DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU
Y DU
Reeves yn cadarnhau rhewi LTLl ac yn cynyddu CYGau
Cadarnhaodd y Canghellor Rachel Reeves gynlluniau i ail-rewi cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol (LTLl) yn ei Chyllideb fis Tachwedd.
Daeth hyn er gwaethaf data swyddogol yn dangos bod rhenti preifat wedi codi ar y gyfradd uchaf erioed yn y 12 mis blaenorol.
Mae cyfraddau LHA i fod wedi’i gyplysu â’r 30 y cant rhataf o renti lleol (neu 50 y cant tan 2011) ond mae’r Trysorlys wedi eu rhewi dro ar ôl tro i arbed arian. Adferwyd y cyfraddau i’r 30ain canradd ym mis Ebrill 2024 ond roedd rhewi o’r newydd yn rhan hanfodol o’r cynlluniau gwariant a etifeddwyd gan Lafur.
Cododd rhenti preifat o 9.1 y cant ar draws y DU yn y flwyddyn hyd at fis Tachwedd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, i fyny o 8.7 y cant yn y 12 mis hyd at fis Hydref.
Cynyddodd rhenti cyfartalog i £1,362 (9.3 y cant) yn Lloegr, £772 (8.0 y cant) yng Nghymru a £980 (6.5 y cant) yn yr Alban.
Gwrthododd y canghellor y galw am godi neu ddileu’r cap ar fudd-daliadau, dileu’r dreth llofft neu’r terfyn dau-blentyn.
Fodd bynnag, gallai ei phrif fesur i godi refeniw hefyd effeithio’n sylweddol ar dai. Addawyd cyllid ychwanegol i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag y cynnydd yng nghyfraniad yswiriant gwladol cyflogwyr ond, hyd yma, nid i wasanaethau mewn digartrefedd, gofal a chymorth tai sy’n cael eu comisiynu gan y sector cyhoeddus.
LLOEGR
Hwb deublyg y Gyllideb i landlordiaid cymdeithasol
Daeth Cyllideb San Steffan â rhywfaint o ryddhad i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol hyd yn oed os bydd yn rhaid i atebion hirdymor aros tan adolygiad gwariant y Gwanwyn.
Cyhoeddodd y Canghellor £500 miliwn ychwanegol i’r Rhaglen Tai Fforddiadwy ond dim ond yn rhannol y gwna hynny’n iawn am gostau cynyddol sy’n llyffetheirio codi cartrefi newydd.
I roi hynny yn ei gyd-destun, cynhwysai’r Gyllideb hefyd £3 biliwn mewn gwarantau ychwanegol i’r sector preifat, i adeiladwyr tai bychain a datblygwyr adeiladu-i-rentu.
Yn bwysicach efallai i gyllid landlordiaid cymdeithasol oedd ymgynghoriad ar setliad hirdymor newydd a allai weld rhenti cymdeithasol yn codi yn unol â chwyddiant CPI ac 1 y cant y flwyddyn am bum mlynedd neu o bosibl yn hwy.
Fodd bynnag, ymddangosai bod y llywodraeth wedi diystyru ailgyflwyno cydgyfeiriant rhent, y dywed landlordiaid y byddai’n datgloi buddsoddi pellach. A bydd landlordiaid yn cofio y rhoddwyd y gorau i setliadau ‘tymor-hir’ blaenorol pan newidiodd yr amgylchiadau.
Cafodd cynghorau rywfaint o ryddhad a addawyd ers tro gyda lleihad mewn gostyngiadau hawl-i-brynu, a hawl i gadw 100 y cant o dderbyniadau gwerthiant.
Fodd bynnag, ychydig iawn a wna £233 miliwn ychwanegol i fynd i’r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd i leddfu gostau llety dros-dro sydd wedi codi i’r entrychion a wedi gwthio rhai cynghorau i fin methdaliad. Ni weithredodd y canghellor ar y galw am godi cap ar gyllid llety dros-dro.
YR ALBAN
Y Llywodraeth yn adfer cyllid tai fforddiadwy
Mae Llywodraeth yr Alban wedi newid ei phenderfyniad i dorri bron £200 miliwn o’r Rhaglen Cyflenwi Tai Fforddiadwy.
Wrth gyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft ym mis Rhagfyr, dyrannodd y gweinidog cyllid Shona Robison £768 miliwn i’r rhaglen ar gyfer 2025/26, sef cynnydd o 38 y cant ar £556 miliwn eleni.
Mae hyn yn gwrthdroi toriad Llywodraeth yr SNP o dan y cyn-brif weinidog Humza Yousaf fis Chwefror 2024 ond nid yw ond 2 y cant yn uwch na’r gyllideb ar gyfer 2023/24.
Daeth y penderfyniad yn sgil hwb i raglen gyfalaf Llywodraeth yr Alban yn dilyn Cyllideb y DU ym mis Tachwedd.
Dengys ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr bod codi tai fforddiadwy ar ei lefel isaf ers 2013.
Meddai Shona Robison: ‘Rydym yn mynd i wneud mwy ar dai, gan fuddsoddi £768 miliwn mewn tai fforddiadwy. Golyga hynny y gall 8,000 eiddo newydd ar gyfer rhent cymdeithasol, rhent canolig a pherchentyaeth cost-isel gael eu hadeiladu neu eu caffael eleni, gyda gwariant yn ôl i lefel uwch nag ydoedd ddwy flynedd yn ôl.’
GOGLEDD IWERDDON
Tai cymdeithasol yn cael buddsoddiad ‘sylweddol’
Croesawodd y sector tai £100 miliwn ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol a gyhoeddwyd gan y gweinidog cyllid Dr Caoimhe Archibald yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26.
Bydd cyllid cyfalaf ar gyfer yr Adran Cymunedau yn cynyddu o £270 miliwn yn gyffredinol o dan gynlluniau sy’n destun ymgynghoriad a buddsoddir yn ychwanegol mewn seilwaith dŵr gwastraff i hybu’r cyflenwad tai cyffredinol.
Justin Cartwright, cyfarwyddydd Sefydliad Tai Siartredig (CIH) Gogledd Iwerddon: ‘Mae’r swm sylweddol hwn yn gosod sylfaen hanfodol ar gyfer darparu mwy o dai cymdeithasol newydd, gan ymateb i’r angen brys am gartrefi fforddiadwy ledled Gogledd Iwerddon. Tra bod heriau’n parhau, mae’r cyllid hwn yn gyfle gwerthfawr i adeiladu ar y cynnydd a wnaed eleni. Mae’r dyraniad uwch o’i gymharu â dyraniad cychwynnol 2024/25 yn dangos ymrwymiad i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.’
LLYWODRAETH CYMRU
Cyllideb ddrafft yn cynyddu’r cyllid ar gyfer tai
Ceid cyllid ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol newydd a chymorth tai yng Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26.
Ynghyd â hwb i iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth ac addysg, cyhoeddodd yr ysgrifennydd cyllid Mark Drakeford £81 miliwn yn fwy o arian cyfalaf i godi mwy o gartrefi ar rent cymdeithasol.
Cadarnhaodd dogfennau’r gyllideb yr âi’r arian i’r Grant Tai Cymdeithasol a’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol ‘a fydd yn darparu mwy o gartrefi ar rent cymdeithasol gan gefnogi ein gwaith i roi terfyn ar ddigartrefedd a sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le addas a diogel i’w alw’n gartref’.
Yn ychwanegol, clustnodwyd £26.25 miliwn pellach o gyfalaf trafodion ariannol i barhau i gefnogi benthyciadau i gymdeithasau tai a £5.5 miliwn pellach o gyllid cyfalaf yn y Rhaglen Byw’n Annibynnol sy’n cefnogi gwaith i addasu tai.
Gyda’r Grant Cymorth Tai, dywedodd Cymorth Cymru bod y cynnydd o £13 miliwn y llynedd yn llinell sylfaen, a bod cynnydd pellach o £21 miliwn ar gyfer 2025/26, fel y dylai’r GCT fod yn gyfanswm o £203 miliwn y flwyddyn nesaf.
Pwyllgor y Senedd yn galw am hwb mawr i dai cymdeithasol
Galwodd un o bwyllgorau dylanwadol y Senedd am fwy o fuddsoddi mewn tai cymdeithasol a chreu corfforaeth ddatblygu genedlaethol i gyflymu’r gwaith o adeiladu tai drwy brynu tir a chynllunio tai ledled Cymru.
Dywedodd adroddiad gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ym mis Tachwedd y byddai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn cael trafferth adeiladu’r nifer o gartrefi sydd eu hangen ac argymhellodd gorfforaeth ddatblygu newydd a allai eu helpu i weithio ar safleoedd llawer mwy.
Dangosai tystiolaeth i’r pwyllgor bod gwledydd fel Denmarc a Chanada yn defnyddio corfforaethau datblygu, gan ddweud y dylai Cymru anelu at ddysgu gan yr enghreifftiau llwyddiannus hyn.
Mae’r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r swm sy’n cael ei wario ar dai cymdeithasol i adeiladu 60,000 yn fwy o gartrefi, gyda’r nod yn y pen draw bod 20 y cant o stoc tai Cymru yn y categori hwn, i fyny o 16 y cant heddiw.
Dywedodd yr adroddiad hefyd y dylai Banc Datblygu Cymru, corff a gyllidir gan Lywodraeth Cymru i gyllido busnesau, ddod yn gyllidwr uniongyrchol datblygiadau tai cymdeithasol, gan gynnig telerau mwy ffafriol o bosib na’r rhai a gynigir i landlordiaid cymdeithasol yn gyfredol gan fuddsoddwyr preifat.
Clywodd y pwyllgor fod gan dai cymdeithasol restrau aros hir o bobl sydd ag angen gwahanol fathau o lety ac nad yw’r math o dai sydd ar gael yn aml o’r math sydd eu hangen.
Mae llawer yn gartrefi dwy- neu dair-llofft, sy’n blaenoriaethu teuluoedd, sy’n golygu bod pobl sydd ag angen eiddo un-llofft yn sownd ar restrau aros yn hwy.
Mae’r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i wneud yn siŵr bod digon o gartrefi un-llofft yn cael eu hadeiladu i leihau’r pwysau ar restrau aros.
Pryderai’r pwyllgor na fydd nod Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2026 yn cael ei gyflawni, a hyd yn oed os gwneir, na fydd yn ddigon i ateb y galw.
Gweinidog yn canmol ‘cam sylweddol ymlaen’ i dai fforddiadwy
Canmolodd yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant waith cyd-fenter newydd o landlordiaid cymdeithasol cyn ei lansiad swyddogol fis Ionawr.
Cynhyrchodd Tai ar y Cyd, cyd-fenter 23 o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, lyfr patrymau arloesol o ddyluniadau safonol y dywed y bydd yn helpu i wneud adeiladu cartrefi yn fwy cynaliadwy, ynni effeithlon a chost-effeithiol.
Mae’r llyfr patrymau’n cynnwys cynlluniau ar gyfer 15 math o dai a 18 o amrywiadau, o fflatiau un-llofft a thai pedair-llofft i fyngalos a fflatiau sy’n gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.
Dywedir bod manteision y llyfr patrymau newydd yn cynnwys cartrefi o ansawdd uwch, adfywio economaidd, adeiladu cyflymach, ddeunyddiau carbon-isel, sicrwydd cost, llai o wastraff, a llai o darfu ar gymunedau.
Lansiwyd y llyfr a’r canllaw dylunio yn swyddogol mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, campws Abertawe.
Dywedodd Jayne Bryant: ‘Dwi wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi chwarae ei rhan i gefnogi’r cywaith hwn, gyda chyfraniad o £300,000 ochr yn ochr â’r £580,000 a gyfrannwyd gan aelodau’r consortiwm.
‘Dwi’n edrych ymlaen at weld effaith y llyfr patrymau dros y blynyddoedd nesaf o ran cefnogi ein huchelgais o gynyddu nifer y tai fforddiadwy.’
Estyn Cymorth i Brynu Cymru
Estynnir Cymorth i Brynu Cymru am 18 mis arall tan fis Medi 2026, meddai’r ysgrifennydd tai Jayne Bryant mewn datganiad cyn y Nadolig.
Roedd y cynllun, sydd wedi rhoi benthyciadau ecwiti i 14,000 o deuluoedd i brynu cartref newydd er ei lansio fis Ionawr 2014, i fod i ddod i ben yn Ebrill 2025. Caeodd cronfa gyfatebol Lloegr fis Mawrth 2023.
Dywedodd y gweinidog: ‘Wrth gyhoeddi’r estyniad heddiw, rwyf am roi sicrwydd i rai sy’n gobeithio prynu cartref fod y cynllun yn parhau. Dwi hefyd am roi sicrwydd i’r 50 o ddatblygwyr a busnesau SME sydd wedi cofrestru gyda’r cynllun.’
Ymgynghoriadau
Mae ymgynghoriadau agored sydd o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:
Ffioedd yswiriant a ganiateir ar gyfer landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo – ymatebion erbyn 24 Chwefror
CYMRU
Cymdeithasau’n cwblhau’r cyfuno
Cyfunodd RHA Cymru a Grŵp Tai Coastal i fynd yn Grŵp Beacon Cymru ar Ionawr 2.
Dywedodd y pâr eu bod yn creu sefydliad â 10,000 o gartrefi ar gyfer y dyfodol a fyddai’n codi’r safon yn gyson i ddarparu gwasanaethau a chartrefi gwell i breswylwyr.
‘Rydym yn canolbwyntio ar dwf a buddsoddi mewn cartrefi a gwasanaethau presennol i greu sefydliad mwy gwydn â chyrhaeddiad daearyddol ehangach,’ meddent.
Cafodd penodiadau allweddol ar gyfer y grŵp newydd eu datgelu y llynedd, gyda Debbie Green yn brif weithredydd y grŵp, Luke Takeuchi yn ddirprwy brif weithredydd, Pete Hughes yn gadeirydd a Patrick Hoare yn is-gadeirydd.
A’r buddugwyr yw …
Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Tai Cymru 2024 mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr.
Mae’r gwobrau, a drefnir gan Sefydliad Tai Siartredig (CIH), yn cydnabod creadigrwydd, angerdd ac arloesedd sefydliadau tai ac unigolion ar draws y sector. Derbyniodd gwobrau eleni fwy na 54 o enwebiadau mewn 17 categori, yn cynnwys tîm tai y flwyddyn, rhagoriaeth mewn arloesedd tai, a chynaliadwyedd mewn tai.
Cynhwysir pob ymgais ar restr fer Gwobrau Tai Cymru yn y 2024 Good Practice Compendium, dogfen ddysgu graidd yn llawn ysbrydolaieth, syniadau ac arloesedd i helpu pawb ar draws y sector i greu dyfodol lle bydd gan bawb le i’w alw’n gartref.
Yr enillwyr a gyhoeddwyd yn y seremoni dan nawdd Aico, oedd:
TÎM TAI Y FLWYDDYN –
noddwyd gan Tai Sir Fynwy
Tîm ymateb i ddigwyddadau difrifol – Tai Taf
CYFLAWNYDD IFANC YN Y MAES TAI –
noddwyd gan Tai Tarian
Jazmin Pugh – Barcud Cyf
YMGYRCH Y FLWYDDYN
Paul Price a Laura Morris – Gwasasnaethau Eiddo Llanw
RHAGORIAETH MEWN CRAFFU AR DENANTIAID
Craffu yn y ffordd hyblyg – Hafod
RHAGORIAETH MEWN GWASANAETHU CWSMERIAID –
noddwyd gan Llanw
Cynhwysedd cyllidol – Tai Sir Fynwy
RHAGORIAETH MEWN IECHYD A LLESIANT
MAGPIE – Trivallis
RHAGORIAETH MEWN ARLOESEDD TAI
Achrediad DAHA ar gyfer achostion o drais domestig – Trivallis
GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH –
noddwyd gan Lovell
Cydweithio arloesol – Partneriaeth gyntaf o’i bath i fynd ati i ddatgarboneiddio cartrefi – Adra mewn partneriaeth â Busnes@LlandrilloMenai, Prifysgol Bangor
RHAGORIAETH MEWN ATAL DIGARTREFEDD –
noddwyd gan Pobl
Tai Ffres – United Welsh mewn partneriaeth gyda Llamau
RHAGORIAETH MEWN HYBU CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH –
noddwyd gan Tai Wales and West
Grwp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysedd – Cartrefi Melin
CYNALIADWYEDD MEWN TAI –
noddwyd gan Blake Morgan
Arwain y ffordd at ddyfodol gwrddach – Adra
CEFNOGI CYMUNEDAU –
noddwyd gan Cartrefi Dinas Casnewydd
Fit and fed – Cymdeithas Tai Merthyr Tudful
DATBLYGU TAI O ANSAWDD UCHEL
Llysfaen – Cymdeithas Tai Merthyr Tudful mewn partneriaeth â Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
CONTRACTWR Â FFOCWS AR Y GYMUNED
#buildSHED @ Big Shed – Willis Construction Cyf gyda RHA Cymru
CREU LLEFYDD POSITIF
Gerddi a Rhandiroedd Undod Pill – Cartrefi Dinas Casnewydd
CEFNOGI BYW’N ANNIBYNNOL
Tai Ffres – United Welsh mewn partneriaeth gyda Llamau
RHAGORIAETH MEWN PROFFESIYNOLDEB, DYSGU A DATBLYGU
Bron Ambition – Rhaglen Darpar-reolwyr – Tai Cymunedol Bron Afon
Cartrefi i bobl ifanc mewn adeilad hanesyddol yn y Bae
Trawsnewidiwyd deilad rhestredig Gradd II yng nghalon Bae Caerdydd yn fflatiau i ddarparu cartrefi y mae mawr angen amdanynt i bobl ifanc.
Addaswyd St Line House, yn sgwâr hanesyddol Mount Stuart, yn 17 o fflatiau gyda gofod swyddfa. Mae’r fflatiau’n cael eu gosod gan Tai Ffres, gwasanaeth tai ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed a ddarperir gan United Welsh a Llamau.
Gweithiodd United Welsh gyda Savills a Hugh James i gaffael yr adeilad, y credir ei fod yn dyddio’n ôl i 1900. Adnewyddwyd St Line House yn ddiweddarach gan Willow Property Group i greu pum fflat dwy-lofft, naw fflat un-llofft a thair fflat stiwdio.
Mae cost rhentu fflat yn St Line House gyda’r isaf yng Nghaerdydd.
Dywedodd Amanda Oliver, rheolydd prosiectau Tai Ffres: ‘Mae Tai Ffres yn ceisio symud y tu hwnt i ffocws cul o roi dim ond to uwch eu pen i bobl ifanc, i ddarparu ffordd fwy cyflawn o fynd ati gyda thai a chymorth gyda chyllid, datblygu sgiliau a chysylltiadau cymunedol ,os mynn preswylwyr.’
Mae Tai Ffres yn costio llai i bwrs y wlad na llety digartrefedd dros-dro. Mae’r gwasanaeth yn elwa ar fenthyciadau cyfalaf llog-isel gan Lywodraeth Cymru, sy’n helpu i gadw costau’r gwasanaeth yn isel, tra bod mwy o gartrefi i bobl ifanc yn cael eu caffael i’w hailddatblygu.
Sefydlwyd Tai Ffres gyda chymorth ariannol gan Gronfa Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, ac mae’n parhau i dderbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru, clymblaid Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru a Chyngor Caerdydd.
Mae Trivallis wedi cwblhau gwaith i drawsnewid hen Ysgol Meisgyn yn 11 o gartrefi fforddiadwy i’r gymuned.
Gweithiodd y gymdeithas tai, o Rhondda Cynon Taf, mewn partneriaeth â Cartrefi Cyf i wneud y gwaith ailddatblygu a dechreuodd yr adeilad hanesyddol groesawu tenantiaid cyn y Nadolig. Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl diolch i Grant Tai Cymdeithasol, a gefnogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru.
Prynodd Trivallis yr adeilad ym mis Tachwedd 2019 a dylunio’r ailddatblygiad yn ofalus i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel tra’n diogelu cymeriad unigryw’r adeilad.
Mae’r ailddatblygiad hwn yn dilyn gwaith llwyddiannus Trivallis yn Llantrisant, lle trowyd ysgol ddadfeiliedig yn 18 o gartrefi newydd.
CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW
Housing in Wales: Evidence for Welsh Government 2021-26
UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Ionawr 2025
housingevidence.ac.uk/publications/housing-in-wales-evidence-for-welsh-government-2021-26/
Byw mewn Cyflyrau Difrifol – adroddiad thematig am gwynion tai i OGCC yn ymwneud â diffyg atgyweirio a lleithder a llwydni
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Tachwedd 2024
Restarting housebuilding III: New towns and land value
Centre for Cities, Rhagfyr 2024
www.centreforcities.org/publication/restarting-housebuilding-iii-new-towns-and-land-value-capture
Building Hope: How land reforms will help deliver the homes we need
New Economics Foundation, Tachwedd 2024
neweconomics.org/2024/11/building-hope
Our Future Homes: Housing that promotes wellbeing and community for an ageing population
Older People’s Housing Taskforce, Tachwedd 2024
Hotel of Mum and Dad: Co-residence with parents among those aged 25-34
Institute for Fiscal Studies, Ionawr 2025
ifs.org.uk/publications/hotel-mum-and-dad-co-residence-parents-among-those-aged-25-34
The cost of building a house: How has the thing we need most become unaffordable
The Housing Forum, Hydref 2024
housingforum.org.uk/reports/key-publications/the-cost-of-building-a-house/
‘They want you to win’: Social housing providers’ role in employment and business support
UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Tachwedd 2024
Whose price is it anyway? Comparing the spending power of low-to-middle income families in Britain and Abroad
Resolution Foundation, Ionawr 2025
www.resolutionfoundation.org/publications/whose-price-is-it-anyway/
Older people’s housing preferences
Housing LIN, Rhagfyr 2024
www.housinglin.org.uk/Topics/type/Older-Peoples-Housing-Preferences/ok