MAE’R RHIFYN HWN O WHQ yn edrych ymlaen at ddau ddigwyddiad pwysig ym maes tai Cymru yn ystod y mis nesaf.
Ar ddiwedd Ebrill, bydd TAI 2015 yn gyfle i ystyried datblygiadau hyd yn hyn a’r her fydd yn wynebu’r sector. Wythnos yn ddiweddarach, bydd pob rhan o’r DU yn pleideisio ar bwy ddylai ffurfio’r llywodraeth nesaf yn San Steffan. Bydd dadl WHQ yn TAI yn dwyn y ddau beth ynghyd gyda dadl rhwng y prif bleidiau yn trafod pa etholiad yw’r pwysicaf i dai yng Nghymru: San Steffan yn 2015 neu Etholiadau’r Cynulliad yn 2016.
Mae’r rhifyn hwn yn cynnig cipolwg o flaen llaw ar rai o’r prif themâu yn TAI, yn cynnwys:
Deddfwriaeth – arweiniad llawn i’r Mesur Rhentu Cartrefi, gyda rhagarweiniad gan y gweinidog ac erthyglau’n dadlau’r achos o blaid ac yn erbyn dileu’r moratoriwm chwe-mis yn y sector rhentu preifat, a Sail 8 yn y sector cymdeithasol.
Amrywiaeth ac arweinyddiaeth – Amanda Oliver yn gofyn os gallwn symud y tu hwnt i’r ‘Clwb Bechgyn’
Darpariaeth arloesol – y cartref newydd a ddyluniwyd â byrnau gwair i’w inswleiddio
Adrodd straeon – y cysylltiadau rhwng Casnewydd ac Antarctica.
Mae clymblaid o sefydliadau tai o bob rhan o Brydain yn benderfynol o wrthio tai i fyny’r agenda ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Mae Stuart Ropke a Helen Northmore yn adrodd hanes rali Cartrefi i Brydain a’r derbyniad yn San Steffan i ASau Cymru.
Mae Frances Beecher yn dweud wrth bleidiau San Steffan y bydd cwtogi ar fudd-daliadau pobl ifanc yn cynyddu digartrefedd, nid yn arbed arian. Mae gan Robin Staines neges o Gymru i bwy bynnag fydd yn brif weinidog nesaf Prydain.
Yn y rhifyn hwn hefyd, mae Mike Owain yn defnyddio’i brofiad o ad-drefnu llywodraeth leol yn Lloegr i ofyn beth fydd hyn yn ei olygu i dai yng Nghymru. Mae’n dadlau y bydd yn newid popeth, ac yn cynnig cyngor ar faterion allweddol.
Mae Tai Wales & West yn dathlu ei 50fed penblwydd eleni. Cyfwelais â’r prif weithredydd, Anne Hinchey, a gofyn iddi ynglŷn â gorffennol, presennol a dyfodol y gymdeithas.
Gan gadw at thema newid pethau, mae Phil Meek o Tai Calon yn esbonio’r syniadau y tu ôl i’w mentrau cyflogaeth a hyfforddiant.
Yn ein herthygl nodwedd derfynol, mae Tamsin Stirling yn adrodd hanes ei hymweliad astudio â Detroit, gan ofyn ai angau neu atgyfodiad sy’n wynebu Motown.
Mae hyn i gyd, yn ogystal â’r ystod arferol o erthyglau rheolaidd yn cynnig barn ac arfer da o bobman yng Nghymru, yn gwneud hwn yn rhifyn cynhadledd llawn dop. Da chi, cofiwch ddweud helo os gwelwch chi fi yn TAI.
Jules Birch
Golygydd, WHQ