Tai a Thlodi: rhagarweiniad
MAE’R NODWEDD ARBENNIG YMA yn craffu ar y cysylltiadau rhwng tai a thlodi. Mewn oes o lymder a chostau tai cynyddol, gyda £12 biliwn arall o doriadau budd-dal ar y ffordd, maent yn gysylltiadau na ellir mo’u hosgoi. Mae peryglon gwirioneddol bod y gyfundrefn tai a fu’n wrthglawdd yn erbyn tlodi ac amddifadedd yn awr, yn hytrach, mewn perygl o wneud pobl yn dlotach.
Os yw’r peryglon hyn yn tyfu, felly hefyd yr ymwybyddiaeth o’r rhan y gall tai yn gyffredinol, a thai cymdeithasol yn enwedig, ei chwarare yn eu lliniaru. Yng Nghymru, cydnabyddir y berthynas hon yn benodol ym mhortffolio eang y gweinidog cymunedau a threchu tlodi, Lesley Griffiths, ac yn amlygrwydd y penderfyniad i ddiogelu tai cymdeithasol – sef y rhan o’r wladwriaeth les sydd fwyaf o blaid pobl dlawd – a buddsoddi ynddynt yn hytrach na chynyddu rhenti i lefelau ‘fforddiadwy’.
Mae natur tlodi a pherthynas tai â hynny wedi newid yn y degawd diwethaf: mae mwy o aelwydydd gweithiol yng Nghymru mewn tlodi na rhai sy’n ddi-waith; mae llai o dlodi ymhlith pobl hŷn, ond mae’r lefel yn ddigyfnewid neu hyd yn oed ar gynnydd ymhlith plant a phobl o oed gwaith; ac mae’r sector rhentu preifat bellach yn cartrefu niferoedd cynyddol o bobl dlawd. Fe welwch y themâu hyn trwy’r holl rifyn hwn o WHQ ond yn y 12 tudalen nesaf, mae cyfres o erthyglau nodwedd cysylltiedig yn edrych ar oblygiadau hynny o ran polisi, a beth mae landlordiaid, awdurdodau lleol a thenantiaid yn ei wneud ynglŷn â hyn yn ymarferol.
Rhan allweddol tai mewn trechu tlodi
Mae tlodi’n real ond nid yn anorfod, medd Julia Unwin, a gall tai cymdeithasol a landlordiaid cymdeithasol helpu.
MAE BRON CHWARTER HOLL bobl Cymru yn byw mewn tlodi. Nid fydd y DU byth yn cyflawni ei phosibiliadau economaidd llawn nes i ni fynd i’r afael ag achosion y lefelau uchel o dlodi ac anfantais yng Nghymru a mannau eraill, trwy strategaeth gynhwysfawr.
Mae swyddogaeth y wladwriaeth yn bwysig, wrth gwrs, ar lefel leol, genedlaethol a Phrydeinig, yn enwedig trwy’r gyfundrefn dreth a budd-daliadau, ond ni all leihau tlodi ar ei phen ei hun; mae angen ffordd fwy cynhwysfawr o fynd ati. Mae gan dai ran allweddol i’w chwarae, a dwi’n ddiolchgar i WHQ am y cyfle i bwysleisio dau o’r camau pwysig y gall darparwyr tai yng Nghymru eu cymryd i gyfrannu tuag at greu Prydain lewyrchus a rhydd o dlodi.
Mae’r cyntaf yn amlwg efallai, ond mae’n haeddu ei ailddatgan, sef bod tai rhent â chymorth cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol mewn trechu tlodi. Fel y nododd yr Athro Rebecca Tunstall mewn cyfweliad diweddar â SJR, mae llety cymdeithasol ‘wedi ei anelu’n bennaf at bobl ar incwm isel, a dangoswyd mai dyma agwedd fwyaf “tlawd-gefnogol” ac ailddosbarthol yr holl wladwriaeth les.’
Yn syml iawn, mae angen mwy ohono. Gwelwyd cynnydd nodedig yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n amheuthun gweld ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i ddarparu 10,000 o dai fforddiadwy yn ystod y tymor hwn – ond rhaid cynnal y cynnydd a’r ddarpariaeth. Fel arall, gwelwn fwy o deuluoedd yn byw yn y sector rhentu preifat – math o lety y gwyddom nad yw hyd yma yn cynnig yr un fforddiadwyedd, ansawdd a sefydlogrwydd â thai cymdeithasol.
Mae’r toriadau mewn cyllid a diwygiadau lles yn gwneud hwn yn dalcen caled i bawb sy’n gweithio yn y maes tai. Ond gwn fod sector tai Cymru yn cydnabod pwysigrwydd darparu mwy o dai gwirioneddol fforddiadwy i’w rhentu, ac mae wedi arddangos bwriad cyffredin a chreadigrwydd er mwyn cyflawni hynny. Mae’r dystiolaeth sy’n deillio o raglen tai a thlodi SJR yn dangos pwysigrwydd parhaus eich ymdrechion i drechu tlodi.
Yr ail beth pwysig y credaf y gall y sector tai yng Nghymru ei wneud yw arwain trwy esiampl fel cyflogwyr. Roeddwn wrth fy modd i weld y drafodaeth yn rhifyn diwethaf WHQ o benderfyniad eofn Tai Wales and West i dalu Cyflog Byw i’w holl staff. Dyna’n penderfyniad ninnau yn SJR ac Ymddiriedolaeth Tai Joseph Rowtree hefyd, sy’n tanlinellu ein hymrwymiad i fod yn gyflogwyr gwrth-dlodi.
Dengys tystiolaeth SJR bwysigrwydd neilltuol y Cyflog Byw yng nghyd-destun Cymru. Mae’n amlwg y bydd yn rhaid i strategaeth gwrth-dlodi ganolbwyntio ar greu swyddi. Ond un o ganfyddiadau mwyaf ysgytwol ein hymchwil yw bod y nifer yng Nghymru sy’n gweithio ac sy’n byw mewn tlodi bellach yn fwy na’r nifer sydd heb waith. Mae 51 y cant o oedolion oed-gwaith a phlant sydd mewn tlodi yng Nghymru o deuluoedd sydd mewn gwaith.
Dengys y dystiolaeth fod tlodi mewn-gwaith yn deillio o oriau annigonol a chyflogau isel, gyda phobl heb gymaint o oriau o waith cyflog ag yr hoffent; hyd yn oed os cânt oriau digonol, yn rhy aml maent ar gyflog isel. Mae budd-daliadau oed-gwaith yn achubiaeth i bobl sy’n ymdopi â’r cylch ‘cyflog isel – dim cyflog’ yma, ond rhydd hynny yn ei dro bwysau ar y pwrs cyhoeddus.
Gall y Cyflog Byw helpu i newid bywydau. Ond mae hefyd o fudd i weddill cymdeithas. Amcangyfrifir bod cynnyrch economaidd yn cynyddu o £13,000 ar gyfartaledd am bob un sy’n symud o ddiweithdra i gyflogaeth ar Gyflog Byw. Mae symud i mewn i waith hefyd yn cynyddu incwm gwario pobl, sy’n eu galluogi i wario mwy a chreu mwy o alw yn yr economi, yn ogystal ag arbed arian i’r Trysorlys. Mae’n newyddion da i bawb.
Wrth gwrs, mae llawer mwy y gall landlordiaid ei wneud i drechu tlodi na datblygu cartrefi gwirioneddol fforddiadwy i’w rhentu a thalu Cyflog Byw, er pwysiced y rheini. Bydd ymchwil bellach gan SJR yn edrych yn bur fanwl ar sut mae landlordiaid o bob math yn mynd i’r afael â thlodi.
Mae tlodi’n real ond nid yw’n anorfod. Mae tlodi’n atal yr economi rhag tanio ar bob silindr, gan greu costau na all Cymru na’r DU eu fforddio. Mae’n niweidio rhagolygon tymor-hir pobl, gan wastraffu eu doniau a’u posibiliadau. Mae gan dai yng Nghymru ran allweddol i’w chwarae mewn trechu tlodi.
Julia Unwin yw prif weithredydd Sefydliad Joseph Rowntree
Ffordd newydd o fynd ati
Mae natur gyfnewidiol tlodi yn golygu bod yn rhaid i ymdrechion i’w leihau ystyried tai, dadleua Victoria Winckler
ERBYN I CHI DDARLLEN yr erthygl hon, dylai’r stadegau diweddaraf ar dlodi yng Nghymru fod allan. Dwi ddim yn gamblwr, ond mi fentra’i na fydd y ffigyrau sylfaenol yn well na chyfraddau 2012/13. Ac er mai aros yn eu hunfan fu’r duedd yn ddiweddar, mae’r dyfodol i’w weld yn llawer gwaeth, gyda darogan mai codi fydd hanes cyfraddau tlodi, yn enwedig ymhlith plant, rhieni sengl a pharau di-waith.
Bydd ffigyrau 2013/14 bron yn sicr yn cadarnhau bod natur tlodi’n newid hefyd. Tra bod y perygl o dlodi ymhlith pobl hŷn wedi disgyn yn sylweddol yn y 15 mlynedd diwethaf, mae’r lefelau’n ddigyfnewid neu hyd yn oed ar gynnydd ymhlith plant a phobl o oed gwaith. Ac mae’r gyfartaledd o bobl mewn tlodi lle mae o leiaf un aelod o deulu yn gweithio wedi tyfu i’r fath raddau fel bod y mwyafrif o dlodion o oed gwaith yn byw ar aelwyd lle mae rhywun yn gweithio.
Mae polisi cyhoeddus yng Nghymru yn stryffaglio i ddal i fyny ag arwyddocad y newidiadau hyn. Pur anaml y cydnabyddir y gwahanol risg o dlodi sy’n wynebu gwahanol grwpiau o bobl, ac mae’r holl bwyslais o hyd ar ‘helpu pobl i mewn i waith’ fel y llwybr allan o dlodi, gyda phob mesur o lwyddiant bellach wedi eu distyllu’n un yn unig – p’run ai a ydy incwm yr aelwyd yn llai na 60 y cant o’r canolrif ar gyfer y math hwnnw o aelwyd.
Mae’r newidiadau hyn yn golygu ei bod hi’n bryd cael ffordd newydd o fynd ati, gan ddechrau trwy newid y ffordd rydym yn diffinio tlodi. Mae sôn am ddiffiniadau o dlodi yn ddigon i wneud i’r rhan fwyaf o bobl golli diddordeb, ond mae diffiniadau’n bwysig. Y nhw sy’n pennu’r safonau ar gyfer barnu a yw amodau byw y tlotaf yn dderbyniol ai peidio. Ac mae’n diffiniad o dlodi yn ffurfio ein hymateb iddo.
Gan weithio gyda Sefydliad Joseph Rowntree, dechreusom roi’r mesur swyddogol o dlodi o’r neilltu er mwyn meddwl am yr hyn sy bwysicaf i safon byw pobl. Ein man cychwyn yw pethau cwbl sylfaenol – bwyd, llety, gwres a dillad. Mae’r cyhoedd a’r arbenigwyr ill dau yn cytuno bod y pethau hyn yn hanfodol mewn cymdeithas wâr. Mae’r gallu i gyfranogi mewn cymdeithas – er enghraifft, fforddio talu am docyn bws er mwyn ymweld ag aelod o’r teulu yn yr ysbyty – yn hanfodol hefyd.
Mae’r ffordd hon o fynd ati nid yn unig yn cydweddu â phrofiadau pobl sy’n byw ar incwm isel, mae hefyd yn agor y posibilrwydd i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a chyrff cyhoeddus a gwirfoddol eraill i leihau tlodi mewn ffyrdd sydd o bwys i’r bobl sy’n dioddef ei effeithiau. Ar hyn o bryd, nid yw darparu cartref cynnes, sych, diogel i deulu un-rhiant yn gwneud dim i gynyddu incwm y teulu hwnnw ac felly, yn ôl y diffiniadau cyfredol, nid yw’r gwneud dim i leihau tlodi. Ac eto, mae’n siŵr y byddem oll yn cytuno bod cartref boddhaol yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i ansawdd bywyd y teulu, ei sefydlogrwydd a’i ragolygon. Nid ydym yn awgrymu nad yw arian o bwys – mae’n amlwg ei fod – dim ond dweud na ddylid ystyried mai arian yw’r unig fesur o fyw mewn tlodi ai peidio. Mae bod â chartref cynnes, o ansawdd da, o bwys hefyd.
A phan ddaw hi at arian, mae tai o bwys hefyd. Mae costau cynyddol llety yn gwthio mwyfwy o deuluoedd i mewn i dlodi incwm hefyd. Yn y sector rhentu preifat, er enghraifft, roedd gan 17 y cant o denantiaid incwm islaw’r trothwy tlodi cyn cymryd eu costau llety i ystyriaeth, ond mae 37 y cant islaw’r trothwy ar ôl talu costau llety. Yn y sector tai cymdeithasol, mae 26 y cant o denantiaid yn byw mewn tlodi, sy’n cynyddu i 42 y cant ar ôl talu costau llety. Nid yw effaith costau llety’n ddim byd tebyg ar rai sy’n berchen ar eu cartref.
Mae’r oblygiadau i wneuthurwyr polisi yn glir – rhaid i ymdrechion i leihau tlodi gymryd tai i ystyriaeth. Byddai ymgyrch i gynyddu’r cyflenwad, gwella amodau tai, sicrhau tenantiaethau sefydlog a chefnogi lefelau rhent isel yn mynd ymhell iawn tuag at helpu i leihau tlodi yng Nghymru.
Victoria Winckler yw cyfarwyddydd Sefydliad Bevan