English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Datblygiadau polisi

Datblygiadau polisi

Arolwg gwariant cynhwysfawr 2010

Rydym wedi clywed llawer ynglŷn â’r gofyniad ar i adrannau’r llywodraeth yn Lloegr fodelu toriadau o rhwng 25% a 40%. Mae naw o gwestiynau yn cael eu gofyn gan Drysorlys EM ynglŷn â holl wariant pob adran:

1. A ydyw’r gweithgaredd yn angenrheidiol o ran cyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth?
2. A oes yn rhaid i’r llywodraeth dalu amdano?
3. A ydyw’n cynnig gwerth economaidd sylweddol?
4. A ellir ei dargedu at y rheini sydd â mwyaf o’i angen?
5. Sut y gellir ei ddarparu’n rhatach?
6. Sut y gellir ei ddarparu’n fwy effeithlon?
7. A all y gweithgaredd gael ei ddarparu gan ddarparydd anwladwriaethol neu ddinasyddion, yn gyfangwbl neu mewn partneriaeth?
8. A ellir talu darparwyr anwladwriaethol i’w gyflawni, ar sail y canlyniadau a sicrheir ganddynt?
9. A all cyrff lleol, yn hytrach na’r llywodraeth ganol, ei ddarparu?

Ceir mwy o wybodaeth ar-lein yn www.hm-treasury.gov.uk/spend_index.htm

Yn ei gyflwyniad i’r arolwg gwario cynhwysfawr, nododd y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol fod y dystiolaeth yn dangos fod buddsoddi mewn tai yn hanfodol i nifer o elfennau allweddol rhaglen y llywodraeth, yn cynnwys:

• atgyfnerthu’r adferiad economaidd a diogelu a chynnal swyddi
• ymbweru grwpiau cymuned
• helpu teuluoedd i reoli eu dyledion a’u harian
• sicrhau fod cartrefi gwag yn dechrau cael eu defnyddio eto
• hyrwyddo cynlluniau cydberchenogaeth, gan helpu tenantiaid cymdeithasol ac eraill i fod yn berchen neu’n rhan-berchen ar eu cartref eu hunain
• gwella effeithlonrwydd ynni tai newydd a thai presennol
• mynd i’r afael â thlodi plant
• cynorthwyo teuluoedd â phroblemau lluosog
• helpu pobl hŷn i allu byw gartref yn hwy
• cefnogi creu mentrau cymdeithasol a’u hehangu
• cefnogi creu grwpiau cymdogaeth
• galluogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn gallu bod yn ddinasyddion gweithgar a chyfrifol ac i gyfranogi yn eu cymunedau.

Cyhoeddir canlyniad yr arolwg gwario cynhwysfawr ar yr 20 Hydref 2010. Er y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn penderfynu sut i weithredu toriadau yng Nghymru, bydd penderfyniadau’r llywodraeth yn Lloegr yn effeithio’n uniongyrchol ar gyfanswm yr arian fydd yn dod i Gymru.

Mae pawb yn poeni ynglŷn â thai

Mae 96% o’r rheini a holwyd gan YouGov ar ran Cyngor y Benthycwyr Morgais yn credu fod gan y DU broblemau tai. Credir mai’r broblem fwyaf yw’r ffaith na all pobl ifanc fforddio prynu tŷ, neu fynd i ormod o ddyled i wneud hynny, yn ôl 80% o’r ymatebwyr. Roedd gormod o bobl ar restrau aros am dai (48%), ffyniant a methiant yn y farchnad tai (44%), cost symud tŷ (37%), a diffyg cyflwenwad tai newydd (35%) yn cael eu gweld fel problemau hefyd – ond gyda llai na 50% o’r ymatebwyr yn crybwyll pob un o’r rhain. Ac eto, mae pobl fel pe baen nhw’n amau a all y llywodraeth wneud gwahaniaeth. Tra’r oedd 15% yn credu ei bod hi’n debygol neu’n debygol iawn y gallai’r llywodraeth wneud tai’n fwy fforddiadwy i brynwyr tro-cyntaf yn ystod y pum mlynedd nesaf, roedd 80% yn credu fod hynny’n annhebygol neu’n annhebygol iawn.

Mwy o wybodaeth ar-lein yn www.cml.org.uk/cml/media/press/2719

Cyhoeddiadau

Effeithiau diwygio trethi a budd-daliadau

[report cover]

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi cyhoeddi adroddiad sy’n archwilio effaith dosbarthiadol y diwygiadau treth a budd-daliadau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb mis Mehefin 2010 a fydd yn dod i rym rhwng Mehefin 2010 ac Ebrill 2014.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad mai teuluoedd incwm-isel o oed gwaith a fydd fwyaf ar eu colled o ganlyniad i ddiwygiadau Cyllideb Mehefin 2010 oherwydd y cwtogi ar wariant lles. Y rheini a fydd yn colli’r lleiaf o arian yw teuluoedd o oed gwaith heb blant yn hanner uchaf y dosbarthiad incwm, am na fydd y rheini yn dioddef effeithiau’t toriadau mewn gwariant lles, a nhw fydd yn elwa fwyaf ar y cynnydd yn y lwfans treth incwm personol.

Y newid mwyaf i bolisi lles yng Nghyllideb Mehefin 2010 oedd y penderfyniad i gyplysu budd-daliadau wrth y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn hytrach na’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), neu fynegai Rossi, o fis Ebrill 2011. Mae hyn yn debygol iawn o olygu budd-daliadau llai hael yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae’r adroddiad ar-lein yn www.ifs.org.uk/publications/5246

Datganoli Ymarferol

[report cover]

Mae adroddiad IPPR, Devolution in Practice, yn edrych ar wahaniaethau polisi ledled y DU. Gofynnwyd i arbenigwyr academaidd ac arbenigwyr polisi i ymdrin â nifer o gwestiynau yn eu maes arbenigol:

• pa bolisi a ffordd o fynd ati mae pob llywodraeth ddatganoledig wedi eu mabwysiadu?
• a ydyw eu polisïau wedi amrywio ac, os felly, pam?
• beth y gellir ei ddysgu gan wahanol ddulliau’r cenhedloedd datganoledig o fynd ati?
• beth fu effeithiau’r gwahanol ddulliau a fabwysiadwyd ganddynt ar ganlyniadau polisi?

Cafodd y bennod ar dai ei sgrifennu gan un o gyfranwyr rheolaidd WHQ, Steve Wilcox.

Ceir crynodeb gwaith yr adroddiad ar-lein yn www.ippr.org.uk/publicationsandreports/publication.asp?id=752

Sefyllfa ariannol defnyddwyr yng Nghymru

Mae Consumer Focus wedi cyhoeddi papur ar sefyllfa ariannol defnyddwyr yng Nghymru. Mae’r darganfyddiadau allweddol yn cynnwys:

• fod bron hanner y boblogaeth mewn oed (47%) yn nodi fod ganddynt o leiaf un cytundeb credyd (fel gorddrafft, dyled ar gerdyn credyd, benthyciad personol, benthyciad archebu drwy’r post, benthyciad hur-bwrcas neu fenthyciad gan fenthycwr carreg-drws)

• mae gan un o bob 10 o bobl sydd â chytundebau credyd (10%) bedwar neu fwy o ymrwymiadau credyd – dangosydd a ddefnyddir y gyffredin i ddynodi gor-ddyled

• roedd ar y rheini a oedd mewn dyled swm o £3,390 ar gyfartaledd (heb gyfrif benthyciadau myfyrwyr)

• roedd mwy nag un o bob pump o bobl (21%) yn defnyddio credyd i dalu am gostau bob-dydd; roedd 13% arall yn defnyddio credyd i dalu biliau’r cartref

• pobl iau a rhai o’r rhai mwyaf diymgeledd (e.e. pobl ar incwm is, pobl ddiwaith, rhai sydd â salwch tymor-hir neu anabledd) sydd yn y trafferthion ariannol mwyaf

• mae bron un o bob pump (18%) o’r boblogaeth mewn oed wedi bod ar ei hôl hi gyda thaliadau biliau a/neu ad-daliadau credyd yn y 12 mis diwethaf

• y ddau reswm mwyaf cyffredin dros fethu talu biliau neu fethu cyflawni ymrwymiadau credyd yw colli incwm (oherwydd colli swydd; afiechyd; tor-perthynas) neu fod yn byw ar incwm isel yn gyffredinol

Mae’r papur ar gael ar-lein yn www.consumerfocus.org.uk/assets/4/files/2010/08/Finance-newsletter-August-2010-WEB.PDF

Adeiladu tai fforddiadwy mewn cyfnod anodd

Mae dau adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn edrych ar sut y gellid darparu tai fforddiadwy yng nghyd-destun llai o adnoddau. Mae cyhoeddiad y Smith Institute, rhetoric to reality: a report on affordable housing prospects in an age of austerity yn dadlau mai lleihau yn raddol a wna’r ddarpariaeth tai fforddiadwy yn y tymor canol oni fydd y llywodraeth a’r cymdeithasau tai yn gweithredu’n benderfynol ar y cyd i ddatblygu model cyllido newydd. Fodd bynnag, mae’n nodi hefyd fod cymdeithasau tai mewn safle cryf i weithio gyda’r llywodraeth i ddarganfod atebion newydd. Maent yn gallu benthyca cyllid preifat ar gyfraddau da, mae ganddynt asedion dilyffethair sylweddol, ac mae eu record yn dda. Nid yw eu benthyciadau’n ymddangos ar y fantolen gyhoeddus chwaith.

[report cover]

Mae Hard Times, New Choices, a gyhoeddwyd gan PricewaterhouseCoopers ac L&Q, yn archwilio tiriogaeth gyffelyb, gan nodi mai’r ‘her i gymdeithasau tai yn y papur hwn yw dim llai na newid y ffordd y maent yn meddwl a newid y ffordd y maent yn gweithredu. Yr her i’r llywodraeeth yw cydnabod gwerth cymdeithasol ac economaidd a phosibiliadau cymdeithasau tai. Dylai ganiatáu i gymdeithasau y modd a’r hyblygrwydd i wneud y gwaith nad yw’r llywodraeth bellach mewn safle mor gryf i’w wneud ei hunan.’

Mae’r adroddiad ar-lein yn www.smith-institute.org.uk/file/Rhetoric%20to%20Reality.pdf
www.lqgroup.org.uk/_assets/files/Hard-times-new-choices_1.pdf

Cyhoeddiadau’r STS

Ers y rhifyn diwethaf o WHQ, mae’r Sefydliad Tai Siartredig wedi cyhoeddi:

• Allocating social housing: opportunities and challenges, gyda’r bwriad o ennyn trafodaeth ynglŷn â’r problemau gyda dulliau presennol o ddyrannu a syniadau ynglŷn â ffyrdd newydd o fynd ati i ddyrannu

• Promoting mortgage access for affordable housing sy’n rhannu profiad aelodau o’r Sefydliad Tai Siartredig sy’n gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau, a’r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau, o weithio gyda benthycwyr morgais manwerthol, awdurdodau lleol a darparwyr yn y broses o ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer cwsmeriaid. Mae’n cynnig cyngor ar ffyrdd o sicrhau fod cymaint o forgeisiau ar gael ag sy’n bosibl ar gyfer pob math o eiddo fforddiadwy a gynllunir gan awdurdodau i ateb anghenion eu hardaloedd lleol

• The Housing PACT, datganiad gan bobl sy’n ymwneud â thai o’r hyn sydd ei angen i fynd i’r afael â’r problemau tai sy’n destun pryder yn y DU

Mae Cyhoeddiadau’r STS ar gael ar-lein yn www.cih.org/policy/free-publications.htm

Cyhoeddiadau SJR

Mae cyhoeddiadau ymchwil diweddar Sefydliad Joseph Rowntree yn cynnwys:

• Shared ownership and shared equity: reducing the risks of home-ownership?
• Public attitudes to housing
• Home-ownership and the distribution of personal wealth: A review of the evidence

Mae cyhoeddiadau SJR ar-lein yn www.jrf.org.uk

Mae SJR wedi datblygu adran ddiddorol ar ei wefan, Cuts, spending and society www.jrf.org.uk/focus-issue/cuts-spending-and-society sy’n ceisio darparu gwybodaeth ac ysgogi trafodaeth am effaith toriadau ar bobl sy’n byw mewn tlodi.

Y Cynulliad Cenedlaethol

Cynnig dyddiad refferwndwm

Mae’r ddau bartner yn y glymblaid wedi cytuno y dylid cynnal refferendwm ar bwerau ychwanegol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar ddydd Iau 3 Mawrth 2011. Mae Llywodraeth y Cynulliad bellach yn disgwyl ymateb ffurfiol yr Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan, ond disgwylir iddi gymeradwo’r penderfyniad heb drafodaeth bellach.

Llinell amser y Gyllideb
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynhyrchu llinell amser y gyllideb i ddangos sut y bu’n delio â’r toriadau arfaethedig i’r gyllideb yn yr ychydig fisoedd diwethaf. Disgwylir
cyllideb ddrafft ym mis Tachwedd 2010, gyda’r gyllideb derfynol yn cael ei thrafod yn gynnar ym mis Chwefror 2011. Mae’r llinell amser ar-lein yn http://wales.gov.uk/newsroom/improvingpublicservices/2010/100916timeline/?lang=cy

Adnewyddu’r economi

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi esbonio’i ffordd newydd o fynd i’r afael ag adnewyddiad economaidd sydd â gweledigaeth o ‘economi sy’n seiliedig ar gryfderau a sgiliau pobl ac amgylchedd naturiol Cymru, a gaiff ei chydnabod gartref a thramor fel gwlad hyderus, greadigol ac uchelgeisiol; lle gwych i fyw a gweithio ynddo.’ Nodir pum blaenoriaeth ar gyfer cyflawni’r weledigaeth hon:
• buddsoddi mewn isadeiledd cynaliadwy o safon.
• gwneud Cymru’n lle mwy deniadol i wneud busnes.
• ehangu a dyfnhau’r sylfaen sgiliau.
• annog arloesedd
• targedu’r cymorth busnes a gynigir gan y Cynulliad – mae’r strategaeth yn arwydd o symud oddi wrth gefnogaeth drwy gyfrwng cymhorthdal tuag at fenthyciadau

Mae Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd ar-lein yn http://new.wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/help/economicrenewal/programmepapers/anewdirection/?lang=cy

Polisi cynllunio

[report cover]

Cyhoeddwyd Nodyn Cyngor Technegol 22 (TAN 22) Adeiladau Cynaliadwy ym mis Mehefin 2010. Mae’r ddogfen hon yn esbonio polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas â chynllunio ar gyfer adeiladau cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys polisi datblygu cenedlaethol i reoli cynllunio ar gyfer adeiladau cynaliadwy sy’n pennu safonau adeiladu cynaliadwy lleiafswm y disgwylir i’r mwyafrif o geisiadau cynlluniau newydd ar gyfer datblygiadau preswyl ac eraill eu bodloni. Mae’n cyflenwi rheoliadau adeiladu sy’n pennu safonau gorfodol ar gyfer dylunio ac adeiladu, sy’n cynnwys agweddau ar iechyd, diogelwch a diogelu’r amgylchedd.
Mae’r ddogfen ar-lein yn http://new.wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/?lang=cy

Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yn gwneud ymchwiliad i bolisïau cynllunio yng Nghymru sydd yn edrych ar ba mor llwyddiannus y mae polisïau cynllunio defnydd tir, yn lleol ac yn genedlaethol, wrth gyflawni prif amcanion polisi Llywodraeth Cymru fel newid hinsawdd, tai fforddiadwy, ac adfywio/datblygu economaidd. Mae gwybodaeth am yr ymchwiliad ar gael ar-lein yn http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-scrutiny-committees/bus-committees-third-sc-home/inquiries_sd/sc3_inq_planning.htm

Mesurau’r Cynulliad

Cyfreithiau Cymru yw Mesurau’r Cynulliad, yn eu hanfod. Yn fras, gall Mesur Cynulliad wneud unrhyw beth y gall Deddf Seneddol ei wneud mewn perthynas â Chymru, yn amodol ar y cyfyngiadau a ddiffinnir gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

O ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ bydd y Mesurau Cynulliad arfaethedig yn ymwneud â Hawliau Plant a Phobl Ifanc ac Iechyd Meddwl (a nodir yn yr erthygl gan Gofal ar dudalen 41), yn ogystal â’r rheini sydd eisoes mewn grym ar Ddysgu a Sgiliau, Plant a Theuluoedd, a Llywodraeth Leol. Ac, wrth gwrs, byddwn yn cadw llygad yn agored am Fesurau a lunir o dan yr LCO Tai.

Mae gwybodaeth am Fesurau’r Cynulliad ar gael ar-lein yn http://new.wales.gov.uk/legislation/programme/assemblymeasures/?lang=cy

Yr angen a\’r galw am dai yng Nghymru

Cafodd ymchwil am yr angen a’r galw am dai a wnaed ar ran y Cynulliad gan Alan Holmans ei gyhoeddi. Y prif gasgliadau yw:

• yr amcangyfrifir bod angen tua 284,000 o dai ychwanegol yng Nghymru rhwng 2006 a 2026
• mae 183,000 o’r rhain yn sector y farchnad a 101,000 mewn sectorau eraill
• mae’r amcangyfrifon hyn yn cynnwys tua 14,200 o anheddau’r flwyddyn – 9,200 yn sector y farchnad a 5,100 yn y sectorau eraill
• hefyd, amcangyfrifir maint y galw am dai sydd yn dal heb ei ddiwallu ar hyn o bryd fel 9,500 o aelwydydd
• mae’r amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol rhwng 2006 a 2026 yn amrywio o 2,500 o dai ym Merthyr Tudful i 37,300 yng Nghaerdydd. Gan mai amcangyfrifon yn unig yw’r rhain, nid ydynt yn disodli’r asesiadau angen tai mwy gwybodus a wnaed gan awdurdodau lleol unigol.

Mae’r adroddiad ymchwil ar-lein yn
http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/research/housing/needandemand/?lang=cy

Fframwaith rheoliadol

[report cover]

Mae’r Cynulliad wedi cyhoeddi Canlyniadau Cyflenwi sy’n cymryd lle’r Cod Rheoliadol fel rhestr o’r hyn y disgwylia Llywodraeth y Cynlluniad i LCCiaid ei ddarparu. Mae’r Canlyniadau Cyflenwi (a adwaenid yn flaenorol fel Safonau Perfformiad) yn gosod allan y disgwyliadau o ran llywodraethu, cyllid a gwasanaethau landlordiaid. Y bwriad yw y byddant yn darparu fframwaith cyffredinol y gall LCCiaid wneud hunan-asesiad o’i fewn a fydd yn cynnig her eang ei chwmpas tra’n parhau i fod yn ddigon strategol ei ffocws i gefnogi arloesedd ac amgylchiadau lleol.

Mae Canlyniadau Cyflenwi ar gael ar-lein yn www.chcymru.org.uk/news/11267.html

Penodwyd Hugh Thomas yn Gadeirydd annibynnol y Bwrdd Rheoliadol a gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2010.

Cynlluniau peilot y Gwasanaeth Cefnogi Teuluoedd Integredig

Mae lansio cynlluniau peilot y Gwasanaeth Cefnogi Teuluoedd Integredig (IFSS) yn ymrwymiad Cymru’n Un a ddarparwyd o fewn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ac mae’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi teuluoedd a mynd i’r afael â thlodi plant. Mae IFSS yn cydnabod fod y teuluoedd hyn yn aml yn wynebu anfanteision lluosog sy’n mynnu cefnogaeth ddwys ac arbenigol iawn. Bydd y cynlluniau’n cael eu darparu gan dimau aml-ddisgyblaethol, aml-asianataeth a fydd yn cynnwys Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol a fydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd i greu newid positif. Byddant hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill i newid pethau er budd y teulu.

Mae’r ardaloedd arloesol yn perthyn i bedwar awdurdod lleol – Merthyr Tudful gyda Rhondda Cynon Taf (fel consortiwm), Casnewydd a Wrecsam, oll yn gweithio mewn partneriaeth gyda’u gwahanol Fyrddau Iechyd. Bydd yr atgyfeiriadau cyntaf ar gyfer teuluoedd lle mae chamddefnyddio alcohol neu gyffuriau yn brif broblem ymhlith rhieni. Fodd bynnag, eir ymlaen i gynnwys teuluoedd yr effeithir arnynt gan salwch meddwl rhiant, anabledd dysgu rhiant, a thrais yn y cartref yn y cynllun IFSS.

Digartrefedd

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi’r ystadegau cenedlaethol ar ddigartrefedd am y cyfnod Ebrill i Fehefin 2010. Maent yn dangos, tra bod y nifer o deuluoedd y derbyniwyd eu bod yn ddigartref, sef 1,467, yn gymharol ddigyfnewid o’r chwarter blaenorol, bod hynny’n gynnydd o 10% o’i gymharu â’r un chwarter y llynedd.

Mae’r bwletin ystadegol llawn ar-lein yn http://wales.gov.uk/docs/statistics/2010/100922sdr1462010en.pdf

Cymru

Cyllid newydd ar gyfer Cymdeithas Tai Teulu
[photo]

Mae Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf wedi cyhoeddi cynllun buddsoddi gwerth £30 miliwn gyda chefnogaeth Barclays Corporate i ddatblygu cynlluniau tai cymdeithasol a gofal ychwanegol ledled gorllewin Cymru. Mae hyn yn dod â’r cyfanswm a roddwyd i Tai teulu gan Barclays i £70 miliwn a defnyddir hynny i ddatblygu 353 o gartrefi ychwanegol ar draws gorllewin Cymru.

Adroddiadau GENuS
[report cover]

Mae consortiwm GENuS wedi cyhoeddi adroddiad sy’n adrodd hanes GENuS hyd yn hyn ac yn dangos yr argraff a wnaed gan y consortiwm ar y cymunedau mae’r cymdeithasau sy’n perthyn iddo yn gweithio ynddynt.

Mae’r adroddiad, Making an Impact, Shaping the Future, ar gael ar-lein yn www.seren-group.co.uk/news/genus-making-an-impact-shaping-the-future

Cymdeithas Tai Taf
[photo]

Aelod Bwrdd hiraf ei gwasanaeth Tai Taf, Mary Hayes, sydd hefyd wedi bod yn denant ers sefydlu’r Gymdeithas, yn ei pharti dathlu Dyma Eich Bywyd, Medi 2010.

Mae’r gymdeithas newydd benodi Nia Bennett yn Gyfarwyddydd Gwasanaethau Corfforaethol, ac mae hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Busnes Cenedlaethol, yng nghategori Cyflogydd y Flwyddyn.

[photo]

Cymerodd tenantiaid eu camau cyntaf tuag at leihau eu hôl-troed carbon yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cadwyn.

[photox2]

Bwriedir adeiladu stafell gyfarfod â muriau gwydr ar ben y bloc uchaf o fflatiau ym Mhontypŵl. Mae Tai Cymuned Bron Afon yn bwriadu gweddnewid y tu fewn a’r tu allan i Fairview Court ym Mhontnewynydd (llun). Lluniwyd cynlluniau i gwtogi’n sylweddol ar filiau gwresogi preswylwyr a rhoi stafell gyfarfod iddyn nhw ar y to.

Ymrwymo i lywodraethu da

[photo]

Byrddau Grŵp Tai Cadarn a Chymdeithas Tai Newydd oedd y cyntaf i ymrwymo’n ffurfiol i Siarter Llywodraethu Da y STS yn eu cyfarfod ar yr 16 Mehefin 2010.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »