English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol – Adeiladu model newydd

Mae’r rhifyn hwn o WHQ yn canolbwyntio ar ddwy thema sydd wedi codi’n gyflym tuag at frig yr agenda dai ac adfywio yng Nghymru: yr economi sylfaenol a datgarboneiddio.

Mae ein stori glawr yn edrych ar y ffyrdd newydd o feddwl am lwyddiant economaidd a gynrychiolir gan y dull economi sylfaenol o fynd ati, a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru.

Gyda chynigion llwyddiannus i Gronfa Her yr Economi Sylfaenol i’w cyhoeddi nes ymlaen y mis yma, mae Debbie Green yn egluro sut mae’r syniad yn symud o theori i bolisi i weithredu ymarferol.

Gall y maes tai hawlio ei fod wedi rhagweld yr economi sylfaenol gyda’i ddull ‘Can Do Toolkits’ o fynd ati a ganolbwyntiai ar sicrhau buddiannau i bobl a chymunedau lleol o’r don o fuddsoddi a ddeilliodd o drosglwyddo stoc. Mae bellach yn denu sylw cynulleidfa ehangach, meddai  Keith Edwards ac Elin Brock.

Gan ddangos hyd a lled y dull newydd o fynd ati, mae Adrian Roper yn dadlau y gall syniadau economi sylfaenol helpu i adeiladu gwell system ofal cymdeithasol, tra bod Ellen Petts yn disgrifio sut y mae ei menter gymdeithasol yn y Rhondda yn ailgylchu hen garpedi swyddfa, gan roi lloriau fforddiadwy i denantiaid a chynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddi. Clywn hefyd gan Y Prentis ar ei waith i greu cymaint ag sy’n bosib o fudd i’r gymuned.

Fodd bynnag, y gwir brawf ar syniadau economi sylfaenol yw sut y maent yn gweithio ar lawr gwlad. Disgrifia Debbie Green sut y mae Tai’r Arfordir yn eu gweithredu mewn un gymuned – Treforus, Abertawe.

Mae cryn groes-gyswllt rhwng yr economi sylfaenol a’n thema arall, sef datgarboneiddio, oherwydd graddfa’r gwaith ôl-ffitio y bydd ei angen yn unol ag argymhellion adolygiad annibynnol y mae Llywodraeth Cymru bellach wedi’i dderbyn mewn egwyddor.

Mae Chris Jofeh, cadeirydd yr adolygiad, yn amlinellu pam y dylai Cymru arwain ar newid hinsawdd, a’r gwaith y bydd datgarboneiddio tai preswyl yn ei olygu.

Bydd gwireddu hynny yn golygu dod i delerau â natur stoc tai presennol Cymru, a gofynion y broses i’w ddatgarboneiddio. Mae Ed Green yn adrodd ar ganlyniadau ymchwil.

Un agwedd hanfodol ar y rhaglen fydd sut i gynyddu gwaith ôl-ffitio. Mae Steven Fawkes yn asesu gwersi o bedwar ban y byd.

Gan droi at gartrefi newydd, mae’r diweddaraf yn ein cyfres ar y Rhaglen Tai Arloesol yn canolbwyntio ar broject sy’n anelu at integreiddio technolegau adnewyddadwy profedig i mewn i ddyluniad tai cyfarwydd.

Mewn man arall yn y rhifyn hwn, yn ogystal â’n herthyglau nodwedd rheolaidd, rydym hefyd yn edrych ar waddol Cwpan y Byd y Digartref yng Nghaerdydd. Clywn gan dri chwaraewr o Gymru, a chanolbwyntiwn eto ar y ddadl ynglŷn â’r hawl i dai

 

Jules Birch, golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »