English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol

Dyma 100fed rhifyn – a 25ain penblwydd – Welsh Housing Quarterly, ac rydym yn dathlu’r ddau achlysur ag atodiad arbennig ar hanes y cylchgrawn a thai yng Nghymru ers 1990.

I nodi’r garreg filltir bwysig hon, mae bwrdd cynghorol WHQ yn trefnu dau achlysur arbennig yng Nghaerdydd. Ar Dachwedd 11, mae cyhoeddwr WHQ, STS Cymru, yn cynnal derbyniad arbennig ar gyfer cyfranwyr, cefnogwyr a noddwyr yn Crefft Yn Y Bae. Ar Dachwedd 17, bydd Peter Williams yn traddodi darlith WHQ, Taking the long view: 1990–2020: rebalancing the state and the market? ym Mhrifysgol Caerdydd (sylfaenydd a chyn-berchennog y cylchgrawn). Mynediad am ddim,  tocynnau ar gael ar-lein, manylion ar wefan WHQ ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Fel y gwelwch, dyma WHQ ar ei newydd wedd, diolch i’r dylunydd Martin Williams. Rydym hefyd wrthi’n gweithio’n galed ar wefan newydd WHQ a gaiff ei lawnsio yn yr wythnosau nesaf. Bydd hon yn cyflwyno cynnwys y cylchgrawn mewn ffurf fwy hygyrch ynghyd â blogiau rhwng rhifynnau ar ddigwyddiadau a phynciau o bwys. Rydym yn eiddgar i wneud hon yn fforwm agored ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes tai ac adfywio yng Nghymru felly, da chi, cysylltwch os am gyfrannu.

Mae adran WHQ 100 y cylchgrawn (t. 23 ymlaen) yn rhoi llinell amser o digwyddiadau allweddol, sy’n ei gwneud hi’n glir i’r fath raddau mae hanes tai Cymru ynghlwm â hanes datganoli, ond mae’n amlwg hefyd cyn amled mae’r un materion yn dod i’r amlwg. Po fwyaf y bo pethau’n newid (ac maent wedi newid), y mwyaf y bydd pethau eraill yn aros yr un fath. Cewch erthyglau hefyd sy’n edrych nôl dros y 25 mlynedd diwethaf (ac ymlaen at y 25 nesaf) gan amryw o gyfranwyr â chysylltiadau clos â WHQ, ynghyd â chyfres o atgofion byrrach gan ddarllenwyr.

Os yw cyrraedd y 100fed rhifyn yn adeg i ddathlu, mae hefyd yn adeg i ddiolch i’r holl sefydliadau a’r holl bobl hynny a wnaeth hyn yn bosibl (a gobeithiaf bod hynny wedi ei adlewyrchu yn nelwedd y clawr y tro yma). Diolch, yn enwedig, i’r tri sefydliad y cydnabyddir eu cyfraniadau hollbwysig ar y dudalen gyferbyn: Prifysgol Caerdydd, STS Cymru, a Llywodraeth Cymru. Ond rhaid diolch, hefyd, i’r holl bobl sydd wedi hysbysebu a noddi, cyfrannu a chynorthwyo â syniadau am erthyglau, a chefnogi WHQ mewn ffyrdd eraill. Gobeithio y mwynhewch y rhifyn hwn a llawer o rai eraill i ddod.

Jules Birch

Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »