English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Galw am Drafodaeth . . .

Galw am DrafodaethRobin Shepherd yn archwilio cyfundrefn gynllunio bresennol Cymru ac un y dyfodol.

Cyd-destun

Mae’r gyfundrefn gynllunio yng Nghymru wedi newid yn fawr iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ers datganoli pwerau cynllunio i’r Cynulliad, mae polisïau a deddfwriaeth Cymru wedi mynd yn fwyfwy gwahanol i’r rheini a geir yn Lloegr.

Mae cyfundrefn gynllunio Lloegr wedi mynd yn llawer mwy cymhleth yn ystod y chwe blynedd diwethaf, ers Deddf Gynllunio 2004 a sefydlodd Fframweithiau Datblygu Lleol – cyfres o ddogfennau cynllunio y gellid eu diweddaru’n haws, gan ganiatáu i’r broses o gynllunio datblygu fod yn fwy hyblyg ac yn fwy ymatebol.

Mae Cymru, i’r gwrthwyneb, wedi cadw at un ddogfen ar gyfer cynllunio datblygu – y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Yn ychwanegol at hynny, mae’r gofynion am ddeunydd i gefnogi ceisiadau cynllunio yng Nghymru wedi bod, tan yn ddiweddar, yn llai beichus na’r hyn a ddisgwylir ar ochr lai prydferth (gellid dadlau) Clawdd Offa.

Newidiadau diweddar

Fodd bynnag, gwelwyd newid yn y ddwy flynedd ddiwethaf gyda’r ddeddfwriaeth polisi adeiladu newydd sy’n mynnu fod yn rhaid bodloni’r Côd Cartrefi Cynaliadwy a BREEAM. Agenda cynaliadwyedd ac ynni gwyrdd yw calon y gyfundrefn gynllunio yng Nghymru bellach, sy’n rhoi mwy o faich ar y diwydiant datblygu yng Nghymru – cyn i hynny ddigwydd yn Lloegr.

Mae’r gyfundrefn CDLl yng Nghymru wedi fod yn llawn problemau ac oedi wrth i awdurdodau cynllunio lleol ymgodymu â gofynion y gyfundrefn newydd.

Gwnaeth y Cynulliad arolwg o’r gyfundrefn gynllunio yn ddiweddar – er mwyn ystyried sut y gellid ei symleiddio er mwyn helpu’r adferiad economaidd. Fodd bynnag, dim ond y broses o wneud cais cynllunio a ystyriwyd, ac felly dim ond ymdrin â rhan o’r broblem y bydd unrhyw argymhellion o blaid newid.

Yn ei hanfod, o safbwynt datblygiadau mwy o faint a mwy cymhleth yng Nghymru – sef, yn y bôn, unrhyw beth mwy na newidiadau i’r cartref a mân ddatblygiadau – bydd y gyfundrefn yn parhau i fod yn gyfres o rwystrau symudol y mae’n rhaid eu goresgyn, wrth i gwmpas y materion y mae’n rhaid eu hystyried gynyddu, wrth i bolisïau newid, ac wrth i ddeddfwriaeth newydd ddod i rym.

Problemau dwfn eu gwraidd

Tra bydd rhai efallai’n dadlau fod yna ddiffyg adnoddau a sgiliau i weithredu’r gyfundrefn fwyfwy cymhleth hon, yn fy marn i, mae gwreiddiau dyfnach i’r problemau na hyn. Mae peryglon ceisio gweithredu cynigion datblygu – dadleuol, yn aml – trwy broses wleidyddol yn arwain yn anochel at broblemau ac oedi, wrth i bobl farnu fod penderfyniadau’n annerbyniol neu’n rhy anodd. Mae’r problemau diweddar yng Nghaerdydd, lle bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r CDLl (oherwydd i’r Arolygwyr CDLl nodi pryderon difrifol yn gynnar yn y broses ynghylch cywirdeb y cynllun drafft) yn tystio i’r ffaith fod datblygu tir-glas yn dal i gael ei ystyried yn faes i’w osgoi o safbwynt ennill pleidleisiau, ac yn ddadleuol dros ben, er gwaethaf yr angen am gartrefi newydd.

Mae’r cwestiwn yn codi, felly, a oes angen newid diwylliannol sylfaenol, neu newid cyfeiriad llawer mwy radicalaidd. Dull Llafur o fynd ati yn y blynyddoedd diwethaf fu tynnu’r penderfyniadau mwy cymhleth a dadleuol allan o’r broses gynllunio leol, fel y tystia cyflwyno Adroddiadau Arolygwyr cyfrwymol ar gyfer CDLliau a’r Comisiwn Cynllunio Isadeiledd.

Fodd bynnag, er gwaethaf hynny, mae rhai yn hawlio fod adeiladu cartrefi yn y DU ar ei lefel isaf ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Ychydig o bobl fyddai’n dadlau fod y gyfundrefn bresennol yn darparu’r hyn sydd ei angen, a chofio cymaint o brinder tai (yn enwedig tai fforddiadwy) sydd ledled Cymru a’r DU.

Angen newid sylfaenol?

Felly, a oes angen newid y gyfundrefn gynllunio yn sylfaenol yn hytrach na gwneud mân newidiadau ar yr ymylon er mwyn gwella’r system gyfredol?

Byddai’r Torïaid yn dadlau fod angen hynny. Mae Papur Gwyrdd y Torïaid ar Gynllunio yn dadlau fod y gyfundrefn gyfredol wedi torri a bod angen ffordd radicalaidd newydd o fynd i’r afael â phethau, gan ddadlau o blaid agenda ‘lleoldeb’, lle bydd cymunedau’n cael eu cymell i weithio gyda datblygwyr er mwyn sicrhau datblygiad newydd yn eu bro a’r buddiannau a allai ddeillio o hynny. Byddai dull brig-i-lawr y llywodraeth o arosod datblygiad ar gymunedau yn cael ei ddisodli gan ddull o fynd ati a olygai fod cymunedau yn gwirfoddoli i dderbyn datblygiad newydd, a byddai Cynlluniau Lleol yn dychwelyd gyda mwy o rym a phwysau nag erioed.

Gwelir Cymru fel enghraifft dda o gynllunio gan y Torïaid, er y byddai’r rheini sy’n gweithio o fewn y gyfundrefn efallai’n anghytuno. Mae’n amlwg y byddai’r fath gynigion, pe’u gweithredid, yn creu mwy byth o ansicrwydd a newid mewn cyfundrefn sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd gweithredu newidiadau a ddaeth i rym chwe blynedd yn ôl. Byddai’r Cynulliad, mae’n siŵr, yn gosod stamp ei ddylanwad ar y fath agenda newydd, ac ni wyddom hyd yn hyn pa mor wahanol y byddai’r Torïaid, pe caent eu hethol ar lefel Brydeinig, yn caniatáu i’r gyfundrefn Gymreig i fod.

Fodd bynnag, gydag etholiadau’r Cynulliad yn dilyn y flwyddyn wedi’r etholiad cyffredinol, dyfodol ansicr, yn anffodus, sydd i gynllunio a datblygu yng Nghymru ar adeg pan ddylai’r gyfundrefn gynllunio fod yn helpu i ddarparu cartrefi (yn enwedig rhai fforddiadwy) a’r datblygu y mae arnom gymaint o’u hangen wrth i ni adeiladu’n ffordd allan o’r dirwasgiad.

Dadl wrthrychol

Pa bynnag newidiadau a gynigir, mae o bwys hanfodol i ni beidio â cholli golwg ar wir amcanion y gyfundrefn gynllunio wrth edrych ar fanylion y broses a ddefnyddir.

Mae’r gyfundrefn gynllunio yn bodoli, o reidrwydd, i ddarparu datblygu cynaliadwy – yn y mannau iawn, yn y ffordd iawn, ac ar yr adeg iawn. Dylai fod yn ddyletswydd ar y gyfundrefn i fynd ati’n egnïol i greu llefydd llwyddiannus – darparu ar gyfer angen sylfaenol pobl am le i fyw, lle i weithio, lle i ddysgu, llefydd lle gellir prynu nwyddau, a llefydd i’w mwynhau. Llefydd y bydd pobl yn eu gwerthfawrogi ac yn ymfalchïo ynddyn nhw. Llefydd sy’n gwella ein bywydau, yn adfywio cymunedau difreintiedig, ac yn gwella ansawdd ein hamgylchedd lleol a byd-eang.

Yr hyn sydd ei angen, felly, yw trafodaeth gynhwysfawr – gan edrych ar y ffordd y gellid newid y gyfundrefn gynllunio i ganolbwyntio ar yr amcanion hyn mewn ffordd bositif a rhagweithiol. Dim ond ar ôl cyflawni hynny y gellir disgwyl i’r gyfundrefn gynllunio yng Nghymru gyflawni’r hyn y bwriedid iddi wneud yn wreiddiol. Gallai’r drafodaeth hon gael ei harwain gan y Cynulliad, ond dylai gynnwys y rheini sy’n defnyddio cyfundrefn gynllunio Cymru o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, a cheisio canolbwyntio ar amcanion craidd cynllunio. Gallai canlyniadau’r drafodaeth hon fod yn radicalaidd neu’n syml – y naill ffordd neu’r llall, mae’r canlyniadau’n debygol o fod yn bell-gyrhaeddol. Y cwestiwn, felly, yw a oes archwaeth am y fath drafodaeth, ac ymrwymiad digonol i gyflawni’r newidiadau angenrheidiol.

Wrth i Obama a’i gynorthwywyr ystyried doethineb Winnie the Pooh yng nghyd-destun diogelwch gwladol, mae’n siwr fod yr un peth yn wir am gyfundrefn cynllunio a datblygu Cymru:

‘Dyma Edward Arth yn dod i lawr y staer yn awr, bwmp, bwmp, bwmp ar ei wegil, y tu ôl i Christopher Robin. Hyd y gŵyr, dyma’r unig ffordd o ddod i lawr y staer. Ond weithiau, mae’n meddwl fod yna ffordd arall, yn wir, pe bai ond yn gallu peidio â bwmpio am funud a meddwl amdano.’

A. A. Milne

Robin Shepherd yw Cyfarwyddydd Cynllunio swyddfa Caerdydd Barton Willmore LLP, Robin.Shepherd@bartonwillmore.co.uk


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »