Stuart Ropke a Helen Northmore yn edrych yn ôl ar rali a derbyniad Cartrefi i Brydain a roddodd lais i dai yn ymgyrch yr etholiad cyffredinol
O ADDEWID LLOYD GEORGE o gartrefi’n ‘gweddu i arwyr’ i freuddwyd Margaret Thatcher o ddemocratiaeth berchentyol, bu tai wrth galon gwleidyddiaeth Prydain ers canrif a mwy. Yn y blynyddoedd diwethaf, llithrodd oddi ar yr agenda wleidyddol, ac eto, go brin y bu cyn bwysiced erioed ag y mae nawr.
Ers degawdau methasom adeiladu digon o gartrefi newydd. Mae angen rhyw 14,200 o gartrefi newydd yng Nghymru bob blwyddyn i ateb y galw cyfredol. Mae’r methiant i adeiladu yn golygu na all llawer o bobl gychwyn teulu am na allant fforddio symud. Mae llawer o oedolion yn dal i fyw gyda’u rhieni mewn cartrefi gorlawn, neu’n cefnu ar eu teulu a bro eu mebyd am na allant fforddio tai yn lleol. Mae llawer yn brwydro o ddydd i ddydd i gadw to uwch eu pennau. Mae’r argyfwng tai yn effeithio ar bobl o bob haen o gymdeithas ac o bob rhan o Gymru.
Mae buddsoddi mewn tai yn darparu cymaint yn fwy na dim ond y brics a’r morter – mae’n creu swyddi, yn ysgogi’r economi, yn helpu i adeiladu cymunedau cryf, ac yn newid bywydau.
Dyna pam y teithiodd carfan o 50 o bobl o 23 o sefydliadau ledled Cymru i Lundain ar Fawrth 17 i gefnogi’r rali Cartrefi i Brydain ac i sefyll gyda chyd-weithwyr o bob rhan o’r DU i alw ar yr holl bleidiau gwleidyddol i roi terfyn ar yr argyfwng tai o fewn cenhedlaeth. Roedd yn ddiwrnod maith i’r ddirprwyaeth Gymreig, dan arweiniad Cartrefi Cymunedol Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru, yn cynnwys staff, aelodau bwrdd a thenantiaid.
Mae tai yn faes datganoledig, ac roeddem am sicrhau bod ASau Cymru yn rhan o’r trafodaethau ac yn chwarae eu rhan mewn dod â’r argyfwng tai yng Nghymru i ben. Cynhaliwyd derbyniad awr-ginio ar gyfer ASau Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin, dan nawdd David T C Davies, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.
Roedd yn gyfarfod cynhyrchiol gyda’r 20 o ASau a’i mynychodd, ac roedd ein neges iddynt yn un syml: mae gan sector tai Cymru stori dda i’w hadrodd. Gwariasom fwy na £1biliwn yn yr economi y llynedd, a chadwyd 80 y cant o’r arian hynny yng Nghymru. Gwariwyd £514 miliwn ychwanegol ar weithgareddau’n ymwneud â phrojectau adfywio. Rydym yn brif gyflogwr, ac am bob person llawn-amser a gyflogir yn y sector, cefnogir swydd a hanner arall o fewn economi Cymru.
Parhawn i fuddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau i denantiaid a chymunedau ac mae’n heffaith economaidd yn dal i dyfu – rydym am wneud mwy, rydym yn barod i wneud mwy, ond mae rhai o benderfyniadau San Steffan yn effeithio’n ddwys ar allu’n haelodau i adeiladu mwy o gartrefi a buddsoddi mewn cymunedau.
Trafodasom sut mae’r diwygiadau lles yn effeithio’n ddwys ar Gymru, a sut y maent yn gwaethygu’r argyfwng tai yma. Tanlinellwyd effaith y ‘dreth stafell wely’ yng Nghymru – cynyddodd ôl-ddyledion rhent ar draws y sector o fwy na £5 miliwn yn y chwe mis wedi i’r polisi ddod i rym, gyda mwy na hanner y tenantiaid cymdeithasol yn gweld cynnydd yn lefel eu dyledion personol.
Roedd o ddiddordeb neilltuol i ASau i glywed na fydd gan Gymru yr un hyblygrwydd ag a roddwyd i’r Alban a Gogledd Iwerddon, lle gall elfen budd-dâl tai’r credyd cynhwysfawr barhau i gael ei dalu’n uniongyrchol i landlordiaid, ac effaith bosibl hynny ar denantiaid a chymdeithasau tai.
Pwysleisiwyd sut y mae’r polisïau hyn yn fygythiad gwirioneddol i les ariannol tenantiaid, ac oblygiadau’r polisïau i allu cymdeithasau tai i adeiladu mwy o gartrefi a buddsoddi mewn cymunedau. Edrychwn ymlaen at ddal i fynegi’r dadleuon hyn wrth bob plaid wleidyddol yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad cyffredinol.
Yna, dyma ni’n cerdded y pellter byr ar draws College Green i fynychu’r rali dai fwyaf mewn cenhedlaeth. Roedd yr awyrgylch o gwmpas y ganolfan yn wych wrth i fynychwyr y rali ymgynnull o bob rhan o Brydain.
Roedd Neuadd Ganolog y Methodistiaid dan ei sang. Clywodd rhyw 2,300 o bobl ddetholiad eclectig o siaradwyr, gyda chynrychiolwr o bob plaid wleidyddol. Cadeirwyd yr achlysur gan Jonathan Dimbleby.
Yn ogystal â’r pleidiau gwleidyddol, roedd lleisiau cefnogol yn cynnwys Frances O’Grady, ysgrifennydd cyffredinol y TUC, a ddywedodd ‘Oni newidith rhywbeth, does gan y genhedlaeth hon ddim gobaith caneri o sicrhau cartref cyntaf neu o ddod oddi ar y rhestr aros am dai cymdeithasol.
Rhoddwyd bonllef fwyaf y rali i’r cyfarwyddwr ffilmiau Ken Loach, yr arweiniodd ei ddrama deledu Cathy Come Home at sefydlu Shelter. Dywedodd bod y sefyllfa dai yn waeth yn awr nag ydoedd 50 mlynedd yn ôl.
Denodd y digwyddiad gryn sylw yn y cyfryngau a chafodd ddylanwad mawr ar y cyfryngau cymdeithasol, cyn ac yn ystod y digwyddiad, ac wedi hynny. Fel ymgais i ledaenu neges yr argyfwng tai cyn ymgyrch fer yr etholiad, roedd yn llwyddiant diamheuol. Efallai’n bwysicach, y consensws ymhlith y cymdeithasau tai a ddaeth yno oedd bod y sector, am y tro cyntaf ers degawdau, yn temlo ac yn ymddwyn fel mudiad unwaith eto.
Mae Cartrefi i Brydain wedi cynnig i ni yng Nghymru gyfle i godi proffil problemau tai ledled y DU. Ein prif ffocws yn awr yw Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016.
Daeth tai o hyd i’w lais ledled y DU, a’r her i ni nawr yw adeiladu ar sail y llwyddiant hwn, amlygu ein llais ledled Cymru, a sicrhau y bydd tai yn un o’r prif bynciau etholiadol a fydd yn cael eu trafod ar garreg y drws gan ein gwleidyddion a’r cyhoedd yr un pryd flwyddyn nesa.
Stuart Ropke yw Prif Weithredydd CCC a Helen Northmore yw Cyfarwyddydd STC Cymru
Am flas ar y diwrnod o safbwynt Cymreig, edrychwch ar y Storify yma: storify.com/Beth_CHC/welsh-mp-reception