Aros ar-lein
Mae’r ffaith bod technoleg ddigidol yn newid ar garlam yn her i denantiaid a landlordiaid ill dau. Mae Louise Kingdon yn gofyn sut y dylai’r sector tai cymdeithasol ymateb
Mynnir yn gynyddol bod cyfathrebu, tasgau a thrafodion beunyddiol yn digwydd ar-lein, ac mae’r rheini sydd heb ryngrwyd yn cael eu gadael ar ôl. Sawl gwaith y clywson ni hyn? Yn aml iawn, yn fy achos i, mewn gyrfa bedair-blynedd mewn cynhwysiant digidol. Ond mae’r cyd-destun wedi newid. Pan ymunais â Chartrefi Melin yn 2010, roeddem yn sôn am gyfran fwy o gymdeithas a oedd yn colli allan o beidio â bod ar-lein. Bellach mae’r grŵp hwnnw’n llawer llai, ond mae’r anfantais a wynebir gan yr unigolion hynny yn llawer mwy.
Pan ddaw credyd cynhwysfawr i rym, bydd ein preswylwyr yn wynebu cosbau ariannol os nad ânt ar-lein, sydd wrth gwrs yn destun pryder i bawb. Ond testun pryder mwy byth yw’r ffaith bod y ffocws cynyddol ar dechnoleg yn mynd i barhau i atal rhai sydd heb fod ar-lein rhag gweithredu a chyfranogi mewn cymdeithas.
Sut , felly, y dylai’r sector tai cymdeithasol ochel yn erbyn y fath dueddiadau?
Yn gyntaf, rwyf am ddadlau bod angen i gymdeithasau tai elwa ar fuddiannau technoleg ddigidol fel y gwnaeth y sector preifat. Nid bygythiad yn unig yw digidol – gall hefyd fod yn gyfle. Er enghraifft, trwy fuddsoddi mewn technoleg, gallai cymdeithasau tai arbed adnoddau sylweddol trwy gyflwyno’r staff i ddulliau gweithio heini, a thrwy hynny gwtogi ar deithio busnes a chostau swyddfa. Gallai buddsoddi mewn technoleg greu gwasanaethau ar-lein hawdd eu defnyddio a fyddai’n golygu gostyngiad yn nifer y galwadau’n dod i mewn ac yn y deunydd print a anfonir at breswylwyr.
Mae’r rhain yn bolisïau a fabwysiadwyd gan Ymddiriedolaeth Tai Halton, sy’n honni y byddant yn gwrthbwyso’r risg ariannol yn deillio o ddiwygiadau lles. Rydym ni yng Nghartrefi Melin wrthi’n arbrofi â phroject lle caiff preswylwyr dabled rhad ac am ddim er mwyn cynnig eu sylwadau ar ein porth preswylwyr. Gobeithiwn y bydd yr adborth o’r project hwn yn ein tywys i fuddsoddi mewn gwasanaethau digidol o ansawdd, wedi eu llunio’n gyfangwbl gan brofiad cwsmeriaid.
Yn eilbeth, o safbwynt darparu gwasanaethau craidd o fewn y sector tai, ni allwn bellach fforddio cadw cynhwysiant digidol ar yr ymylon. Yn wir, gyda phob swyddfa bost, cangen banc neu lyfrgell sy’n cau, mae gallu preswylwyr i fanteisio ar wasanaethau traddodiadol yn lleihau ymhellach. Mae bod â gweithlu gwybodus – sy’n gyfarwydd â’r ffactorau sy’n atal pobl rhag mynd ar-lein – yn un ffordd o gyfyngu ar y niwed a achosir gan eithrio digidol. Gallai unrhyw swyddog tai, er enghraifft, gynghori preswylwyr ar eu llecyn chwilboeth wifi agosaf ac ar sut i brynu tabled am gyn lleied â £30, gan sicrhau felly bod preswylwyr yn cael y cyngor angenrheidiol i allu defnyddio gwasanaethau ar-lein. O’r safbwynt hwn, dydy cynhwysiant digidol ddim yn swyddogaeth i un person yn unig bellach.
Fel y mae Cymunedau 2.0 yn pwysleisio yn ei ymgyrch derfynol, dylai pob aelod o staff fod yn gyfarwydd â’r rhwystrau i fynd ar-lein, a’r modd y gellir eu goresgyn. Yn Melin, rydym wedi creu yr iDîm o aelodau gwirfoddol o staff sy’n frwd ynglŷn â rhannu’r ffyrdd y gall technoleg helpu pobl. Tra bônt wrthi’n helpu eu cydweithwyr â’u ffonau symudol a’u hargraffwyr, maent hefyd yn sicrhau bod ethos cynhwysiant digidol yn trwytho’r holl sefydliad.
Yn drydydd, gan nad yw’r isadeiledd a grymoedd y farchnad yng Nghymru yn darparu band eang da am bris fforddiadwy i breswylwyr ar hyn o bryd, awgrymaf y dylai cymdeithasau tai fod yn ceisio darparu’r gwasanaeth hwn ble bynnag y bo hynny’n ymarferol. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, ar y cyd â chynrychiolwyr nifer o gymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru, wedi rhoi cryn ystyriaeth i’r mater eisoes. Fodd bynnag, nid yw hi’n broses syml gan fod llwyddiant projectau graddfa-fawr yn dibynnu i raddau helaeth ar isadeiledd sy’n bodoli eisoes a chydgrynhoad y stoc tai.
Ar ôl dweud hynny, mae nifer o gamau cymharol fach y gallai cymdeithasau tai eu cymryd yn y cyd-destun hwn a fyddai, bob un ohonynt, yn cynyddu hygyrchedd wifi i breswylwyr yn sylweddol. Ystyrier, er enghraifft, fanteision defyddio cyfnerthwyr wifi, fel y rhai a ddarperir gan Meraki. Fel y dangosodd sawl cymdeithas tai eisoes yn eu prif swyddfeydd a’u cynlluniau gwarchod, mae’n bosibl defnyddio’r fath ddyfeisiau i ymestyn llinellau band-eang presennol yn ddiogel ac yn rhad. Dylai cymdeithasau tai geisio trosglwyddo’r wybodaeth hon i asiantaethau eraill y mae eu preswylwyr yn debyg o’u defnyddio.
I gloi, dylai cymdeithasau tai ddal i geisio gweithio ar y cyd ar lefel leol. Wedi’r cwbl, dim ond trwy gydweithio’n glos gyda’r Ganolfan Waith a darparwyr hyfforddiant y gall landlordiaid cymdeithasol fagu dealltwriaeth lawn o anghenion digidol eu preswylwyr unigol. Ond mae cydweithio ar lefel genedlaethol yn llawn mor bwysig. Fel y dysgais trwy gadeirio Grŵp Cynhwysiant Digidol CCC, mae cymdeithasau tai Cymru oll yn wynebu her gyffelyb. Dim ond trwy rannu arfer da a chyfuno adnoddau y gallwn ymaddasu yn yr oes ddigidol, fythol-gyfnewidiol hon.
Louise Kingdon yw swyddog cynhwysiant digidol Cartrefi Melin a chadeirydd Grŵp Cynhwysiant Digidol CCC