English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

Osborne yn anelu ar brynwyr tro-cyntaf yn y Gyllideb olaf

Yn y Gyllideb olaf cyn etholiad cyffredinol San Steffan, lansiodd y canghellor George Osborne drydydd fersiwn o Cymorth i Brynu.

Mae’r ISA Cymorth i Brynu wedi ei anelu ar brynwyr tro-cyntaf sy’n cynilo ar gyfer ernes. Am bob £200 y byddant yn ei gynilo bydd y llywodraeth yn cyfrannu £50 arall, hyd at uchafswm o £3,000. Y pris uchaf a fydd yn gymwys yw £450,000 am gartref yn Llundain a £250,000 unryw le arall yn y DU.

Mae beirniaid yn dadlau y bydd y cynllun yn cynyddu’r galw am gartrefi heb wneud dim byd i gynyddu’r cyflenwad. Dywedodd y Ffederasiwn Tai y byddai’r £2.1 biliwn yr amcangyfrifir y bydd y cynllun yn ei gostio yn ddigon i alluogi cymdeithasau tai i adeiladu 69,000 o dai fforddiadwy.

Cyhoeddodd gyfres o fentrau tai yn Lloegr hefyd, yn cynnwys yr ugain Parth Tai cyntaf y tu allan i Lundain, ynghyd â Chytundebau Dinas ar gyfer Caerdydd, Aberdeen ac Inverness.

Cytunwyd y Gyllideb gan y glymblaid, ac nid oedd yn cynnwys nifer o fesurau a fyddai’n rhan o’r maniffesto Ceidwadol, yn cynnwys ehangu’r hawl i brynu i gynnwys eiddo cymdeithasau tai yn Lloegr, a chwtogi ar y dreth etifeddiaeth ar gartrefi cyntaf. Doedd dim manylion yn nogfennau’r Gyllideb ychwaith i egluro ble y byddai’r Ceidwadwyr yn dod o hyd i werth £12 biliwn o doriadau i’r bil lles erbyn 2017/18.

LLOEGR

Arolwg yn dangos llai byth o berchenogion

Dangosodd ffigyrau swyddogol newydd ymchwydd arall mewn rhentu preifat yn Lloegr wrth i’r nifer sy’n berchen ar eu cartrefi ddal i leihau.

Dengys canlyniadau cyntaf Arolwg Tai Lloegr ar gyfer 2013/14 bod mwy o deuluoedd erbyn hyn yn berchen cyflawn ar eu cartref na’r nifer sy’n prynu â morgais. Mae rhentu preifat wedi goddiweddyd rhentu cymdeithasol ers dwy flynedd a thyfodd y sector o 11 y cant arall, neu 421,000 o deuluoedd, yn 2013/14. Rhentu preifat yw’r ddeiliadaeth fwyaf yn Llundain bellach. O ganlyniad, syrthiodd cyfanswm y rhai sy’n berchen ar gartref o 210,000 o deuluoedd ym mhedair blynedd gyntaf y llywodraeth glymblaid. Syrthiodd perchenogaeth ar forgais o 764,000, ac y mae bellach yn is fel canran nag ydoedd ym 1981. Mae’r canran o rai 25-34 oed sy’n berchen ar gartref yn Lloegr wedi syrthio o bron 60 y cant i ddim ond 35 y cant yn y deng mlynedd diwethaf.

YR ALBAN

Cynghorau’r talu £46m i liniaru’r dreth stafell wely

Gwnaeth awdurdodau lleol yn yr Alban 101,000 o daliadau tai disgresiynol (DHP), sef cyfanswm o £46 miliwn, rhwng Ebrill a Rhagfyr 2014.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi addo dileu’r dreth stafell wely cyn gynted ag y caiff bwerau newydd gan San Steffan, ond mae’n lliniaru’r gost yn llawn trwy gyfrwng DHP tan hynny.

Dengys yr ystadegau swyddogol y derbyniodd yr awdurdodau lleol 110,000 o geisiadau i’r cynllun sy’n darparu cymorth ariannol lleol tuag at gostau tai i bobl sy’n hawlio budd-dal tai. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, cawsai 106,000 o’r rhain eu prosesu a chaniatawyd 101,000 o daliadau,  sef £456 y taliad, ar gyfartaledd.

GOGLEDD IWERDDON

Cytundeb ar ddiwygio lles yn methu

Chwalodd cytundeb ar ddiwygio lles ym mis Mawrth gyda phartneriaid y llywodraeth glymblaid yn Stormomt yn beio’i gilydd.

Mae setliad datganoli Gogledd Iwerddon yn cynnwys lles cymdeithasol, ac mae’n dal heb weithredu elfennau allweddol o’r diwygiadau lles, yn cynnwys y dreth stafell wely, sydd eisoes mewn grym yng ngweddill y DU. Mae’r oedi’n costio £2 filiwn yr wythnos i’r llywodraeth o’r grant gyffredinol.

Daeth pleidiau Gogledd Iwerddon i gytundeb ar ddiwygio lles ym mis Rhagfyr, yn cynnwys y dreth stafell wely a chredyd cynhwysfawr, gyda mesurau lliniaru sylweddol. Ond rhwystrodd Sinn Fein y Mesur Diwygio Lles ym mis Mawrth ar ôl cyhuddo’r Unoliaethwyr Democrataidd (DUP), ei bartner yn y glymblaid, o ymddwyn yn annidwyll a thorri addewidion. Dywedodd y DUP fod Sinn Fein yn ymddwyn yn warthus.

LLYWODRAETH CYMRU

Gweinidog yn ymgynghori ynglŷn ag atal yr hawl i brynu

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur ymgyngori ym mis Ionawr yn gosod allan ei fwriad o ddod â’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael i ben.

Byddai unrhyw ddeddf newydd yn cael ei chyflwyno yn nhymor nesaf y Cynulliad, ond ymgynghorwyd hefyd ar ostwng uchafswm y gostyngiad hawl-i-brynu o £16,000 i £8,000 cyn hynny. Roedd yr ymgynghoriad yn cau ar Ebrill 16.

Yr un diwrnod, cymeradwyodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, gais gan Gyngor Sir Caerfyrddin i ohirio’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael i helpu i ymdopi â phwysau lleol ar y cyflenwad tai. Hwn oedd y cais cyntaf o dan y ddeddfwriaeth bresennol, Mesur Tai (Cymru) 2011.

Meddai Lesley Griffiths: ‘Mae’n cyflenwad tai o dan gryn bwysau ac rydym yn dal i weld eiddo rhentu cymdeithasol yn cael ei ddwyn allan o’n stoc tai cymdeithasol oherwydd yr hawl i brynu, sy’n gorfodi llawer o bobl ddiymgeledd i aros yn hwy am gartref. Dyna pam mae angen gweithredu’n bendant i amddiffyn ein stoc tai cymdeithasol, i sicrhau ei fod ar gael ar gyfer y rhai sydd â mwyaf o’i angen.’

Meddai’r Cyng. Dyfed Edwards, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar dai: ‘Gyda miloedd lawer o bobl ar restrau aros ar hyn o bryd, a hynny ar adeg o brinder tai fforddiadwy dybryd, mae’r cynnig gan Lywodraeth Cymru i ddileu’r cynllun hawl i brynu i’w groesawu fel cam  tuag at ddatrys problem gynyddol yng Nghymru.’

Adroddiad yn galw am weithredu ar dalu uniongyrchol

Cafodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a ymchwiliodd i gynnig llywodraeth y DU y dylid talu budd-dâl tai’n uniongyrchol i hawlwyr o dan gredyd cynhwysfawr, nad oedd neb yng Nghymru o blaid y syniad.

Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon reolaeth ar drefniadau talu’r credyd cynhwysfawr, a chanfu adroddiad y grŵp y byddai tenantiaid Cymru o dan gryn anfantais oni châi Cymru reolaeth gyfatebol.

Meddai’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: ‘Byddaf yn cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i drafod argymhellion yr adroddiad. Rwyf eisoes wedi sgrifennu at yr Arglwydd Freud, y gweinidog dros ddiwygio lles, i alw ei sylw at yr anfantais annheg a wynebir gan Gymru trwy beidio â bod â reolaeth ar y ffordd y telir budd-dâl o fewn y gyfundrefn Credyd Cynhwysfawr.’

Gweinidogion yn datgelu hwb ariannol

Mae tai ac adfywio wedi elwa ar gyfres o gyhoeddiadau ynglŷn â chyllido gan Lywodraeth Cymru yn y tri mis diwethaf.

Ym mis Chwefror,  dyrannodd y gweinidog cyllid Jane Hutt £5.8 miliwn ychwanegol o arian o’r gronfa wrth gefn ar gyfer tai cymdeithasol. Byddai’r buddsoddiad newydd, meddai, yn cefnogi’r rhaglen Grantiau Tai Cymdeithasol a darparu 70-90 o gartrefi fforddiadwy. Gwnaeth y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, nifer o gyhoeddiadau cyllido, yn cynnwys:

  • £10 miliwn ar gyfer y cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi, a fydd yn cynnig benthyciadau di-log o hyd at £25,000 y cartref, i’w ailgylchu gan awdurdodau lleol
  • £10 miliwn i ehangu’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi, sy’n cynnig benthyciadau di-log i berchenogion eiddo gwag, i’w galluogi i’w adfer at ddefnydd fel cartrefi ar werth neu ar rent
  • £1.5 miliwn ychwanegol i gefnogi cynllun adnewyddu Project Riverside ar safle hen bwll glo Merthyr Vale
  • Cyllid benthyca o £5 miliwn ar gyfer saith awdurdod lleol am 15 mlynedd, i’w helpu i adnewyddu canol trefi
  • £200,000 dros y ddwy flynedd nesaf i barhau â gwaith hwyluswyr tai cefn gwlad (am fwy ar hyn, gweler erthygl nodwedd CREW, tud. 43)
  • Bron £2 filiwn o gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i gefnogi chwe phroject adfywio, wedi ei rannu rhwng Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Wrecsam.

Rheolau newydd ar gyfer taliadau tai disgresiynol

Daeth system newydd â’r nod o sicrhau triniaeth ‘deg a chyson’ i bobl sydd ag arnynt angen help â’u rhent i rym ddechrau mis Ebrill.

Cydweithiodd Llywodraeth Cymru, CLlL Cymru, Welfare Reform Club ac awdurdodau lleol yn glòs i ddatblygu rheolau newydd ar gyfer dyfarnu taliadau tai disgresiynol (DHP).

Mae taliadau DHP yn achubiaeth i denantiaid sy’n brwydro i gau’r bwlch rhwng eu budd-dâl tai a’u rhent o ganlyniad i ddiwygiadau lles y DU fel y dreth stafell wely a rhannu llety.

Bydd ffocws y system newydd ar roi penderfyniad clir a chyson i bob ymgeisydd, rhoi’r flaenoriaeth i bobl sy’n gwneud y cwbl a fedrant i’w helpu eu hunain, a sicrhau bod awdurdodau lleol yn helpu tenantiaid â’r problemau gwaelodol sy’n achosi caledi, yn cynnwys cyngor a chefnogaeth gan asiantaethau eraill.

Beirniadodd Llywodraeth Cymru ganllawiau’r Adran Gwaith a Phensiynau am fod yn rhy annelwig a rhy anghyson, yn enwedig yn achos pobl anabl a rhai sy’n byw mewn eiddo a addaswyd yn arbennig.

Strategaeth yn ailategu ymrwymiad i ddileu tlodi plant

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau newydd i ostwng nifer y plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru.

Mae strategaeth Tlodi Plant 2015, a ddiwygiwyd ar ôl ymgynghoriad â’r cyhoedd, yn cynnwys dau amcan allweddol newydd:

  • Defnyddio’r pob modd sydd ar gael i greu economi a marchnad lafur gref yng Nghymru i leihau tlodi mewn gwaith
  • Helpu teuluoedd i gynyddu eu hincwm trwy gyngor effeithiol ar ddyledion ac arian, a gweithredu i leihau’r ‘premiwm tlodi’, lle mae teuluoedd incwm-isel yn talu mwy am nwyddau a gwasanaethau.

Cynghorau’n dathlu hunan-gyllido

Bu’r 11 cyngor Cymreig sydd wedi dal gafael ar eu stoc tai yn dathlu eu rhyddid ariannol ar Ebrill 2 wrth gefnu ar system Cymhorthdal Cyfrif Refiniw Tai llywodraeth y DU (HRAS).

Wedi oriau o negydu cymhleth, enillasant reolaeth dros eu hasedau tai, y rhagwelir y byddant yn cynhyrchu rhyw £18 biliwn.

Meddai’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: ‘Bydd y cynnydd yn refiniw tai cynghorau o ganlyniad i’r cytundeb hwn yn caniatáu iddynt wella eu heiddo presennol ac adeiladu tai cyngor newydd. Bydd cytundeb hanesyddol heddiw felly’n effeithio’n uniongyrchol hefyd ar denantiaid a fydd yn elwa o fyw mewn cartrefi mwy cysurus, o well ansawdd.’

Papurau Ymgynghori

CYHOEDDIADAU

10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

  1. An economic strategy for Wales? – Sefydliad Materion Cymreig (IWA), Mawrth 2014 www.iwa.org.uk/en/publications/view/240
  2. Is Welfare Reform Working? Impacts on working age tenants – LSE, Mawrth 2015 sticerd.lse.ac.uk/dps/case/cr/casereport90.pdf
  3. Rheoli Effaith Diwygiadau Lles ar Denantiaid Tai Cymdeithasol yng Nghymru – Swyddfa Archwilio Cymru, Ionawr 2015 http://www.wao.gov.uk/cy/cyhoeddi/rheoli-effaith-diwygiadau-lles-ar-denantiaid-tai-cymdeithasol-yng-nghymru
  4. Adroddiad Y Gymru a Garem – Y Gymru a Garem, Mawrth 2015 http://www.thewaleswewant.co.uk/cy/adroddiad-y-gymru-garem  
  5. UK Housing Review 2015 – Y Sefydliad Tai Siartredig, Mawrth 2015 www.cih.org/publication/display/vpathDCR/templatedata/cih/publication/data/UK_Housing_Review_2015
  6. Hard Edge – Mapping severe and multiple disadvantages – Sefydliad Lankelly Chase, Ionawr 2015 www.lankellychase.org.uk/assets/0000/2858/Hard_Edges_Mapping_SMD_FINAL_VERSION_Web.pdf
  7. Benefit Sanctions and Homelessness: A scoping report – Crisis, Mawrth 2015 www.crisis.org.uk/data/files/publications/Sanctions Report 2015_FINAL.pdf
  8. The Challenge of Accelerating UK Housebuilding – Policy Network, Ionawr 2015 www.policy-network.net/publications_detail.aspx?ID=4810
  9. The Future of Private Renting – Civitas, Ionawr 2015 www.civitas.org.uk/housing/thefutureofprivaterenting

10. The Economic Footprint of UK House Building – Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi, Mawrth 2015 www.hbf.co.uk/fileadmin/documents/research/Economic_Fotprint_BPF_Report_March_2015_WEB.pdf

CYMRU

Cyfrifon yn dangos cynnydd cymdeithasau

Dangosai cyfrifon cynhwysfawr am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2014 fod cymdeithasau tai Cymru yn parhau i fod yn gryf yn wyneb yr amgylchiadau economaidd anodd.

Dangosai’r cyfrifon a gyhoeddwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru fod:

  • Y sector yn awr yn berchen ac yn rheoli 157,000 o gartrefi.
  • Mae aelodau CHC wedi gwario £1bn yn uniongyrchol yn y sector gyda 80% wedi’i gadw yng Nghymru, gyda’r effaith cyflenwr anuniongyrchol yn gyfwerth â bron £2bn.
  • Mae cyfanswm lefel dyled y sector yn awr dros £2bn.
  • Mae gerio’r sector yn parhau i gynyddu a nawr yn 61%, sy’n gynnydd o 3% ar 2013.
  • Roedd trosiant am y flwyddyn yn £784m, cynnydd o £48m (6.6%) ar 2013.
  • Roedd gwarged gweithredu y flwyddyn yn £150m, gyda gwarged net £74m ar ôl taliadau llog.

Meddai prif weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru, Stuart Ropke: ‘Mae’r cyfrifon cynhwysfawr yn dangos sut mae’r sector wedi datblygu’n gasgliad o fusnesau cyfalaf-uchel sy’n mabwysiadu agwedd fwy masnachol er mwyn cyflawni eu hamcanion cymdeithasol.

‘Mae amgylchedd gweithredu ein sector yn newid – mae’n haelodau’n ymaddasu i ddelio â phroblemau o ganlyniad i ddiwygio lles, toriadau mewn gwariant cyhoeddus,  a newidiadau demograffig , ac yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth ddarparu cymhorthdal cyfalaf tai newydd i ymdrin â’r prinder cyflenwad tai yng  Nghymru.’

Mae’r cyfrifon cynhwysfawr ar gael yn http://chcymru.org.uk/uploads/general/The_2014_Financial_Statements_of_Welsh_Housing_Associations.pdf

Asesiad cyntaf o dan y broses reoleiddiol newydd

Cartrefi NPT yw’r landlord cymdeithasol cofrestredig cyntaf yng Nghymru i gael asesiad rheoleiddiol o dan ddull seiliedig ar risg Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd canlyniadau’r asesiad, a ddechreuodd ym mis Medi, ym mis Mawrth, ac maent wedi rhoi i Gartrefi NPT grynodeb cyffredinol o’i gryfderau a meysydd lle gellid gwella. Mae hefyd yn amlinellu’r lefel o ymgysylltiad rheoleiddiol sydd ei angen ym mhob maes, a’r rhesymau am hynny.

Arbrofwyd â’r dull newydd yn seiliedig ar risg gyda dwy gymdeithas tai, ond Cartrefi NPT oedd y cyntaf i ymgymryd â’r broses ers ei chymeradwyo. Mae’n galluogi Llywodraeth Cymru i ffocysu ar y risgiau allweddol a wynebir gan gymdeithasau tai a gweithio gyda nhw ar sail barhaus i sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli’n effeithiol a bod cymdeithasau’n gwella’n gyson.

Mae canlyniadau’r asesiad ar gael yn http://www.wales.gov.uk/docs/desh/publications/150320-npt-homes-limited-cy.pdf

Tair seren i Linc

Linc Cymru yw’r gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad tair-seren gan y Ganolfan ar gyfer Tai â Chymorth (CHS) am ei gwasanaethau gofal ychwanegol, tai gwarchodol a chymorth yn gysylltiedig â thai ar gyfer pobl hŷn.

Mae’r achrediad yn arddangos ymrwymiad y gymdeithas i ddarparu canlyniadau arwyddocaol a phositif sy’n gwella ansawdd byw ei thenantiaid, a barnwyd bod hwn yn wasanaeth eithriadol.

Gwnaeth asesydd annibynnol arolwg trylwyr o’r gwasanaethau, gan siarad â staff, tenantiaid a budd-ddeiliaid allweddol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r gwasanaeth, a sut y mae’n cael ei weld gan y bobl sy’n ei dderbyn.

Meddai Brian Thomas, cadeirydd panel tenantiaid Linc, sy’n denant tai gwarchod ei hun: ‘Mae’n wych bod Linc wedi cael y gydnabyddiaeth hon. Holwyd fy marn i ynghyd â thenantiaid eraill gan asesydd y CHS, a fedra’i ddim gweld bai gyda lle dwi’n byw na’r staff. Mae cyfleoedd i denantiaid gael dweud eu dweud a dylanwadu ar benderfyniadau gyda Linc.’

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer cynllun tai gofal-ychwanegol newydd yn y Fflint. Bydd y cynllun, gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, yn darparu 72 o fflatiau un- a dwy-lofft ynghyd ag ystod eang o gyfleusterau cymunedol.

Wrecsam yn datgan ei gynllun SATC

Mae Cyngor Wrecsam wedi cytuno i wario £38 miliwn yn 2015/15 fel rhan o’i gynllun i godi safon ei holl dai cymdeithasol i gwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn 2020.

Mae gan y cyngor 11,000 o gartrefi sy’n ei wneud yn ddarparwr mwyaf Cymru y tu allan i Gaerdydd ac Abertawe. Mae’n cynnwys Parc Caia (llun), stad dai fwyaf Cymru gydag 11,000 o breswylwyr.

Mae rhaglen wario’r deufis nesaf yn cynnwys ceginau a stafelloedd ymolchi newydd ar gyfer 2,500 o gartrefi, systemau gwresogi newydd ar gyfer 700, ail-doi 600 o dai ac inswleiddio wal allanol ar gyfer 160. Mae’r £38 miliwn yn gynnydd sylweddol ar y £34 miliwn a gytunwyd ar gyfer 2014/15.

Meddai aelod blaen Wrecsam ar gyfer tai, y Cyng. Ian Roberts: ‘Mae hwn yn swm anferth o wariant cyfalaf, ac rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau y cyrhaeddwn Safon Ansawdd Tai Cymru yn 2020.’

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »