English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi – Mehefin 2012

Datblygiadau polisi mewn rhannau eraill o’r DU

San Steffan: Araith y Frenhines

Mae rhaglen ddeddfwriaethol 2012 a gafwyd yn araith y Frenhines yn canolbwyntio ar dwf economaidd, cyfiawnder, a diwygio cyfansoddiadol. Ni chynhwysai unrhyw fesurau’n ymwneud yn benodol â thai, ond roedd yn cynnwys amrywiaeth o fesurau a allai effeithio ar waith sefydliadau tai, e.e. Mesurau Gofal a Chefnogaeth, Plant a Theuluoedd, ac Ynni.

Ceir mwy o wybodaeth am araith y Frenhines ar-lein yn http://number10.cabinetoffice.gov.uk

Yr Alban: ymgynghoriad ar strategaeth ar gyfer y sector rhentu preifat

Cynhyrchwyd drafft o strategaeth ar gyfer y sector rhentu preifat gan Grŵp Strategaeth Sector Rhentu Preifat yr Alban. Y weledigaeth sy’n sail i’r strategaeth hon yw:

‘Sector rhentu preifat ffyniannus a phroffesiynol sy’n cynnig cartrefi o ansawdd da a safonau rheoli uchel; sy’n ennyn hyder defnyddwyr; ac sy’n cefnogi twf a buddsoddi er mwyn datblygu’r sector ymhellach a’i wella.’

Mae’r papur ymgynghori yn nodi tair nod strategol ar gyfer y degawd nesaf:

1 – Twf a buddsoddi: cynyddu’r cyflenwad tai yn ei grynswth, a mwy o fuddsoddi i ddatblygu a gwella’r sector presennol

2 – Gwell ansawdd: o ran rheoli eiddo, cyflwr, ac effeithlonrwydd ynni; sicrhau hynny trwy reoliadau callach wedi eu targedu’n well

3 – Dewisiadau ar sail gwell gwybodaeth: cefnogi ac annog gwelliannau i’r sector wedi eu gyrru gan ddefnyddwyr

Mae’r papur yn nodi saith her strategol hefyd:

1 – Sut i ddenu mwy o fuddsoddi er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai a gwella ansawdd, mewn cyfnod economaidd anodd ac ansicr

2 – Sut i greu fframwaith rheoliadol effeithiol a chymesur, sy’n gosod safonau er mwyn sicrhau ansawdd, ond sy’n fforddiadwy a heb fod yn cyfyngu ar dwf

3 – Sut i fynd i’r afael â’r lleiafrif o landlordiaid sy’n ymddwyn yn anghyfreithlon ac sy’n effeithio’n anghymesur ar enw da’r sector cyfan

4 – Sut i ystyried anghenion tenantiaid diymgeledd a’u cefnogi

5 – Sut i sicrhau bod y sector yn ateb y galw newydd a chynyddol am dai i’w rhentu, a darparu dewis o dai fforddiadwy

6 – Sut i ymateb i’r angen am well effeithlonrwydd ynni ac eiddo mewn gwell cyflwr

7 – Sut i ymbweru tenantiaid fel defnyddwyr er mwyn iddynt ysgogi gwelliannau yn y sector

Papur ymgynghori ar-lein yn www.scotland.gov.uk


Cyhoeddiadau

10 i’w nodi

1 – The Housing Report 2 – asesiad o berfformiad y Llywodraeth ganol yn erbyn ei hamcanion penodol – CIH, NHF a Shelter, Mai 2012

www.cih.org

2 – Inequality, debt and growth – Resolution Foundation, Mai 2012

www.resolutionfoundation.org

3 – Cytundeb Tai Cymru – Cytundeb Tai ar gyfer Llywodraeth Leol – Sefydliad Tai Siartredig Cymru

www.cih.org

4 – UK housing migrants and the private rented sector – Sefydliad Joseph Rowntree/Rhwydwaith Tai a Mudo HACT, Chwefror 2012

www.jrf.org.uk

5 – Homes fit for families? The case for stable private renting – Papur cefndir polisi Shelter Lloegr, Mawrth 2012

http://england.shelter.org.uk

6 – Mental health and homelessness – Planning and delivering mental health services for homeless people – Y Rhwydwaith Iechyd Meddwl, Conffederasiwn y GIG, Ebrill 2012

www.nhsconfed.org

7 – The way we live now: what people need and expect from their homes – RIBA/Ipsos Mori, Mai 2012

www.architecture.com

8 – Accommodation for ex-offenders: third sector housing advice and provision – Canolfan Ymchwil y Trydydd Sector, Mawrth 2012

www.tsrc.ac.uk

9 – Multiple Exclusion Homelessness in the UK – cyfres a bapurau cefndir a chynnyrch ymchwil arall – Prifysgol Heriot Watt/ESRC

www.sbe.hw.ac.uk

10 – Market assessment of housing options for older people – New Policy Institute, Ebrill 2012

www.npi.org.uk

Blogiau defnyddiol

Alex Marsh – blog gan Athro Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bryste –
www.alexsarchives.org

Julian Dobson – Byw gyda llygod mawr – http://livingwithrats.blogspot.co.uk

Red Brick – golygwyd gan Tony Clements a Steve Hilditch – http://redbrickblog.wordpress.com

Blog Sefydliad Bevan – http://thisismytruth.org

10 blog uchaf yr wythnos hon – rhestr sy’n cael ei diweddaru beunydd oddi wrth yr LSE – http://blogs.lse.ac.uk


Llywodraeth Cymru

Strategaeth y Newid yn yr Hinsawdd i Gymru – adroddiad blynyddol cyntaf

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad clir i chwarae rhan arweiniol mewn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn Strategaeth y Newid yn yr Hinsawdd a Chynlluniau Gweithredu cysylltieg, a gyhoeddwyd yn 2010. Nodwyd camau allweddol yn Rhaglen Lywodraethu 2011 Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf sy’n edrych ar gynnydd ym mis Mawrth 2012. Mae un o benodau’r adroddiad yn canolbwyntio ar y sector preswyl, gan ddisgrifio’r gweithredu a fu o dan y rhaglenni Arbed a NYTH, a thrwy fentrau cynhyrchu ynni cymunedol. Noda’r adroddiad bod rhyw 71% o eiddo cymdeithasau tai a 68% o gartrefi awdurdodau lleol wedi cyrraedd graddfa SAP o 65 neu’n uwch yn 2010/11.

Mae’r adroddiad ar gael ar-lein yn http://new.wales.gov.uk

Papurau ymgynghori

Bydd nifer o bapurau ymgynghori Llywodraeth Cymru o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ:

  • Cynigion ar gyfer y Bil Datblygu Cynaliadwy – Gofynnir am ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 18 Gorffennaf 2012
  • Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – Strategaeth y Llywodraeth gyfan ar gyfer iechyd meddwl a lles – Gofynnir am ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 31 Gorffennaf 2012
  • Hybu Democratiaeth Leol – Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru – Gofynnir am ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 3 Awst 2012
  • Twyll Tenantiaeth Cymdeithasol – Gofynnir am ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 17 Awst 2012

Mae papurau ymgynghori Llywodraeth Cymru ar-lein yn
http://new.wales.gov.uk/consultations

Adroddiad Pwyllgor ar Dai Fforddiadwy

Mae pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad wedi cyhoeddi adroddiad ar eu hymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd archwilio:

  • pa mor effeithiol yw cymorthdaliadau cyhoeddus, yn enwedig y grant tai cymdeithasol, o ran cyflenwi tai fforddiadwy
  • a fanteisir i’r eithaf ar opsiynau amgen i gymorthdaliadau cyhoeddus
  • a yw Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a LCCiaid yn defnyddio’u pwerau’n effeithiol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac i wella mynediad iddynt
  • a oes digon o gydweithio rhwng awdurdodau lleol, LCCiaid, sefydliadau ariannol ac adeiladwyr tai
  • , ac

  • a allai Llywodraeth Cymru hyrwyddo ffyrdd arloesol o gyflenwi tai fforddiadwy, er enghraifft defnyddio Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol neu fentrau cydweithredol, yn fwy effeithiol

Mae’r adroddiad yn cynnwys 14 o argymhellion ar gyfarwyddyd strategol a chydweithredu, tir, cynllunio ac eiddo gwag, cyllid a chymhorthdal a diwygio lles.

Mae’r adroddiad ar-lein yn www.senedd.cynulliadcymru.org

Rheoleiddio

Ar adeg sgrifennu hyn, mae chwe adroddiad asesiad rheoleiddiol wedi cael eu cyhoeddi bellach. Maent ar gael ar y gwe-ddalennau rheoleiddio penodol ar wefan Llywodraeth Cymru http://wales.gov.uk

Mae Diweddariad Rhif 5 ar Reoleiddio Tai ar gael ar y gwe-ddalennau tai hefyd, y diweddaraf yn y gyfres, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2012. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar nifer o faterion, yn cynnwys y dulliau rheoleiddio cymesur ar sail risg a ddefnyddir gan y tîm rheoleiddio a ‘chwalu’r mythau am asesiadau rheoleiddiol’.


Cymru

Canlyniadau etholiadau lleol 2012

Gwnaeth Llafur enillion yn etholiadau lleol mis Mai gan ennill rheolaeth lwyr ar ddeg awdurdod – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen. Annibynwyr sy’n rheoli cynghorau Powys a Sir Benfro, a does yr un blaid yn rheoli yn yr awdurdodau lleol sy’n weddill.

Y diweddaraf am SATC

Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd y pleidleisiodd tenantiaid yn Sir y Fflint yn erbyn trosglwyddo cartrefi cyngor i Dai Dyfrdwy. Pleidleisiodd 71% o’r tenantiaid a oedd yn gymwys, gydag 88% o’r rheini yn bwrw pleidlais yn erbyn trosglwyddo a 12% o blaid.

Yn ei flwyddyn gyntaf fel landlord cymdeithasol cofrestredig trosglwyddo stoc, mae Cartrefi NPT wedi cyflogi 88 o aelodau staff newydd, tra’n cadw 400 o aelodau staff a oedd â swyddi tai yn y cyngor cyn y trosglwyddiad. Mae’r pedwar prif gontractwr a benodwyd i wneud gwelliannau oll yn lleol ac y maent, gyda’i gilydd, yn cyflogi 39 o bobl leol eraill, yn cynnwys tri phrentis.

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad wrthi’n casglu tystiolaeth am gynnydd o ran cyflawni SATC, a chyhoeddir adroddiad yn y misoedd sydd i ddod. Gwybodaeth am yr ymchwiliad yn www.senedd.cynulliadcymru.org

Garddwriaeth i drechu unigedd cymdeithasol yng Nghaerdydd

Mae Gofal – un o elusennau iechyd meddwl blaenllaw Cymru – wedi sicrhau arian gan y Loteri Fawr i redeg y project ‘GreengAge’ newydd arloesol, sy’n bwriadu defnyddio garddio a chyfeillach fel ffordd o leihau unigedd cymdeithasol a chynyddu lles pobl hŷn. Mae GreengAge yn edrych am wirfoddolwyr 50+ oed â diddordeb mewn garddwriaeth, yn ogystal â phobl hŷn a fyddai’n elwa ar y fath gynllun.

Am fwy o wybodaeth neu i chwarae rhan yn y project, cysylltwch â chyd-drefnydd project GreengAge, Gwyneth Thomas, ar 02920 440197 neu gwyneththomas@gofal.org.uk neu ymwelwch â www.gofal.org.uk/greengage

Dal i fynd â digwyddiadau

Mae llawer o sefydliadau’n rhoi cyflwyniadau o ddigwyddiadau a fu ar eu gwefannau; dyma rai enghreifftiau:

Os hoffai eich sefydliad hyrwyddo cyflwyniadau o ddigwyddiadau yn y gorffennol i ddarllenwyr WHQ, cysylltwch â ni ar editor@176.32.230.6

Newid aelwyd!

Ynghyd â newid enw Ffederasiwn Tenantiaid Cymru i Tenantiaid Cymru (gweler tud 2):

  • Mae swyddfeydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru wedi symud – y cyfeiriad newydd yw 2 Ocean Way, Caerdydd CF24 5TG a’r rhif ffôn yw 029 2067 4800
  • Mae Grŵp Tai’r Glannau wedi symud swyddfeydd i’r 3ydd Llawr, 220 Stryd Fawr, Abertawe SA1 1NW

Arloesi gyda Thai yng Nghaerdydd

Mae Cwmni Datblygu Pont Elái, cwmni di-elw a sefydlwyd trwy gytundeb gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu’r Principality, yn bwriadu datblygu safle 53-erw Pont Elái yng Nghaerdydd. Bydd y datblygiad yn cynnwys cartrefi fforddiadwy a gynigir ar rent cyfwerth neu is na graddfeydd lwfans tai lleol. Efallai y cynigir rhai cartrefi ar gyfer perchenogaeth â chymorth hefyd, i helpu teuluoedd iau i gael troedle yn y farchnad dai.

Mae’r cwmni wedi sicrhau benthyciad o £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r datblygiad yn ogystal â chytundeb pwrcasu tir amodol i sicrhau’r safle. Gallai’r gwaith gychwyn ar y safle erbyn mis Hydref, yn amodol ar ganiatâd cynllunio gan Gyngor Caerdydd. Bwriedir dechrau adeiladu tai yn ail chwarter 2013 gyda’r datblygiad cyfan wedi ei gwblhau erbyn 2017. Caiff y tai fforddiadwy eu rheoli gan gymdeithas tai gymunedol ei sail.

Agorwyd hostel newydd ei hailwampio Greenfarm ym mis Mawrth 2012. Mae’n darparu 25 lle gwely ar gyfer teuluoedd digartref; mae gan bob stafell gyfleusterau ymolchi a choginio ac fe’u dyluniwyd i fod yn ynni effeithlon. Mae’r nodweddion cynaliadwy yn cynnwys bwyler biomas, lefelau uchel o insiwleiddio, a system awyru fecanyddol sy’n adennill gwres. Mae pob stafell yn addas i bobl anabl ac mae’r hostel yn cynnwys amgylchedd chwarae diogel i blant yn y gerddi diogel. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys stafelloedd gweithgareddau, stafell TG a Gweithdy Menter. Ynghyd â’r hostel, adeiladwyd deg tŷ a fydd yn eiddo i Gymdeithas Tai Cadwyn ac a reolir ganddi.

Newyddion y cymdeithasau tai

Canolbarth yn ehangu ei phresenoldeb yn Aberystwyth

Dewiswyd Cymdeithas Tai’r Canolbarth yn bartner dewisol i fynd yn gyfrifol am stoc tai Cymdeithas Tai Wales & West yn Aberystwyth. Bydd hyn yn golygu y bydd y Gymdeithas yn cynyddu ei stoc o dai i’w rhentu yn y dref o 50 o gartrefi, yn ogystal â mynd yn gyfrifol am reolaeth dau gynllun prydlesu ar gyfer pobl hŷn.

Golwg Well

Y tenant Mrs Megan Rees, 92 oed, a’r Rheolydd Gwasanaeth Cynorthwyol, Sheena Yellen, yn dathlu tair Gwobr Blatinwm ‘Golwg Well’ Linc-Cymru yn Llys Enfys

Linc-Cymru yw’r sefydliad cyntaf yn y DU i ennill Gwobrau ‘Golwg Well’ Platinwm yr RNIB (Sefydliad Brenhinol y Deillion) am dri o’i Gynlluniau Byw’n Annibynnol yn ne Cymru – Cynllun Byw’n Annibynnol Llys Enfys yn Llanisien, Llys Glyncoed yng Nglynebwy a Phlas Bryn yn y Tyllgoed.

Cyrhaeddodd Cartrefi RhCT y safon Blatinwm gyda chymhlyg tai gwarchodol Llys Gwernifor yn Aberpennar, ac enillodd achrediad Aur am gymhlyg tai gwarchodol Springfield yn Ynyshir, ger y Porth yn y Rhondda.

Datblygiadau newydd yn Sir y Fflint

Mae Grŵp Tai Pennaf wedi cychwyn ar ddatblygiadau tai newydd yng Ngwernaffield ger yr Wyddgrug a Rhuddlan, gan ddefnyddio arian gan Lywodraeth Cymru a’i arian ei hun.

Gwelir preswylwyr datblygiad newydd ei gwblhau gan Gymdeithas Tai Cantref o 25 o gartrefi fforddiadwy newydd yn Llechryd yn dathlu symud i mewn i’w cartrefi trwy blannu bylbiau ar y safle. Adeiladwyd y tai i lefel 4 o’r Côd Tai Cynaliadwy.

Cadwyn a Cleanstream carpets

Ers mis Rhagfyr 2011 trefnodd Cymdeithas Tai Cadwyn bod teiliau carped ailddefnydd a fyddai wedi mynd i domen sbwriel fel arall yn cael eu gosod mewn mwy na 50 o’i gartrefi llety dros-dro. Mae’r cartrefi hyn ar gyfer pobl a wnaed yn ddigartref ac sy’n disgwyl am gartref parhaol. Ni fyddai’r tenantiaid sy’n byw yn y cartrefi hyn am wario arian ar loriau gan na fyddant yn byw yn y cartrefi am yn hir iawn. Gallodd Cleanstream Carpets, menter gymdeithasol unigryw yn ne Cymru sy’n ailgylchu a chyflenwi teiliau carped i’w hail-ddefnyddio, helpu.

Mae Cleanstream Carpets CBC yn gweithredu o warws ar Stad Ddiwydiannol Rheola yn y Porth, y Rhondda. Mae’n cadw stoc o fwy na 5,000 metr sgwâr o deiliau carped ailddefnydd a diwedd-lein-gynhyrchu o ansawdd da, y bydd yn eu cael gan gwmnïau sydd am newid eu teiliau carped. Mae’r project yn darparu gwaith a chyfleoedd hyfforddi i bobl ddiwaith tymor-hir yn ogystal â deunydd lloriau fforddiadwy.

Gwelir y teulu Jones, un o ddau enillydd cystadleuaeth Tŷ Gwyrdd United Welsh o flaen Larch House, Glyn-ebwy, sef passivehaus carbon sero.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »