Nid yw lleihau cysgu allan yn y tymor byr yn ddigon, medd Jon Sparkes. Rhaid canolbwyntio yn awr ar ddarparu cartrefi a helpu pobl i aros yn y cartrefi hynny.
Dros y misoedd diwethaf mae gwaith rhyfeddol yn ystod y cloi mawr wedi symud mwy na 2,200 o bobl yng Nghymru a oedd yn cysgu ar ein strydoedd neu mewn llety â chyfleusterau a rennir o risg uniongyrchol i mewn i lety brys diogel. I raddau helaeth roedd hyn diolch i lu o staff a gwirfoddolwyr gwasanaethau rheng-flaen yn gweithio oriau maith mewn sefyllfaoedd dwys, gan wneud eu gorau glas i gadw pobl oedd yn cysgu allan a rhai mewn llety dros-dro annigonol yn ddiogel.
Clywsom hefyd gymaint o enghreifftiau da o rwydweithiau a phartneriaethau yn dod ynghyd. Gwnaeth arweinyddiaeth bendant a rhagweithiol Llywodraeth Cymru, a bennodd nodau clir gyda chyllid ynghlwm wrth hynny, argraff arnaf hefyd,. Wrth gwrs, bydd cyfle i adolygu sut yr aeth pethau ond rydym yn sicr mewn lle gwell nag o’r blaen gyda miloedd o bobl wedi eu symud oddi ar y stryd neu o lety annigonol.
Ni allwn fynd yn ôl at y Gymru oedd ohoni cyn y pandemig. Gyda thonnau Coronafirws pellach yn bosibl, a’r effaith economaidd yn dal heb ei theimlo’n llawn eto, gallai mwy o bobl fynd yn ddigartref a chael eu gwthio i ymyl y dibyn gan y pwysau cynyddol yn eu bywydau. Byddai’r gost ddynol yn ddinistriol pe bai hyn yn cael digwydd. Dyna pam mae angen i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid weithio gyda’i gilydd eto i gytuno ar y camau sydd eu hangen i atal y dirwasgiad rhag arwain at gynnydd mewn digartrefedd.
Siaradodd y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd y bûm yn ei gadeirio â channoedd o bobl mewn swyddi rheng-flaen a phobl â phrofiad byw o ddigartrefedd yn y misoedd yn arwain at y pandemig, ac roedd consensws cadarn o blaid newid. Ar ôl goroesi’r ymateb cychwynnol i’r pandemig, rhaid i ni beidio â siomi staff a gwirfoddolwyr gwasanaethau digartrefedd neu bobl sy’n ei ddioddef. Bydd creu newid yn mynnu arweinyddiaeth gan y llywodraeth ac, yn hanfodol, cynllun y gallwn oll ei gyflawni gyda’n gilydd. Dylai cynllun felly fanteisio hefyd ar waith y Grŵp Gweithredu, a fu’n ystyried pob agwedd ar ddiweddu digartrefedd yng Nghymru.
Mae cytundeb gwleidyddol trawsbleidiol ynghylch yr hyn ddylai ddigwydd nesaf. Ymrwymodd y gweinidog tai a llywodraeth leol, Julie James, i lunio cynllun i gyflawni argymhellion y Grŵp Gweithredu. Mae Plaid Cymru wedi mabwysiadu ymrwymiad maniffesto i gael cynllun i roi terfyn ar ddigartrefedd. Ac mae gan Geidwadwyr Cymru gynllun deg-pwynt i fynd i’r afael â digartrefedd, yn seiliedig ar dai fel hawl ddynol sylfaenol. Gyda’r fath gonsensws ac arweinyddiaeth wleidyddol, dyma gyfle gwirioneddol i fynd i’r afael â digartrefedd a rhoi terfyn arno unwaith ac am byth.
Pan wahoddodd y gweinidog fi i gadeirio’r Grŵp Gweithredu dangosodd y cwestiynau a ofynnodd bod ganddi uchelgais, ac arddangosai’r amserlen waith y brys angenrheidiol. Gyda’r dystiolaeth a gasglwyd gan y Grŵp Gweithredu – o ymchwil, profiadau pobl sy’n gweithio ac yn byw yn wyneb digartrefedd, ac ar ba bolisïau sy’n gweithio – dyma weledigaeth y gallwn weithio i’w chyflawni.
Dangosodd adroddiad mis Mawrth 2020 y Grŵp Gweithredu sut y gellid gwneud digartrefedd yn ei aml ffurfiau yn beth prin, byr, nad yw’n ail-ddigwydd os cymerwn y camau cywir ar y cyd. Mae gwneud digartrefedd yn beth prin yn golygu ei atal, os oes bosib. Mae byrhau digartrefedd a sicrhau nad yw’n digwydd eto yn golygu ymateb yn gyflym pan na ellir ei atal, a’i ddwyn i ben fel mai dim ond profiad unwaith-ac-am-byth ydyw. Nid yw digartrefedd yn anochel; gwyddom beth sydd angen ei wneud i’w atal, a gwyddom beth sydd angen ei wneud i roi terfyn arno.
Y perygl yw y gallai argyfwng iechyd cyhoeddus droi’n un economaidd, a deimlir yn eang ond â’r rhai mwyaf diamddiffyn yn wynebu’r pwysau mwyaf a’r risg o golli eu cartref. Cyfeiriodd Llywodraeth Cymru help penodol at rai grwpiau, fel rhentwyr sy’n wynebu cael eu troi allan. Dengys argymhellion y Grŵp Gweithredu sut y gall Llywodraeth Cymru fynd ymhellach i wneud digartrefedd yn beth mwy prin, i roi cymorth pellach i unrhyw un sydd mewn perygl, a chreu rhwyd ddiogelwch argyfwng.
Mae angen gweithredu ar unwaith fel bod gan bobl rywle diogel i aros dros-dro. Ond yr unig ffordd i fyrhau cyfnodau o ddigartrefedd a sicrhau nad yw’n digwydd eto yw darparu digon o gartrefi parhaol a chefnogaeth ddigonol i helpu pobl i gadw eu cartref. Mae gwaith cyfnod 2 Llywodraeth Cymru yn sôn am yr angen i newid y modd rydym yn cefnogi pobl sy’n digartref nawr. Dylid cychwyn ar y newid ffurfiol hwn a lleihau ein dibyniaeth ar lety dros-dro ac argyfwng yn sylweddol. Ni ellir gwneud hyn dros nos, ond rhaid iddo fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Rhaid peidio â chael ein tynnu i mewn i atebion sydd ond yn lleihau cysgu allan yn y tymor byr; rhaid canolbwyntio ar ddarparu cartrefi a helpu pobl i aros yn y cartrefi hynny.
Gwnaeth y Grŵp Gweithredu argymhellion hefyd ar bartneriaethau a phwysigrwydd cynnwys pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau blaen a phobl sydd wedi bod yn ddigartref. Gwelais hefyd â’m llygaid fy hun yn fy ngwaith yn yr Alban a Lloegr, yn ogystal ag yng Nghymru, pa mor bwysig yw hi i lywodraeth genedlaethol a lleol gyd-berchenogi’r cynllun i ddod â digartrefedd i ben. Gyda mân addasiadau i bartneriaethau presennol, gallwn sicrhau bod pob partner yn cefnogi ac yn herio’i gilydd wrth i ni gyflawni cynllun gweithredu’r llywodraeth, fel y gwelwn Gymru lle mae angen dynol sylfaenol pawb am gartref wedi ei ddiwallu unwaith ac am byth.
Jon Sparkes yw prif weithredydd Crisis