Tyfwch eich un eich hun
Dyna\’r thema gyffredin sy\’n cysylltu\’r ddwy erthygl gyntaf yn rhifyn yr haf o Welsh Housing Quarterly.
Yn erthygl y clawr, mae Rachel Moxey a Dainis Dauksta yn golygu hynny\’n llythrennol wrth sôn am dyfu\’ch cartrefi eich hunain. Mae\’r erthygl yn sôn am bosibiliadau dihysbydd pren o Cymru o safbwynt creu cartrefi newydd a swyddi. I grybwyll un ystadegyn syfrdanol: tyfir digon o bren meddal yng nghoedwigoedd Cymru i adeiladu tŷ bob 10 munud – felly beth sy\’n ein dal yn ôl?
Mae gan Dave Adamson a Mark Lang syniad mwy uchelgeisiol byth o bosib yn eu herthygl ar ddull \’Lle Dwfn\’ CREW o fynd ati i greu llefydd tecach a mwy cynaliadwy. Canolbwynt eu hadroddiad yw adfywio Tredegar trwy ddatblygu model economaidd mwy lleoledig. A allai Lle Dwfn drawsnewid Tredegar a bod yn ysbrydoliaeth i gymunedau eraill yng Nghymru a thu hwnt?
Yn y rhifyn hwn o WHQ hefyd, mae Carl Sargeant yn dathlu blwyddyn gyntaf brysur fel gweinidog tai gyda chyfweliad ar ei lwyddiant hyd yn hyn a\’i flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Mae\’n sôn am drais yn y cartref, cynrychiolaeth ar sail rhyw mewn tai, ac yn ystyried y rhaglen ddeddfwriaethol ac effaith y diwygiadau lles.
Trafodir y materion hyn mewn mannau eraill. Yn Viewpoint, mae Joy Kent yn dadlau bod gan y sector tai yng Nghymru gyfle i arwain y ffordd ar gydbwysedd rhywiol wrth benderfynu. Pam na wnawn ni, \’te?
Ystyrir oblygiadau\’r ddeddfwriaeth mewn cyfres o erthyglau dilynol. Mae Martin Patington yn dadansoddi\’r newidiadau yn y gyfraith a\’u heffaith ar y sector rhentu preifat. Mae Sue Finch yn canmol y cytundeb ar hunan-gyllido sy\’n rhoi tai cyngor newydd yn ôl ar yr agenda o\’r diwedd, a John Puzey yn ystyried y newid diwylliannol anferthol y bydd y newidiadau digartrefedd yn ei olygu.
Yn y cyfamser, serch hynny, mae\’r diwygiadau lles yn parhau. Sut mae effeithiau lleol y dreth stafell wely yn cymharu â\’r hyn a ddychmygai ei dyfeiswyr yn Llundain? Aeth Simon Inkson i flaenau Cwm Afan i chwilio am ateb.
Clywn hefyd gan dîm #CouncilHomeChat ynglŷn â\’u hymgyrch yn erbyn ysbtrydebu negyddol am dai cymdeithasol a\’u tenantiaid a phobl ar fudd-daliadau. Mae\’r hyn a gychwynnodd yng Nghymru fel ymateb i \’How to Get a Council House\’ a \’Benefits Street\’ wedi lledaenu ledled y DU trwy gyfryngau cymdeithasol ac mae \’na gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.
Mae\’r ddwy erthygl olaf yn edrych ar dai o safbwynt dau begwn oedran. Mae Sarah Hillcoat-Nallétamby yn ystyried ymchwil diweddar i\’r hyn mae pobl hŷn yn ei feddwl go iawn am eu cartrefi a\’u cymdogaethau, tra bod y tîm sy\’n gyfrifol am broject llwyddiannus yn Wrecsam yn dangos gwerth gwelliannau i gartrefi plant sy\’n dioddef o asthma.
Mae hyn oll, a llawer mwy gan ein cyfranwyr rheolaidd, yn gwneud hwn yn rhifyn tra cwmpasog o WHQ. Mwynhewch yr haf.
Jules Birch
Golygydd, WHQ