English | Cymraeg Tel: 07979 362076 Connect: LinkedIn

Golygyddol – Trechu tlodi

Mewn cyfnod o lymder, cwtogi ar fudd-daliadau a chynnydd mewn costau tai, mae’n anodd osgoi’r cysylltiad rhwng tai a thlodi. Yng Nghymru, mae’r ddau bellach yn rhan o bortffolio’r gweinidog cymunedau a threchu tlodi, Lesley Griffiths.

Mae adran arbennig yn y rhifyn hwn o WHQ yn ffocysu ar bolisi ac arfer ac ar atebion yn ogystal â phroblemau. Mae’n cychwyn â chyfraniadau gan ddwy sydd yn y sefyllfa orau i gynnig gorolwg:  mae Julia Unwin o Sefydliad Joseph Rowntree (SJR) yn amlinellu rhan allweddol tai mewn mynd i’r afael â thlodi, tra bod Victoria Winckler o Sefydliad Bevan yn dadlau bod natur gyfnewidiol tlodi yn golygu bod yn rhaid i ymdrechion i’w leihau gymryd tai i ystyriaeth.

Mae’r ffocws eang yn cynnwys tystiolaeth yn deillio o raglen ymchwil tai a thlodi SJR, yr ymgyrch ar lawr gwlad yn erbyn y dreth stafell wely, a rhai projectau gwych ar gynhwysedd ariannol, cyflogaeth a hyfforddi, adeiladu bywoliaeth ac edrych y tu hwnt i fanciau bwyd. Ond ceir tystiolaeth gythryblus gan Shelter Cymru bod tenantiaethau cymdeithasol yn cael eu gwrthod i rai pobl ar y sail na allant eu fforddio.

Ar dudalennau eraill y rhifyn hwn, mae Keith Edwards yn dadlau fod llymder yn golygu bod angen ymateb Cymreig i her gwasanaethau cyhoeddus a modelau darparu newydd, a bod awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn rhannu’r un agenda.

Mae Alicja Zalesinska o Tai Pawb yn adrodd ar oblygiadau Mesur Mewnfudo Llywodraeth San Steffan ac yn dadlau am ymateb Cymreig i ddarpariaethau sydd â’r nod o greu ‘amgylchedd elyniaethus’ ar gyfer mewnfudwyr anghyfreithlon.

Daeth newyddion llawer gwell am dai yng Nghymru ym mis Ebrill ar ffurf hunan-gyllido tai cyngor. Mae cytundeb rhwng Trysorlys y DU a Llywodraeth Cymru yn golygu bod awdurdodau lleol a gadwodd eu stoc tai yn cael cefnu ar y system Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (HRAS) o’r diwedd, a rhoi’r gorau i anfon cymhorthdal negyddol nôl dros y ffin. Mae’n herthygl yn archwilio’r cytundeb a’r camau a gymerir mewn tri chyngor sydd â chynlluniau i adeiladu cartrefi cyngor newydd.

Mae gennym erthygl hefyd ar ‘Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl’, yr ymgyrch a lansiwyd gan Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru yn y Senedd ym mis Mai i bwysleisio pwysigrwydd hanfodol y gwaith a gyllidir trwy’r rhaglen.

Mae’r rhifyn Haf prysur hwn hefyd yn rhagarweiniad i achlysur arbennig iawn i’r cylchgrawn. Rhifyn mis Hydref fydd 100fed rhifyn WHQ a’n penblwydd ninnau yn 25 oed. Y bwriad yw nodi’r adegau cofiadwy a’r newidiadau anferthol mewn tai yng Nghymru ar hyd y ffordd ac edrych tuag at y dyfodol hefyd. Os oes gennych unrhyw atgofion yr hoffech eu rhannu, neu unrhyw gyfraniad arall, da chi, anfonwch ebost at editor@176.32.230.6  

Jules Birch

Golygydd, WHQ 


Sign up to our newsletter

Join WHQ’s free monthly newsletter for Welsh housing news, magazine highlights and opportunities to contribute. No magazine subscription needed.Get involved with WHQContribute an article, share your experience or have your say on housing and regeneration in Wales. We’d love to hear from you.Get in touch »

Sign up for the newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision-makers in Wales

Find out more »