English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol

Y Grŵp Tai Traws-bleidiol

Mae datganiad bwriad Grŵp Tai Traws-bleidiol y Cynulliad ar dai yn ei gwneud hi’n glir beth mae’r aelodau am ei gyflawni, sef ‘hyrwyddo gweithio ar y cyd trwy nodi a thrafod themâu cyfredol ym meysydd tai a digartrefedd.’

Yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni lle mae gan bleidiau syniadau tra gwahanol ynglŷn â digartrefedd a newidiadau i fudd-dâl tai, hwyrach y gellid tybio y byddai hyn yn anodd ei gyflawni.

Ond mewn llawer ffordd, achosion y gwahaniaethau polisi hyn sydd wedi ein dwyn ynghyd i geisio canfod consensws. Y rheini, wrth gwrs, yw’r diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru, mwy o bobl yn ddigartref, ac anhawster cynyddol ateb anghenion tai pobl ddiymgeledd.

Yn wleidyddol, byddwn weithiau’n ystyried y problemau hyn o safbwyntiau gwahanol, ond mae yna feysydd lle credaf ein bod wedi dod i gytundeb ynglŷn â sut i fynd i’r afael â’r angen am gynyddu ein cyflenwad o dai.

Er enghraifft, cafwyd cefnogaeth draws-bleidiol i’r ymgais i wneud defnydd drachefn o gartrefi gwag trwy gyfrwng polisi a awgrymwyd gan y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y bûm yn ei gadeirio yn y Cynulliad diwethaf, ac sydd bellach yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio cronfa benthyciadau ailgylchadwy Troi Tai’n Gartrefi. Mae’r Grŵp Traws-bleidiol hefyd yn credu y bydd y gronfa Cefnogi Pobl yng Nghymru yn parhau i helpu pobl ddiymgeledd a chwarae rhan mewn helpu i atal digartrefedd.

Ac wrth gwrs, rydym oll yn gwbl gytun bod yn rhaid cynyddu’n cyflenwad o dai a gwella’u hansawdd yn gyffredinol.

Fel Cadeirydd, rwyf yn ffodus bod gennyf gymaint o brofiad a gwybodaeth arbenigol ar y pwyllgor. Mae Jocelyn Davies (Plaid Cymru) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol) ill dau yn gyn-ddirprwy Weinidogion Tai, a Mark Isherwood (Ceidwadwyr) yw llefarydd yr wrthblaid ar dai. Mae’n llawn mor bwysig bod gennym gefnogaeth ac anogaeth y Gweinidog Tai, Huw Lewis, a’n cyd-ACau. Mynychodd pedwar aelod ar ddeg ein cyfarfod cyntaf, sy’n tanlinellu’r ffaith fod tai yn fater o bwys aruthrol i bob un ohonom. Yn ychwanegol, mae’n dda gennym dderbyn cyfraniadau gwerthfawr gan arbenigwyr yn y maes tai, yn cynnwys Shelter Cymru a STS Cymru.

Mae sawl her o’n blaenau. Ond mae’r Grŵp Traws-bleidiol eisoes wedi cwrdd am drafodaethau gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, cyfarfod a werthfawrogwyd gan bob aelod. Edrychwn ymlaen yn awr at Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Dai. Mae’r neges yn glir – mae ymrwymiad gan ACau o bob plaid ar y Grŵp Tai Traws-bleidiol i ymateb i’r her.

Sandy Mewies, AC Llafur, Delyn


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »