English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

WHQ 100: Yr ymgyrch dros gymunedau gwych

Steve Clarke yn adrodd hanes brwydrau tenantiaid a thwf ymgysylltu cymunedol yng Nghymru

Bu trafodaethau ynglŷn â strwythurau pŵer a sut y maent yn rhyngweithio â’n cymdeithas yn mynd yn eu blaen ers degawdau, yn enwedig pwy sydd â’r ‘pŵer’ pan benderfynir ar faterion pwysig, a sut y gall y ‘rheolaeth’ honno weithio effeithio’n negyddol ar fywydau cymunedau. Ysgogodd y cwestiynau hyn ddatblygiad llu o ymgyrchoedd dros gyfiawnder cymdeithasol, a sicrhaodd fwy o gydraddoldeb, tegwch, atebolrwydd, cynrychiolaeth, hawliau a dyletswyddau. Bu’r materion hyn yr un mor amlwg yng Nghymru ag yng ngwledydd eraill y DU.

Ym 1977, pan gadwynodd pedair menyw eu hunain wrth reilins neuadd y dre ym Mhontypridd, i brotestio ynglŷn â diffyg gwres a oedd yn achosi lleithder a niwed, heb yn wybod iddynt roeddynt yn lleidio problem a amlinellwyd 20 mlynedd ynghynt gan Sherry R. Arnstein, pensaer o America.1 Mewn erthygl, digrifiodd yr hyn oedd o’i le ar ein cymdeithas hierarchaidd: doedden ni ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng ‘citizen control’ a ‘manipulation’.

Dadleuai hefyd, os nad oeddem yn deall yr hyn a ddisgrifid fel ‘yr ysgol cyfranogi’, y byddai cynllunwyr, penseiri, gwleidyddion, arweinwyr projectau a’r rheini a oedd â gafael ar bŵer yn gwisgo cyfranogi go iawn mewn amryw fathau o ‘fanipiwleiddio’ fel ‘ymgynghoriadau dinasyddon’, a fyddai’n arwain at gymunedau gwael eu dyluniad a’u rheolaeth a fyddai’n costio’n ddrud i gymdeithas a llywodraethau am ddegawdau i ddod.

Byddai’r ymgyrchwyr hyn ym Mhontypridd a mannau eraill yn gwireddu cyfranogiad a rheolaeth go iawn trwy gynllun arloesol, y Project Stadau Blaenoriaethol2 (PSB), â’r nod o chwyldroi rhai o stadau gwaethaf Prydain trwy ymgysylltiad gweithredol y gymuned. Yr hyn a oedd yn wahanol oedd bod cydnabyddiaeth PSB yn denu cyllid a fyddai’n galluogi tenantiaid i fod â mwy o lais yn y ffordd roedd eu cymunedau’n cael eu rheoli a’u hadfywio.

Er enghraifft, derbyniodd Stad Fferm Glyn-taf ym Mhontypridd statws PSB ym 1987, a bu Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Glyn-taf yn syfrdanol o lwyddiannus, gan sefydlu partneriaethau cydweithredol fel mentrau addysg cymuned a chodi arian i sefydlu undeb credyd.3

Y grŵp oedd y cyntaf hefyd i ddefnyddio’r ddeddfwriaeth Dewis Tenantiaid4 yng Nghymru, gan alluogi tenantiaid i gynnal pleidlais lwyddiannus o blaid trosglwyddo stoc cyngor dosbarth Taf-Elái ym 1993 i Gymdeithas Tai Newydd,5 lle’r roedd ganddynt elfen bwysig o reolaeth yn gynnar.

Ym Merthyr Tudful datblygwyd strategaeth adfywio’r Gurnos a Galon Uchaf dan amgylchiadau tebyg gan denantiaid a phreswylwyr. Arweiniodd hyn at arian Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd i ymdrin â phroblemau strwythurol a chymdeithasol, ac ymddiriedolaeth ddatblygu’r 3G.6 Tyfodd cynlluniau eraill ledled Cymru pan sylweddolwyd bod rhoi cyfrifoldeb ac awdurdod i denantiaid ddatblygu partneriaethau strategol yn arwain at lwyddiant mawr yn y cymunedau hynny.

Cymdeithasau protest tenantiaid

Wedi eu hysgogi gan adroddiadau cyhoeddiadau fel Rebecca ac Outlook (Tenant Outlook yn ddiweddarach) a argymhellai’r atebion hyn, tyfodd cymdeithasau protest tenantiaid yn gyflym iawn gyda rhai’n datblygu’n ffederasiynau ardal yn y man, a ffurfiwyd sefydliad cenedlaethol, (Ffederasiwn) Tenantiaid Cymru, ym 1988.

Gyda chefnogaeth Shelter, cafodd FfTC ei gydnabod gan y Swyddfa Gymreig fel llais tenantiaid Cymru. Gan gydnabod yr angen am gefnogaeth, darparwyd cyllid hefyd i hyrwyddo’r ‘cysyniad o gyfranogi’ ledled Cymru ym 1989, gyda’r Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid â’r gwaith o hyrwyddo cyfranogiad rhwng landlordiaid a’u tenantiaid ar batrwm y modelau a ddatblygwyd yn yr Alban yn gyntaf, ac yna yn Lloegr.

Mae’r cyd-destun hwn yn bwysig gan y gwelodd diwedd yr 80au a’r 90au cynnar denantiaid yn ennill hawliau a chyfleoedd pwysig wrth i agweddau at hawliau defnyddwyr ddatblygu. Roedd llwyddiant cymharol cymunedau fel Glyn-taf, y 3G ac eraill wedi hen sefydlu gwerth cael cymunedau i chwarae rhan yn rheolaeth eu cartrefi. Datblygwyd deddfwriaeth bellach i reoli agweddau ar wasanaethau trwy Reoliadau Hawl i Reoli 19947 a gymerodd le’r ddeddfwriaeth Dewis Tenantiaid a ddaeth i ben ym 1996.

Anogwyd cynghorau a’r mudiad cymdeithasau tai a oedd yn tyfu ar garlam i ddatblygu polisïau a fyddai cefnogi ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i gyfleoedd i gyfranogi yn sut roedd eu landlordiaid yn rhedeg pethau. Y Comisiwn Archwilio oedd yn gyfrifol am ymchwilio i sicrhau cydymffurfiad ag arfer da mewn tai ac ymgysylltiad, gyda thenantiaid yn gallu effeithio’n sylweddol ar lywodraethiad byrddau â strwythurau ffurfiol.

Y refferendwm datganoli

Cymerwyd y cam pwysig nesaf mewn cyfranogiad tenantiaid gyda’r refferendwm ar ddatganoli ym 1997 a arweiniodd at sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Roedd strategaeth tai gyntaf y Cynulliad yn cynnwys darpariaeth i sicrhau bod pob landlord cymdeithasol yn datblygu strategaethau cyfranogi, ac ymrwymiad i ddarparu Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).

Datblygodd cyfranogiad tenantiaid ymhellach byth pan gyflwynodd CTP Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr y rhybudd Hawl i Reoli ffurfiol cyntaf yng Nghymru, a symudodd tuag at ei wireddu trwy 1999-2000. Er na chafodd ei wireddu’n llawn, arweiniodd y project wedi hynny at ddatblygu’r rhaglen Grantiau Ymbweru Tenantiaid a hwyluswyd gan STS Cymru.

Bu GYTiau mewn bodolaeth rhwng 2002 2012 gyda bron £1 miliwn wedi ei fuddsoddi dros 10 mlynedd mewn mentrau dan arweiniad tenantiaid, gyda chefnogaeth cynghorwyr tenantiaid annibynnol. Un o’r llwyddiannau allweddol oedd y mudiad a ddeilliodd o fodelau ymgysylltu traddodiadaol yn seiliedig ar ‘gymunedau bro’ i ‘gymunedau buddiannau’, gyda grwpiau lleiafrifol fel paneli cynghori ar anabledd a datblygiad ‘siopwyr dirgel’, arolwgwyr tenantiaid, a hyfforddiant i denantiaid mewn craffu a herio.

Yn ystod y cyfnod hwn o gyfranogiad tenaniaid, roedd cyfyngiadau’r rheolau benthyg sector preifat ar gyfer tenantiaid yn amlwg iawn; amcangyfrifwyd bod angen gwerth £2.7 biliwn o waith moderneiddio. Dechreuwyd ystyried trosglwyddo stoc, a Phen-y-bont oedd y cyngor cyntaf i ennill pleidlais o blaid trosglwyddo i Cymoedd i’r Arfordir yn 2004, ar ôl ymgyrchoedd ysgytwol ym mlynyddoedd cynnar datganoli gyda Wrecsam a Rhondda Cynon Taf (gan eithrio, wrth gwrs, drosglwyddo ac ailddatblygu stadau ‘prefab’ wedi’r rhyfel ar saith safle yng Nghasnewydd).

Dylanwad tenantiaid

Trwy ystyried cynlluniau buddsoddi, gallodd tenantiaid ynghyd â’u cynghorwyr tenantiaid annibynnol a’u landlordiaid sefydlu byrddau ‘cysgodi’ i asesu cynlluniau busnes ar gyfer cyflawni SATC, ynghyd â strategaethau i ddatblygu a dylanwadu ar ddewisiadau ynglŷn â materion fel ceginau, penodi contractwyr ac, yn hanfodol, cysyniadau fel mentrau cydfuddiannol cymunedol,8 gyda rhai awdurdodau’n datblygu swyddogaeth sylweddol ar gyfer tenantiaid ym mhob agwedd ar y sefydliadau newydd. Gyda chefnogaeth y cynghorwyr tenantiaid annibynnol, dylanwadodd datblygu ‘cynnig cytundebol’ i denantiaid yn helaeth ar ddatblygu rhaglenni SATC, a throsglwyddodd hanner yr awdurdodau lleol eu stoc yn y pen draw.

Mewn datblygiad pwysig arall, yn 2009 argymhellod y cyn-Aelod Cynulliad, Sue Essex, y dylid sefydlu bwrdd rheoleiddiol annibynnol ar gyfer y sector cymdeithasau tai i oruchwylio a chynghori’r gweinidog tai ar ganlyniadau’r ddarpariaeth.9 Gyda datblygiad Bwrdd Rheoleiddiol Cymru o ganlyniad i hynny, sefydlwyd Panel Cynghorol y Tenantiaid fel is-grŵp i’r bwrdd, a fyddai’n sicrhau bod llais defnyddwyr y gwasanaeth wrth graidd pob peth y byddai rheoleiddio da yn ei gyflawni. Trwy’r ffordd newydd hon o fynd ati, a oedd yn gosod tenantiaid ar frig ac wrth galon y broses o graffu, herio a chyd-reoleiddio, gwireddwyd gwerthoedd Arnstein.

Yn y gorolwg byr hwn ar rai o’r datblygiadau pwysig mewn cyfranogiad tenantiaid, rwyf wedi ceisio rhoi blas ar swyddogaeth tenantiaid mewn dylanwadu nid yn unig ar ffyrdd o fynd ati i adfywio, ond hefyd ar ddatblygiad deddfau, polisïau a rhaglenni darparu’r 25 mlynedd diwethaf. Wrth, ni chynhwyswyd rhai datblygiadau, megis y rhan bwysig a chwaraewyd gan raglen Cymunedau yn Gyntaf mewn mynd i’r afael â rhai o’r anfanteision dyfnwreiddiedig a geir yn rhai o’n wardiau a’n trefi ledled Cymru wedi tranc ein diwydiannau trwm. Yr hyn sy’n amlwg, gobeithio, yw’r rhan hollbwysig mae tenantiaid wedi ei chwarae wrth helpu i ffurfio a gwella stoc tai Cymru trwy gydbwyso gweithredu uniongyrchol â dulliau cymodlon, er mwyn datrys problemau.

Yn ystod 25 mlynedd WHQ, mae tenantiaid wedi arwain a chefnogi ymgyrchoedd am larymau mwg gwifren-galed, synwyryddion carbon monocsid, diogelwch trydan a nwy, effeithlonrwydd ynni, a safonau rheolaeth a chyfranogiad, sydd oll wedi denu cefnogaeth ledled y sector. Oherwydd mae pawb yn y gymumed tai, waeth beth fo’u swyddogaeth, am sicrhau fod pobl Cymru yn byw bywyd iach a boddhaol, gyda chartrefi da yn ganolog i hynny.

Pur anaml y gellid priodoli’r cynnydd a wnaed i un sefydliad; fe’i sicrhawyd a’i gyflawni trwy gynghreirio ar draws y sector, trwy ymdrech dorfol pobl sydd yn dyheu am wella ein cartrefi a’n cymunedau.

Yr her o’n blaenau

Felly beth nesaf? Mae’n amlwg bod sawl her yn wynebu’r sector. Ymddengys y bydd y to nesaf o weithwyr tai ac ymgyrchwyr o denantiaid yn wynebu’r un anawsterau â’r genhedlaeth o’r blaen. Mae diwygiadau lles wedi newid y rhwyd ddiogelwch ar gyfer rhai dan anfantais; ni fydd cael mwy allan o’r un faint yn ddigon bellach; bydd cyfyngiadau cyllidol unwaith eto yn mynnu cydbwysedd rhwng gweithredu uniongyrchol a dulliau cymodol er mwyn dadlau o blaid mwy o fuddsoddi a gwell safonau. Ond mae un peth yn sicr: er mwyn dysgu gwersi’r gorffennol, rhaid gwneud hynny gyda’n gilydd â dull cydgynhyrchiol o fynd ati, fel o’r blaen.

Steve Clarke yw rheolwr-gyfarwyddwr Tenantiaid Cymru

Nodiadau

  1. The City Reader (ail argraffiad), golygwyd gan Richard T. Gates a Frederic Stout, 1996, Routledge Press.
  1. Datblygwyd gan Adran yr Amgylchedd yn y 1990au cynnar.
  2. Undeb Credyd Cwm Taf (Dragon Savers yn ddiweddarach) oedd yr undeb credyd cyntaf wedi ei redeg gan denantiaid yng Nghymru.
  3. Cyflwynodd Rhan IV Deddf Tai 1988 y cynllun Dewis Tenantiaid ym 1989, a oedd i bob pwrpas yn galluogi tenantiaid, fel defnyddwyr, i ddewis ei landlord trwy bleidlais.
  1. Ceir yr hanes yn The History of Glyntaff Farm, cyhoeddwyd gan Gymdeithas Tai Newydd.
  2. http://www.cardiff.ac.uk/socsi/resources/wrkgpaper7.pdf
  3. Offeryn Statudol 1994 Rhif 627, Rheoliadau (Hawl i Reoli) Tai 1994.
  4. Y model a oedd yn cael ei ddatblygu gan Muto.

9. Mesur Tai (Cymru) 2011 oedd y cyfrwng deddfwriaethol ar gyfer sefydlu Bwrdd Rheoleiddio Cymru.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »