English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol

Gwerthoedd cymunedol

Cymuned yw thema’r rhifyn hwn o WHQ ac mae’n adlewyrchu’r cysylltiadau rhwng cartrefi a chymunedau ar eu hystyr ehangaf.

Yn ein prif erthygl, mae Tom Archer yn olrhain penllanw a threio ysbeidiol y mudiad tai o dan arweiniad cymunedol ledled y DU. Mae twf ymddiriedolaethau tir cymunedol yn Lloegr, pwerau newydd i gymunedau allu prynu ystadau yn yr Alban, a ffocws ar fentrau tai cydweithredol a mathau eraill o dai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru yn rhan o adfywiad yn y sector ond mae rhwystrau sylweddol yn bodoli o hyd.

Eleni yw 250 mlwyddiant geni Robert Owen, Y Drenewydd. Mae Chris Coates yn adrodd stori hynod ddiddorol projectau tai a oedd yn ysbrydoledig ond yn aml yn fethiant yn y pen draw, gan ddadlau bod y diwydiannwr a’r diwygiwr cymdeithasol mawr wedi gadael etifeddiaeth enigmatig. Yn y cyfamser mae Allan Shepherd yn dadlau dros bwysigrwydd arloesi trwy gyfranogiad o’r gwaelod i fyny yn hytrach na thrwy nawddogaeth oddi uchod.

Ledled Cymru, mae cymunedau’n dod ynghyd i fynd i’r afael â phroblem tai anfforddiadwy yn eu hardal. Mae Adam Land yn amlinellu gobeithion a nodau prosiect ar Benrhyn Gŵyr.

Rydym hefyd yn archwilio ochr arall y cysylltiad â chartrefi wrth i Shan Lloyd Williams ymdrin â bygythiad ail gartrefi i’r Gymraeg, diwylliant a chymunedau yng ngogledd Cymru. Mae’n gofyn beth a all llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a chymdeithasau tai ei wneud i ddatrys y broblem.

Mae tai hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol â chymunedau trwy gyfrwng yr economi sylfaenol. Amlinella Alix Howells sut y mae Trivallis yn datblygu’r agwedd hon ar draws ei fusnes, tra bod Keith Edwards yn dadlau bod hyn yn cynnig cyfle i sefydliadau tai chwarae rhan flaenllaw yn yr adferiad.

Mae a wnelo ‘creu lle’ â chynnwys adeiladu cymuned fel rhan o waith datblygu ac adfywio a chlywn am enghreifftiau ysbrydoledig gan Carole-Anne Davies o Gomisiwn Dylunio Cymru.

Rydym hefyd yn ymdrin â diogelwch tân, wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cam cyntaf Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yng nghanol ansicrwydd parhaus parthed canlyniadau’r cyhoeddiad cyllid a wnaed fisoedd yn ôl yn Lloegr.

Mae ein herthygl ddiweddaraf ar brojectau sy’n deillio o’r Rhaglen Tai Arloesol yn edrych ar gynlluniau ar gyfer adeilad natur-garol (biophilic) cyntaf y DU yn Abertawe.

Gydag erthyglau eraill ar fuddsoddi ESG (blaenoriaethu’r amgylchedd, cymdeithas a llywodraethiant), cartrefi gwag, a chyrraedd sero net, gobeithio y bydd llawer i’ch diddori yn y rhifyn digidol-yn-unig cyntaf hwn o WHQ. Ar gael ar-lein ac mewn dau fformat digidol gwahanol, byddwn yn parhau i gynnig y gorau i chi ynghylch tai ac adfywio yng Nghymru.

Jules Birch, Golygydd  

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »