English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

Y gwarchodgi projectau\’n \’ailosod\’ credyd cynhwysol

Mae prif gynllun diwygio lles llywodraeth y DU, y credyd cynhwysol, mewn mwy o drafferth wedi i\’r Awdurdod Projectau Mawr (MPA) ei \’ailosod\’ yn swyddogol.

Yr MPA yw gwarchodgi swyddogol 199 o raglenni mawr y llywodraeth, ac mae\’n gwneud asesiad parodrwydd gweithredu (APG) ar gyfer pob un ohonynt. Golyga\’r \’ailosod\’ ei fod yn ystyried credyd cynhwysol fel project newydd, i bob pwrpas.

Dywed ei adroddiad blynyddol, a gyhoeddwyd y diwrnod wedi\’r etholiadau Ewropeaidd: ‘Gosodwyd y project credyd cynhwysol yn y categori \”ailosod\”. Gwnaethom waith sylweddol i ddatblygu \”cynllun ailosod\” i osod y broses o gyflwyno credyd cynhwysol ar sail fwy diogel, ac mae\’r APG \”ailosod\” yn adlewyrchu statws newydd y project.\’

Y dyfarniad hwn yw\’r ergyd ddiweddaraf i ddiwygiad sy\’n ceisio gwneud y system fudd-daliadau\’n symlach ac yn gliriach. Mae credyd cynhwysol wedi dioddef o broblemau TG a newidiadau ymhlith ei staff uwch. Fodd bynnag, yn ôl llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: ‘Mae credyd cynhwysol ar y llwybr iawn. Nid peth newydd mo\’r ailosod; mae\’n cyfeirio at newidiadau yn y cynllun darparu a rheolwyr yn gynnar yn 2013. Y gwir amdani yw bod credyd cynhwysol eisoes yn gwneud i waith dalu wrth i ni ei gyflwyno mewn ffordd ofalus a rheoledig. Mae eisoes yn gweithredu mewn 10 ardal  a byddwn yn dechrau ei ehangu i weddill gogledd-orllewin Lloegr ym Mehefin.\’

Shotton oedd y 10fed canolfan waith – y gyntaf yng Nghymru – i ddechrau derbyn hawliadau credyd cynhwysol fis Ebrill. Ond dim ond y rhai symlaf yw\’r rhain, ac mae\’r gwaith ar y system TG yn parhau.

Yr Alban

Holyrood yn ennill y pŵer i liniaru\’r dreth stafell wely

Bydd yr Alban yn gallu lliniaru effaith y dreth stafell wely yn llawn wedi i lywodraeth y DU gynnig trosglwyddo\’r pŵer i bennu\’r terfynau ar daliadau tai disgresiynol [DHP] iddi ym mis Mai.

Roedd llywodraeth yr Alban eisoes wedi gwario i fyny at y terfyn cyfreithiol blaenorol i liniaru\’r effeithiau, ond eiddo San Steffan oedd y pŵer dros daliadau disgresiynol.

Pan drosglwyddir y pwerau, gellir buddsoddi cyfanswm o £50 miliwn i helpu\’r 72,000 o aelwydydd yn yr Alban sy\’n dioddef o\’r effeithiau.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nicola Sturgeon: ‘Buom yn pwyso ers mis Ionawr ar Iain Duncan Smith i ddileu\’r terfyn yma – ac o\’r diwedd, gwelodd San Steffan bod hyn yn gall ac ymateb i\’n cais. Byddwn yn gweithio yn awr i sicrhau y newidir y gyfraith cyn gynted ag sy\’n bosibl.

‘Cynllun y DHP yw\’r unig ffordd gyfreithlon – o dan y pwerau sydd gan yr Alban ar hyn o bryd – o ddarparu taliadau ariannol rheolaidd i bobl ar fudd-daliadau tai. Ond yr unig ffordd o gael gwared o\’r Dreth Stafell Wely am byth yw trwy bwerau Senedd annibynnol yn yr Alban.\’

Dywedodd gweinidog Swyddfa\’r Alban, David Mundell: ‘Mae gan lywodraeth y DU agwedd bragmatig tuag at ddatganoli, ac mae\’n credu mewn Teyrnas Unedig sy\’n cynnig y gorau o ddau fyd i\’r Alban. Gobeithio y gall swyddogion y ddwy lywodraeth fwrw ymlaen â hyn yn awr.’

Dywedodd pennaeth polisi a materion cyhoeddus STS yr Alban, David Bookbinder:

‘Bydd yn awr yn bwysig i Lywodraeth yr Alban a landlordiaid gyfleu\’r neges yn glir i denantiaid mai eu cyfrifoldeb nhw yw ymgeisio am DHP. Bydd yn rhaid i\’r sector ystyried ei ymateb i\’r ôl-ddyledion a grynhodd yn 2013/14; roedd rhai yn ganlyniad ceisiadau aflwyddiannus am DHP, ac eraill oherwydd methiant i ymgysylltu â\’r landlord.\’

Lloegr

Llafur yn awgrymu tenantiaethau hwy i rentwyr preifat

Mae\’r Blaid Lafur yn awgrym cyfnod tenantiaeth safonol o dair-blynedd gyda rhenti rhagweladwy, ynghyd â gwaharddiad ar daliadau asiant rhentu yn y sector rhentu preifat yn Lloegr. Gwnaeth Ed Milliband yr apêl eofn hon wrth lansio ymgyrch etholiadau lleol ac Ewrop y blaid yn Essex.

Dywedodd y byddai Llafur yn deddfu i wahardd taliadau asiant sy\’n golygu y gellir codi hyd at £500 ar rentwyr am ddim ond arwyddo cytundeb tenantiaeth, a delio ag ansicrwydd tenantiaethau chwe-mis sy\’n gadael teuluoedd mewn perygl o gael eu troi allan o\’u cartrefi ar rybudd o ddim ond dau fis.

‘Bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn deddfu i wneud cyfnod tair-blynedd yn safonol yn y sector rhentu preifat er mwyn rhoi\’r sicrwydd sydd ei angen i bobl sy\’n rhentu. Bydd y tenantiaethau newydd yma yn cyfyngu ar faint y gall rhent gynyddu bob blwyddyn hefyd, fel bod landlordiaid yn gwybod faint y gallant ei ddisgwyl bob blwyddyn, a thenantiaid yn osgoi cael eu sigo gan renti\’n codi i\’r entrychion.\’

O dan y cynlluniau, byddai tenantiaeth â chwe mis o gyfnod prawf i ddechrau; ar ddiwedd hwnnw, gallai\’r landlord derfynu am resymau fel ôl-ddyledion rhent ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Wedi hynny, byddai\’r denantiaieth yn rhedeg am ddwy flynedd a hanner arall, gyda thenantiaid â\’r hawl i\’w dwyn i ben â mis o rybudd, a landlordiaid ond yn gallu rhoi dau fis o rybudd am reswm da.

Byddai landlordiaid a thenantiaid yn pennu rhenti cychwynnol yn seiliedig ar werth y farchnad, ac yn adolygu\’r rhent ddim mwy nag unwaith y flwyddyn, gyda therfyn uchaf i atal cynnydd afresymol.

Gogledd Iwerddon

Nifer isaf o gartrefi newydd ers y chwalfa

Syrthiodd y nifer o gartrefi newydd y cychwynwyd arnynt i\’w lefel isaf ers chwalfa\’r farchnad tai, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd ddiwedd mis Ebrill.

Roedd y cyfanswm y cychwynwyd arnynt rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2013 yn ddim ond 918, 17 y cant yn is na\’r chwarter blaenorol, a 35 y cant yn is na\’r chwarter cyfatebol yn 2012. Cwblhawyd cyfanswm o 2,045, yr un fath â\’r chwarter blaenorol ond 15 y cant yn is na blwyddyn yn ôl.

Dywedodd swydog polisi a materion cyhoeddus STS Gogledd Iwerddon, Justin Cartwright: ‘Syrthiodd cyfanswm yr anheddau newydd y cychwynwyd arnynt ym mhob sector i ddim ond 918 yn Hyd-Rhag 2013, tra bod angen bron 3,000 bob chwarter ar gyfer poblogaeth sy\’n cynyddu a newid. Mae hwn yn ddarlun tywyll parthed adeiladu tai yng Ngogledd Iwerddon. Mae\’r ffaith na chychwynir ar ddigon o gartrefi\’n golygu llai a llai o gartrefi cymdeithasol ar gyfer pobl ddigartref neu rai sydd mewn tai gwael. Mae\’n golygu bod cartrefi\’n mynd yn anfforddiadwy i brynwyr tro-cyntaf a phobl ar incwm canolig.\’

LLYWODRAETH CYMRU

Addo 10,000 o gartrefi fforddiadwy

Lansiodd Llywodraeth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru Gytundeb Cyflenwi Tai i ddarparu 10,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon.

Mae\’r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad clir gan y ddwy ochr. Er i Lywodraeth Cymru gyrraedd 60 y cant o\’i tharged tai fforddiadwy gwreiddiol o 7,500 o gartrefi yn ystod ei dwy flynedd gyntaf, mae\’r angen am dai yn llawer iawn mwy na\’r cyflenwad o hyd.

Meddai\’r gweinidog tai, Carl Sargeant: Cynyddu’r cyflenwad yng Nghymru yw fy mhrif flaenoriaeth ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda datblygwyr, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a chyllidwyr i hybu cynlluniau arloesol fydd yn cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd uchel.’

Dywedodd Nick Bennett, prif weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: ‘Rydym yn croesawu’r Cytundeb newydd yn fawr, gan gredu ei fod yn adlewyrchu partneriaeth go iawn.  Llywodraeth Cymru sy’n pennu cymaint o ffactorau allanol: rheoleiddio,  polisi rhenti a lefelau buddsoddi cyfalaf.  Mae cymdeithasau tai’n parhau i ddarparu, a pho fwya o sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi i ni ar gyfer cynllunio, mwyaf oll y gallwn ei wneud.’

Hutt yn cefnogi mwy o gyllido arloesol

Tanlinellodd y gweinidog cyllid Jane Hutt fuddiannau ehangach buddsoddi mewn tai ac eglurodd ei hawydd i ehangu cyfranogiad Llywodraeth Cymru mewn cyllido arloesol.

Dywedodd wrth gynhadledd tai ym mis Mai: ‘Yr hyn mae\’n rhaid i ni ei gofio yw\’r effaith ehangach buddsoddi mewn tai. Trwy fuddsoddi mewn tai, rydym yn buddsoddi mewn swyddi, sgiliau a chymunedau. Mae twf a swyddi ar frig agenda Llywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddi mewn tai gallwn ysgogi twf a swyddi tra\’n darparu cartrefi diogel a fforddiadwy i rai mewn angen.\’

Dywedodd y gweinidog bod tai yn flaenoriaeth allweddol yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. ‘Dyna pam rwyf wedi cynhyrchu budsoddiad ychwanegol o £600 miliwn er i\’r cynllun gael ei gyhoeddi yn 2012 i gefnogi amrywiaeth o fenrau a fydd yn cyfrannu at gynyddu\’r cyflenwad tai a hybu\’r diwydiant adeiladu yng Nghymru.\’

Yn ychwanegol at gyfalaf traddodiadol mewn cynlluniau fel y grant tai cymdeithasol, cyfeiriodd at y Grant Cyllid Tai, Partneriaeth Tai Cymru a Chynllun Ecwiti a Rennir Cymorth i Brynu Cymru.

Cyllid ychwanegol ar gyfer ardaloedd tlawd

Cyhoeddodd y gweinidog tai, Carl Sargeant £2 filiwn arall o gyllid i helpu i adfywio rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae\’r arian hwn ar ben y £5 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Medi fel rhan o Gynllun Trechu Tlodi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, ac mae\’n golygu y caiff saith awdurdod lleol £1 miliwn yr un.

Y cymunedau a fydd yn derbyn yr arian yw: Tredegar, Blaenau Gwent; Rhymni, Caerffili; Grangetown, Caerdydd; Llanelli, Sir Gaerfyrddin; Y Rhyl, Sir Ddinbych; Caernarfon, Gwynedd; a\’r Barri, ym Mro Morgannwg.

Mae\’r cyllid ar gyfer cymunedau na fu eu ceisiadau am gyfran o gronfa £100 miliwn Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn llwyddiannus, ond sydd ymhlith 10 y cant uchaf Mynegai Amdifadedd Lluosog Cymru.

Meddai Carl Sargeant: ‘Byddwn yn awr yn trafod â\’r awdurdodau lleol dan sylw er mwyn penderfynu\’r ffordd orau o gyflawni\’r amcanion hyn a sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa i\’r eithaf ar yr arian hwn.\’

Cymru\’n arwain wrth fynd i\’r afael â throseddau casineb

Cyhoeddodd Jeff Cuthbert, y gweinidog cymunedau a threchu tlodi, gyllid ar gyfer canolfan genedlaethol newydd lle gall dioddefwyr troseddau casineb gwyno am droseddau a chael cefnogaeth.

Roedd yn siarad ar achlysur lansio Mynd i\’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd o flaen cynulleidfa o fwy na 300 o bobl.

Mae\’r Fframwaith yn ymdrin â phob math o droseddau casineb, rhai\’n seiliedig ar hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, ac oedran. Ychwanegwyd oedran ar ôl ymgynghori â mwy na 400 o bobl, a ddatgelodd fod troseddau casineb yn dod yn broblem gynyddol i bobl ifanc a phobl hŷn. Mae\’r fframwaith hefyd yn cynnwys casineb seiber a chasineb y dde eithafol.

Dywedodd Jeff Cuthbert: Rwyf am i ddioddefwyr troseddau casineb fod yn ddigon hyderus i gwyno. Bydd y Fframwaith a\’r cynllun cyflenwi yn eu helpu i ddarganfod yr hyder hwnnw. Mae’n cynnwys cyllido Cymorth i Ddioddefwyr i redeg Canolfan Troseddau Casineb Cymru. Fy neges i ddioddefwyr troseddau casineb yw y byddwn yn gweithredu. Ni fydd unrhyw fath o gasineb yn cael ei oddef.’

Gweinidogion yn galw am eithrio cartrefi addasedig rhag y dreth stafell wely

Sgrifennodd pump o weinidogion Llywodraeth Cymru at weinidog diwygio lles y DU, yr Arglwydd Freud, yn galw am eithrio tenantiaid anabl yr addaswyd eu tai rhag newidiadau mewn budd-dal tai.

Ymunodd y gweinidogion tai ac adfywio, cymunedau a threchu tlodi, a llywodraeth leol a busnes y llywodraeth â\’r dirprwy weinidogion ar gyfer trechu tlodi a gwasanaethau cymdeithasol i arwyddo\’r llythyr. Roedd hyn yn sgîl adroddiad gan bwyllgor dethol holl-bleidiol San Steffan ar waith a phensiynau a ategodd eu pryderon.

Dywedodd y gweinidog tai, Carl Sargeant: ‘Mae\’r dreth stafell wely\’n effeithio\’n ddwys ar lawer o\’r bobl fwyaf diymgeledd yn ein cymunedau, a dydy hi ddim yn gall bod arian a fuddsoddwyd mewn addasu tai i ateb gofynion teuluoedd anabl yn cael ei wastraffu. Nid yw hi\’n hawdd i denantiaid anabl i godi eu pac a newid aelwyd. Dylid eu heithrio o\’r diwygiadau hyn, nid eu gadael yn ddibynnol ar gymorth gan y gyfundrefn budd-dal tai ddisgresiynol.\’

 

CYHOEDDIADAU

10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW

1) Homelessness amongst people from Black and minority ethnic populations in Wales – Shelter Cymru a Tai Pawb, Ebrill 2014
www.sheltercymru.org.uk/wp-content/uploads/2014/03/BME-Report-2014.pdf

2) Cyflwyniadau o Gynhadledd Cyllid Arloesol ar gyfer Tai Llywodraeth Cymru, Mai 2014
wales.gov.uk/topics/housing-and-regeneration/housing-supply/innovatiove-finance/innovative-finance-past-events/event-2014/?skip=1+lang=cy

3) Mynd i\’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru, Mai 2014
www.wales.gov.uk/topics/equality/rightsequality/hate-crime/?lang=cy

4) UK Housing Review – Y Sefydliad Tai Siartredig, Ebrill 2014
www.cih.org/publication/display/vpathdcr/templatedata/cih/publication/data/Uk_housing_review_2014  and www.ukhousingreview.org.uk  

5) Let’s House Britain – Legal and General, Mai 2014 www.rostrumpr.com/assets/caseStudy/housingBritain.pdf     

6) Smaller Housing Associations’ Capacity to Deliver New Homes – SefydliadJoseph Rowntree, Mai 2014
www.jrf.org.uk/publications/smaller-housing-associations-capacity-develop-new-homes   

7) Here and There: One year on – the Bedroom Tax hits home – Grand Union Housing Group, Mai 2014
www.grandunionhousing.co.uk/news/latest-report-bedroom-tax-one-year-on/

8) Building the homes we need – a programme for the 2015 government – Shelter/KPMG, Mai 2014

www.shelter.org.uk/_data/assets/pdf_file/0019/802270/building_the_homes_we_need_-_a_programme_for_the_2015_government.pdf

9) Tacking Poverty through Public Procurement – SefydliadJoseph Rowntree, Ebrill 2014 www.jrf.org.uk/sites/files/jrf/poverty-procurement-social-mobility-full.pdf

10) Welsh Power Report – Representation of Women in Public Life –Electoral Reform Society Cymru, Mawrth 2013
www.electoral-reform.org.uk/images/dynamicImages/welshpowerENg.pdf

 

Cymru

Tai\’n rhan allweddol o gymysgedd adfywio Casnewydd

Caiff rhai o adeiladau trawiadol canol dinas Casnewydd adfywiad, diolch i chwistrelliad ariannol o £15 miliwn.

Dyfarnwyd yr arian i Gyngor Dinas Casnewydd o dan gynllun adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru. Cais Casnewydd oedd un o ddim ond tri lle a dderbyniodd y swm llawn yr ymgeisiwyd amdano. Yn wahanol i gynlluniau gwella blaenorol, dyrannwyd y cyllid ar gyfer cyfres o brojectau eisoes, a lluniwyd rhaglen i weithredu\’r cynlluniau dros y tair blynedd nesaf.

Bydd y cyngor yn gweithio gyda\’r sector preifat a\’r drydedd sector i weddnewid rhai adeiladau allweddol, trwy eu haddasu\’n  gartrefi newydd yn bennaf, ond bydd lle ar gyfer rhai busnesau newydd hefyd.

Canmolodd y cynghorydd John Richards, yr aelod cabinet dros adfywio a datblygu, y tîm mewnol aml-adrannol a luniodd y cais llwyddiannus. Meddai: ‘Rydym wedi cydnabod ers tro bod cynnwys elfen breswyl sylweddol yng nghanol y ddinas yn allweddol i\’w hadfywio. Bydd cymysgedd iach o gartrefi, siopau, busnes a hamdden yn anadlu bywyd newydd i mewn i\’r ardal bwysig hon.\’

Bydd un o\’r projectau cyntaf y cychwynir arno yn cynnwys gweithio gyda Grŵp Seren. Caiff adeilad ar Ffordd Caerdydd sydd wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn yn cael ei ailwampio i greu 15 o fflatiau fforddiadwy. Ceir darnau o bensaernïaeth wych yng nghanol dinas Casnewydd (yn enwedig os edrychwch i fyny), a bydd y project yn anelu at ddiogelu a chaboli rhai o\’r nodweddion arbennig. Un ohonynt yw Griffin Island (uchod) ger y farchnad dan-do hanesyddol, lle beriedir creu 40 o fflatiau ar y lloriau uchaf.

Linc Cymru yn penodi Lovell ar gyfer cynllun Pen-y-bont

Penodwyd yr arbenigwyr tai  fforddiadwy, Lovell, gan Gymdeithas Tai Linc Cymru i adeiladu cam cyntaf datblygiad o 99 o gartrefi fforddiadwy gwerth £8.6 miliwn yng Nghoety, Pen-y-bont.

Mae\’r cartrefi\’n cael eu hadeiladu ar dir a werthwyd i\’r gymdeithas tai gan Lywodraeth Cymru o dan ei brotocol rhyddhau tir, â\’r nod o ddarparu tir cyhoeddus ar gyfer tai fforddiadawy. Mae\’r datblygiad yn mynd rhagddo ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont.

Mae gwaith ar y gweill bellach ar y cam cyntaf – 56 o dai a fflatiau i\’w cwblhau yn gynnar yn 2015 – oddi ar ffordd osgoi Coety. Bydd y cam cyntaf ar gyfer rhentu cymdeithasol a rhentu canolradd (mae rhent canolradd yn golygu y gosodir cartrefi am bris uwch na\’r rhent cymdeithasol ond islaw lefel y farchnad).

Cartrefi newydd o dai hynaf y Rhyl

Mae\’r tai hynaf yn y Rhyl, sef dau dŷ pâr ar Ffordd Pendyffryn, eiddo a adawyd yn wag ers amser i fynd â\’i ben iddo, yn cael estyniad einioes gan Dai Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych gyda rhaglen ailddatblygu ac atgyweirio lawn.

Prynodd Tai Gogledd Cymru y ddau eiddo ym Mhlas Pendyffryn, a adeiladwyd ym 1571, ac mae’n barod i fwrw ati â rhaglen adfer uchelgeisiol a sensitif. Trawsnewidir yr adeiladau rhestredig Gradd II i ddarparu tri thŷ dwy-lofft a thri byngalo dwy-lofft, a gaiff eu hadeiladu yn yr ardd fawr y tu ôl i’r eiddo.

Bydd y gwaith atgyweirio ar y strwythur sy\’n dal i fodoli yn defnyddio dulliau adeiladu a defnyddiau traddodiadol. Mae\’r adeilad bron yn ddigyfnewid er ei adeiladu, heb stafell ymolchi na thŷ bach mewnol o hyd; bydd ffenestri ffrâm-goed yn cael eu hatgyweirio a\’u hailosod. Mae\’r waliau carreg wedi eu gwyngalchu a bydd y gwaith adfer yn cael ei wneud gan ddefnyddio dulliau a defnyddiau tebyg. Tynnir ychwanegiadau ac adnewidiadau mwy diweddar i lawr, gan adfer ac adeiladu â thechnegau mwy sensitif yn eu lle.

Cynllun wardeiniaid ynni

yn gweddu i\’r dim

Mae menyw o Gaernarfon wedi newid ei bywyd trwy helpu ei chyd-drigolion yng ngogledd-orllewin Cymru i arbed arian ar eu biliau ynni.

Saith mis yn ôl roedd Sandra Kargin, 59 oed, allan o waith , wedi colli eu hyder, ac yn ei chael hi\’n anodd gadael ei chartref yng Nghadnant.

Ond cafodd le ar gynllun wardeiniaid ynni Grŵp Cynefin sy\’n cynnig cyfle i bobl ddiwaith i hyfforddi mewn cynghori ar arbed ynni, ac mae hynny wedi rhoi pwrpas newydd iddi – estyn allan i bobl sydd mewn tlodi tanwydd.

Yn ogystal â magu hunan-hyder newydd, mae Sandra a\’i chyd-wardeiniaid wedi helpu mwy na 600 o bobl ledled Gwynedd ac Ynys Môn i arbed mwy na £18,000 ar eu biliau.

Meddai Sandra: ‘Wyddwn i ddim beth i\’w wneud â fi fy hun, wir. Mi fyddwn i\’n codi, aros yn fy nillad nos a chysgu\’r rhan fwyaf o\’r dydd. Rhoddodd y ganolfan waith fi mewn cysylltiad â\’r rhaglen, ond doeddwn i ddim yn obeithiol y cawn i gyfweliad, heb sôn am swydd yn y pen draw. Roedd y cynllun wardeiniaid ynni yn drobwynt gwirioneddol i fi, mae wedi newid fy mywyd.\’

Mae\’r cynllun wardeiniaid ynni yn un o nifer o fentrau cymunedol a redir gan Grŵp Cynefin, sy\’n darparu mwy na 3,700 o gartrefi ar rent a 700 o unedau eiddo fforddiadwy i bobl ledled gogledd Cymru a Phowys. Fe\’i ffurfiwyd yn gynharach eleni, yn sgîl cyfuno cymdeithasau tai Eryri a Chlwyd.

Dod â\’r gogoniant nôl i Tylertown

Mae busnesau Cymreig wedi rhoi cyfle arall i\’r unig theatr sydd ar ôl yn y Rhondda fach i fwrw\’r uchelfannau unwaith eto.

Roedd Neuadd Les restredig Graddfa II Tylerstown, a adeiladwyd 80 mlynedd yn ôl, ar fin cau yn 2013 am nad oedd neb ar gael i redeg yr adeilad, a oedd yn prysur ddirywio.

Gadawodd gwaig leol, Rebecca Sullivan, ei swydd ddiogel gyda Chymunedau yn Gyntaf i helpu i ofalu am yr adeilad a oedd yn dal i ddarparu gwasanaethau, digwyddiadau ac adloniant i\’r cymunedau lleol. Cafodd Rebecca gefnogaeth Meadow Prospect, yr elusen a sefydlwyd gan y gymdeithas tai leol, Cartrefi RhCT, i helpu i godi arian i adfer yr adeilad i\’w ogoniant blaenorol.

Yn y 12 mis diwethaf, mae cwmnïau Cymreig wedi darparu gwerth bron £30,000 o wasanaethau yn rhad ac am ddim, i helpu i ddod â Neuadd Les Tylorston i gyflwr diogel. Roedd y gwasanaethau\’n cynnwys rheolaeth project, cefnogaeth bensaernïol, peirianneg fecanyddol a thrydanol, gwasanaeth maintfesurydd, a pheirianneg adeiladu.

Mae\’r neuadd bellach yn barod i gael ei hadfer, ac mae Rebecca\’n cydweithio\’n glòs gyda Meadow Prospect ar ymgeisio am arian gan Loteri\’r Dreftadaeth ar gyfer y cam nesaf, sef adnewyddu\’r adeilad yn llwyr, a gwneud y neuadd boblogaidd yn ganolfan gynaliadwy, weithredol ar gyfer y cymoedd.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »