English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Adeiladwyr Ifanc yng Nghaerdydd

Kevin Fitzgerald yn egluro sut yr aeth Cynllun Adeiladwyr Ifanc (YBS) Caerdydd ag ef o ymyl dibyn personol at ddiodydd gyda Tony Blair.

Y bobl

Doedd gwawr y mileniwm newydd ddim yn teimlo fel oes newydd i Kevin Fitzgerald, 21 oed. Ac yntau wedi gwahanu oddi wrth ei deulu, heb swydd, a record droseddol am fân droseddion, ei ‘gartref’ ers 2½ flynedd oedd hostel i bobl ddigartref, lle’r oedd llawer o’i gyd-breswylwyr yn ymgodymu â phroblemau gyda chyffuriau ac alcohol.

Mewn geiriau clodwiw o gynnil, mae Kevin yn edrych yn ôl ar y cyfnod fel un ‘… pur ddiflas …’ ond, chwarae teg iddo, roedd yn gwybod fod yn rhaid iddo wneud rhywbeth i’w gadw’i hun rhag llithro’n is.

Y trobwynt oedd YBS. ‘Rhoddodd un o’r bois yn yr hostel daflen Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd i fi, ynglŷn â’r cynllun. Cyfle i hyfforddi, ennill cymhwyster, symud allan o’r hostel ac adeiladu fy fflat fy hun? Prin y gallwn i gredu’r peth, ond dyma fi’n meddwl – pam lai?’

O fewn wythnosau, roedd Kevin ar y safle, yn mynychu’r coleg, ac allan o’r hostel. ‘Fel rhan o’r ddêl, rhoddodd CTCC lety dros-dro i mi ar draws y ffordd o’r safle a chefnogaeth i fi gyfarwyddo â byw’n annibynnol.’

Doedd y fflat yn ddim byd crand, ond mae Kevin yn ei gofio fel ‘palas’.

Cwblhaodd Kevin yr hyfforddiant yn llwyddiannus a chael ei NVQ mewn Saernïaeth, a symud i mewn i’r fflat newydd ar rent roedd wedi helpu i’w adeiladu yn 2001. ‘Roedd yn perthyn i fi, ac yn rhywbeth roeddwn wedi dyheu amdano cyhyd – gwyddwn nad oedd dim troi’n ôl nawr.’

Erbyn heddiw mae Kevin wedi bod yn gweithio ers tair blynedd. Ar eto, nid rhyw atgof pell mo’r hostel – oherwydd, ers mwy na dwy flynedd, mae Kevin wedi bod yn gweithio yno fel Gweithiwr Cefnogi! Y gwaith yma yn yr hostel ac yn y gymuned o’i chwmpas a arweiniodd at gydnabyddiaeth fel ‘entrepreneur cymdeithasol’ gan y Prif Weinidog ac ymweliad â Rhif 10.

Felly, sut yr arweiniodd NVQ mewn Saernïaeth at ddiodydd gyda Tony Blair? ‘Oherwydd, cyn YBS, doedd neb yn fodlon rhoi cyfle i mi. Fe gysylltodd hyn fi â byd gwaith; rhoddodd nod i mi, ac ymdeimlad o falchder mod i wedi cyflawni rhywbeth. Hwn oedd y cam cyntaf allweddol a hebddo, fyddwn i ddim lle rydw i nawr.’

Nid fod pob Adeiladwr Ifanc yn cyrraedd Rhif 10. Ac eto, maen nhw i gyd fel Kevin o’r safbwynt eu bod, ar ddechrau’r rhaglen, yn ddi-waith a heb brofiad gwaith na chymwysterau. Yn rhy aml o lawer, maen nhw’n ddigartref neu’n byw mewn llety dros-dro, ac yn dioddef problemau parhaus sy’n gysylltiedig â bod o dan anfantais ac wedi eu heithrio.

Y Cynllun

Dechreuodd y project Adeiladwyr Ifanc ym 1999 ac mae wedi datblygu fesul cam dros y pum mlynedd diwethaf.

Amcan y project yw datblygu ffordd o fynd ati gyda chymorth sawl asiantaeth i greu canlyniadau cynaliadwy ar gyfer pobl ifanc drwy dorri’r cylch o ddim swydd, dim cartref.

Mae pedair elfen allweddol i’r cynllun:

  • darparu rhaglen hyfforddi gyda chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc (18-25 oed) ddi-waith, sydd wedi eu heithrio’n gymdeithasol, i’w helpu i lwyddo a ffynnu
  • darparu tai hunangynhwysol gyda chefnogaeth drwy gydol y project er mwyn paratoi’r cyfranogwyr i fyw’n annibynnol yn llwyddiannus yn y dyfodol
  • cyfle o waith gwirioneddol mewn crefft adeiladu gydnabyddedig ar ddiwedd y rhaglen
  • i’r rheini sydd ag angen tai, y cyfle i sicrhau llety parhaol ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus

Y Bartneriaeth

Mae’r rhaglen yn ganlyniad partneriaeth rhwng:

  • Y Bartneriaeth Cymunedau Cynaliadwy (PCC) sef Cymdeithasau Tai Cadwyn, Cymuned Caerdydd a Thaf) sy’n darparu’r llefydd hyfforddi drwy gyfrwng eu gwaith datblygu, llety dros-dro yn ystod yr hyfforddiant, a llety parhaol ar ddiwedd y Project
  • Ymddiriedolaeth Adeiladwyr Ifanc Cymru – sy’n cyd-drefnu’r hyfforddiant, profiad gwaith a chefnogaeth a rheoli’r broses gyllido
  • Siambr Fasnachu Caerdydd – sy’n hyfforddi yn y sgiliau adeiladu sylfaenol sef saernïaeth, peintio ac addurno, plastro, a gosod brics
  • Gwasanaethau Cyflogaeth – sy’n atgyfeirio, drwy gyfrwng y Fargen Newydd
  • YMCA – a ddarparodd gefnogaeth bersonol i’r bobl ifanc yn ystod dau gam gyntaf y rhaglen. Yn ystod y trydydd cam, YBS sy’n darparu’r gefnogaeth
  • Y contractwyr adeiladu – sy’n cael eu dethol o blith paneli cydnabyddedig PCC a Chyngor Sir Caerdydd, ac sy’n darparu hyfforddiant ar y safle a phrofiad gwaith

Sicrhawyd cyllid dros y pum mlynedd diwethaf gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (GGE), Y Fargen Newydd, partneriaid a’r contractwyr preifat sy’n lleoli’r cyfranogwyr mewn gwaith.

I sicrhau y bydd yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni, mae’r project:

  • yn darparu cymhellion ychwanegol at rai ariannol i rai dan hyfforddiant, h.y. llety, lwyfansys teithio, lwyfansys offer, ac ati
  • yn trefnu cyfleoedd profiad gwaith
  • yn cynnwys cymalau hyfforddi mewn amodau cytundeb ar gyfer contractwyr newydd
  • yn annog llacio amodau cytundeb i ganiatáu i hyfforddiant allu digwydd ar y safle
  • yn darparu cefnogaeth drwy gyfrwng asiantaethau fel yr YMCA a Foyer Caerdydd Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd
  • yn darparu cefnogaeth fugeiliol bwrpasol ar gyfer y bobl ifanc drwy gyfrwng gweithwyr arbenigol
  • yn denu ffynonellau cyllid ychwanegol at ffrydiau cyllidol presennol, e.e. y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd
  • wedi creu amgylchedd hyfforddi a gwaith sy’n darparu cyfle i bobl ifanc lwyddo

Canlyniadau

Er i’r rhaglen wreiddiol gychwyn, gydag adeiladu Llys Bowley yn Sblot, mae 22 o Adeiladwyr Ifanc wedi graddio’n llwyddiannus, gan ennill NVQ lefel 1/2 mewn un grefft adeiladu o blith pedair. Mae’r mwyafrif helaeth wedi dod o hyd i waith parhaol – 75% o raddedigion Cam II. Mae Llys Bowley’n dal yn gartref i rai o’r adeiladwyr ifanc gwreiddiol.

Mae cam cyfredol y Project yn darparu hanner cant o lefydd hyfforddi dros ddwy flynedd. Y tro yma, nid yw’r rhaglen hyfforddi yn gyfyngedig i rai 18 i 25. Gall unrhyw un o dan hanner cant ymgeisio.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Adeiladwyr Ifanc, cysylltwch â: Kevin Protheroe, Prif Weithredydd, Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd, tel 029 2046 8470, neu anfonwch ebost at Kevin Protheroe.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »