English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol – Catalydd ar gyfer newid

Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn gyfrifol cyn hir am gyfeiriad polisi datganoledig ar dai a digartrefedd. Fel y dengys maniffestoau etholiad y prif bleidiau, mae newidiadau mawr yn bosibl, yn dibynnu ar ganlyniad yr etholiad.

Mae popeth yn newid yn WHQ hefyd, gyda Sally Hales yn cymryd yr awenau oddi wrthyf fel golygydd ar ôl y rhifyn hwn. Ar ôl 13 mlynedd wrth y llyw, mae’n bryd cael tipyn o egni a syniadau ffres ond bydd WHQ yn parhau i fod yn llais annibynnol Cymru ar dai ac adfywio fel y bu erioed.

Mae adfywio yn thema briodol i’r rhifyn Gwanwyn hwn gyda’r holl adnewyddu hyn ar y gweill. Cawn olwg ar brosiectau ar draws y sbectrwm, o gynlluniau mawr i ymyriadau bach. Ar un pen i’r raddfa honno, mae Mark Barry yn agor ein adran nodwedd arbennig â golwg ar ddatblygu a arweinir gan gludiant yn gysylltiedig â Metro De Cymru, tra bod Nick Taylor-Williams yn ystyried dyfodol adfywio ar raddfa fawr. Mae Catherine Evans yn adrodd ar gynlluniau gan Trivallis i adfywio stâd Penrhys yn y Rhondda a Rhianydd Jenkins yn amlinellu cynlluniau adfywio Beacon.

Y pen arall, mae Katie Clubb yn esbonio sut mae Peilot Mannau Gwag Conwy yn ysgogi adfywiad canol trefi, Craig Sparrow yn adrodd hanes ailddatblygu stryd hanesyddol yn y Rhyl gan ClwydAlyn, ac Elliw Llŷr yn adrodd sut y trawsnewidiwyd adfail hanesyddol yng Nghaergybi. Mae Jen Heal hithau yn adrodd ar wersi o Raglen Beilot Hybu Trefi Abertyleri a Llanilltud Fawr.

Mae’r rhifyn hwn hefyd yn edrych ar bethau a fydd yn hanfodol i ddyfodol tai pwy bynnag sy’n ennill yr etholiad.

Mae Edward Shepherd yn archwilio’r hyn y gall Cymru ei ddysgu gan Loegr ar gipio gwerth tir a hyfywedd mewn adeiladu tai. Mae Wendy Deardenyn edrych ar sut i hybu’r cyflenwad tai cymdeithasol trwy ddefnyddio adeiladau presennol, tra bod Cerys Clark yn ystyried effaith safonau tai ar allu i ailddefnyddio cartrefi gwag. Mae Tom Spare yn edrych i’r dyfodol ac yn gofyn sut y gellir darparu 60,000 o gartrefi cymdeithasol yn y degawd nesaf.

Mae gennym hefyd ddwy erthygl bwysig ar ddigartrefedd. Mae Debbie Thomas yn edrych ar y daith sydd o’n blaenau gyda gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd ac mae Sara O’Shea yn ystyried sut y gall gwasanaethau elwa o fewnwelediad pobl â phrofiad byw o ddigartrefedd.

Gobeithio y bydd hynny oll, a llawer mwy ar ben hynny, yn creu rhifyn â rhywbeth at ddant pawb. Dyma fy rhifyn olaf ond dwi’n dymuno’n dda i bawb ym maes tai Cymru a gwn y bydd WHQ yn mynd o nerth i nerth.

JULES BIRCH, golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »