Mae’r rhifyn yma o Welsh Housing Quarterly yn edrych yn ôl ar flwyddyn o ddiwygio lles ac ymlaen at flwyddyn o newid i dai ac adfywio … a mwy o ddiwygio lles.
Mae’r cyfnod yma yn union cyn TAI 2014 yn ymddangos yn adeg briodol i fyfyrio ar thema bennaf cynhadledd y llynedd. Mae’r hyn a ddisgrifiwyd bryd hynny fel ‘storm berffaith’ yn awr yn ymddangos yn debycach i achos o newid hinsawdd: newid sylfaenol yn amodau byw landlordiaid a thenantiaid.
Mae ein rhifyn arbennig ar ddiwygio lles yn edrych ar sut y cawsom ein gorfodi i ymaddasu i don o doriadau a drawodd ym mis Ebrill 2013, a sut y gallasom liniaru’r effeithiau. Mae ymgyrchoedd cyfathrebu, taliadau tai disgresiynol a phrojectau bwyd oll wedi dod yn rhan o’r ymdrech dorfol i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym, ac felly hefyd apeliadau llwyddiannus yn erbyn y dreth stafell-wely mewn tribiwnlysoedd haen-gyntaf.
Ond mae terfyn i’r hyn y gellir ei wneud. Mae’r ansicrwydd yn parhau ynglŷn â chyllido llety â chymorth. Mae pobl anabl mewn cartrefi wedi eu haddasu’n arbennig yn wynebu problemau neilltuol gyda’r dreth stafell-wely, a gallai’r gost i’r pwrs cyhoeddus fod yn anferth. Ac mae’r toriadau cynyddol yn golygu y bydd y newid hinsawdd gyda ni am flynyddoedd. Felly hefyd y diwygiad lles mwyaf oll, efallai – credyd cynhwysol – a byddwn yn edrych ar broject arbrofol taliadau uniongyrchol Torfaen hefyd.
Mae’r rhifyn hwn o WHQ hefyd yn edrych ar gyfres o faterion eraill sydd yn uchel ar yr agenda.
Mae Robin Staines yn egluro’r syniadau y tu ôl i argymhellion y Tasglu ar y Cyflenwad Tai ar sut i ddarparu mwy o gartrefi newydd yng Nghymru, a nodwn rai enghreifftiau o syniadau newydd arloesol o bob rhan o’r wlad.
Bydd Comisiwn Williams ar lywodraethu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ffurfio’r amgylchedd sefydliadol ar gyfer tai ac adfywio am flynyddoedd i ddod. Mae Kellie Beirne a Shayne Hembrow yn amlinellu’r oblygiadau, yn eu tyb nhw.
Swyddogaeth tai mewn mynd i’r afael â thrais yn y cartref ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol oedd thema cynhadledd yng Nghaerdydd ym mis Chwefror. Julie Nicholas sy’n edrych yn ôl ar ddiwrnod ysbrydoledig.
Mae Alicija Zalensinska, Tai Pawb, yn bwrw golwg ar y ffeithiau a rhai o’r mythau ynglŷn ag amrywiaeth ar fyrddau, gyda chyngor neu ddau ar sut i’w wella wrth i lywodraeth cymdeithasau tai ddod o dan y chwyddwydr.
Awdur ‘Safbwynt’ y rhifyn hwn yw Tim Blanch sydd, wrth ymadael â Thai’r Arfordir, yn galw am agwedd Gwnaed yng Nghymru tuag at ddyfodol cymdeithasau tai a mentrau cydfuddiannol cymunedol i osgoi’r agwedd seiliedig ar y farchnad sydd mor gyffredin yn Lloegr.
Mae Cartrefi Gwag Cymru yn flwydd oed ers cael ei lansio yn TAI 2013. Michala Rudman sy’n egluro’r hynt y cynllun a’r camau nesaf er mwyn sicrhau defnyddio eiddo gwag drachefn.
Ac yn ôl gyda TAI eleni, mae erthyglau gan y tair sydd ar restr fer Sêr Dyfodol Cymru yn trafod yr hyn a welant fel cyfleoedd allweddol. Mae hynny, ynghyd â llawer mwy gan ein cyfranwyr rheolaidd, yn gwneud hwn yn rhifyn cynhadledd prysur iawn. Gobeithio eich gweld chi oll yn TAI.
Jules Birch
Golygydd, WHQ