Prif ffocws y rhifyn hwn o Welsh Housing Quarterly yw’r Bil Tai. Wrth i Gymru gael y cyfle i basio ei deddfwriaeth gyntaf erioed ar dai, bydd y manylion yn destun trafod y tu fewn a thu allan i’r Cynulliad dros y misoedd nesaf.
Mae ein hadran arbennig ar y Bil (tt. 16-23) yn cychwyn â chrynodeb o gynigion Llywodraeth Cymru mewn saith maes allweddol a fydd yn dod yn rhan o weledigaeth benodol Gymreig ar gyfer yr holl gyfundrefn tai, ac fel y dylai hynny weithio gyda gweddill ein polisi economaidd a chymdeithasol.
Mae’n parhau gydag erthyglau sy’n taflu goleuni ar bob agwedd o’r drafodaeth ar y cynigion. Mae’r gweinidog tai Carl Sargeant a llefarwyr y tair gwrthblaid ar dai yn amlinellu eu blaenoriaethau ac yn datgelu’r pwyntiau o gytundeb ac anghytundeb a fydd yn ganolog i’r ddadl wleidyddol. Rhydd Tai Pawb a Thenantiaid Cymru a Chymdeithas y Landlordiaid Preswyl hwythau wahanol safbwyntiau ar y cynigion.
Cewch hefyd farn llawer o’n cyfranwyr rheolaidd ar wahanol agweddau ar y Bil yn y rhifyn hwn, yn cynnwys Shelter Cymru (t37), STS Cymru (tt38-39), y Rhwydwaith Digartrefedd a Chefnogi Pobl (t40) a Chymorth Cymru (t56).
Bydd rheoleiddio a llywodraethu yn themâu mawr eleni hefyd. Mae Hugh Thomas, Cadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru, yn esbonio’r syniadau y tu ôl i fath newydd o reoleiddio’n seiliedig ar risg ar gyfer cymdeithasau tai (tt26-27). Mae Antonia Forte, a ymddeolodd fel prif weithredydd Grŵp Tai Cymuned Cynon Taf ar ddiwedd 2013, yn rhoi ei safbwynt personol ar beth ddylai bod yn annibynnol ei olygu (t9).
Gan gamu’n ôl oddi wrth y materion polisi llosg hyn, mae’r rhifyn hefyd yn rhoi sylw i dai ac ymchwil – ffocws cynhadledd a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd a Shelter Cymru ym mis Tachwedd. Edrychwn ar sut y gall ymchwil ddylanwadu’n llwyddiannus ar bolisi ac arfer tai, ac edrychir ar ymchwil ar y Bil Tai a chyfiawnder cymdeithasol a thai ac anghydraddoldeb (tt31-35).
Mewn mannau eraill yn y rhifyn, mae WHQ yn edrych y Tu Hwnt i Dai (tt42-50) gyda chyfres o erthyglau nodwedd yn ymdrin â’r gwahanol ffyrdd mae darparwyr tai yn edrych y tu hwnt i frics a morter er mwyn newid bywydau eu preswylwyr a’u cymunedau er gwell. Clywn hefyd gan Nick Bennett, Cartrefi Cymunedol Cymru (t25) ynglŷn â chyfraniad cymdeithasau tai, ac mae’n galw am ddatganoli diwygio lles yn sgîl y niwed a wnaed gan y dreth stafell wely.
Mae hyn oll, ynghyd â llawer mwy gan ein cyfranwyr rheolaidd, yn gwneud hwn yn rhifyn cyntaf cynhwysfawr 2014 brysur, yn ogystal â hanesyddol, mae’n siŵr. Blwyddyn Newydd Dda.
Jules Birch
Golygydd, WHQ