English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R

Y DU

Y Llywodraeth yn dileu toriadau i gymorth tai rhai 18-21 oed

Caiff cymorth gyda chostau tai o dan gredyd cynhwysol i rai 18 i 21 oed ei adfer ar ôl tro-pedol gan lywodraeth San Steffan.

Cyhoeddwyd y polisi dadleuol gan y cyn-brif weinidog David Cameron yn 2014 mewn ymgais i orfodi pobl ifanc i ‘ennill neu ddysgu’ yn hytrach na hawlio budd-daliadau. Ymosododd beirniaid ar y dybiaeth y gallai pobl ifanc fyw gyda’u rhieni pan nad oedd hynny’n bosibl i lawer ohonynt.

Cyflwynwyd y polisi ym mis Ebrill 2017, ond gyda llu o eithriadau ar gyfer grwpiau diymgeledd fel rhai sy’n gadael gofal a phobl mewn perygl o niwed pe baent yn aros gyda’u rhieni, a olygai nad effeithid ar y mwyafrif o hawlwyr. Serch hynny, roedd arolwg barnwriaethol yn yr arfaeth gan sefydliadau yn cynnwys Llamau yng Nghymru.

Mewn datganiad ysgrifenedig yn San Steffan, cyhoeddodd yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau Esther McVey y byddai’r llywodraeth yn adnewid y rheoliadau fel bod pawb 18-21 oed yn derbyn cymorth gyda chostau tai yn eu credyd cynhwysol, ond yn cael pecyn Ymwymiad Ieuenctid i’w cefnogi i chwilio am waith.

Dywedodd: ‘Mae’r newid rwyf yn ei gyhoeddi heddiw yn golygu y gall pobl ifanc ar fudd-daliadau sy’n cael tenantiaeth fod yn siŵr y byddant yn derbyn cymorth tuag at eu costau tai yn y ffordd arferol.’

LLOEGR

Ailgartrefu teuluoedd Grenfell yn waith araf

Mae’r llywodraeth yn debyg o dorri ei haddewid i ailgartrefu teuluoedd a wnaed yn ddigartref gan dân Twr Grenfell mewn cartrefi parhaol o fewn blwyddyn, cyfaddefodd yr ysgrifennydd tai, Sajid Javid, ym mis Mawrth

Yn ôl adroddiad gan grŵp gorchwyl adfer Grenfell naw mis wedi’r tân ym mis Mehefin 2017, dim ond 62 o deuluoedd, o blith 209 ag angen eu hailgartrefu, a oedd mewn cartrefi newydd parhaol.

Roedd cyfanswm o 188 o deuluoedd wedi derbyn cynnig o lety dros-dro neu barhaol ond roedd 82 ohonynt yn dal i fod mewn llety brys.

Dywedodd Sajid Javid bod hyn ‘yn llawr rhy araf’ac yn ‘gwbl annerbyniol’.

YR ALBAN

Yr Alban yn cyrchu’r nod gyda chartrefi fforddiadwy

Mae’r Alban yn nesáu at gyflawni ei chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cartrefi fforddiadwy newydd yn ôl dadansoddiad annibynnol o Gynlluniau Strategol Buddsoddi mewn Tai yr awdurdodau lleol.

Cafodd y dadansoddiad, a gomisiynwyd gan Shelter Scotland, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban a Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban, y dylai’r Alban fod yn darparu 45,000-50,000 o gartrefi fforddiadwy rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2021, yn cynnwys 34,850 ar rent cymdeithasol.

Mae hynny’n gymesur â tharged Llywodraeth yr Alban ar gyfer y cyfnod o 50,000 o gartrefi fforddiadwy, gyda 35,000 ar rent cymdeithasol.

Ond mae rhifyn diweddaraf yr UK Housing Review(gweler cyhoeddiadau) yn rhybuddio am ‘ddarlun cymysg’, a bod stadegau’n dangos y cafodd llai o dai cymdeithasol eu cwblhau yn 2017.

Cefnogaeth i Housing First

Mae Llywodraeth yr Alban wedi derbyn argymhellion gan y Grŵp Gweithredu Digartrefedd a Chysgu Allan yn cynnwys cyfundrefn genedlaethol o ailgartrefu buan.

Byddai’r dull gweithredu yn cynnwys cymorth integredig gan wasanaethau allanol rheng-flaen a chynghorau lleol a symud at fodel Housing First ar gyfer y rheini â’r anghenion mwyaf cymhleth.

GOGLEDD IWERDDON

Ailfeddwl tai cymdeithasol

Mae Sefydliad Tai Siartredig (STS) Gogledd Iwerddon wedi lansio project newydd i helpu i lunio dyfodol tai cymdeithasol.

Bydd Ailfeddwl tai cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon yn golygu ymgysylltu â thenantiaid, y cyhoedd, y Weithrediaeth Tai, cymdeithasau tai a gwleidyddion i archwilio’r cwestiynau mawr ynglŷn â thai cymdeithasol. Bydd yn cyfuno barn y bobl ag ymchwil wreiddiol er mwyn ystyried swyddogaeth a diben tai cymdeithasol yn y dyfodol.

Mae Ailfeddwl tai cymdeithasol yn Iwerddon, a noddwyd gan Adran y Cymunedau, yn gymar i broject a lansiwyd gan STS yn Lloegr.

Nod project Gogledd Iwrddon yw ysgogi trafodaeth eang ynglŷn â dyfodol tai cymdeithasol, deall a herio canfyddiadau o dai cymdeithasol, a dylanwadu ar gyfeiriad polisi tai yn y dyfodol.

LLYWODRAETH CYMRU

Mynd i’r afael â digartrefedd

Lansiodd y gweinidog tai ac adfywio Rebecca Evans ddwy ddogfen bolisi newydd yn egluro dulliau newydd o fynd i’r afael â digartrefedd mewn datganiad i’r Cynulliad ym mis Chwefror.

Mae cyntaf yn amlinellu sut y bwriedir bwrw ymlaen â Tai yn Gyntaf ledled Cymru wedi tystiolaeth gref ei fod ‘yn gweithio orau pan ddilynir ei egwyddorion craidd – tai heb amodau ynghlwm â nhw, gwasanaethau cefnogiar gael, a chyllid i helpu i ateb anghenion unigolion.’

Mae’r ail, a ddatblygwyd ar y cyd â chyrff yn cynnwys Shelter Cymru a Rough Sleepers Cymru, yn gynllun gweithredu i leihau cysgu allan. Mae’n cynnwys amrywiaeth o gamau, sy’n cefnogi pobl i ymgysylltu â gwasanaethau a dod oddi ar y stryd cyn gynted â phosib, ac yn trafod materion ehangach fel adolygu angen blaenoriaethol a chanllawiau ar gyfer cynlluniau tywydd garw.

Meddai’r gweinidog: ‘Un agwedd ar ddigartrefedd yw cysgu allan. Ni allwn fynd i’r afael â’r broblem yn iawn heb fod gennym system sy’n cynnig llety diogel i bawb. Dim ond hyn a hyn y gellir ei wneud trwy adeiladu cartrefi ac ehangu’r stoc tai cymdeithasol a byddaf yn gweithio gyda’r sector preifat i ganfod ffyrdd arloesol o ddefnyddio’u cyflenwad nhw ac ateb y galw. Byddaf hefyd yn edrych ar sut i barhau i leihau’r nifer o gartrefi sy’n sefyll yn wag.’

Lansio cynlluniau perchentyaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio dau gynllun newydd i helpu pobl nad ydynt yn gallu fforddio prynu tŷ.

Bydd Rhentu i Berchnogi – Cymru yn helpu’r rheini a all fforddio taliadau misol, ond sydd heb ddigon o arian ar gyfer ernes, tra bydd Rhanberchnogaeth – Cymru yn helpu pobl na all fforddio cost morgais ar eiddo cyfan.

Lansiodd y gweinidog tai ac adfywio Rebecca Evans y ddau gynllun ar ymweliad â chartref arddangos yn natblygiad Kennard Point grŵp Pobl yng Nghrymlyn.

Dywedodd: ‘Mae Cymorth i Brynu Cymru wedi llwyddo i gefnogi llawer o bobl yng Nghymru sydd â 5% o flaendal i brynu eu cartref. Er hynny, gwyddom bod yna lawer o bobl sy’n gweithio’n galed sy’n ei chael hi’n anodd cynilo ernes. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi pobl i gymryd y cam cyntaf anodd hwnnw tuag at brynu eu cartref yng Nghymru.’

‘Ar hyn o bryd, dim ond ychydig o eiddo sydd ar gael i’w brynu drwy’r cynlluniau Rhentu i Berchnogi – Cymru a Rhanberchnogaeth – Cymru, ac rydyn ni’n gweithio gyda chymdeithasau tai ledled Cymru i sicrhau y bydd rhagor ar gael cyn hir.’ 

Mae buddsoddi £70 miliwn mewn rhentu i berchnogi a rhanberchnogaeth yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy.

O dan Rhentu i Berchnogi – Cymru, bydd prynwyr arfaethedig yn talu rhent marchnad am gartrefi newydd eu hadeiladu gan y cymdeithdasau tai cyfranogol, a bydd ganddynt ddewis i brynu’r rhain o ddiwedd ail flwyddyn eu cyfnod rhentu.

Bydd pobl sy’n penderfynu prynu yn derbyn rhodd o swm cyfwerth â 25 y cant o’r rhent maent wedi ei dalu a 50 y cant o unrhyw gynnydd yng ngwerth eu cartref i’w ddefnyddio fel ernes ar forgais. Bydd hyn yn eu helpu i brynu cartref maen nhw’n ei rentu. Gallant brynu’r cartref yn gyfangwbl neu trwy gydberchnogaeth.

Mae cynllun Rhanberchnogaeth Cymru yn gynllun rhan-brynu, rhan-rentu ar gyfer rhai a hoffai brynu ac sydd â rhywfaint o ernes ond heb allu sicrhau morgais digon mawr i brynu’r cartref yn gyfangwbl. Gallant brynu cyfran gychwynnol o 25% hyd at 75% o werth y cartrefi newydd sydd ar gael o dan y cynllun hwn gan gymdeithasau tai cyfranogol. Gellir cynyddu’r gyfran hon i berchnogaeth lawn ar unrhyw adeg. Telir rhent ar y gyfran nad yw’n perthyn iddynt.

Ceir mwy o fanylion yn https://beta.llyw.cymru/cymorth-i-brynu-cartref

Cymru’n barod am Dreth ar Dir Gwag

Bydd llywodraeth Cymru yn profi pwerau Deddf Cymru 2014 â threth ar dir gwag i gymell datblygu mwy amserol.

Dywedodd yr ysgrifennydd cyllid Mark Drakeford mai’r mesur oedd y mwyaf addas o’r pedwar syniad a godwyd yng Nghyllideb ddrafft mis Hydref 2017. Fodd bynnag, bydd gwaith yn parhau ar y tri syniad arall, sef ardoll gofal cymdeithasol, treth ar blastig un-tro a threth ar dwristiaeth.

Dywedodd yr Athro Drakeford y dewiswyd treth ar dir gwag am y gallai helpu i gymell datblygu mwy amserol, ond hefyd oherwydd y gallai helpu i atal safleoedd rhag dadfeilio, ac i hybu adfywio.

‘Mae tai yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, meddai.’Gallai treth ar dir gwag atal yr arfer o fancio tir a gadael tir heb ei ddatblygu o fewn y cyfnodau disgwyliedig.

Dywedodd bod yr ardoll tir gwag yn Iwerddon yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer sut y gallai’r dreth newydd weithio yng Nghymru, tra bod ei ffocws cymharol gyfyng yn golygu mai hi oedd y fwyaf addas o ran rhoi prawf ar y pwerau newydd.

Cefnogaeth i wahardd ffioedd tenantiaid

Mae mwy na hanner y rheini a ymatebodd i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru wedi cefnogi cynigion i wahardd asiantaid gosod eiddo rhag codi ffi ar denantiaid yn y sector rhentu preifat.

Cafodd yr ymgynghoriad bod tenantiaid,  lle codir ffioedd, yn wynebu bil o £249 ar gyfartaledd i gychwyn tenantiaeth, £108 i adnewyddu un, a £142 ar ddiwedd tenantiaeth.

Roedd rhyw 56 y cant o’r holl ymatebwyr yn cefnogi gwaharddiad llwyr ar ffioedd dianghenraid, yn cynnwys cyfran sylweddol o landlordiaid. Doedd 6 o bob deg landlord ddim yn gwybod faint a godid ar eu tenantiaid gan yr asiant.

Dywedodd 62 y cant o denantiaid bod ffioedd wedi effeithio ar eu gallu i symud, a dywedodd 82 y cant bod ffioedd wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i ddefnyddio asiant.

Dywedodd y gweinidog tai ac adfywio Rebecca Evans: ‘Dw i eisoes wedi cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno Bil sy’n gwahardd ffioedd yn y sector rhentu preifat. Mae casgliadau’r ymgynghoriad hwn yn ychwanegu at y dystiolaeth bod angen gweithredu i fynd i’r afael â’r ffioedd a godir ar denantiaid ar hyn o bryd. Fe fyddaf yn awr yn cwblhau’r cynigion deddfwriaethol hyn ac yn cyflwyno Bil i’r Cynulliad yn ddiweddarach eleni. ‘

Mae’r Alban eisoes wedi gwahardd ffioedd tenantiaid, ac mae deddfwriaeth ar y gweill yn Lloegr.

Mesurau i ymdrin â phryderon ynglŷn â phrydlesi

Bydd cwmnïau adeiladu mawr yn sicrhau na defnyddir cytundebau prydles ond pan fo’n angenrheidiol  o dan gytundeb gyda Llywodraeth Cymru.

Mae’r cam hwn yn dilyn pryder mawr ynglŷn â phrynwyr y gwerthir cartrefi newydd iddynt ar brydles, ac sydd wedyn yn wynebu biliau ar gyfer rhent tir sy’n cynyddu ar garlam.

Cyhoeddodd y gweinidog tai ac adfywio Rebecca Evans becyn o fesurau ar ymweliad â’r Quays yn y Barri, lle cyfarfu â chynrychiolwyr o Taylor Wimpey a Barratts.

Yn achos tai a fflatiau sy’n gymwys am gymorth o dan Cymorth i Brynu – Cymru, golyga’r pecyn:

  • bydd meini prawf newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwr gyflwyno rheswm dilys dros farchnata tŷ ar brydles
  • bydd yn rhaid i gytundebau prydles fodloni safonau lleiafswm, yn cynnwys cyfyngu’r rhent tir cychwynnol i uchafswm o 0.1% o werth gwerthu’r eiddo
  • bydd yn rhaid i gytundebau prydles redeg am o leiaf 125 o flynyddoedd ar gyfer fflatiau a 250 o flynyddoedd ar gyfer tai.

Bydd Cynllun Achredu Trawsgludwyr Cymorth i Brynu Cymru yn sicrhau bod trawsgludwyr hyfforddedig a chofrestredig ar gael i roi cyngor clir i bob prynwr Cymorth i Brynu – Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans ei bod wrth ei bodd na fyddai’r prif ddatblygwyr bellach yn cynnig tai ar werth ar brydles ‘oni fo’n gwbl angenrheidiol’ ond mae hefyd yn sefydlu grŵp newydd i argymell diwygiadau i’r gyfundrefn brydles ac yn creu cod gweithredu gwirfoddol i ategu’r mesurau.

Aeth yn ei blaen: ‘Dim ond man cychwyn fy nghynlluniau i fynd i’r afael â’r pryderon ynghylch y brydles yw hyn. Dwi ddim wedi diystyru’r posibilrwydd o deddfwriaeth yn y dyfodol, y gall fody bydd ei hangen i wneud prydlesu, neu fersiwn arall ohoni, yn gymwys i’r farchnad dai fodern.’

Cydsyniad Brenhinol i ddiweddu’r Hawl i Brynu

Daeth y ddeddfwriaeth i ddiweddu’r Hawl i Brynu yng Nghymru yn Ddeddf wedi’r Cydsyniad Brenhinol a seremoni selio swyddogol ddiwedd mis Ionawr.

Cafodd Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) ei gyflwyno ym mis Mawrth 2017, wedi ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn 2015, ac mae’n dileu’r holl amrywiadau ar yr hawl i brynu, gan gynnwys yr hawl i brynu a gadwyd a’r hawl i gaffael.

Caiff yr hawl i brynu ei diddymu’n llwyr ar 26 Ionawr 2019 ar gyfer eiddo presennol, flwyddyn ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Ond, i annog buddsoddi mewn cartrefi newydd, daeth yr hawl i ben yn achos cartrefi newydd yn y stoc tai cymdeithasol ddau fis wedi’r Cydsyniad Brenhinol, ar 24 Mawrth.

Papurau ymgynghori

Mae ymgynghoriadau agored a allai fod o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

  • Polisi Cynllunio Cymru: argraffiad 10 –Ymatebion erbyn Mai 18
  • Cryfhau Llywodraeth Leol – Cyflawni dros ein Pobl – Ymatebion erbyn Mehefin 12
  • Cenedl Noddfa – Cynllun ffoaduriaid a cheiswyr lloches – Ymatebion erbyn Mehefin 25

CYMRU

Cladin ar dyrau Caerdydd yn methu profion newydd

Dangosodd profion diogelwch ychwanegol a wnaed gan Gyngor Caerdydd nad yw systemau cladin ar chwech o’i flociau uchel o fflatiau yn bodloni safonau diogelwch cyfredol er gwaethaf cael eu dyfarnu’n ddiogel yn union wedi tân Tŵr Grenfell.

Dangosodd profion cychwynnol gan ymgynghorwyr allanol y llynedd nad oedd gan y blociau gladin o’r deunydd cyfansawdd alwminiwm (ACM) a ddefnyddiwyd ar Dŵr Grenfell.

Fodd bynnag, argymhellodd yr ymgynghorwyr wneud profion pellach ar y cladin i roi sicrwydd ei fod yn gwbl ddiogel. Felly penderfynodd y cyngor wneud profion ychwanegol i ddarganfod a oedd y cladin, a osodwyd yn y 1990au, yn bodloni safonau diogelwch tân llymach heddiw.

Dangosodd y profion newydd bod y cladin wedi ei ffurfio o baneli sgrinio-glaw pren-caled ffeibrog nad ydynt yn cydymffurio â safonau hylosgedd heddiw.

Dywedodd y cyngor y dangosodd ei brofion hefyd nad oes rhwystrau tân wedi eu hadeiladu i mewn i’r systemau cladin ar waliau allanol yr adeiladau dan sylw. Dywedodd, tra nad oedd hynny’n ofynnol o dan y rheoliadau ar pryd, bod safonau heddiw yn llawer uwch a’i fod hefyd yn cymryd hynny i ystyriaeth.

Y fflatiau yr effeithir arnynt yw Fflatiau Lydstep, Ystum Taf (tri bloc), TŷLoudon a ThŷNelson, Butetown, a Channel View, Grangetown.

Gosodwyd mesurau diogelwch ychwanegol yn y blociau, yn cynnwys arolygiadau cyson gan wardeiniaid tân a mwy o fonitro teledu cylch-cyfyng. Roedd y cyngor eisoes wedi penderfynu uwchraddio drysau tân i lefel uwch na’r safonau gosod yn ei holl fflociau uchel, gan osod drysau sy’n gwrthsefyll tân am 60 munud yn lle’r rhai 30-munud. Cwblheir hyn erbyn mis Mai. Gosodir taenellwyr yn holl flociau uchel y cyngor hefyd.

Dywedodd yr aelod cabinet dros dai a chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: ‘Dwi’n credu mai ni yw’r cyngor cyntaf yn y DU i wneud y profion ychwanegol hyn ar y cladin. Oherwydd hynny, ac oherwydd y canlyniadau, rydym wedi hysbysu Llywodraeth Cymru a byddwn hefyd yn hysbysu Llywodraeth y DU.’

Dywedodd y cyngor ei bod hi’n debyg y byddai’n rhaid tynnu’r cladin o’r holl flociau dan sylw, a’i fod wrthi’n edrych ar y ffordd orau o wneud hynny.

Ymestyn cytundeb rhagnodi cymdeithasol am flwyddyn arall

Enillodd United Welsh y cytundeb unwaith eto i ddarparu gwasanaeth llesiant cymunedol ar ran GIG Cymru yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Cychwynnodd cytundeb newydd 2018/19 ar Ebrill 1 ac estyniad ydyw i’r gwasanaeth Wellbeing 4U a lansiodd United Welsh ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg ym mis Mai 2016.

Mae Wellbeing 4U, a gyflenwir gan Thrive, y tîm sy’n rhedeg gwasanaethau cefnogaeth a llety arbenigol ar ran United Welsh, yn defnyddio model rhagnodi cymdeithasol i gyflawni blaenoriaethau iechyd cyhoeddus trwy ymyriadau cymdeithasol.

Gyda thîm sy’n gweithio o saith hyb meddyg teulu yng Nghaerdydd a’r Barri ac sy’n derbyn atgyfeiriadau o 10 meddygfa arall, mae’r gwasanaeth eisoes wedi cefnogi mwy na 1,000 o gleifion a chwtogi ar apwyntiadau dianghenraid a phwysau ar amser meddygon teulu.

Meddai Karen Tipple, sy’n arwain ar dai arbenigol a llesiant gyda United Welsh: ‘Gan nad oes yr un cyfyngiadau ar amser ein tîm ag sydd ar feddygon teulu, gallwn gynnig cymysgedd o waith allgymorth, gwaith un-i-un a chyfeirio pobl at weithgareddau cymunedol a’r trydydd sector tra’n arbed ar amser apwyntiadau.’

‘Gall yr ymyriadau y byddwn yn eu trefnu gyda’r cleifion bara cyhyd ag y bo angen, o gyfeirio pobl at weithgareddau cymuned a llesiant fel cyrsiau rhianta a sesiynau ymarfer corff hyd at helpu pobl gyda phroblemau fel camddefnyddio sylweddau neu iselder.’

Y prif feysydd y bydd gwasanaeth Wellbeing 4U yn canolbwyntio arnynt yw cynyddu gweithgaredd corfforol, bwyta’n iach, cael mwy o bobl i fanteisio ar gyfeloedd imwneiddio a sgrinio, a helpu i gwtogi ar arferion niweidiol fel camddefnyddio sylweddau, goryfed a smygu.

Defnyddiodd Helen Worgan, 56, o Grangetown wasanaeth Wellbeing 4U wedi i’w phryder a’i hiselder waethygu ar ôl trawiad.

Meddai:

‘Pan atgyfeiriodd y meddyg fi at Wellbeing 4U, disgwyliwn y byddai’n cynnig ychydig sesiynau a gwrando arna’i yn gweithio drwy fy mhroblemau. Wnes i erioed ddychmygu cymaint mwy oedd ar gynnig.

‘Roedd y cysylltiadau a wnaeth y tîm ar fy rhan yn y gymuned leol o les gwirioneddol, fel y grwpiau meddylgarwch sydd wedi fy helpu i reoli fy mhryder beunyddiol yn well.

‘I fagu hyder, helpodd y tîm fi i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol fel clwb llyfrau a dosbarthiadau ioga yn fy nghanolfan gymuned a sefydliad lleol. O ganlyniad, rwy’n mynd ar encil yn yr wythnosau nesaf – peth na fyddwn erioed wedi ei wneud cynt.’

Meddai Karen Pardy, meddyg teulu a chyfarwyddydd cymuned Clwstwr de-orllewin Caerdydd, sy’n arwain ar ragnodi cymdeithasol ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro:‘Fel bwrdd iechyd, rydym yn ymrwymedig i ofalu am bobl ac mae eu cadw’n iach, a galluogi cleifion i gael cymorth, cyngor a chefnogaeth o fewn eu cymuned, yn helpu gyda hynny.

 ‘Amcangyfrifir fod gan 20 y cant o gleifion sy’n ymweld â’u meddyg teulu broblemau cymdeithasol gwaelodol, ac rydym am wneud ein gorau i helpu ein cleifion ym mhob agwedd ar eu bywydau sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u lles.’

Mae Wellbeing 4U ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda meddygfa ddynodedig.

Cymorth yn lansio rhaglen hyfforddi PATH

Mae hyfforddiant ar greu amgylcheddau seicolegol hyddysg ar gael am ddim i bobl sy’n gweithio yn y sectorau tai a digartrefedd gan Cymorth Cymru sy’n gweithio ar y cyd â’r Hyb Profiadau Plentyndod Gwael (ACE) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Telir am hyfforddiant PATH gan Lywodraeth Cymru, a’i nod yw cefnogi’r gwaith o atal digartrefedd trwy ddulliau trawma-hyddysg o fynd ati i ateb anghenion pobl am dai a chefnogaeth.

CYHOEDDIADAU: 10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

1) UK Housing Review

Y Sefydliad Tai Siartredig, Mawrth 2018

www.cih.org/publication/display/vpathDCR/templatedata/cih/publication/data/UK_Housing_Review_2018

2) Poverty in Wales 2018

Sefydliad Joseph Rowntree, Mawrth 2018

www.bevanfoundation.org/publications/poverty-wales-2018/

3) The tenant voice on value for money

TPAS Cymru, Mawrth 2018

www.tpas.cymru/blog/the-tenant-voice-on-value-for-money

4) Addasiadau Tai

Swyddfa Archwilio Cymru, Chwefror 2018

http://www.audit.wales/cy/cyhoeddi/addasiadau-tai

5) Using incentives to improve the private rented sector: three costed proposals

Sefydliad Joseph Rowntree, Mawrth 2018

www.jrf.org.uk/report/using-incentives-improve-private-rented-sector-three-costed-proposals

6) Life on debt row

Royal Society for Public Health, Mawrth 2018

www.rsph.org.uk/our-work/policy/wellbeing/life-on-debt-row.html

7) The decline of home ownership among young adults

Institute for Fiscal Studies, Chwefror 2018

www.thinkhouse.org.uk/2018/ifsdecline.pdf

8) Overcoming the stigma of social housing

London School of Economics, Chwefror 2018

sticerd.lse.ac.uk/dps/case/cr/casereport116.pdf

9) Setting social rent

Capital Economics, Chwefror 2018

http://d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net/themes/5417d73201925b2f58000001/attachments/original/1519256246/CapExRents.pdf?1519256246

10) Using Housing First in integrated homelessness strategies

St Mungos a Phrifysgol Efrog, Chwefror 2018

www.mungos.org/publication/using-housing-first-integrated-homelessness-strategies/

 

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »