English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Tyfwch eich Cartrefi eich Hunain

Mae ymgyrch newydd ar y gweill i elwa i’r eithaf ar bosibiliadau defnyddio pren Cymreig mewn tai ac adeiladu. Mae Rachel Moxey a Dainis Dauksta yn egluro’r buddiannau posibl

Dychmygwch broject lle gallwch gymryd hedyn a’i blannu, ei wylio’n tyfu’n goeden, ei meithrin, ei medi, a defnyddio’r pren i godi  cartref teuluol newydd – a hyn oll o fewn cwmpas o 150 o filltiroedd. Dychymygwch lawer o goed gyda llawer o bobl yn eu meithrin, yn gweithio i gwmnïau torri coed, yn gweithio i gwmnïau sy’n gwneud tai ffrâm-bren a modylaidd, gan arwain at greu llawer o dai a swyddi newydd.

Yn awr, mae cyfle unigryw i wireddu hyn yn bodoli ar garreg y drws – defnyddio coed o Gymru i dyfu cartrefi i Gymru ac, o bosib, allforio i rannu eraill o’r DU sydd ar hyn o bryd yn mewnforio’u coed o wledydd Llychlyn. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar y cyd â Gwybodaeth Coed Cymru, SOSAVI a LCCiaid yng Nghymru i beri i hyn ddigwydd.

Y catalydd

Daeth y catalydd o Bartneriaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd (VRP) a sefydlwyd i hybu adfywio cymdeithasol-economaidd yn y cymoedd yn seiliedig ar yr amgylchedd naturiol a threftadaeth.  Nod cynllun peilot VRP, dan arweiniad Llywodraeth Cymru yw creu ‘ecosystem adeiladu ddynamig – gan ddefnyddio pren meddal a dyfwyd yma er budd i’r economi, cymdeithas a’r amgylchedd’, ffordd o fynd ati y gallai gweddill Cymru elwa arni.

Beth fydd hyn yn ei wneud?

Bydd yn creu swyddi hollbwyisg mewn ardaloedd cefn gwlad, helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi pren lleol a chreu swyddi yn y sectorau cynhyrchu ac adeiladu. Mae’n cynnig yr atebion iawn o ran carbon isel, cynaliadwyedd, a chreu tai o ffynonellau adnewyddadwy.

Felly beth sy’n rhwystro hyn rhag digwydd?

Yn gyntaf, rhaid cael gwared â rhai camdybiaethau ynglŷn â phren Cymreig sydd gan gwmnïau adeiladu a datblygwyr tai (LCCiaid a’r sector preifat) sy’n ei gwneud hi’n llai tebygol y byddant yn ei brynu a’i ddefnyddio.

Diffyg ansawdd a chryfder? Cafodd pren meddal Cymru ei dyfu i ddarparu pyst pwll ar gyfer pyllau glo dwfn. Os gall gynnal milltir o graig … Ychydig o ymchwil a wnaed i briodoleddau ffisegol prennau meddal Cymru, felly barn oddrychol a gafwyd gan mwyaf. Mae’r byrwydden Sitca a dyfir yng Nghymru yn gryfach na phyrwydden yr Alban, ac mae melin lifio BSW Timber yn y Bontnewydd ar Wy yn cynhyrchu 50,000 o fetrau ciwbig o byrwydden nerth-raddedig bob blwyddyn. Mae llarwydden Cymru yn nerth-raddedig  bellach, a dengys ymchwil y gallai’r pren cryf yma gyrraedd gradd C30,[1] sydd cystal â’r prennau meddal gradd-uchaf a fewnforir. Mae Cymru’n tyfu rhai o’r ffynidwydd Douglas mwyaf yn Ewrop. Mae’r pren a gynhyrchir o’r goreuon o’r rhain o safon wirioneddol fyd-eang.

Drud? Mae prisiau pren meddal Cymru wedi bod yn rhatach na gweddill Ewrop, yn cynnwys yr Alban ac Iwerddon, ers blynyddoedd. Yn ystod y 1990au, adfywiodd y gwledydd Baltig eu masnach allforio gyda Phrydain drwy foddi’r farchnad â phren meddal rhad, a gwneud pren meddal brodorol yn anghystadleuol dros dro. Buasai’r bunt yn gryf am flynyddoedd lawer hefyd, ac effeithiodd hynny’n wael ar bob diwydiant cynhyrchu. Mae’r sefyllfa hon wedi newid nawr bod y gwledydd cyn-Sofietaidd wedi normaleiddio’u dulliau masnachu, a’r bunt yn wan.

Cyflenwad? Gallai coedwigoedd Cymru gynhyrchu miliwn tunnell fetrig o bren meddal bob blwyddyn. Mae hynny’n fwy na digon i gyflenwi galwadau adeiladu cyfredol a’r amcangyfrif am y dyfodol. Mae BSW Timber ar ei ben hun yn cynhyrchu digon o bren adeiladu ar gyfer hyd at 10,000 o dai y flwyddyn, yn dibynnu ar gynllun y tŷ. Cynhyrchir llwythi o bren llarwydd yn y blynyddoedd nesaf oherwydd y clefyd sy’n lledaenu trwy goedwigoedd llarwydd Cymru.

Mortgeisiau ac yswiriant? Dangosodd project ymchwil mawr yn 2000 y gellir defnyddio adeiladu ffrâm-goed yn ddiogel ar gyfer adeiladau o hyd at wyth llawr o uchder. Roedd Cymru’n arwain y byd ar y pryd ac adeiladodd datblygwyr lety preswyl chwe-llawr heb gael dim problem gan yswirwyr. Adeiladau ffrâm-goed yw 70 y cant o dai newydd yr Alban a rhyw 28 y cant o rai Cymru, a fyddai’n amhosibl heb gytundeb darparwyr cyllid, ardystiadau, gwarantau ac yswiriant.

Rhai ffeithiai lled anhysbys:

  • Mae coedwigoedd pren meddal Cymru yn tyfu digon o goed i adeiladu un tŷ bob 10 munud; dyma un o amgylcheddau gorau Ewrop ar gyfer tyfu conwydd.
  • Mae rhai o ymarferwyr ac academyddion coedwigaeth blaenllaw Cymru ers yr Ail Ryfel Byd wedi awgrymu y gellid seilio economi Cymru ar goedwigaeth, cynhyrchu pren, a gweithgynhyrchu sy’n ychwanegu gwerth, yn defnyddio pren meddal Cymreig
  • Gall coedwigoedd conwydd ddiogelu bioamrywiaeth. Goroesodd gwiwer goch a barcud coch brodorol Cymru yng nghoedwigoedd pyrwydden sitca Cymru. Gall llawer o rywogaethau brodorol fyw mewn planhigfeydd conwydd.

A rhai ffeithiau brawychus na fynnwn efallai eu cydnabod

  • Y diwydiant adeiladu sy’n cynhyrchu 35 y cant o wastraff tirlenwi’r DU
  • Y DU yw mewnforiwr coed trydydd fwyaf y byd (mewnforir bron cymaint â Japan)
  • Defnyddir 14 miliwn o fetrau ciwbig o goed y flwyddyn, gwerth £8 biliwn. Mae llywodraeth Japan wedi gosod targed o fod yn 50 y cant hunangynhaliol mewn coed o fewn 10 mlynedd. Y DU fydd mewnforiwr ail fwyaf y byd wedyn.

Beth sydd wedi cael ei wneud?

Yn 2013, comisiynodd Llywodraeth Cymru Bartneriaeth Fusnes Coedwig Cymru a Gwybodaeth Coed Cymru i nodi pa systemau neu dechnegau adeiladu â phren sydd ar gael i’w defnyddio yng Nghymru, ac i ba raddau y gallai pren meddal a dyfwyd yng Nghymru gael ei ddefnyddio i’w cynhyrchu. Daeth i’r casgliad:

Ychydig o rwystrau technegol sydd bellach i fabwysiadu systemau adeiladu â phren at bob defnydd yng Nghymru yn defnyddio prennau meddal a dyfwyd yma. Mae’n bosibl codi adeiladau mewn pren meddal cryfder-raddedig brodorol hyd at chwech, yn sicr, ac o bosib wyth llawr o uchder yn awr… mae posibiliadau sy’n deillio o beirianneg ac arloesedd â phren yn glir, ac mae’r nifer cynyddol o brojectau enghreifftiol ar hyd a lled y wlad yn cadarnhau’r diddordeb a’r brwdfrydedd cynyddol o blaid archwilio posibiliadau a defnyddiau pren meddal a dyfwyd yma mewn adeiladu.’

Ar yr un pryd, comisiynodd VRP SOSAVI trwy Groundwork Wales i ddarganfod cyfleoedd i greu marchnadoedd ar gyfer coed Cymru mewn tai yn ne-ddwyrain Cymru. Siaradodd â phartneriaid allweddol fel LCCiaid a phrif adeiladwyr tai ynglŷn â’u cynlluniau datblygu arfaethedig er mwyn canfod cyfleoedd marchnad a swyddi. Archwiliodd hefyd y rhesymau pam nad oedd datblygwyr tai (LCCiaid ac adeiladwyr tai preifat) yn defnyddio coed Cymru yn eu datblygiadau.

Nododd SOSAVI nifer o gyfleoedd yn seiliedig ar raglenni datblygu’r cymdeithasau tai hyn. Gellir eu gweld yn yr Ecosystem Creu Swyddi isod. [2] Roedd hefyd yn pwysleisio arfer da LCCiaid wrth adeiladu datblygiadau tai yn defnyddio pren Cymreig, ac yn y rhaglenni cefnogi a ddatblygwyd ganddynt i alluogi preswylwyr i fanteisio ar gyfleoedd am swyddi yn sgîl buddsoddiadau. Roedd yr argymhellion yn pwysleisio sut y gellid gwireddu’r cyfleoedd hyn trwy bartneriaeth bositif (yn enwedig rhwng adrannau Llywodraeth Cymru, arbenigwyr technegol allweddol ac adeiladwyr tai cymdeithasol a phreifat).

Ecosystem Creu Swyddi SOSAVI

Mae posibilrwydd y gellid creu swyddi ym meysydd plannu a rheoli coedwigoedd, medi a llifio coed, a chynhyrchu ac adeiladu arbenigol, a fyddai’n cynnig amryw o ddewisiadau a datblygiadau hyfforddi cysylltiedig yng Nghymru, mewn ardaloedd cefn gwlad a threfol.

Gwerth diwydiant adeiladu’r DU yw £80 biliwn y flwyddyn, neu 10 y cant o gynnyrch domestig gros, felly mae’r cyfle i allforio, gyda’r hyrwyddo priodol, yn anferthol.

Canlyniadau

Arweiniodd argymhellion SOSAVI at Sefydlu Grŵp Coed mewn Tai (WTH) Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwybodaeth Coed Cymru, Canolfan Rhagoriaeth mewn Adfywio Cymru a nifer gynyddol o bartneriaid o LCCiaid o bob rhan o dde Cymru (Cartrefi Cymoedd Merthyr, Cartrefi Melin, Cartrefi RhCT, United Welsh, Cartrefi Bronafon a V2C). Mae WHT wrthi’n gweithio ar nifer o becynnau gwaith i hepu’r rhaglen i fagu momentwm:

  • Hyrwyddo defnyddio pren Cymreig mewn tai ac adeiladu
  • Llunio modelau cyllido arloesol
  • Datblygu cynlluniau peilot arddangosiadol (ar y cyd â Chartrefi RhCT)
  • Cefnogi recriwtio a hyfforddi wedi eu targedu
  • Datblygu darpariaeth hyfforddi i helpu pobl leol i fanteisio ar gyfleoedd gwaith

Dywedodd Carl Sargeant, y gweinidog tai ac adfywio: ‘Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddatblygu atebion arloesol i ymdrin â thlodi, a chreu swyddi. Mae gennym gyfle yma i ysgogi twf economaidd yng Nghymru mewn ffordd sydd nid yn  unig yn creu swyddi adeiladu, ond sydd hefyd yn ymateb i’r galw am dai cynaliadwy ac yn hwyluso rheolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau coedwigol gwerthfawr.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn egluro ein hymrwymiad i weithio mewn modd cydgysylltiedig ar draws yr holl lywodraeth. Mae’r fenter hon yn enghraifft o hynny, gyda gweithgo traws-bortffolio wedi ei sefydlu i’w gyrru yn ei blaen.’

Beth fydd wedi cael ei wneud?

Bydd Partneriaeth Fusnes Coedwig Cymru, gyda chefnogaeth SOSAVI, yn arwain gwaith WTH. Mae’r grŵp wedi ennill ei blwyf erbyn hyn gydag aelodau newydd yn dymuno bod yn rhan ohono. Trefnir nifer o weithgareddau yn y misoedd nesaf:

Newid Canfyddiadau

Bydd WTH yn cydweithio’n glòs â Gwasanaethau Datblygu Cyflenwyr Llywodraeth Cymru i drefnu digwyddiadau cadwyn-gyflenwi fel ‘cwrdd â’r prynwr’ er mwyn cynorthwyo’r sector gyda rhwydweithio anffurfiol a thrwy arddangos cynnyrch a gwasanaethau.

Bydd WTH hefyd yn datblygu ymgyrch farchnata ‘chwalu’r-chwedlau’ i newid canfyddiadau ynglŷn â phren Cymreig, gan gynyddu amlygrwydd a chyfran marchnad tra’n gweithio gyda LCCiaid i annog lledaenu’r gair ar lafar, y dull marchnata gorau oll, fel y gwyddom.

Arddangos effeithlonrwydd

Mae rhaglen beilot yn cael ei datblygu gyda Chartrefi RhCT ar gyfer datblygiad 40-uned yn Spring Tree Court, Pentre’r Eglwys lle’r arfaethir defnyddio fframiau coed o bren Cymreig. Meddai Andrew Freeguard, rheolydd busnes a datblygu newydd Cartrefi RhCT: ‘Mae Cartrefi RhCTyn cefnogi gwaith WTH i’r carn. Call iawn, o safbwynt economaidd, yw prynu’n lleol, adeiladu’n lleol a chyflogi’n lleol ac mae Cartrefi RhCT wedi buddosoddi mewn llu o brojectau sy’n arddel yr egwyddorion hynny. Mae WHT yn mynd â phethau sawl cam ymhellach trwy dyfu, creu, adeiladu a chyflogi yng Nghymru. Os helpa ein peilot i arddangos ansawdd a chost-effeithiolrwydd pren Cymreig i weddill y sector tai yng Nghymru, yna rydym yn hapus i gymryd rhan flaenllaw.’

Cyllido

Mae unigolion allweddol yn y grŵp yn ystyried yr ochr ariannol (cymhwysedd ar gyfer grant tai cymdeithasol) a modelau cyllido arloesol i ysgogi swyddi a chynyddu cynaliadwyedd.

Elw cymdeithasol yn deillio o fuddsoddi

Mae WTH yn datblygu pecyn cymorth (yn seiliedig ar y Pecyn Cymorth Gallu-gwneud) er mwyn darparu cymaint o gyfleoedd ag sy’n bosibl i bobl leol bob cam o’r ffordd yn y broses o dyfu a phrosesu coed. Cyflogir partneriaid hyfforddi a chyflogadwyedd hefyd i helpu i sicrhau fod pobl leol yn ymgysylltu, yn datblygu sgiliau ac yn sicrhau gwaith yn y sector.

Byddwn yn parhau i weithio gyda WHQ i’ch hysbysu o sut mae pethau’n mynd a pha ganlyniadau a ddaw o’n cywaith. Byddwn hefyd yn siarad am hynt y cynllun yn nigwyddiad ‘The Only Way is Green’ STS Cymru yn hydref 2014. Yn y cyfamser, os hoffech gyfranogi yng ngwaith Grŵp WTH neu ddysgu mwy amdano, da chi, cysylltwch â Rachel Moxey – rachel@sosavi.co.uk neu Dainis Dauksta – dainis.dauksta@woodknowledgewales.co.uk

Mae Rachel Moxey yn arbenigo mewn adfywio cymdeithasol ac mae’n gyd-berchennog SOSAVI. Mae Dainis Dauksta yn ymchwilydd annibynnol ac yn ymgynghorydd i Gwybodaeth Coed Cymru.Ceir copi o adroddiad SOSAVI ar gyfer VRP ar eu gwefan yn www.sosavi.co.uk

Ceir copi o’r adroddiad, Welsh Softwoods in Construction, yn www.wfbp.co.uk/publications/default.htmAtgynhyrchir y delweddau trwy ganiatâd Dainis Dauksta, SOSAVI a Kaden Klingbeil Architects (e3 Berlin).


[1] Caiff pren ei raddio yn unol â BS EN 14081. Mae nifer o ddosbarthiadau nerth-C (C14-C50) ond C16 ac C24 yw ddau a geir yn bennaf gan y mwyafrif o fasnachwyr coed.

[2] Mae’r Ecosystem Creu Swyddi yn amcangyfrif faint o swyddi y gellid eu creu pe bai cymalau lles cymunedol rhagnodedig yn rhan o brojectau caffael.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »