English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Rhan hanfodol i’w chwarae

Gall tai fod yn hanfodol o ran sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i dyfu’n hen, medd Heléna Herklots.

Yn y blynyddoedd diwethaf, gwelsom gydnabyddiaeth gynyddol o’r rhan hollbwysig mae tai – ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a rhai allweddol eraill – yn ei chwarae yn iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl. Mae bod â’r cartref iawn o bwys i bob un ohonom, ond gall fod yn neilltuol o bwysig o safbwynt ansawdd bywyd diweddarach, yn enwedig gan fod pobl hŷn yn treulio mwy o amser yn y cartref a’r cyffiniau agos nag unrhyw grŵp oedran arall.

Yn yr ymgyrch etholiadol ddiweddar, fodd bynnag, roedd y ffocws ar dai yn gul iawn, yn aml yn gyfyngedig i’r nifer o dai y byddai’r naill blaid neu’r llall yn eu hadeiladu pe caent eu hethol. Er bod hynny yn anorfod, i raddau, yn wyneb y pwyslais ar ffigurau  penawd a phytiau bachog, golygai na fu agweddau allweddol eraill ar bolisi tai yn destun dadl neu drafodaeth lawn.

Ychydig iawn a glywsom am bwysigrwydd gwella ansawdd ein stoc tai presennol, er enghraifft, neu’r modd y gall addasiadau i’r cartref a thechnoleg newydd helpu i gadw pobl yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi wrth dyfu’n hŷn. Ychydig iawn o drafod a fu hefyd am bwysigrwydd sicrhau mwyfwy o integreiddio rhwng tai a gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill fel iechyd a gofal cymdeithasol.

Fel rhywun a fu’n gweithio yn y sector tai am nifer o flynyddoedd, ac sydd wedi gweithio ochr yn ochr â’r sector ar hyd fy nghyrfa, gwn fod y materion allweddol hyn yn cael eu codi’n gyson gyda gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi, a siom yw’r ffaith mai cymharol ychydig sylw a roddir iddynt, yn enwedig ar lefel y DU, er gwaethaf eu pwysigrwydd.

Yng nghyd-destun Cymru ddatganoledig, rhoddir mwy o gydnabyddiaeth i’r materion hyn a gwelsom gamrau pwysig – megis datblygiad byrddau partneriaeth rhanbarthol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus – sy’n ceisio sicrhau bod tai, a’r ffordd y mae’n rhyngweithio â gwasanaethau eraill, yn rhan allweddol o’r agenda bolisi. Fodd bynnag, mae gennym ffordd hir i fynd o hyd tan yr ystyrir tai yn ‘bartner cydradd’, ac mae’n hanfodol gweithredu mewn nifer o feysydd allweddol.

Mae arnom angen cynllunio effeithiol, yn y tymor byr a’r tymor hir ill dau, er mwyn sicrhau y gall tai ateb gofynion mwyfwy amrywiol cymdeithas sy’n heneiddio, cymdeithas lle disgwylir i’r nifer o bobl dros 85 oed dyfu’n sylweddol, cymdeithas lle mae pobl yn gweithio’n hwy, yn debycach o fyw ar eu pen eu hunain, bod â chyfrifoldebau gofal, tra efallai’n byw ymhellach oddi wrth eu ceraint. Rhaid i ni edrych ar y data poblogaeth ac asesiadau llesiant sydd ar gael i ni, tra’n ymgysylltu â phobl hŷn mewn modd ystyrlon, er mwyn creu darlun cywir o anghenion tai cyfredol Cymru a rhai’r dyfodol.

Rhaid i ni edrych hefyd ar sut y gellir ehangu’r dewisiadau tai sydd ar gael i bobl hŷn. Dywedodd llawer o’r bobl hŷn dwi wedi cyfarfod a siarad â nhw sy’n ystyried symud i mewn i fath o lety a allai ateb eu gofynion yn well – fel tai gofal ychwanegol – wrthyf bod diffyg dewisiadau addas a fforddiadwy ar gael iddynt, yn enwedig os nad ydynt am adael y cymunedau y buont yn rhan ohonynt ers blynyddoedd.

Ac mae gofyn i ni ystyried tai ar ystyr ehangach, fel rhan allweddol o gymunedau croesawgar i’r henoed, cymunedau sy’n galluogi yn hytrach nag anablu, cymunedau lle gall pobl fynd allan yn rhwydd a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, dal i gyfranogi fel dinasyddion gweithgar, a manteisio ar y gwasanaethau a’r gefnogaeth y gall fod eu hangen arnynt wrth dyfu’n hŷn, neu wrth i’w hamgylchiadau newid.

Galwai’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Grŵp Arbenigol ar Ddarparu Tai ar gyfer Poblogaeth sy’n Heneiddio yn 2017 – Tai i’r dyfodol – diwallu dyheadau pobl hŷn yng Nghymru – am weithredu cyffelyb. Roedd yn cynnwys nifer o argymhellion pwysig, fel darparu cymorth i alluogi pobl hŷn i aros yn eu cartref neu eu helpu i symud os mai dyna eu dymuniad, datblygu safonau Cartrefi am Oes a safonau cynllunio diwygiedig sy’n cynnwys gofynion tai pobl hŷn, ac ymdrin â thai anffit. Hyd yn hyn, fodd bynnag, nid ydym wedi gweld digon o gamau pendant i fwrw ymlaen â’r argymhellion hyn ac ymdrin â’r problemau tai sy’n wynebu pobl hŷn ar hyn o bryd.

Mae’n hanfodol bod Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio yn cynnwys ffocws ar fwrw ymlaen â’r argymhellion hyn, ynghyd â darparu sicrwydd y caiff maes tai ei gydnabod yn llawn fel elfen hanfodol mewn iechyd a llesiant, ac y bydd polisi ac arfer yn ymwneud â thai wedi hynny yn adlewyrchu hyn.

Mae gan dai ran hollbwysig i’w chwarae o ran gwella bywydau llawer o bobl hŷn ledled Cymru, a byddaf yn parhau i gefnogi’r gwaith pwysig sy’n cael ei gyflawni ledled y sector tai, gan danlinellu arfer da yn ogystal â herio a dadlau’r achos dros newid a gweithredu lle bynnag y bo angen hynny.

Trwy weithio gyda’n gilydd, mae gennym gyfle i ddylanwadu ar bolisi, symbylu newid a darparu gwelliannau i dai a fydd yn gwneud gwahaniaeth positif i fywydau unigolion ac i’n cymunedau. Mae gynnym gyfle i sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i dyfu’n hen ynddo.

 

Heléna Herklots yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »