Debbie Thomas yn myfyrio ar y daith tuag at newid deddfwriaethol.
Cafodd y Bil Digartrefedd a Dyraniadau Tai Cymdeithasol drafft groeso cynnes gan Crisis ac elusennau digartrefedd eraill yng Nghymru pan y’i cyhoeddwyd yn gynharach yn yr haf. Mewn amgylchedd anodd, mae’r Bil yn cynnig pelydryn o obaith.
Dengys yr ystadegau diweddaraf y ceisiodd mwy na 13,600 o bobl yng Nghymru gymorth gyda digartrefedd rhwng Ebrill a Medi 2024. Bob dydd yn Crisis, gwelwn bobl sy’n brwydro yn erbyn yr holl rwystrau a thrawma sy’n dod gyda pheidio â bod â lle sefydlog i’w alw’n gartref.
Gwyddom hefyd bod gwasanaethau tai, cynghorau a gweithwyr rheng-flaen ledled Cymru o dan bwysau. Roedd y Monitor Digartrefedd diweddaraf ar gyfer Cymru yn glir bod gwasanaethau mewn sefyllfa o argyfwng cyson wrth iddynt frwydro yn erbyn baich achosion uchel.
Mae’r Bil drafft newydd yn gyfle i weithredu’n feiddgar i droi’r llanw ar ddigartrefedd. Drwy fynd ati i atal digartrefedd ynghynt yn y broses, cyflwyno dyletswyddau newydd ar sefydliadau sector cyhoeddus ehangach, a sicrhau ei bod yn haws i bobl gael mynediad at gymorth, mae posibilrwydd y gall y ddeddfwriaeth hon wneud gwahaniaeth enfawr.
Er y gall newid fod yn anodd, yn enwedig pan fo gwasanaethau wedi eu gorymestyn, os â drwodd wedi ei adnoddu’n briodol, bydd y Bil hwn yn garreg filltir yn nhaith Cymru tuag at wneud digartrefedd yn beth prin, byrhoedlog, nas ailadroddir.
BU’R FFORDD YN HIRFAITH
Bu’r ffordd tuag at y bil drafft hwn yn hirfaith. Gwnaeth Deddf Tai Cymru (2014) welliannau i gymorth digartrefedd yng Nghymru, ond dangosai cyfoeth o ymchwil – gan gynnwys Adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar Ddigartrefedd ac adolygiad 2020 o angen blaenoriaethol – fod y gyfraith bresennol yn parhau i wadu i lawer y cymorth sydd ei angen arnynt.
Dilynodd gwasanaethau ddull ‘neb i’w adael allan’ o fynd ati gyda digartrefedd yn ystod y pandemig, tra gwnaeth Llafur Cymru a Phlaid Cymru gyd-ymrwymiad i weithio tuag at ddiweddu digartrefedd ac adolygu’r ddeddfwriaeth digartrefedd o fewn eu cytundeb cydweithredu.
Ymrwymodd cynllun gweithredu dilynol Llywodraeth Cymru i ddiweddu digartrefedd i newid y diwylliant yn radical i sicrhau bod digartrefedd yn mynd yn beth prin, byrhoedlog, nas ailadroddir. Cydnabu fod llawer o ffactorau mewn dod â digartrefedd i ben – yn cynnwys mwy o gartrefi cymdeithasol – ond gan nodi’r angen am ddiwygio deddfwriaethol fel allwedd i greu fframwaith ar gyfer math newydd o gymorth digartrefedd.
Ac yn 2022, sefydlwyd panel Adolygu Arbenigol – a gynullwyd gan Crisis – i archwilio hynny. Roedd y panel yn cynnwys cynrychiolaeth o bob cwr o’r sector – o awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, y trydydd sector a’r byd academaidd – ac edrychodd yn fanwl ar sut y gallai newid deddfwriaethol helpu i ddiweddu digartrefedd yng Nghymru. Adolygodd ymchwil o Gymru ac o bedwar ban a chynnal rhaglen eang o ymgysylltu â rhanddeiliaid. Yn hollbwysig, gwrandawodd ar leisiau mwy na 300 o bobl â phrofiad byw o ddigartrefedd. Roedd y neges a dderbyniodd y panel yn glir – roedd mawr angen newid.
Gweithiodd y panel ar becyn o ddiwygiadau a argymhellai, gan ystyried a chydbwyso barn amryw o wahanol randdeiliaid. Wrth ei wraidd oedd yr angen i symud tuag at ffordd ataliol a hyddysg ynghylch trawma o ymdrin â digartrefedd.
Ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd, glasbrint ar gyfer newid deddfwriaethol a fras adlewyrchai’r pecyn o ddiwygiadau a amlinellwyd gan y panel.
Rhwng hynny a nawr, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad pellach ar y Papur Gwyn a rhoi ffurf bellach i’w chynigion ar gyfer deddf newydd.
Heb ddim amheuaeth, cymerodd amser i lunio’r ddeddf ddisgwyliedig, ond mae’n rhan annatod o’r daith i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
PAM MAE ANGEN Y NEWID CYFEIRIAD HWN ARNOM?
Mae newid deddfwriaethol yn allweddol o ran pennu cyfeiriad. Ac mae tystiolaeth llethol o blaid yr angen i newid cyfeiriad yn y ffordd yr ymdrinir â digartrefedd yng Nghymru.
Dengys Monitor Digartrefedd Cymru 2025 a gyhoeddwyd yn ddiweddar y cynyddodd digartrefedd yn fwy yma na mewn rhannau eraill o Brydain. Mae’n rhagweld, os na cheir newid, y bydd digartrefedd yn codi o 24 y cant arall erbyn 2041.
Ar wahân i’r gost ddynol anfesuradwy a’r trawma sy’n gysylltiedig â lefelau cynyddol o ddigartrefedd, rhydd hyn bwysau ar wasanaethau hefyd. Gwyddom eisoes bod gwasanaethau tai ledled y wlad yn brwydro â’u beichiau gwaith a bod biliau llety dros-dro o £99 miliwn yn rhoi pwysau cynyddol ar awdurdodau lleol. Bydd pris uchel am beidio â gweithredu.
Rhaid newid cyfeiriad i sicrhau y gallwn leihau lefelau digartrefedd ac atgyfnerthu ymrwymiadau’r cynllun gweithredu cenedlaethol i ailgartrefu’n gyflym, ac i ffordd trawma-hyddysg o fynd ati. Rhaid i ni ganolbwyntio ar atal digartrefedd ynghynt, sicrhau bod cymorth person-ganolog ar gael pan fydd ei angen ar bobl, a chreu cyfranogiad ehangach gan y sector cyhoeddus i ddod â digartrefedd i ben.
PAM MAE’R DDEDDFWRIAETH HON YN NODEDIG?
Y pwyslais hwn ar gefnogaeth person-ganolog ac ataliaeth ynghynt yn y broses sy’n gwneud y ddeddfwriaeth hon mor drawsnewidiol.
Wrth gwrs, does ‘na’r un Bil perffaith, ac mae elfennau o’r papur gwyn y carai Crisis fod wedi eu gweld yn y Bil drafft nad ydynt wedi goroesi (yn enwedig yr eithriadau estynedig i gysylltiad lleol â phobl).
Fodd bynnag, yn ddiamau mae’r Bil yn cynnwys newidiadau hynod drawsnewidiol ac arwyddocaol a all yrru Cymru ymlaen ar ein taith tuag at ddiweddu digartrefedd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cymorth i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn llawer cynt – cynghorau’n cynnig cymorth pan fydd rhywun mewn perygl o golli eu cartref o fewn chwe mis
- Dyletswyddau newydd ar wasanaethau cyhoeddus ehangach fel eu bod yn gweithio ynghyd i helpu pobl sy’n wynebu digartrefedd, oherwydd nid problem tai yn unig mo digartrefedd
- Diddymu’r deddfau cyfredol ar angen blaenoriaethol a bwriadoldeb sy’n gwadu cymorth hanfodol i bobl
- Cyflwyno pwerau newydd i helpu i sicrhau cartrefi cymdeithasol i’r rhai sydd â mwyaf o’i angen, yn cynnwys pobl ddigartref
- Cynnig cymorth parhaus lle gallai pobl sydd wedi bod yn ddigartref fod mewn perygl o golli eu cartref newydd fel arall
- Cyflwyno cynlluniau atal, cymorth a llety i helpu i ddod â thryloywder i bobl sy’n dioddef digartrefedd.
A’R DAITH O’N BLAENAU….
Ar hyn o bryd, dyw’r gyfraith ddrafft yn ddim mwy na hynny – drafft. Bydd y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, yn ogystal â’r Senedd ehangach, yn craffu’n fanwl ar y Bil yn awr. Wrth iddo fynd trwy’r broses graffu, efallai y caiff ei gaboli a’i addasu, neu hyd yn oed – a dwi’n mawr obeithio nad hynny – ei ollwng. Byddwn ni yn Crisis yn edrych yn fanwl ar eiriad y Bil ac yn galw ar y Senedd i fwrw ymlaen i rhoi sêl bendith i’r newidiadau trawsffurfiol ynddo.
Byddwn yn edrych yn fanwl ar y canllawiau cysylltiedig hollbwysig wrth i’r rheini gael eu datblygu. A byddwn yn ceisio mwy o fanylion am y broses drawsnewid. Rydym am wybod pryd y daw newidiadau allweddol, fel diddymu bwriadoldeb ac angen blaenoriaethol, i rym. Po gyntaf y daw’r newidiadau hyn, y cyntaf oll y gallwn ddileu’r rhwystrau hyn i gefnogaeth hanfodol.
Yn hollbwysig, byddwn hefyd yn galw am adnoddu, gweithredu ac adolygu’r Bil yn ddigonol.
O edrych yn ôl ar y cynllun cenedlaethol i ddiweddu digartrefedd, mae’n glir mai dim ond un rhan – er mor sylfaenol a hanfodol – yw newid deddfwriaethol o ran datrys pos digartrefedd. Er mwyn i’r ddeddf gyflawni ei holl bosibiladau, rhaid gwasgu’r sbardun ar greu cartrefi cymdeithasol. Rhaid buddsoddi mewn hyfforddiant ar weithredu’r ddeddfwriaeth yn effeithiol a buddsoddi yn y gweithlu.
Mae newid yn anodd, yn enwedig mewn amserau anodd, ond mae’r newidiadau yn y ddeddfwriaeth hon yn rhan hanfodol o’n symud y tu hwnt i amserau anodd. Os llwydda, bydd y ddeddfwriaeth hon yn helpu i lywio a sbarduno taith Cymru tuag at gyflawni breuddwyd – Cymru lle mae digartrefedd yn wir yn beth prin, byrhoedlog, nas ailadroddir.
Debbie Thomas yw pennaeth polisi a chyfathrebu Crisis.