English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol – Ymgysylltu

Mae Blwyddyn Newydd 2015 yn nodi moment o barhad a newid ym maes tai Cymru, ac mae’r rhifyn hwn o WHQ yn adlewyrchu’r ddau beth.

Mae cynhwysiant digidol yn addo bod yn bwysicach byth eleni wrth i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol ymateb i’r diwygiadau lles cyson.  Mae’n herthygl nodwedd arbennig  yn edrych ar eu hymdrechion i helpu tenantiaid i ymgysylltu ond hefyd y tu hwnt i hynny, ar beth mae techoleg sy’n newid ar garlam yn ei olygu i ddyfodol cymunedau.

Mae’r gweinidog cymunedau a threchu tlodi Lesley Griffiths yn sôn am ei gwleidyddiaeth a’i blaenoriaethau mewn cyfweliad ar t. 16. Dywed wrth WHQ mai tai yw’r ddolen gyswllt rhwng nifer o wahanol elfennau ei chylch cyfrifoldeb ehangach. Yn ogystal â chymunedau a threchu tlodi a thai ac adfywio, hi sy’n gyfrifol am blant ac anghydraddoldeb hefyd.

Yn y rhifyn hwn hefyd mae David Palmer yn edrych ar hynt datblygiad tai cydweithredol fel dewis arall ar gyfer rhai nad ydynt am rentu, tra bod Paul Diggory yn esbonio cynlluniau Tai Gogledd Cymru i ddod â’r Rhyl i mewn i brif ffrwd Ewrop trwy weithio gydag ymddiriedolaeth tir gymunedol.

Yn y cyfamser, mae Roisin Wilmott yn crynhoi prif nodweddion y Mesur Cynllunio, a beth y bydd yn ei olygu i dai ac adfywio tra bod David Waite yn edrych ar oblygiadau project Metro Caerdydd i dde-ddwyrain Cymru.

Cychwynnodd y gweinidog newydd ar ei swydd yn union cyn i rifyn diwethaf WHQ fynd i’r wasg. Yn fuan wedyn, dechreuodd Stuart Ropke weithio fel prif weithredydd newydd Cartrefi Cymunedol Cymru. Mae yntau’n ystyried y gwahaniaethau rhwng tai yng Nghymru ac yn Lloegr, a’r her sydd o’n blaenau mewn blwyddyn etholiadol.

Mae’n newid ar fyd yn STS Cymru hefyd, lle penodir cyfarwyddydd newydd cyn bo hir i arwain y sefydliad. Cyn iddo ymadael ym mis Rhagfyr, cafodd Keith Edwards gyfle i fyfyrio ar yr hyn y gall y gorffennol ddweud wrthym am ddyfodol. Am gipolwg ar y genhedlaeth nesaf o aelodau STS Cymru, gweler datganiadau’r tri sydd ar restr fer Rising Stars Cymru 2015.

Gan edrych nôl ymhellach byth i’r gorffennol, mae Stephen Kay yn cyfeirio at ei lyfr newydd wrth edrych ar hanes anghof yr ymdrechion i ddarparu cartrefi teilwng ar gyfer gweithwyr Cymru yn sgîl y chwyldro diwydiannol.

Gwna hyn oll, a llawer mwy gan gyfranwyr rheolaidd, y rhifyn hwn yn WHQ cyntaf 2015 teilwng ac eang ei gwmpas. Gyda’r Mesur Rhentu Cartrefi, TAI 2015 ac etholiad cyffredinol ar y gorwel, fydd pethau ddim yn aros eu hunfan yn hir iawn.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »