English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Ysgytwadau i’r system

Mae’r her i gadwyni cyflenwi yn tanseilio gobeithion am gartrefi newydd a gwelliannau i’r stoc presennol, meddai Matt Kennedy, ond mae yna ffyrdd o fynd i’r afael â hynny.

Mae’n siŵr y gwelodd  pob un ohonom y delweddau go iawn a ddangosai pa mor fregus y gall cadwyni cyflenwi byd-eang fod. Y prinder gyrwyr lorïau, yr argyfwng tanwydd o ganlyniad i hynny, llong yn rhwystro camlas Suez – dangosent oll sut y gall unrhyw gyfyngu ar gyflenwad a galwadau annisgwyl effeithio’n ddybryd ar amrywiaeth eang o ddiwydiannau.

Go brin y gallai’r sector tai osgoi’r pwysau hwnnw. Trwy ein project Tyfu Tai Cymru, gwnaethom arolwg manwl o awdurdodau lleol a chymdeithasau tai a ddatgelodd hyd a lled y problemau a wynebwyd a’u heffaith ar adeiladu cartrefi newydd, cynnal a chadw beunyddiol, diogelwch tân a gweithgarwch ôl-osod.

Effeithiwyd yn ddwys ar y gwaith o adeiladu cartrefi newydd, gyda 90 y cant yn nodi problemau cymedrol neu sylweddol gyda’u cadwyni cyflenwi.

Wedi 30 mlynedd a mwy o ymwneud â hyn, welais i erioed ddim i beri cymaint o bryder ag effaith y sefyllfa gyfredol ar gadwyn gyflenwi sydd eisoes yn gyfyng ac o dan bwysau’ – ymatebydd i’r arolwg

Er bod y cyfyngiadau ar gadwyni cyflenwi yn rhedeg ar draws pob maes gweithgaredd a archwiliwyd gennym, roedd rhai amrywiadau dadlennol. O safbwynt cynnal a chadw beunyddiol, cyfyngiadau ariannol a hygyrchedd arbenigedd allanol oedd y problemau mwyaf o bell ffordd, tra nad oedd dim pryder ynghylch cynhyrchion newydd neu arbenigedd mewnol.

Ond, yng nghyd-destun diogelwch tân, mynegai sefydliadau bryder dealladwy ynghylch cynhyrchion newydd neu anghyfarwydd, gyda mynediad i arbenigedd mewnol ac (yn enwedig) allanol yn broblem enfawr. Anawsterau gyda chaffael oedd y broblem fwyaf yn y maes hwn o’i gymharu ag unrhyw un arall.

Pan edrychwyd ar waith ôl-osod, roedd pryderon tenantiaid yn broblem flaenllaw ochr yn ochr â chyfyngiadau ariannol a diffyg arbenigedd allanol. Gwnaed hyn hyd yn oed yn waeth gan ddiffyg gwybodaeth am gynhyrchion, ac anawsterau caffael.

O edrych yn fanylach ar y deunyddiau crai a chydrannau sy’n brin iawn, neu’n anodd eu cael yn y niferoedd angenrheidiol – pren sydd ar frig y rhestr, ymhell uwchlaw unrhyw beth arall. Ysywaeth, effeithiwyd i ryw raddau hefyd ar eitemau y byddai eu hangen ar gyfer unrhyw (a phob) rhan o’r broses o adeiladu a chynnal a chadw unrhyw gartref.

Mae costau cyffredinol wedi cynyddu o 10 i 20 y cant, gan wneud cynlluniau a fuasai’n ymarferol yn anymarferol bellach’ – ymatebydd i’r arolwg.

Effaith ymarferol hyn oll? Yn amlwg, gwelwyd cynnydd cyffredinol mewn costau, ac mae cyfnodau o oedi yn nodwedd gyson hefyd. Er na ddywedodd y rhan fwyaf o ymatebwyr yr effeithiwyd ar ansawdd, roedd bron 20 y cant yn teimlo y bu rhywfaint o effaith yn y maes hwn.

Gan wybod nad yw’r pwysau hwn yn mynd i ysgafnhau dros nos, mae sefydliadau wrthi’n gweithredu. Gwella sgiliau staff presennol (er lleihau dibyniaeth ar arbenigedd allanol), cynyddu gofod storio, archwilio gwneud defnydd o ddeunyddiau amgen, gohirio rhai cynlluniau mawr a chynyddu cyfnodau arweiniol (er mwyn caniatáu ar gyfer oedi) oedd rhai o’r camau a gymerwyd.

Gan adeiladu ar sail ymdrechion yr holl sector, credwn y gall Llywodraeth Cymru gymryd mesurau ychwanegol i liniaru problemau gyda’r cadwyni cyflenwi. Dylai hyn gynnwys adolygu’n rheolaidd sut y mae cyllid grant yn cydnabod chwyddiant costau, ymgysylltu’n rheolaidd â’r sector ar broblemau  cyflenwi, a chasglu data ehangach i helpu i ragweld y mathau hyn o bwysau a chefnogi contractwyr llai, yn enwedig, â chymorth cyllidol (llif-arian).

Ond nid problemau i’r llywodraeth eu lliniaru yw pob un o’r rhain. Mae’n hanfodol bod y sector yn rhannu’r hyn a ddysgwyd trwy’r gweithgaredd rhagweithiol, yn gweld sut y gall partneriaethau helpu i gryfhau trefniadau caffael, ac efallai’n bwysicaf oll – ymgysylltu â thenantiaid yn gynnar yn y broses i drafod yn agored yr effaith ar wasanaethau a defnyddio’u harbenigedd i reoli sut mae mynd ati.

Dengys yr enghreifftiau yn ein hymchwil nad mater syml o gael nwydd neu ddeunydd o A i B mewn modd amserol yw hyn. Mae’n frith o heriau o ran cael y cynnyrch(cynhyrchion) cywir, meddu ar yr arbenigedd i ddeall yr hyn sydd ei angen a’r adnoddau ariannol i fynd i’r afael â heriau ar draws gwahanol weithgareddau.

Mae’r problemau cadwyn-gyflenwi hyn yn rhwystr i’r uchelgais a rannwn ni, fel STS Cymru, a’r sector ehangach gyda Llywodraeth Cymru – adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel, gwneud cartrefi mor ddiogel â phosib, a gwella ansawdd cartrefi presennol ar garlam. O ystyried y targed tai cymdeithasol yn unig, byddai’n rhaid wrth flynyddoedd olynol o lwyddiant digynsail wrth ddatblygu tai cymdeithasol yng Nghymru i’w gyrraedd. Er nad yw’n anghyraeddadwy o bell ffordd, mae canlyniadau ein hymchwil yn angori’r uchelgais hwnnw, lle mae costau uwch ac oedi yn llesteirio’r broses.

Mae’r ‘ysgytwadau’ diweddar hyn i gadwyni cyflenwi yn gyfle i seibio a meddwl. Mae’n bryd edrych o ddifrif ar sut mae’r sector yn cydweithio’n effeithiol i oresgyn y rhwystrau; sut y gellir elwa ar fuddsoddi cyhoeddus a phreifat i greu ffynonellau cyflenwi mwy cynaliadwy, yn unol â chreu cadwyni cyflenwi gwyrddach; a sut mae’r cadwyni cyflenwi hyn sy’n gwasanaethu’r sector yn bwrw gwreiddiau dyfnach yng Nghymru fel y caiff gwerth gwariant y sector ei wireddu ar ffurf ffyniant busnesau a chymunedau lleol.

Matt Kennedy yw rheolwr polisi a materion cyhoeddus STS Cymru


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »