DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU
Y DU
Ceidwadwyr yn barod i fanylu ar £12bn o doriadau lles
Gallai’r Canghellor George Osborne fanylu ar doriadau pellach mewn budd-daliadau i bobl o oed gwaith yn ei Gyllideb ar Orffennaf 8. Fodd bynnag, gallai anghytundeb o fewn y llywodraeth ynglŷn â lle y dylai’r fwyell ddisgyn olygu na wneir rhai cyhoeddiadau tan arolwg gwario’r hydref.
Nodwyd y toriadau cyntaf ym maniffesto’r Ceidwadwyr ac maent yn rhan o’r Bil Cyflogaeth Lawn a Budd-daliadau Lles yn Araith y Frenhines. Gostyngir y terfyn ar gyfanswm budd-daliadau o £26,000 i £23,000 y flwyddyn, caiff budd-daliadau oed-gwaith eu rhewi am ddwy flynedd o 2016/17, a bydd rhai 18-21 oed yn colli eu hawl otomatig i gymorth tai. Fodd bynnag, mae’r IFS yn amcangyfrif y bydd y mesurau hyn yn codi llai na £2 biliwn o’r £12 biliwn a fynnir gan Osborne.
Awgrymai sibrydion yn ystod yr ymgyrch etholiadol fod amrywiaeth o doriadau eraill dan ystyriaeth, i fudd-dal tai, budd-dal anabledd a chredydau treth. Tybir mai un dewis oedd cynyddu’r dreth stafell wely. Cafwyd adroddiadau bod Iain Duncan Smith yn gweithio ar gynlluniau i dorri budd-dal plant, ond diystyrwyd hynny gan Downing Street, sy’n golygu mwy byth o bwysau ar fudd-daliadau eraill.
Am fwy o wybodaeth am oblygiadau’r Bil Mewnfudo yn Araith y Frenhines i dai, gweler ‘Equality Update’.
LLOEGR
Cynllun cartref cyntaf
Yn ogystal ag ehangu’r hawl i brynu, mae’r Bil Tai yn cynnwys cynllun Cartref Cyntaf newydd.
Cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer 100,000 o Gartrefi Cyntaf cyfyngedig i brynwyr tro-cyntaf o dan y glymblaid, ond mae’r cynllun newydd yn dyblu hyn i 200,000 erbyn 2020. Lle’r oedd y cynllun gwreiddiol ar gyfer safleoedd na fyddent fel rheol yn derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer tai, deëllir y bydd yr un newydd yn caniatáu i adeiladwyr tai gyfrif Cartrefi Cyntaf fel eu cyfraniad nhw at dai fforddiadwy mewn cytundebau cynllunio adran 106. Mae’n aneglur sut y rheolir y gostyngiad 20 y cant.
Byddai’r Bil hefyd yn gweithredu Hawl i Adeiladu a fyddai’n gorfodi awdurdodau lleol i gynorthwyo adeiladwyr a hunan-adeiladwyr i ganfod darnau addas o dir, a chadw cofrestr tir-llwyd statudol i gynorthwyo gyda chyrraedd y nod o sicrhau bod gorchmynion datblygu lleol ar 90 y cant o dir llwyd addas erbyn 2020.
YR ALBAN
Cynghorau’n talu DHP i liniaru’r dreth stafell wely
Gwnaeth awdurdodau lleol yn yr Alban 118,000 o daliadau tai disgresiynol (DHP) gwerth mwy na £46 miliwn yn ystod 2014/15.
Dengys yr ystadegau swyddogol y derbyniodd cynghorau 132,000 o geisiadau a phrosesu 130,000 o’r rhain, sef £429 y taliad, ar gyfartaledd.
Bu gan weinidogion yr Alban yr hawl i bennu terfyn ar wariant DHP awdurdodau lleol ers 5 Tachwedd 2014. Daeth gorchymyn i ddileu’r terfyn hwnnw i rym ar Ragfyr 9.
Meddai’r gweinidog tai, Margaret Burgess:
‘Mae taliadau tai disgresiynol yn achubiaeth i denantiaid sydd ag angen cymorth ychwanegol gyda chostau tai neu i wrthbwyso effeithiau niweidiol treth stafell wely Llywodraeth y DU ers 2013, sy’n effeithio ar fwy na 70,000 o aelwydydd yn yr Alban.
‘Mae Llywodraeth yr Alban yn darparu £35 miliwn eleni i sicrhau y bydd gan bob awdurdod lleol yn yr Alban ddigon o arian i liniaru’r dreth stafell wely yn llawn, tra hefyd yn diogelu elfennau eraill y DHP. ‘Gan ddefnyddio’r pwerau newydd sy’n dod i’r Alban, bydd Llywodraeth yr Alban yn dileu’r dreth stafell wely cyn gynted â phosib. Rydym yn parhau i wneud y cwbl a allwn i gyfyngu ar effeithiau niweidiol toriadau lles Llywodraeth y DU ar rai o’r bobl dlotaf a mwyaf diymgeledd yn ein cymdeithas.’
GOGLEDD IWERDDON
Anghytundeb llwyr parthed torri budd-daliadau
Golyga’r anghydfod gwleidyddol parhaus ynglŷn â diwygio lles bod Gogledd Iwerddon yn wynebu’r tebygrwydd o orfodaeth gan San Steffan i dorri budd-daliadau wrth i WHQ fynd i’r wasg.
Roedd pleidiau Stormont wedi cytuno ym mis Rhagfyr i gyflwyno’r un toriadau â gweddill y DU, ond gyda mesurau lliniaru ychwanegol, yn cynnwys taliadau tai disgresiynol digonol i dalu cost y dreth stafell wely am dair blynedd. Chwalwyd y cytundeb hwnnw ym mis Mawrth pan ataliodd Sinn Fein ei chefnogaeth.
Ar ddiwedd mis Mai, pleidleisiodd aelodau Sinn Fein ac SDLP Cynulliad Gogledd Iwerddon yn erbyn Bil i gyflwyno mesurau fel y dreth stafell wely a therfyn uchaf ar fudd-daliadau. Ni lwyddodd y trafodaethau holl-bleidiol i ddatrys yr anghydfod.
Oni ellir dod i gytundeb, mae Gogledd Iwerddon yn wynebu dewis rhwng toriadau i gyllidebau eraill neu bod San Steffan yn gorfodi’r toriadau i fudd-daliadau yn uniongyrchol.
LLYWODRAETH CYMRU
Llwyddiant i’r cynllun ymateb i drais yn y cartref
Mae project gan Lywodraeth Cymru i wella’r ymateb aml-asiantaeth i ddioddefwyr trais domestig wedi gorgyflawni ei nod. Dengys ffigyrau a gyhoeddwyd ym mis Ebrill o’r Project 10,000 o Fywydau Diogelach bod 14,000 o bobl yn teimlo’n fwy diogel, neu yn fwy diogel, o ganlyniad i waith yng Nghymru i fynd i’r afael â chamdrin domestig a thrais rhywiol ers mis Hydref 2013.
Dywedodd y rheolydd gwasanaetau cyhoeddus Leighton Andrews:
‘Gall pob sefydliad a gefnogodd y project hwn ymfalchïo’n haeddiannol yn y llwyddiant hwn. Bydd y nifer sy’n teimlo’n fwy diogel o ganlyniad i’w gwaith ledled Cymru yn cynyddu ymhellach wrth i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) ddod i rym.’
Hwb Cymorth i Brynu i brynwyr ac adeiladwyr
Cefnogodd fersiwn Cymru o gynllun llywodraeth y DU i gynnig benthyciadau ecwiti ar gartrefi newydd 1,378 o bwrcasiadau rhwng Ionawr 2015 a diwedd Mawrth 2015.
Mae cynllun Cymorth i Brynu – Cymru yn cefnogi prynwyr ac adeiladwyr drwy helpu pobl sy’n cael trafferth codi ernes ar gartref newydd. Darparwyd cyfanswm o £48.7 miliwn o fenthyciadau ecwiti gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn, gyda gwerth y cartrefi yn gyfanswm o £245.7 miliwn.
Prynwyr tro-cyntaf a gafodd 74 y cant o’r benthyciadau gyda’r pris prynu yn £178,290 ar gyfartaledd.
Mae’r cynllun yn werth cyfanswm o £170 miliwn; gydag adeiladwyr yn sôn am 600 o bwrcasiadau eraill ar y gweill, dywed Llywodraeth Cymru ei bydd wedi cefnogi adeiladu 5,000 o gartrefi ledled Cymru.
Meddai’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: ‘Dro ar ôl tro, rwyf wedi cyfarfod â phobl sydd wedi’i chael yn anodd i drefnu blaendal mawr, ac wedi meddwl na fyddai’n bosib iddyn nhw brynu tŷ, cyn cael help y cynllun Cymorth i Brynu – Cymru. Diolch i’r cynllun, mae’n bosib i bobl ledled Cymru bellach brynu cartrefi fforddiadwy, diogel o safon uchel.’
Ym mis Chwefror, cyhoeddodd y gweinidog fwriad Llywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun wedi diwedd Mawrth 2016.
Roedd yr estyniad yn rhan o faniffesto etholiadol y Ceidwadwyr hefyd.
Newidiadau digartrefedd bellach yn ddeddf
Daeth newidiadau sylfaenol i’r ddeddfwriaeth ddigartrefedd i rym yng Nghymru ddiwedd mis Ebrill.
Prif nod y darpariaethau yn Neddf Tai (Cymru) 2014 yw sicrhau bod pobl sy’n ddigartref neu sy’n wynebu digartrefedd yn derbyn cymorth cyn gynted â phosib.
Mae’r ddeddfwriaeth yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithio gyda pobl sydd mewn perygl o golli eu cartref o fewn 56 diwrnod i ddod o hyd i ateb i’w problemau. Gobeithia Llywodraeth Cymru y bydd y darpariaethau newydd yn atai tri o bob pedwar sy’n wynebu digartrefedd rhag colli eu cartrefi.
Mae gan awdurdodau lleol hefyd fwy o hyblygrwydd i ddefnyddio llety wedi’i rentu’n breifat er mwyn rhoi cartref i bobl sy’n wynebu digartrefedd.
Meddai Lesley Griffiths, y gweinidog cymunedau a threchu tlodi:‘Y ddeddfwriaeth hon yw’r gyntaf ym Mhrydain, a’r ddeddf digartrefedd bwysicaf mewn 30 mlynedd a mwy. Rwy’n cydnabod yr her sy’n wynebu pawb sydd yn y sector tai, a’r pwysau parhaus ar gyllid cyhoeddus, y cynnydd mewn costau byw ac yn y galw am dai fforddiadwy. Dyna pam rydyn ni’n rhoi’r ddeddfwriaeth flaengar hon ar waith, sy’n canolbwyntio ar atal digartrefedd a lleihau nifer y bobl sy’n mynd drwy’r trawma o fynd yn ddigartref.’
Meddai John Puzey, cyfarwyddydd Shelter Cymru:
‘Mae gwasanaethau atal digartrefedd yn bod ar gyfer pawb sydd mewn perygl o golli eu cartref. Does dim rhaid i chi fod yn derbyn budd-daliadau nac yn perthyn i grŵp ‘angen blaenoriaethol’ mwyach. Y ffaith amdani yw y gall ddigwydd i unrhyw un, ni waeth beth y bo’u cefndir – ffaith a gydnabyddir gan Lywodraeth Cymru sy’n agor gwasanaethau yn lletach nag erioed o’r blaen. Dylai pobl fod yn gwybod bod y cymorth hwn ar gael iddynt.’
Papurau ymgynghori
- Amddiffyn Asedau Cymunedol – http://gov.wales/consultations/people-and-communities/protecting-community-assets-consultation/?lang=cy – ymatebion erbyn Medi 11
- Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol –http://gov.wales/consultations/planning/developments-of-national-significance/?lang=cy – ymatebion erbyn Awst 12
CYHOEDDIADAU – 10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW
IWA Constitutional Convention reportY Sefydliad Materion Cymreig, Mehefin 2015 www.iwa.org.uk/en/publications/view/242
Tai Amlfeddiannaeth: Adolygu a Chasglu TystiolaethAdroddiad Canfyddiadau, Llywodraeth Cymru, Ebrill 2015
http://gov.wales/docs/desh/research/150505houses-in-multiple-occupation-hmo-final-report-cy.pdf
Busnesau Cymdeithasol yng Nghymru: Cyflwr y Sector Canolfan Gydweithredol Cymru, Mehefin 2015
www.walescooperative.org/wp-content/uploads/2015/05/Social-Businesses-in-Wales-Report-CY.pdf
Women’s Equality Now: poverty & economic violenceSefydliad Bevan, Mai 2015 www.bevanfoundation.org/publications/women-economic-violence
A Constitutional Crossroads: ways forward for the United Kingdom Bingham Centre for the Rule of Law, Mehefin 2015
www.biicl.org/documents/595_a_constitutional_crossroads.pdf
Welfare reform – lessons learnedY Swyddfa Archwilio, Mai 2015
www.nao.org.uk/reports/welfare-reform-lessons-learned
A Nation of Renters – How England moved from secure family homes towards rundown rentals Citizens Advice, Mai 2015
Delivering Change: what housing associations can tell us about employment and skills Centre for Cities, Mehefin 2015
Future Finance – a new approach to financial capability Centre for Social Justice, Mehefin 2015 www.centreforsocialjustice.org.uk/UserStorage/pdf/Pdf reports/CSJ—Future-Finance.pdf
Easing the Burden – the impact of welfare reform on local government and the social housing sector Grant Thornton, Mai 2015
www.grant-thornton.co.uk/Global/Easing-the-burden- welfare-reform-report.pdf
CYMRU
Cartrefi i ‘ymddangos fel newydd’ ar ôl eu gweddnewid
Mae tai cyngor anhraddodiadol yn Wrecsam yn cael eu gweddnewid trwy insiwleiddio’u waliau allanol.
Dywed Bwrdeistref Sirol Wrecsam y bydd y preswylwyr yn gweld gostyngiad sylweddol yn eu biliau ynni, a gwelliannau radical i ymddangosiad allanol eu tai.
Mae’r tai anhraddodiadol yn cynnwys tai a wnaed o ddur, concrit neu ddeunyddiau eraill yn lle brics, megis pren Swedaidd, ac fe’u codwyd gan mwyaf yn y 1940au hwyr a’r 1950au i fynd i’r afael a’r galw am dai ar ôl y rhyfel. Cawsant eu rhag-gynhyrchu mewn ffatrïoedd fel y gellid eu codi ar safle yn llawer cyflymach na thai brics traddodiadol. Fodd bynnag, maent yn dangos arwyddion heneiddio, ac costio mwy i’w gwresogi na thai cyfoes.
Dros y 12 mis nesaf, bydd 190 o dai yn elwa ar y cynllun. Bydd haen 100mm o ddeunydd inswleiddio’n cael ei osod ar y waliau a’r gweddluniau allanol, gyda gwell rendro a slipiau brics ar ben hynny i’w gwneud i edrych yn newydd sbon o’r tu allan.
Hon yw’r rhaglen wella fwyaf sylweddol y mae tai wedi ei dderbyn ers sawl degawd’, esboniodd yr aelod arweiniol dros dai, y Cyng. Ian Roberts. ‘Mae’r tai yn mynd i ymddangos fel newydd, unwaith y bydd y gwaith wedi ei gwblhau, ac ni allwch lawn werthfawrogi’r effaith a gaiff newid gwedd y strydoedd hyn ar y gymuned leol. Bydd yn gam anferth yn y broses o droi’r strydoedd hyn yn gymdogaeth y gall y trigolion fod yn wirioneddol falch ohoni.’
Dwy gymdeithas o Gymru yn dathlu
Roedd dwy gymdeithas tai o Gymru yn fuddugol yng Ngwobrau Tai’r DU ym mis Ebrill.
Yr enillydd cyntaf oedd is-gymdeithas United Welsh, Celtic Horizons, a redir ar y cyd â Mears, yn y categori Cynnal Cartrefi o Ansawdd Uchel. Fe’i canmolwyd gan y beirniaid am ei ‘hymrwymiad cryf i ddatblygu safonau gwasanaeth cwsmeriaid trwy sefydlu diwylliant arweiniol cryf trwy fuddsoddi mewn hyfforddi gweithwyr ac ailfuddsoddi yn ôl yn y gymuned a wasanaethir ganddi.‘
Cafwyd enghraifft o hyn pan ymwelodd Celtic Horizons ag eiddo y gaeaf diwethaf a chanfod pâr hŷn yn byw mewn un stafell yn unig o’u cartref am na allent fforddio gwresogi’r gweddill. Ar ôl atgyferiad at gynghorwyr ariannol United Welsh, cafwyd nad oeddent yn hawlio gwerth cannoedd o bunnau o fudd-daliadau. Gallant bellach fforddio gwresogi eu holl gartref.
Enillodd cynllun HWB Dinbych a reolir gan Grwp Cynefin wobr datblygiad eithriadol y flwyddyn yn y categori hyd at 24 o gartrefi. Mae gan y datblygiad, ar safle tir-llwyd yn Ninbych, nifer o gyfleusterau cymunedol, yn cynnwys stiwdio gerdd, stafell TG, cegin ddysgu a stafelloedd dosbarth yn ogystal â chwe fflat ar gyfer pobl ifanc o gylch Dinbych a gwasanaethau i’w cefnogi a’u paratoi ar gyfer byw’n annibynnol. Ymunodd cynrychiolwyr o Benseiri John McCall, Adeiladu Anwyl, a Phroject Ieuenctid Dinbych â Grwp Cynefin i dderbyn y wobr ar ran partneriaid y project.
Lansio’r Arch ar gyfer credyd cynhwysol
Cartrefi RhCT yw’r landlord cymdeithasol cyntaf yn y DU i ymuno â menter newydd â’r nod o gynorthwyo tenantiaid a landlordiaid pan ddaw credyd cynhwysol i rym.
Crewyd project yr Arch ar y cyd rhwng y cwmni cyllidol a buddsoddi cymdeithasol o dde Cymru, Asiant Capital a DotComUnity. Y syniad yw cynnig casgliad o wasanaethau mewn un man er mwyn cynnal breichiau awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, darparwyr eiddo a landlordiaid wrth iddynt ddarparu llety cynaliadwy i denantiaid yn y sector rhentu preifat.
Yr elfen ganolog yw’r ‘cyfrif Arch’, cyfrif rheoledig a luniwyd i dderbyn taliadau credyd cynhwysol. Yn ôl Asiant Capital, bydd hyn yn helpu landlordiaid i sicrhau eu bod yn dal i dderbyn eu rhent yn brydlon tra’n helpu tenantiaid ar gredyd cynhwysol i reoli’u harian yn ddiogel ac yn effeithiol.
Meddai prif weithredydd Cartrefi RhCT, Andrew Lycett (chwith, gyda Lee Cecil o Asiant Capital): ‘Gwyddom y bydd llawer o’n tenantiaid yn wynebu gofynion ariannol cystadleuol bob mis. Does dim dwywaith na fydd yna adegau pan fydd yn demtasiwn gwario elfen rhent y Credyd Cynhwysol ar rywbeth arall. Ond gallai hynny beryglu eu cartref. Rhaid i ni allu helpu ein tenantiaid i sicrhau bod y biliau mae’n rhaid eu talu yn cael eu talu bob mis. Mae Project yr Arch yn ateb dichonadwy i’r sefyllfa honno.’