DATBLYGIADAU POLISI YN RHANNAU ERAILL O’R DU
PRYDAIN FAWR
LHA isel yn bwrw rhentwyr Cymru galetaf
Mae gan gyfran fwy o rentwyr preifat yng Nghymru ddiffyg rhwng eu rhent a’u Lwfans Tai Lleol (LHA) nag unrhyw ran arall o’r DU, yn ôl Adolygiad Tai’r DU 2026.
Adferwyd cyfraddau LHA i’r 30fed ganradd o renti lleol ddiwethaf ym mis Ebrill 2024 ond fe’u rhewyd eto yn Ebrill 2025 ac Ebrill 2026. Bydd y diffyg yn cynyddu’n anochel wrth i renti godi.
Dengys ffigurau a gyhoeddwyd yn Adolygiad Tai’r DU bod gan 63 y cant o hawlwyr yng Nghymru ddiffyg yn 2025, o’i gymharu â 52.1 y cant yn Lloegr a 39.9 y cant yn yr Alban. Roedd y gyfran a oedd yn wynebu diffyg yng Nghymru hefyd yn uwch nag mewn unrhyw ranbarth yn Lloegr.
CYMRU A LLOEGR
Mesur drafft â chynlluniau i ddod â phrydles i ben
Yn yr hyn y gobeithio gweinidogion fydd yn ddechrau’r diwedd i’r brydles, cyhoeddodd llywodraeth y DU ei drafft Fil Cyfunddaliad a Diwygio’r Brydles. Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys gwaharddiad ar fflatiau prydles newydd, mesurau i wella’r ddeiliadaeth gyfunddaliad amgen, a chap o £250 y flwyddyn ar renti tir ar gyfer prydlesi presennol. Ar ôl cryn ddadlau o fewn y llywodraeth, byddai’r cap mewn grym am 40 mlynedd cyn troi’n rhent mewn enw yn unig. Fodd bynnag, i gyrraedd y llinell derfyn bydd yn rhaid i weinidogion glirio rhwystrau sylweddol yn San Steffan ac yn y llysoedd, gyda disgwyliad y ceir lobïo a heriau cyfreithiol gan fuddsoddwyr rhydd-ddaliad.
LLOEGR
Cartrefi newydd i fod yn ddi-garbon o 2028
Cyhoeddodd llywodraeth San Steffan Safon Cartrefi ac Adeiladau’r Dyfodol i wneud pympiau gwres, paneli solar a thechnoleg arbed ynni arall yn ofynnol ym mhob cartref newydd.
Bydd y safon, ar ôl oedi maith, mewn grym o fis Mawrth 2027 gyda chyfnod pontio ar gyfer cartrefi y dychreuwyd eu hadeiladu eisoes tan fis Mawrth 2028. Rhaid i bob cartref newydd fod yn barod am garbon sero a’r nod yw lleihau allyriadau carbon 75 y cant o lefelau 2013.
Daeth y cyhoeddiad bron 20 mlynedd wedi i lywodraeth Lafur flaenorol gyhoeddi dyddiad olaf o 2016 ar gyfer gwneud bob cartref newydd yn ddi-garbon. Cafodd y polisi ei lastwreiddio ac yna ei ollwng o dan lywodraethau’r Ceidwadwyr yn y 2010au.
Banc Tai Cenedlaethol yn dechrau gweithio
Agorodd Banc Tai Cenedlaethol Homes England ar gyfer busnes yn ffurfiol ar Ebrill 1af mewn ymgais i gyflymu’r broses o ddarparu cartrefi newydd a phrosiectau adfywio.
Gyda chefnogaeth llywodraeth y DU, bydd y Banc Tai Cenedlaethol yn gweithio gydag adeiladwyr tai, datblygwyr, buddsoddwyr a darparwyr cofrestredig i ddefnyddio hyd at £16 biliwn o ddyled, ecwiti a gwarantau. Bydd yn gweithio gyda Meiri hefyd trwy fodel rhanbarthol newydd Homes England i gryfhau cydweithio â phartneriaid ac arweinwyr.
YR ALBAN
Tai cymdeithasol yn gostwng o chwarter
Cwblhwyd 25 y cant yn llai o dai fforddiadwy yn yr Alban yn 2025, yn ôl ffigurau swyddogol.
Y 3,611 a gwblhawyd yw’r cyfanswm blynyddol isaf ers 2014 ac mae’n cymharu â 4,835 yn 2024. Cychwynnwyd ar 3,070, 15 y cant yn llai, y cyfanswm blynyddol isaf ers 1996.
Rhybuddiodd sector tai yr Alban fod Llywodraeth yr Alban ar y ffordd i dorri ei haddewid i adeiladu 110,000 o dai fforddiadwy erbyn 2032, gan amcangyfrif bod angen 15,700 o dai cymdeithasol y flwyddyn i ateb y galw am dai.
Medd cyfarwyddydd Shelter Scotland, Alison Watson: ‘Does gan yr un blaid gynllun credadwy i ddarparu’r tai sydd eu hangen ar yr Alban, sy’n golygu bod gwleidyddion o bob plaid yn cynllunio am fwy o ddigartrefedd. Mae angen arian newydd a dull newydd o fynd ati.’
GOGLEDD IWERDDON
Newid sut y cofrestrir landlordiaid
Lansiodd y gweinidog cymunedau, Gordon Lyons, ymgynghoriad ar gynigion i gryfhau’r Cynllun Cofrestru Landlordiaid.
Rhentir mwy na 130,000 o gartrefi yng Ngogledd Iwerddon ac ystyrir bod y sector yn chwarae rhan allweddol mewn rhoi mynediad i gartref fforddiadwy, cynaliadwy o ansawdd da i bawb.
Bu’n rhaid i landlordiaid preifat gofrestru ers 2014 ac mae newidiadau arfaethedig yn cynnwys casglu gwybodaeth am safonau eiddo wrth gofrestru a rhannu data cofrestru i helpu i orfodi diogelwch nwy a datblygu polisi tai.
LLYWODRAETH CYMRU
Cyhoeddi maniffestoau wrth i’r ymgyrch gychwyn
Mae’r prif bleidiau’n rhestru eu blaenoriaethau ar gyfer tai mewn maniffestoau a gyhoeddwyd cyn etholiad y Senedd ar Fai 7.
Gyda system etholiadol newydd ar waith a’r polau piniwn yn awgrymu ystod o ganlyniadau posibl, denodd y chwe phrif faniffesto sylw ar draws y sector.
Daeth y Senedd bresennol i ben ar Ebrill 9 a chyhoeddir y rhifyn hwn o WHQ yng nghanol yr ymgyrch etholiadol.
Senedd yn pasio deddfau digartrefedd a diogelwch adeiladau
Cafodd dau ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar dai Gydsyniad Brenhinol fis Ebrill ar ôl mynd drwy’r Senedd.
Mae Deddf Digartrefedd a Dyraniadau Tai Cymdeithasol (Cymru) yn diddymu profion ‘angen blaenoriaeth’ a ‘bwriadoldeb’ a all rwystro pobl rhag cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt wrth wynebu digartrefedd. Mae hefyd yn canolbwyntio’n gryfach ar atal digartrefedd, ymrwymiad i sicrhau bod cefnogaeth a dyraniadau wedi’u teilwra i anghenion unigol pobl, a sicrhau cydweithio gwell ar draws sectorau.
Mynegodd Shelter Cymru ei werthfawrogiad o waith Llywodraeth Cymru ac Aelodau o’r Senedd o bob plaid wrth greu a mireinio’r Bil.
Dywedodd Ruth Power, prif weithredwr Shelter Cymru: ‘Heddiw, cymerodd Cymru gam pwysig tuag at gyflawni ein huchelgais gyffredin i wneud digartrefedd yn beth prin, byrhoedlog, nas ailadroddir.’
Dywedodd Matt Downie, prif weithredwr Crisis: ‘Mae heddiw’n dirnod i Gymru. Mae gan y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol newydd y potensial i newid bywydau’r miloedd o bobl ledled Cymru sy’n wynebu’r trawma sy’n dod o fyw heb le sefydlog i’w alw’n gartref.’
Mae Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) — un o’r darnau mwyaf o ddeddfwriaeth a ystyriwyd gan y Senedd erioed — yn ehangach o ran cwmpas ac uchelgais na deddfwriaeth gyfatebol yn Lloegr, ac yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud diogelwch adeiladau yn egwyddor arweiniol ar gyfer sut y caiff cartrefi ac adeiladau eu rheoli ledled y wlad.
Ganed y ddeddfwriaeth o drychineb Tŵr Grenfell yn 2017, lle collodd 72 o bobl eu bywydau. Y nod yw sicrhau na all y methiannau a gyfrannodd at y drychineb honno byth gael eu hailadrodd yng Nghymru. Cafodd gymeradwyaeth Cam 4 y Senedd ym mis Mawrth.
Datgelu ymchwydd yn yr angen am dai
Mae angen llawer mwy o gartrefi newydd nag a dybiwyd yn flaenorol, yn ôl amcangyfrifon newydd o’r angen am dai a ryddhawyd fis Chwefror gan Lywodraeth Cymru.
Awgryma’r amcangyfrifon seiliedig ar 2025 bod angen 9,400 o unedau tai ychwanegol i ateb yr angen tai anniwall cyfredol gan deuluoedd digartref mewn llety dros-dro neu’n byw ar aelwydydd gorlawn a chêl.
Yn ogystal â hynny, y prif ragamcan ar gyfer angen newydd rhwng Gorffennaf 2025 a Mehefin 2030 yw 8,700 o unedau tai ychwanegol y flwyddyn.
Mae’r ffigur ar gyfer angen anniwall cyfredol yn gynnydd o 64 y cant ar amcangyfrifon blaenorol, yn seiliedig ar 2019. Mae hyn o ganlyniad i fwy o bobl yn mynd yn ddigartref ac yn byw mewn llety dros-dro, yn enwedig ers y agwedd ‘neb i’w adael allan’ tuag at ddigartrefedd a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig.
Mae’r amcangyfrif canolog o 8,700 y flwyddyn ar gyfer angen y pum mlynedd nesaf yn gynnydd o 38 y cant ar yr amcangyfrif yn seiliedig ar 2019 o 6,300 y flwyddyn rhwng 2019 a 2024.
Mae hyn yn adlewyrchu‘r twf uwch a ragwelir mewn aelwydydd mewn rhagamcanion aelwydydd a gyhoeddwyd ddiwedd Tachwedd. Gyrwyd y rhagamcan yn bennaf gan gynnydd mewn aelwydydd un-person, yn enwedig ymhlith pobl hŷn.
Mae’r amcangyfrifon yn awgrymu, dros y pum mlynedd nesaf, y bydd 65 y cant o’r angen newydd sy’n codi (5,700 o gartrefi ychwanegol y flwyddyn) am dai marchnad a 35 y cant am dai fforddiadwy (3,000). Amcangyfrifir bod yr holl angen anniwall presennol ag angen tai fforddiadwy.
Ombwdsmon yn lansio ymchwiliadau lleithder a llwydni
Bydd yr Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus yn bwrw ymlaen â dau ymchwiliad ei hun i sut mae landlordiaid cymdeithasol yn ymateb i gwynion am ddiffyg atgyweirio, â ffocws penodol ar leithder a llwydni sy’n effeithio ar denantiaid bregus.
Mae’r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd 2025. Cafwyd ymatebion gan denantiaid, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynghori ac eiriolaeth trydydd-sector.
Nodai gwaith achos ac ymchwil yr ombwdsmon oedi ac ymatebion anghyson i gwynion am ddiffyg atgyweirio, lleithder a llwydni, yn aml yn nhai tenantiaid bregus. Yn 2024/25, roedd a wnelo ychydig dros 19 y cant o gwynion newydd â thai cymdeithasol, yn enwedig am ddiffyg atgyweirio, lleithder a llwydni.
Dengys tystiolaeth yr ymgynghoriad y gallai hyn effeithio’n anghymesur ar denantiaid bregus, yn gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, teuluoedd â phlant, rhai ar incwm isel a phobl o gefndiroedd ethnig amrywiol. Disgrifiodd yr ymatebwyr y modd ddifrifol y gall diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni heb eu datrys effeithio ar iechyd, lles ac annibyniaeth, a chytunwyd y byddai bwrw ymlaen â’r ymchwiliadau hyn o fudd i’r cyhoedd.
Meddai Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: ‘Er bod y sector yn newid, yn cynnwys dyfodiad Safon Ansawdd ddiweddaraf Tai Cymru i rym yn Ebrill 2026, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod problemau’n parhau. Bydd yr ymchwiliadau arfaethedig yn nodi gwelliannau mewn dysgu a chefnogi, tryloywder, ac atebolrwydd.’
Pwyllgor yn ffarwelio â galwad i uno ar dai cymdeithasol
Dywedodd pwyllgor trawsbleidiol yn y Senedd fod Llywodraeth Cymru ar y ffordd i gyrraedd ei tharged o 20,000 o gartrefi cymdeithasol ond bod y system dai yn dal mewn argyfwng.
Croesawodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y cynnydd hyd yn hyn ond dywedodd y clywodd hefyd dystiolaeth o arafwch wrth weithredu argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy.
Mewn llythyr at yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant, tynnodd cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, sylw at gasgliad eang o faterion a godwyd mewn sesiynau tystiolaeth a chyflwyniadau ysgrifenedig yn dilyn ei ymchwiliad i gyflenwad tai cymdeithasol yn 2024.
Dywedodd fod tystion wedi tanlinellu’r angen am ‘arweinyddiaeth gryfach gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr argyfwng tai yn cael ei ddeall fel blaenoriaeth drawsdoriadol a rennir’.
Roedd angen ‘cyfathrebu clir a chyson‘ i wneud y cyflenwad tai cymdeithasol yn brif flaenoriaeth ar ar draws pob maes llywodraeth.
Ac ychwanegodd fod y pwyllgor yn credu y byddai ‘dod â’r hawl i dai digonol i mewn i gyfraith Cymru yn helpu i sefydlu hyn fel blaenoriaeth hanfodol ar draws Llywodraeth Cymru’.
Parthed nod yr 20,000, roedd yr holl dystion yn hyderus y cyrhaeddid hi erbyn diwedd 2026 ond roedd rhai’n cwestiynu a oedd y cynnydd mewn darpariaeth yn ganlyniad i ‘lefel anghynaliadwy’ o fewnbwn adnoddau.
Ategodd y pwyllgor ei argymhelliad – a dderbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru – o darged y dylai tai cymdeithasol gyfrif am 20 y cant o’r stoc tai.
Ac fe alwodd eto am argymhelliad a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru y dylai sefydlu Corfforaeth Ddatblygu Genedlaethol i roi ffocws i’r rhaglen tai cymdeithasol a fforddiadwy.
Lansio astudiaeth cydgyfeirio rhent
Comisiynodd yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant gwmni Savills i gynnal ymchwil i weld a fyddai polisi o gydgyfeirio rhent yn briodol i Gymru.
Mae’r penderfyniad yn dilyn y safon rhent a thâl gwasanaeth newydd ar gyfer 2026 i 2036 yn yr hydref ac eglurodd: ‘Mae rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at y posibilrwydd y gallai cydgyfeirio rhent gynhyrchu incwm ychwanegol, ac mae rhai hefyd wedi dadlau y gallai cydgyfeirio rhent arwain at fwy o degwch i denantiaid.’
Fodd bynnag, gwn fod cydgyfeirio rhenti yn gymhleth yn ei hanfod. Mae goblygiadau sylweddol ar gyfer fforddiadwyedd, trefniadau cyllido presennol, a’r rhyngweithio â systemau fel Lwfans Tai Lleol a chymorth llesiant. Gan hynny, rhaid i unrhyw ystyriaeth o gydgyfeirio rhenti ddechrau gyda fforddiadwyedd, nid twf.’
Bydd yr ymchwil yn archwilio’r manteision posibl, y risg, a goblygiadau ymarferol unrhyw ddull o fynd ati yn y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn deall y cymhlethdodau’n llawn cyn dod i unrhyw gasgliadau.
Meini prawf newydd ar gyfer cofrestru LCCiaid yng Nghymru
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru feini prawf ar gyfer cofrestru landlordiaid cymdeithasol newydd fis Mawrth mewn ymgais i sicrhau ‘proses ymgeisio dryloyw, deg a chyson’.
Nodir dau gam allweddol: yn gyntaf, rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd statudol; yna cânt eu hasesu yn erbyn meini prawf ehangach, yn cynnwys llywodraethiant, trefniadau rheoli, a hyfywedd ariannol. Gall ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen, a gwneir argymhelliad terfynol ar sail cyfanswm y dystiolaeth hon.
CYMRU
Mentrau ar y cyd ar gyfer Plasdŵr
Bydd gwaith ar gam diweddaraf Plasdŵr – Dinas Ardd nodedig Caerdydd – yn dechrau’r haf hwn o dan fenter ar y cyd rhwng Grŵp Edenstone a Grŵp Codi.
Derbyniodd y bartneriaeth ganiatâd materion neilltuedig fis Chwefror i adeiladu 184 o gartrefi ym Mhorth yr Awen ar Barsel 2C o Blasdŵr. Bydd y prosiect adfywio ehangach gwerth £2 biliwn yn darparu 7,000 o gartrefi ar draws safle 900-erw yng ngogledd-orllewin Caerdydd (gw. llun isod).
Bydd datblygiad £55 miliwn Edenstone a Codi yn helpu i ateb galw cryf am dai yn lleol, gan gefnogi cynlluniau twf hirdymor Caerdydd, trwy gynnig cartrefi mewn deiliadaethau cymysg. Mae’r cynllun a gymeradwywyd yn darparu 127 eiddo i’r farchnad agored a 57 o gartrefi fforddiadwy.
Wedi’i gynllunio fel cymdogaeth gyfoes, drefol, bydd Porth yr Awen yn cyfuno tai modern â mannau gwyrdd wedi’u hintegreiddio’n gelfydd a nodweddion tirlunio sy’n llunio amgylchedd cymunedol croesawgar.
Bydd blociau o fflatiau â ffenestri bae aml-lefel trawiadol, uchder-llawn y naill ochr a’r llall i’r fynedfa, yn edrych dros fannau gwyrdd tirluniedig a phyllau cronni yn creu ymdeimlad o gyrraedd.
Y tu hwnt i hyn, bydd gan y datblygiad gymysgedd o gartrefi deulawr a thri-llawr, yn cynnwys tai arddull-tref talcennog, pob un wedi’i gynllunio i adlewyrchu’r cymeriad pensaernïol a’r palet deunyddiau a bennwyd ar gyfer cymdogaeth ehangach Plasdŵr.
PRC yn cefnogi cwmni ynni
Cyhoeddodd cronfa arloesi Prifddinas Ranbarth Caerdydd fuddsoddiad yn Sero, y cwmni arloesi ynni o Gaerdydd.
Mae Sero yn helpu landlordiaid tai cymdeithasol a phartneriaid i ddarparu cartrefi ynni-effeithlon, sero-net ar raddfa, i ostwng biliau, gwella perfformiad ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae’r cwmni’n cyfuno arbenigedd ôl-ffitio ac ynni â thechnoleg berchnogol sy’n cwmpasu cefnogaeth strategaeth i wasanaethau rheoli ynni parhaus.
Mae’r cwmni’n gweithio gyda chynghorau a darparwyr tai cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau ynni ac ôl-ffitio mewn hyd at 2,500 o gartrefi, gyda phiblinell bellach o hyd at 10,000 o gartrefi dan gontract.
Mae’r buddsoddiad hwn, rhan o rownd ariannu ddiweddaraf Sero, yn rhan o ymrwymiad Partneriaeth Cyfalaf Buddsoddi Arloesi Gyfyngedig PRC i gefnogi mentrau graddadwy, wedi eu hysgogi gan genhadaeth sy’n ceisio atebion arloesol ag effaith amgylcheddol a chymdeithasol fesuradwy ar draws y rhanbarth.
Lansiwyd IIC ym mis Tachwedd 2022 gyda £50 miliwn cychwynnol o gyllid Llywodraeth y DU a Phrifddinas Ranbarth Caerdydd (PRC) i ddarparu cyfalaf hirdymor ar gyfer cyfleoedd twf arloesol a chynaliadwy ar draws deg awdurdod unedol PRC. Mae Capricorn Fund Managers (CFM) yn gwasanaethu fel Rheolwyr Cronfeydd Buddsoddi Amgen, gan oruchwylio rheoli portffolio a risg, gyda PwC yn cynghori ar ymchwil buddsoddi a ffynonellau, ar ran CFM.
Cynlluniau mawr ar gyfer safle rhielffordd segur
Caiff hen safle rheilffordd ym Mhen-y-bont ei drawsnewid yn 21 o gartrefi ynni-effeithlon ar rent cymdeithasol wrth i Cymoedd i’r Arfordir fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer Ffordd Tyddyn Coch, Mynydd Cynffig.
Bydd y datblygiad yn adfywio safle tir llwyd a ddefnyddid gan y rheilffordd yn hanesyddol, gan wneud defnydd cynhyrchiol o dir diddefnydd tra’n cefnogi anghenion tai lleol. Caiff y cynllun ei gyflawni gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a chwaraeodd ran allweddol wrth sicrhau cyllid trwy raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Mae’r safle mewn man da i gefnogi byw cynaliadwy, gyda chysylltiadau teithio llesol â’r Pîl, Gogledd Corneli a Mynydd Cynffig, yn ogystal ag ysgolion lleol, siopau a gorsaf reilffordd y Pîl.
Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r cynllun, gyda chartrefi’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern (MMC) fframiau pren, ochr yn ochr â phympiau gwres ffynhonnell aer a systemau ffotofoltäig solar i leihau allyriadau carbon a gostwng costau ynni preswylwyr.
Mae gwaith galluogi, yn cynnwys adeiladu ffyrdd, eisoes ar y gweill, gyda thîm Cymoedd i’r Arfordir a’r contractwr P&P Builders yn y llun, a disgwylir cwblhau‘r cartrefi cyntaf erbyn diwedd 2027.
Cartrefi newydd ar y gweill yn y Coed Duon
Mae United Welsh wedi dechrau gweithio ar brosiect i ddarparu 58 o fflatiau ynni-effeithlon newydd ar rent cymdeithasol yng nghanol y Coed Duon.
Bydd datblygiad Lower Plas Court, sydd wedi’i leoli ar dir yn agos at Farchnad y Coed Duon ac yn ymyl cyfnewidfa gorsaf fysiau’r dref, yn floc tri-llawr a bloc arall pum-llawr o fflatiau. Bydd ei leoliad canolog yn gosod preswylwyr o fewn cyrraedd hawdd i siopau, gwasanaethau a chludiant cyhoeddus, gan gadw pobl mewn cysylltiad â chanol y dref.
Mae’r datblygiad yn cael ei gyflawni gan United Welsh mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Bydd pob cartref wedi’i adeiladu i lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni, gyda strwythurau ffrâm bren y cartrefi yn dod o ffatri Celtic Off-Site yng Nghaerffili. Hwn bydd y bloc mwyaf o fflatiau a godwyd gan Celtic Offsite hyd yma.
CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW
1 Monitor Tai Cymru
Llywodraeth Cymru, Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Mawrth 2026
https://www.llyw.cymru/monitor-tai-cymru
2 UK Housing Review 2026
Y Sefydliad Tai Siartredig, Mawrth 2026
3 Tenure change: turning existing dwellings into social homes
Sefydliad Bevan, Mawrth 2026
www.bevanfoundation.org/resources/tenure-change/
4 Who should own the land? Housing, power and the deep politics of land value capture
UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Ebrill 2026
5 Build up, not trickle down: the case for need-led housing policy
Shelter, Chwefror 2026
6 More Homes Scotland: Debating a new housing agency
UK Collaborative Centre for Housing Evidence (CaCHE), Mawrth 2026
housingevidence.ac.uk/project/more-homes-scotland-debating-a-new-housing-agency/
7 Yes in our back yard: the case for community-led housing
Co-operative Party, Mawrth 2026
8 The benefits of youth? Young people, supported housing, affordability and employment
Commonweal Housing and Spring Housing Association, Mawrth 2026
9 The extent of furniture poverty 2026
End Furniture Poverty, Mawrth 2026
endfurniturepoverty.org/research-the-extent-of-furniture-poverty-2026/
10 Replacing empty spaces with productive, green places
London School of Economics, Mawrth 2026
sticerd.lse.ac.uk/CASE/_NEW/PUBLICATIONS/abstract/?index=12134