English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

DIWEDDARIAD POLISI

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

 

Y DU

 

Osborne yn bwyellu credydau treth a budd-daliadau

Cyflwynodd y Canghellor George Osborne gynlluniau ar gyfer gwerth £12 biliwn o doriadau mewn budd-daliadau yng Nghyllideb yr Haf ym mis Gorffennaf.

Credydau treth a chredyd cynhwysol oedd y targed cyntaf. Bydd hyn yn effeithio ar bobl sy’n gweithio a’r diwaith, ac mae’n cynnwys cwtogi ar faint y gall pobl ei ennill cyn colli credydau, a’u cyfyngu i’r ddau blentyn cyntaf o 2017 ymlaen. Dim ond yn rhannol y bydd cynlluniau Osborne ar gyfer cyflog byw cenedlaethol yn gwrthbwyso’r toriadau hyn.

Rhewodd y canghellor y rhan fwyaf o fudd-daliadau oed-gwaith, yn cynnwys y lwfans tai lleol, am gyfnod pellach, tan ddiwedd tymor y senedd, gan arbed £4 biliwn.

Cadarnhaodd gynlluniau ar gyfer terfyn is ar fudd-daliadau o £23,000 yn Llundain ac £20,000 ym mhobman arall, atal budd-dâl tai otomatig i rai o dan 21 oed, a gostyngiad yn y lwfans cefnogi cyflogaeth i rai yn y grŵp gweithgaredd gwaith-gysylltiedig i’r un lefel â’r lwfans ceisio gwaith.  

I liniaru effeithiau’r toriadau mewn budd-dal tai, cyhoeddodd Osborne gyllideb o £800 miliwn ar gyfer taliadau tai disgresiynol (TTDau) dros y pum mlynedd hyd at 2019/20.

Bydd Osborne yn manylu ar y toriadau mewn gwariant adrannol, yn cynnwys y grant bloc i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn arolwg gwario mis Tachwedd.

 

Yr ONS i ymchwilio i ddosbarthiad dyled cymdeithasau tai

Bydd y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (ONS) yn ystyried dosbarthiad cymdeithasau tai fel cyrff preifat yn sgîl y Gyllideb a newidiadau polisi eraill. Gallai hyn, o bosib, ychwanegu eu £60 biliwn o fenthyciadau at ddyled y sector cyhoeddus.

Bu gan lywodraethau blaenorol agwedd bwyllog tuag at bolisïau sy’n ymyrryd yn ormodol ag annibyniaeth yn y maes tai, rhag ofn y gallai hynny ysgogi ailddosbarthu dyled.

Yn eu datganiadau cyhoeddus, mae gweinidogion wedi bod ag agwedd ddigyffro ar y mater, gyda David Cameron yn disgrifio cymdeithasau tai fel ‘rhan o’r sector cyhoeddus’. Achosodd hynny i bobl ddyfalu a oedd y llywodraeth yn cynllunio diwygio pellach, efallai trwy ganiatáu statws ‘rhydd’ i gymdeithasau yn gyfnewid am brynu eu dyledion.

Mae’r polisïau sydd wedi ysgogi ymchwiliad yr ONS oll yn ymdrin â Lloegr yn unig, ond mae’n aneglur a allai weithredu meini prawf gwahanol ar gyfer gweddill y DU. Wrth i ni fynd i’r wasg, roedd cymdeithasau tai Lloegr wrthi’n cymeradwyo cytundeb gwirfoddol gyda’r llywodraeth ar hawl i brynu, a ddyluniwyd yn rhannol, gellid tybio, er mwyn osgoi ailddosbarthiad.

Dywedodd prif weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru, Stuart Ropke:Mae polisi tai wedi’i ddatganoli yng Nghymru ac mae cymdeithasau tai yn sefydliadau annibynnol. Yn sicr nid ydym yn rhan o’r sector cyhoeddus. Mae’n haelodau’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel rhan o’r bartneriaeth breifat, gyhoeddus a thrydydd-sector fwyaf llwyddiannus yn y DU ac efallai Ewrop gyfan.’

 

LLOEGR

Ysgytwad i dai cymdeithasol yn y Gyllideb

Rpedd Cyllideb yr Haf hefyd yn cynnwys newidiadau mawr i dai cymdeithasol yn Lloegr.

Cyhoeddodd George Osborne:

  • y gostyngir rhenti cymdeithasol o 1 y cant y flwyddyn am bedair blynedd o 2016/17
  • y gorfodir landlordiaid i godi rhenti ‘agos at y farchnad’ neu ‘talu-i-aros’ ar denantiaid sydd ag incwm teuluol o fwy na £40,000 yn Llundain a £30,000 ym mhobman arall.
  • y cynhelir ‘arolwg o ddefnydd tenantiaethau am oes mewn tai cymdeithasol er mwyn cyfyngu ar eu defnydd a sicrhau bod teuluoedd yn cael cynnig tenantiaethau sy’n ateb eu hanghenion, a sicrhau bod y defnydd gorau’n cael ei wneud o’r stoc tai.

Mae’r toriadau rhent yn gwrthdroi fformiwla y cytunwyd arni gyda’r Trysorlys ddwy flynedd yn ôl o dan y glymblaid a oedd yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol gynyddu rhenti o chwyddiant ac 1 y cant. Yn ôl Osborne, byddai hyn yn diweddu’r ‘cylch o fudd-dal tai bythol uwch yn ymlid rhenti bythol uwch’ ac yn arbed rhyw £4 biliwn dros gyfnod yr arolwg gwario.

Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllideb annibynnol y byddai’r lleihad yn incwm landlordiaid yn cwtogi ar fuddsoddi mewn cartrefi newydd. Amcangyfrifai y byddent yn adeiladu 4,000 yn llai o gartrefi newydd o ganlyniad yn 2019/20 a 14,000 yn llai dros gyfnod yr arolwg gwario.

Amcangyfrifai cymdeithasau tai unigol y byddai eu hincwm disgwyliedig yn syrthio o ryw 12 y cant dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd 168 o awdurdodau lleol sydd wedi cadw eu stoc tai yn colli £2.6 biliwn yn y pedair blynedd, a £43 biliwn yn ystod oes eu cynlluniau busnes 30-mlynedd. Rhybuddiwyd y gallai hynny effeithio ar eu gallu i ad-dalu dyled i’r Trysorlys o dan drefniadau hunan-gyllido nas sefydlwyd tan 2012.

 

YR ALBAN

Mesur i amddiffyn rhentwyr cymdeithasol

Bydd Llywodraeth yr Alban yn amddiffyn tenantiaid preifat yn erbyn cynnydd gormodol yn eu rhentu ac yn cynyddu sicrwydd deiliadaeth.

Bydd Mesur Tenantiaethau Preifat yn ‘darparu rhenti mwy rhagweladwy ac yn amddiffyn tenantiaid yn erbyn codiadau rhent gormodol, yn cynnwys rheolaeth leol ar renti mewn ardaloedd o dan bwysau.’ Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cynharach yn argymell terfynau ar godiadau rhent i denantiaid presennol mewn ‘poethfannau’.

Bydd Tenantiaethau Rhentu Preifat yr Alban yn disodli’r gyfundrefn sicr bresennol a dileu’r sail dim-bai dros adfeddiannu, sy’n golygu na all landlordiaid ofyn i denant ymadael ddim ond am fod y tymor penodedig wedi dod i ben. Rhaid iddynt fod â rheswm penodol fel dymuno gwerthu’r cartref neu fyw ynddo eu hunan, ôl-ddyledion rhent ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Mae Rhaglen yr Alban 2015/16 hefyd yn addo defnyddio pwerau newydd Senedd yr Alban i ddileu’r dreth stafell wely a gwella darpariaethau tai’r credyd cynhwysol.

 

GOGLEDD IWERDDON

Llai o adfeddiannu cartrefi

Bu gostyngiad mawr mewn adfeddiannau morgais wrth i farchnad tai Gogledd Iwerddon barhau i adfywio.

Dangosodd ffigyrau a gyhoeddwyd gan Wasanaeth y Llysoedd y bu 283 adfeddiant rhwng Ebrill a Mehefin 2015, gostyngiad o 62 y cant o’i gymharu â llynedd.

Meddai Nicola McCrudden, Cyfarwyddydd Sefydliad Tai Siartredig Gogledd Iwerddon: ‘Mae hyn yn newyddion da iawn i berchenogion cartrefi a’r farchnad tai yn gyffredinol. Mae’r cyfuniad o gyfraddau llog isel, mwy o gyngor ar ddyledion morgais gyda chefnogaeth y llywodraeth, a mwy o sefydlogrwydd yn y farchnad swyddi wedi sadio pethau.’

Fodd bynnag, roedd adfeddiannu yn 2014 wyth gwaith yn uwch nag yn 2007 cyn chwalfa’r farchnad tai, ac mae’n dal yn llawer uwch nag yng ngweddill y DU. Amcangyfrifir bod ecwiti negyddol yn dal i fod ar 60,000 o forgeisiau a godwyd ers 2005.

 

LLYWODRAETH CYMRU

Partneriaeth gydag HBF â’r nod o gynyddu cyflenwad a swyddi

Arwyddodd Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi (HBF) gytundeb i hybu’r cyflenwad tai a chreu cymaint o swyddi a chyfleoedd hyfforddi ag sy’n bosibl mewn adeiladu.

Mae’r cytundeb am adeiladu ar sail tuedd galonogol. Cychwynnwyd ar 1,804 o dai yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin 2015, cynnydd o 6 y cant ar y llynedd. Roedd hynny’n dilyn cynnydd o 20 y cant yn 2014/15. Cwblhawyd 1,750 o dai yn ystod y chwarter hefyd, 10 y cant yn fwy nag yn Ebrill-Mehefin 2014, yn dilyn cynnydd o 6 y cant llynedd.

Y sector breifat oedd yn gyfrifol am 84 y cant o’r tai a gwblhawyd yn y tri mis diwethaf, er i gymdeithasau tai gwblhau mwy o gartrefi hefyd.

Nod y cytundeb yw sicrhau bod y cyflenwad yn ateb y galw cynyddol tra’n manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gymunedau elwa. Bydd Llywodraeth Cymru yn ehangu Cymorth i Brynu – Cymru, rhyddhau mwy o dir cyhoeddus, a thorri drwy dâp coch.

Meddai’r gweinidog cymunedau, Lesley Griffiths: ‘Rwy’n benderfynol o weld y momentwm hwn yn parhau ac rwy’n credu bod mwy eto y gallwn ei wneud i barhau i ddarparu cartrefi i bobl ledled Cymru. Datblygwyd y cytundeb rwyf wedi ei gyhoeddi heddiw mewn partneriaeth agos â’r HBF a’u haelodau, a bydd yn ein helpu i gyflawni ein blaenoriaeth o gynyddu’r cyflenwad tai.

Atebion Torïaid a Democratiaid Rhyddfrydol i’r Cwestiwn Mawr

Gwelwyd camau gwleidyddol pwysig ar dai gan wrthbleidiau ym mis Medi cyn etholiadau’r  Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Tra’n annerch digwyddiad ‘Cwestiwn Mawr’ STS Cymru, gwrthododd Mark Isherwood, o’r Ceidwadwyr Cymreig, y syniad o ymestyn yr hawl i brynu i gymdeithasau tai a’r toriadau mewn rhenti cymdeithasol y mae ei blaid yn eu cynnig yn Lloegr.

Dywedodd Peter Black y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gosod targed o 20,000 o gartrefi newydd fforddiadwy yn nhymor nesaf y Cynulliad, gan ddyblu targed y blaid Lafur o 10,000 ar gyfer 2011-2016. Addawodd y byddai ei blaid yn dyblu’r grant tai cymdeithasol gyfredol o £35 miliwn i £70 miliwn y flwyddyn.

Newid meddwl ynglŷn â moratoriwm chwe-mis

Dywedodd y gweinidog cymunedau a threchu tlodi, Lesley Griffiths, ei bod am ailsefydlu’r moratoriwm chwe-mis mewn tenantiaethau preifat ar ôl clywed dadleuon am y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru).

Mewn cyfarfod Cyfnod 2 o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth yn y Cynulliad, wrth i WHQ fynd i’r wasg ddiwedd mis Medi, dywedodd y gweinidog y credai, ar ôl ystyried, bod peryglon dileu’r moratoriwm yn gwrthbwyso’r buddiannau, ac y byddai’n cyflwyno gwelliant Cyfnod Tri i adfer y sefyllfa gyfredol. Dywedodd hefyd y byddai’n ystyried yr achos o blaid mwy o sicrwydd yn y dyfodol, er y byddai angen ymgynghori’n eang ynglŷn â hynny.

Dileu’r moratoriwm oedd un o agweddau mwyaf dadleuol y Bil. Dadl y rhai oedd o blaid oedd y byddai’n symleiddio’r ddeddf heb newid fawr ddim yn ymarferol ond dadleuai gwrthwynebwyr y byddai’n gadael tenantiaid preifat yng Nghymru â llai o sicrwydd deiliadaeth na gweddill y DU.

Rhentu Doeth Cymru ar waith

Yn dilyn y Ddeddf Tai, rhaid i landlordiaid preifat ac asiantiaid gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru (rentsmart.gov.wales) o hydref 2015.

Rhaid i bob landlord preifat ag eiddo rhentu yng Nghymru gofrestru ei hun a chyfeiriadau’r eiddo. Rhaid i landlord ymgeisio am drwydded os yw’n gosod neu’n rheoli eiddo. Os cyfarwyddir asiant i wneud y gwaith ar ei ran, rhaid i’r asiant hwnnw fod wedi ei drwyddedu. I gael trwydded, rhaid i landlord neu asiant fod wedi’i hyfforddi’n ddigonol, a datgan ei fod yn ‘addas a phriodol’.

Papurau ymgynghori

 

CYMRU

Landlordiaid yn uno yn erbyn camdrin domestig

Mae landlordiaid cymdeithasol yng Ngwent wedi uno mewn project yn erbyn camdrin domestig.

Nod y project yw sicrhau gwasanaeth mwy effeithiol i denantiaid tai cymdeithasol yng Ngwent sy’n dioddef camdrin domestig trwy greu pecyn cymorth ar gyfer landlordiaid cymdeithasol. Gobeithiant y gellir defnyddio’r pecyn cymorth ar draws y sector tai yng Nghymru, er mwyn helpu pob landlord cymdeithasol i fynd i’r afael â chamdrin domestig a’i atal.

Mae’r landlordiaid cymdeithasol sy’n cymryd rhan yn cynnwys Tai Cymunedol Bron Afon, Tai Charter, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cartrefi Melin, Tai Sir Fynwy, Cartrefi Dinas Casnewydd, Cymdeithas Tai United Welsh, Derwen Cymru a Chartrefi Cymunedol Tai Calon.

Dengys gwybodaeth gan Gymorth i Fenywod bod rhyw 90 y cant o’r rhai a gefnogir ganddynt yn byw mewn tai (cymdeithasol, yn bennaf) wedi eu rhentu. Yn 2013/14, cofnodwyd mwy na 1,000 o achosion o gamdrin domestig gan landlordiaid cymdeithasol a oedd yn rhan o’r project.

Mae gan yr holl landlordiaid cymdeithasol cyfranogol bolisïau ac arfer eisoes ar gyfer ymdrin â chamdrin domestig, ond maent yn cydnabod y gellid gwneud mwy.

Penodwyd Ceridwen Wood yn ddiweddar fel rheolydd project i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn; cyd-gyllidir y swydd gan yr holl sefydliadau cyfranogol.

Toriadau’n tanseilio cynlluniau ar gyfer paneli solar

Mae toriadau llywodraeth y DU i’r tariff bwydo-i-mewn wedi gorfodi cyngor lleol i roi’r gorau i gynlluniau i osod paneli solar ar 2,700 o’i gartrefi.

Bydd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn cwtogi ar y tariff bwydo-i-mewn, y tâl i aelwydydd am drydan a gynhyrchir, o 90 y cant ym mis Ionawr cyn ei ddileu’n gyfangwbl yn 2019.

Mae hyn yn golygu na fydd cynlluniau Cyngor Sir Gâr i osod paneli solar ar draean o’i gartrefi yn ymarferol bellach. Mae timau tai yn awr yn archwilio ffyrdd eraill o helpu tenantiaid i arbed arian ar filiau tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.

Bu’r cyngor yn gweithio gyda Gen Community i ddatblygu’r rhaglen a sefydlu cronfa gymuned i dderbyn yr incwm o’r tariff bwydo-i-mewn domestig. Byddai tenantiaid y cyngor wedi arbed £6.3 miliwn ar eu biliau ynni ymhen 20 mlynedd.

Meddai’r Cyng. Linda Evans, yr aelod bwrdd gweithredol dros dai: ‘Yn anffodus, cyhoeddodd y Llywodraeth yn ddiweddar mewn ymgynghoriad eu bod yn bwriadu cwtogi’n hallt ar y tariff bwydo-i-mewn, o 12.47c i 1.63c o fis Ionawr 2016. Mae hyn yn llawer mwy nag a ragwelwyd.

‘Gweithiodd y Bwrdd Gweithredol presennol, yr un blaenorol,a swyddogion, yn galed i gael y project yma ynghyd, ac rydym oll yn siomedig dros ben. Byddaf yn sgrifennu ar y gweinidogion Cymreig a’r gweinidog yn Llundain i fynegi ein pryderon yn Sir Gâr.’

Cyrch i ddiweddu digartrefedd ymhlith pobl ifanc

Bydd pum elusen yng Nghymru yn cydweithio i ddatblygi agwedd Gymreig ar ymgyrch y DU i Ddiweddu Digartrefedd Ieuenctid.

Ffurfiodd Adref, Dewis, GISDA, Llamau a Phroject Pobl Ifanc Sengl Digartref Abertawe (SYSHP) bartneriaeth newydd i gynyddu ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru ym mis Awst, yn sgîl cywaith llwyddiannus y DU dan arweiniad Centrepoint.

Yn un o’i gweithredoedd cyntaf, mae partneriaeth Diweddu Digartrefedd Ieuenctid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i’r arfer o osod rhai 16 ac 17-oed digartref, diymgeledd mewn llety gwely-a-brecwast. Dywed bod hynny’n eu rhoi mewn perygl annerbyniol, gyda’r un llety’n cael ei ddefnyddio gan lawer o awdurdodau lleol i gartrefu oedolion newydd eu rhyddhau o’r carchar.

Meddai prif weithredydd Dewis, Stuart Mckinnon: ‘Dylai cefnogi pobl ifanc a harneisio’u sgiliau a’i galluoedd fod wrth graidd agenda Llywodraeth Cymru, a heb lety sefydlog a’r cymorth iawn, ni fydd Cymru’n gallu gwireddu i’r eithaf un o’i hasedau mwyaf.’

 

CYHOEDDIADAU – 10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

 

1) The Shape of Wales to Come: Wales’ economy, environment and society in 2020

Sefydliad Bevan, Medi 2015

www.bevanfoundation.org/publications/shape-wales-2020/

 

2) Toward a Wales Free from Poverty: emerging ideas

Sefydliad Joseph Rowntree a Sefydliad Bevan, Awst 2015

www.bevanfoundation.org/publications/wales-free-poverty/

 

3) The Homelessness Monitor Wales 2015

Crisis, Awst 2015

www.crisis.org.uk/data/files/publications/HomelessnessMonitorWales2015_final.pdf

 

4) Monitoring Poverty and Social Exclusion in Wales 2015

New Policy Institute a Sefydliad Joseph Rowntree, Medi 2015

www.jrf.org.uk/report/monitoring-poverty-and-social-exclusion-wales-2015  

 

5) How Do Landlords Address Poverty?

Sefydliad Joseph Rowntree, Medi 2015

www.jrf.org.uk/report/how-do-landlords-address-poverty

 

6) Safe as Houses? Crime and changing tenure patterns

Sefydliad yr Heddlu, Awst 2015

www.police-foundation.org.uk/uploads/holding/projects/housing_and_crime_final.pdf

 

7) Rethinking Planning Obligations: Balancing housing numbers and affordability

Sefydliad Joseph Rowntree, Gorffennaf 2015

www.jrf.org.uk/report/rethinking-planning-obligations-balancing-housing-numbers-and-affordability

 

8) No Passport Equals No Home: An independent evaluation of the Right to Rent scheme

Y Cyd-gyngor ar gyfer Lles Mewnfudwyr, Medi 2015

www.jcwi.org.uk/blog/2015/09/03/right-rent-checks-result-discrimination-against-those-who-appear-‘foreign’

 

9) Leading Diversity by 2020

Comisiwn Llywydd y STS ar Amrywiaeth mewn Tai, Mehefin 2015

www.cih.org/leadingdiversityby2020

 

10) A Plan for Housing: Working with housing associations to end the housing crisis

Ffederasiwn Tai y DU, Gorffennaf 2015

s3-eu-west-1.amazonaws.com/pub.housing.org.uk/A_plan_for_housing_FINAL.pdf


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »