Fe ddaeth yr hydref, ac wrth iddi nosi ynghynt, a ninnau’n cynnau’r gwres, dwi’n credu ein bod ni ar drothwy prawf tyngedfennol ar wir effeithiau’r newidiadau mewn budd-daliadau tai a gychwynnodd fis Ebrill diwethaf. Mae argoelion eisoes fod y dreth stafell wely anfad yn brifo tenantiaid tai cymdeithasol – bu cynnydd mewn ffigyrau dwbl yn nifer yr hawliadau meddiant gan landlordiaid a’r gorchmynion llys a gyhoeddwyd, ac ymchwydd mewn taliadau tai disgresiynol.
Ond wrth i fwynder haf bylu yn y cof, gallwn ddisgwyl mwy o bwysau ar gyllideb y teulu – cynnydd cyson mewn prisiau tanwydd, bwyd a chostau cludiant, heb sôn am bwysau arferol y Nadolig ar y pwrs. I lawer o denantiaid landlordiaid cymdeithasol, gallai’r toriad o hyd at 25 y cant mewn budd-dâl tai achosi dewis hallt rhwng bwyta a chadw’n gynnes. Dwi’n disgwyl i’r nifer gynyddol o fanciau bwyd sydd gennym i fod yn brysur dros ben.
Mae gwneuthurwyr polisi yn wynebu her uniongyrchol caledi o ganlyniad i’r newidiadau hyn, a’r problemau tymor-canol sydd wedi bod yn cyflymu ers mis Ebrill. Dwi’n credu ei bod hi’n hanfodol – yn foesol ac yn ymarferol – bod Llywodraeth Cymru, yn achos pobl sydd ar ei hôl hi â’u rhent oherwydd y dreth stafell wely, yn mabwysiadu polisi o wrthod troi allan.
Yn yr Alban, mabwysiadwyd polisi o’r fath eisoes, ac mae cynghorau yn Lloegr yn ei ystyried hefyd. Os na wnawn ninnau, ofnaf ein bod yn wynebu blwyddyn newydd o ddigartrefedd a fydd yn effeithio’n waethaf ar y mwyaf diymgeledd. Os penderfynwn osgoi’r dewis ‘niwclear’ o droi pobl allan o’u cartrefi, yna gallwn atal tenantiaid rhag plymio i mewn i drafferthion pellach.
Yn y tymor canol, gŵyr pawb sy’n gweithio yn y sector tai mai oherwydd prinder eiddo cymdeithasol un- a dwy-lofft mae pobl â stafelloedd sbâr. Yn wir, pan ofynnais i’r Prif Weinidog faint o eiddo llai fyddai ei angen yn y wlad hon pe bai pawb sy’n gorfod talu’r dreth stafell wely yn penderfynu symud i dŷ llai, tua 20,000 o gartrefi ychwanegol oedd yr amcangyfrif.
Mae llywodraeth y DU wedi mynd ati i ymdrin â phroblem tan-feddiant o’r cyfeiriad anghywir. Mae wedi gweithredu yn atchweliadol ac yn greulon. Ond os cymerwn ni yng Nghymru y cam cyntaf o ddiogelu rhag troi allan, yna gallwn fanteisio ar y cyfle i greu’r 20,000 o gartrefi llai sydd eu hangen. Daw adeiladu cartrefu â buddiannau cymdeithasol amlwg, ond gallai hefyd fod yn chwistrelliad iachusol i’n heconomi fregus hefyd.
Mae adeiladu’n ffordd allan o ddirywiad economaidd yn beth call o bob safbwynt. Gobeithio y bydd y fath bolisïau ar y gweill ymhell cyn y daw’r gwanwyn.
Jocelyn Davies AM
Llefarydd tai ac adfywio Plaid Cymru