwarae diogel addas
  • stafell wely ar y llawr gwaelod neu fynediad i’r llawr cyntaf

Roedd amodau ar y safle’n anodd oherwydd safle dyrchafedig yr eiddo, gyda lefelau lloriau stafelloedd y llawr gwaelod yn amrywio, a gardd gefn haenog gyda mur cynnal mawr.

Pe byddid wedi mynd ar drywydd GCA gorfodol, byddai wedi bod yn rhaid defnyddio stafell fyw fel stafell wely, a byddai’r amrywiaeth yn lefelau’r lloriau wedi cyfyngu ar fynediad Grace i rai stafelloedd ar y llawr gwaelod. Amcangyfrifid y byddai’r gost wedi bod yn fwy na £36,000, ac roedd gennym bryderon a fyddai GCA gorfodol yn rhesymol ac yn ymarferol. Gwnaeth sylweddoli faint o gyfaddawu a fyddai’n ofynnol gan bawb pe baent yn aros yno y teulu’n agored i’r awgrym o adleoli. Fodd bynnag, roedd y gefnogaeth deuluol a oedd ar gael yn y pentref, cysondeb addysgol i’r plant eraill a oedd eisoes wedi dioddef cryn gynnwrf emosiynol, a chyfyngiadau ariannol yn brif ystyriaethau.

Ar ôl 3 mis o chwilio, clywodd y teulu fod byngalo a gawsai ei ailfeddiannu ar werth mewn lleoliad ardderchog yn eu pentref. Dysgwyd yn fuan mai’r unig ofyniad ar gyfer Grace fyddai esgynfa fynediad a drws â throthwy gwastad, yr amcangyfrifid y byddai’n costio £3,000. Ar ôl proses gynnig ffyrnig yn erbyn cystadleuaeth sylweddol, a sawl rhwystr dirdynnol, llwyddwyd i’w brynu o’r diwedd gyda Grant Adleoli o £33,000, y mwyafswm a oedd ar gael yn yr achos hwn. Mae’r teulu bellach wedi ymgartrefu yn eu cartref newydd, ac yn credu ei fod wedi trawsnewid eu bywydau. Meddai tad Grace: ‘Fedra’i ddim credu pa mor lwcus y buon ni. Mae symud yma wedi trawsnewid ein bywydau bob un ohonom. Fedrwn ni ddim diolch digon i chi.’

Astudiaeth Achos 2 – Gordon

Roedd Gordon yn byw mewn eiddo 3-llofft canol-teras gyda’i wraig a’i blentyn. Mae’n defnyddio cadair olwyn. Roedd mynediad i ran flaen yr eiddo yn dod yn syth o’r llwybr trwy gyfrwng gris mewnol uchel iawn. Roedd mynediad i gefn y tŷ ar hyd set o risiau serth i mewn i iard fechan. Nid oedd y naill na’r llall yn addas i’w haddasu ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn. Nid allai Gordon gael mynediad i stafell addas y gellid ei defnyddio fel stafell wely, ac nid oedd estyniad na lifft fertigol yn ddewisiadau ymarferol yn eu cartref.

Roedd gan Gordon berthnasau yn byw yn yr un pentref. Pan glywsant am y sefyllfa, dyma nhw’n cynnig ‘ffeirio tai’ a symud i’r tŷ llai. Fodd bynnag, ni allai Gordon dalu’r hyn oedd yn dyledus ar y trosglwyddiad gan nad oedd ei gwmni morgais yn fodlon cynyddu ei ddyled. Er y byddai eiddo’r perthynas yn gallu darparu llety addas ar gyfer anghenion tymor-hir Gordon, byddai ar hwnnw hefyd angen cymorth GCA o ryw £20,000. Cytunodd y ddau deulu ar wahaniaeth o £10,000 yn ngwerth y ddau eiddo, a chadarnhawyd hynny gan brisiad annibynnol. Cynigwyd Grant Adleoli o £10,000 i dalu am gost yr eiddo a chostau symud rhesymol. Amserwyd y trosglwyddiad perchenogaeth i gyd-daro cyn agosed â phosibl â chymeradwyo’r GCA gorfodol a oedd, ar ôl cwblhau’r broses, yn gyfanswm o £23,500, yn cynnwys ffïoedd.

Er y cafodd y teulu fod y broses yn straen, yn bennaf oherwydd y gwaith addasu helaeth a oedd yn angenrheidiol yn yr eiddo newydd, bu’r adleoliad yn llwyddiant, gan alluogi Gordon i aros yn y pentref lle’r oedd yn byw, lle nad oedd unrhyw argoel y gallai tŷ cymdeithasol fod ar gael iddo. O edrych yn ôl ar y broses, mae Gordon o’r farn mai ‘dyma’r cam gorau y gallasem fod wedi ei gymryd, ac rydym yn ddiolchgar iawn eich bod wedi gallu ein helpu i sicrhau’r fath ganlyniad da.’

Am fwy o wybodaeth, cysyllter â Fiona Wilkins, Prif Swyddog Tai (Sector Preifat) Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, tel 01495 235029, ebost wilkife@caerphilly.gov.uk


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »