English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin – siwrnai heb derfyn

Cyflawni SATC

Cyflawni SATC yw thema’r rhifyn hwn o WHQ, yn briodol iawn, gan mai’r bwriad gwreiddiol oedd y dylai’r holl stoc tai cymdeithasol gyrraedd y safon erbyn 2012. Yn ôl adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru, tra bod buddsoddi helaeth wedi sicrhau gwelliannau sylweddol yn ansawdd tai cymdeithasol ledled Cymru, bydd y dyddiad terfynol, 2012, yn mynd heibio gyda llawer o dai heb gyrraedd SATC – amcangyfrifir y bydd 60% o dai cymdeithasol yn cyrraedd y safon erbyn mis Mawrth 2013. A does gan nifer fechan o awdurdodau lleol ddim cynllun busnes ymarferol ar gyfer cyrraedd y safon. Mae hon yn her sylweddol, nid yn unig i’r landlordiaid hyn ond hefyd i Lywodraeth Cymru o ran ei stiwardiaeth system.


Delivering the Carmarthenshire Homes Standard - a journey with no endCyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin – siwrnai heb derfyn

Rhagarweiniad

Bron 10 mlynedd yn ôl, gwahoddodd Cyngor Sir Gaerfyrddin ei denantiaid i ddweud rhywfaint wrthym am eu cartrefi – nid yn unig o safbwynt adeiladwaith, ond hefyd sut roedd eu cartrefi’n effeithio ar eu hiechyd, eu dyfodol a’u cymunedau. Gofynnwyd i denantiaid fynegi eu barn hefyd am Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a oedd yn cael ei datblygu gan Lywodraeth Cymru.

Roedd hyn yn 2003 ac yn y ddwy flynedd ganlynol, helpodd y tenantiaid hyn y cyngor i ddatblygu a lansio Safon Tai Sir Gaerfyrddin (STSG) – rhaglen uchelgeisiol gwerth £203 miliwn i ddiogelu a buddsoddi mewn 9,200 o gartrefi, iechyd a lles ein holl denantiaid, a chymunedau di-rif.

Dywedodd tenantiaid wrthym eu bod am i STSG i ganolbwyntio ar:

  • safonau gwasanaeth ar gyfer rheoli a chynnal a chadw eu cartrefi a’u cymunedau
  • y safon adeiladu eiddo er mwyn sicrhau bod eu cartrefi o ansawdd da, yn ddiogel ac yn fforddiadwy
  • gweithredu i ddatblygu cartrefi a chymunedau gwyrdd, glân a chynaliadwy a fydd yn adlewyrchu anghenion penodol yr ardal
  • cynyddu buddiannau iechyd i denantiaid a chost-fuddiannau i wasanaethau iechyd lleol trwy wella tai a chefnogaeth

Mae STSG yn safon uwch na’r safon genedlaethol, gydag ychwanegiadau sy’n cynnwys mewnosod synwyryddion carbon monocsid a llefydd tân nodwedd ym mhob cartref. Addaswyd y safon hefyd ar gyfer tai gwarchodol a gwelliannau amgylcheddol.

Sylweddolai’r tenantiaid a’r cyngor ill dau fod cyflawni STSG yn golygu mwy na dim ond rheoli tai a gwella’r amgylchedd. Roedd yn amlwg y byddai ein buddsoddiad yn dod â buddiannau iechyd, economaidd ac amgylcheddol ehangach i’n cymunedau. Gwelwyd hefyd mai’r unig ffordd y gellid cyflawni hynny fyddai pe bai tenantiaid, cymunedau, adrannau’r cyngor, y sector preifat ac amrywiaeth o asiantaethau eraill yn cydweithio i greu’r effaith fwyaf posibl – effaith a fyddai’n parhau am genedlaethau.

Tynnu anadl

Pan ystyriwn ble yr ydym heddiw, mae weithiau’n anodd amgyffred maint y buddsoddiad rydym yn sôn amdano – bydd rhaglen fuddsoddi STSG yn fwy na £200 miliwn erbyn 2015, gyda chefnogogaeth gwerth £106 miliwn o fenthyciadau. Ond dim ond rhan o Gynllun Busnes Cyfrif Refiniw Tai ehangach dros y 30 mlynedd nesaf yw hyn, ynghyd â Strategaeth Rheoli Asedion a fydd yn gyfrifol am fwy na £450 miliwn o wariant cyfalaf ac £1.4 biliwn o wariant refiniw.

Yn ychwanegol at hynny, mae’r gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol a dderbyniwyd – ac sy’n dal i gael eu derbyn – wedi bod o fudd aruthrol i denantiaid yn Sir Gaerfyrddin. Mae gan Sir Gaerfyrddin record dda o reoli cynlluniau buddsoddi mawr fel yr Uwchgynllun Adfywio (£500 miliwn) a’r Rhaglen Foderneiddio Addysg (£270 miliwn). Ni ddylid diystyru’r lefel hon o gefnogaeth a hyder, ac yn sicr fe’u gwerthfawrogir gan denantiaid.

Cael tenantiaid i chwarae rhan

Roedd tenantiaid yn rhan o broses ddatblygu STSG o’r cychwyn, a sefydlasant eu grŵp ymgynghori eu hunain. Y tenantiaid oedd yn gyfrifol am gytuno sut y dylid mynd ati i gyflawni STSG, yn cynnwys y gwaith adeiladu ar eu cartrefi a’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith. Credent yn glir mai bwrw ati fesul elfen ledled y sir dros y cyfnod gwaith tan 2015 oedd y ffordd decaf o fynd ati. Tenantiaid oedd yn gyfrifol am benderfynu ar ddyluniadau cegin a stafell ymolchi hefyd, a pha gymorth a chefnogaeth a fyddai’n cael ei roi i bob tenant trwy gydol y broses, gan ddatblygu eu Cytundeb Gweithiau Mawr eu hunain fel ffordd o gadw llygad ar hynt y gwaith. Hyd yn hyn, rydym wedi cwblhau bron 50% o’r rhaglenni gwaith, ac rydym o fewn ein targedau ar gyfer cwblhau 100% erbyn 2015.

Wrth i STSG gael ei gweithredu, mae tenantiaid wedi datblygu eu Safon Amgylcheddol eu hunain sy’n diffinio’r safonau ar gyfer gerddi blaen a chefn, a mannau agored. Mae’r tenantiaid wedi chwarae rhan mewn datblygu Cynlluniau Amgylcheddol Lleol (CALliau) sy’n cyflenwi’r Safonau Amgylcheddol trwy dargedu anghenion ardaloedd lleol. Mae pob project amgylcheddol a ddatblygwyd wedi ateb gofynion lleol clir, a gallasom ddenu mwy na £500,00 o gyllid cyfatebol ar gyfer y projectau hyn yn ogystal â darparu lleoliadau gwaith ar gyfer rhai o dan hyfforddiant gyda Chronfa Swyddi’r Dyfodol.

Yn olaf, sylweddolai’r tenantiaid bod angen i’w cyfranogiad barhau, ac yn ddiweddar, aethant ati i ddatblygu a sgrifennu Cynllun Cyfranogiad Tenantiaid. Y brif nod yw annog tenantiaid newydd i chwarae rhan yn STSG trwy gynlluniau newydd fel Bancio Amser, tra’n annog tenantiaid presennol i barhau i gyfranogi hefyd. Bwriadant adolygu eu strwythur Cyfranogiad Tenantiaid i asesu a fydd yn addas ar gyfer cynllunio wedi 2015.

Mynd i’r afael â materion ynni

Mae tlodi tanwydd yn broblem y bu’n rhaid canolbwyntio arni yn sir Gaerfyrddin, fel llawer ardal arall. Mynnodd y tenantiaid y dylid cwblhau elfennau fel ffenestri a drysau ac inswleiddio\’r atig a waliau ceudod yn gyntaf, a gwnaed hynny. O ganlyniad, mae llawer o denantiaid yn arbed £200-£300 y flwyddyn ar filiau gwresogi, sydd wedi gwella iechyd a lles. Rydym eisoes wedi cyrraedd lefel SAP o 67 ar gyfartaledd yng nghartrefi tenantiaid ac wedi datblygu Gwasanaeth Ynni Cartref Sir Gaerfyrddin i ddarparu cyngor a chymorth i deuluoedd.

Rydym hefyd wedi astudio’r dewisiadau ar gyfer tai annhraddodiadol eu hadeiladwaith, gan wneud asesiad opsiynau llawn ar bob safle. O ganlyniad, gwnaed rhywfaint o waith dymchwel yn ogystal ac atgyweirio a chynnal a chadw er mwyn adfywio’r holl gymuned. Teimlid fod datrys problemau ar sail safle cyfan yn bwysig iawn, a olygodd estyn cymorth i berchenogion eu tai eu hunain i wella eu cartrefi, o gyllid Ardaloedd Adnewyddu Llywodraeth Cymru a Chronfa’r Cyngor. Ochr yn ochr â buddsoddi trwy’r CALliau, a gyda chefnogaeth cyllid ARBED a chyllid allanol gan gwmnïau cyfleustodau, mae’r ffordd hon o fynd ati yn trawsnewid ein safleoedd annhraddodiadol.

Yn olaf, datblygwyd Strategaeth Cynaliadwyedd STSG i sicrhau y bydd y rhaglen fuddsoddi yn lleihau allyriadau CO2, yn hyrwyddo iechyd a lles yn ein cymunedau, yn lleihau gwastraff, yn annog ailgylchu, ac yn diogelu’r amgylchedd naturiol.

Deall yr effaith ar iechyd

Ein Hastudiaeth Effaith ar Iechyd yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru. Prif nodau’r astudiaeth, a wneir ar y cyd â Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, yw:

  • nodi a mesur unrhyw fuddiannau iechyd a brofodd ein tenantiaid yn sgîl y gweithiau STSG, gan edrych yn benodol ar ganfyddiadau tenantiaid ynglŷn ag ansawdd tai a’u boddhad hwythau, cysur gwresol, tlodi tanwydd, ac iechyd corff a meddwl
  • nodi unrhyw gysylltiadau posibl rhwng gwell amodau tai ac arbedion cost i’r gwasanaeth iechyd lleol

Mae’r canlyniadau cynnar sy’n cymharu canfyddiadau tenantiaid yn 2009 a 2011 yn ganologol iawn:

  • nododd 85% o denantiaid bod eu cartref yn addas at eu gofynion yn 2011 o’i gymharu â 73% yn 2009
  • nododd 41% o denantiaid ei bod yn haws talu costau byw yn eu cartrefi o’i gymharu â 10% yn 2009
  • nododd 30% o denantiaid nad oeddent wedi ymweld â’u meddyg teulu o gwbl yn y 3 mis diwethaf o’i gymharu â 17% yn 2009

Darparu’r rhaglen yn y ffordd iawn

Mae’r buddsoddiad hwn wedi bod yn gyfle gwych i borthi, datblygu a thyfu gweithlu cynaliadwy gyda chyfleoedd i bawb. Yn ogystal â darparu sail gadarn i gontractwyr lleol ddatblygu a diogelu swyddi mewn cyfnod o arafu economaidd, sylweddolwyd fod gan STSG y gallu i greu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i denantiaid a phobl ifanc ym mhob rhan o’r sir.

Gan weithio gyda phartneriaid, gallasom ddatblygu sawl project – Adeiladu Eich Dyfodol Eich Hun yn Sir Gâr, a gynigai gyrsiau rhagflas yn y gymuned mewn sgiliau adeiladu sylfaenol, Camau Nesaf, proses gystadleuol arloesol sy’n cynnig prentisiaeth lawn-amser gyflogedig, a Chadetiaethau Adeiladu, sy’n cynnig hyfforddiant ac addysg bwrpasol i ddysgwyr lefel-uwch a chrefftwyr.

Mae’r STSG wedi hwyluso datblygu gweithlu medrus yn lleol, twf sawl cwmni contractwyr lleol, a rheolaeth fwy cyson ar y gadwyn gyflenwi. Dyfarnwyd i’r Fframwaith Contractwyr, sy’n gweithredu fel ‘ambarèl’ ar gyfer rheoli’r buddsoddi a’r cyfleoedd, Wobr Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru am Integreiddio a Chydweithio yn 2011.

Llywodraethu da ac arweinyddiaeth

Ni fyddai wedi bod yn bosibl mynd â maen STSG i’r wal heb i ni fod wedi cael y drefn lywodraethu a’r arweiniad yn iawn, a pharhau i’w hadolygu beunydd i wneud yn siŵr eu bod yn addas i’r diben. O’r cychwyn cyntaf, cafodd STSG ei hyrwyddo fel project corfforaethol pwysig, gyda chefnogaeth yr holl fudd-ddeiliaid.

Buasom yn hynod ffodus yn y partneriaethau cryf a ddatblygwyd rhwng tenantiaid ac arweinwyr gwleidyddol ac o blith swyddogion o bob adran. Sefydlwyd Panel Cynghori ar Wasanaethau Tai fel bwrdd i’r project, yn cynnwys chwe chynrychiolydd o denantiaid, chwe aelod o’r Cyngor ac uwch-swyddogion, dan gadeiryddiaeth Aelod y Bwrdd Gwaith dros Wasanaethau Tai ac Adeiladu. Cefnogir hwn gan Grŵp Llywio STSG sy’n cynnig cyfarwyddyd strategol ac arweinyddiaeth gorfforaethol, gyda Chyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaethau o bob rhan o’r awdurdod ymhlith ei aelodaeth.

Byddwn hefyd yn cwestiynu beunydd ble rydym arni erbyn hyn, ac rydym newydd gwblhau arolwg llawn o’r model Cynllunio Busnes CRT 30-mlynedd a’i ragdybiaethau, yn ogystal ag arolwg o drefn llywodraethu’r project i sicrhau ein bod yn cael pob peth yn iawn.

I gloi ……

Dechreuson trwy ddweud bod STSG yn siwrnai heb derfyn. Os ydym o ddifri ynglŷn â gosod safonau sy’n gwella gwasanaethau beunydd, darparu tai o ansawdd gwell, adfywio cymunedau ac, fel awdurdod lleol, adeiladu tai newydd (rydym wrthi’n cynllunio i adeiladu hyd at 39 byngalo newydd fel rhan o’r Cynllun Busnes), yna ni fydd terfyn iddi.

Am fwy o wybodaeth, cysyllter â Jonathan Morgan JMorgan@carmarthenshire.gov.uk


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »