Y DU
Arbenigwraig y CU yn galw am ohirio’r ‘dreth stafell wely’
Mae cynghorydd arbenigol i’r Cenhedloedd Unedig wedi galw am ohirio’r ‘dreth stafell wely’ ar unwaith ac ailwerthusiad cyflawn o’i heffaith ar bobl ddiymgeledd.
Ymwelodd rapporteur arbennig y CU ar dai digonol, Raquel Rolnik, â dinasoedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a chyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru yn Llundain yn ystod ymweliad dwy-wythnos â’r DU yn Awst a Medi.
Roedd yn asesu record llywodraeth y DU o dan gyfraith hawliau dynol rhyngwladol, sy’n gosod dyletswydd arni i ‘gymryd camau i sicrhau a chynnal gwireddu yn gynyddol yr hawl i lety addas.’
Yn ei darganfyddiadau cychwynnol, dywedodd ‘Nid yw hi’n glir fod pob ymdrech wedi ei gwneud i ddiogelu’r mwyaf diymgeledd rhag effeithiau dirywiad, yn wir, mae llawer o’r dystiolaeth a glywais yn awgrymu mai nhw sy’n dioddef waethaf. Mae amddifadedd tai yn gwaethygu yn y Deyrnas Unedig.’
Tanlinellodd effaith mesurau llymder cyllidol yn enwedig. ‘Dichon mai’r dreth stafell wely fondigrybwyll yw’r mwyaf gweladwy o’r mesurau. O fewn dim ond ychydig fisoedd o’i gweithredu, mae’r effeithiau difrifol ar bobl ddiymgeledd iawn eisoes yn cael eu teimlo ac mae ofn yr effeithiau yn y dyfodol yn achosi straen a phryder aruthrol.’
Argymhellodd hefyd y dylai llywodraeth y DU sefydlu cyfundrefn o reoliadau ar gyfer y sector rhentu preifat ac ymrwymo i gynyddu’r stoc tai cymdeithasol yn sylweddol.
Ymatebodd llywodraeth y DU yn gynddeiriog i’w chasgliadau, a chwynodd cadeirydd y blaid Geidwadol wrth Ysgrifennydd Cyffredinol y CU, gan ofyn am ymddeiheurad.
Mae datganiad cenhadaeth rapporteur arbennig y CU ar gael yn
http://www.ohchr.org/En/newsEvents/Pages/displaynews.aspx?newsId=13706&LangId=E ac mae’r adroddiad llawn i’w gyhoeddi yng ngwanwyn 2014.
Lloegr
Y llywodraeth yn gweithredu ar ‘dâp coch’ adeiladu tai
Bydd dwsinau o fesurau ‘dianghenraid a dryslyd’ a orfodwyd ar adeiladwyr tai gan gynghorau a llywodraeth Lloegr yn cael eu dileu mewn ymgais i gynyddu cynhyrchedd.
Dywedodd y gweinidog Cymunedau Don Foster y câi ‘clytwaith’ o fwy na 100 o safonau gwahanol eu cywasgu’n 10 a chwtogir 1,500 tudalen o ganllawiau i 80. Byddai rheolau diogelwch a hygyrchedd hanfodol yn cael eu diogelu.
Canlyniad ‘her y tâp coch’ a lansiwyd yn 2011 i gefnogi’r adran yn ei hymgais i gwtogi ar reoliadau yw’r arolwg safonau tai.
Mae’r llywodraeth hefyd yn gwahodd barn ar safonau lleiafswm gofod a hygyrchedd a fyddai’n caniatáu i gynghorau geisio cartrefi mwy o faint i ateb gofynion lleol, ac mae’n cynnig mesurau i roi terfyn ar ‘blâ biniau sbwriel’ mewn datblygiadau newydd.
Meddai Don Foster: ‘Mewn cyfnod o gydweithio clòs gyda busnes ym Mhrydain i greu swyddi ac adeiladu economi gryfach, mae’n hanfodol i’r llywodraeth chwarae ei rhan trwy ryddhau’r brêc biwrocrataidd sy’n llyffetheirio adeiladu tai ac yn ychwanegu costau dianghenraid.’
Yr Alban
Mwy o arian ar gyfer cartrefi fforddiadwy a’r ‘dreth stafell wely’
Cyhoeddodd llywodraeth yr Alban ragor o gyllid cyfalaf ar gyfer tai ynghyd ag £20 miliwn arall mewn taliadau tai disgresiynol i liniaru effaith y ‘dreth stafell wely’.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid John Swinney y byddai’r gyllideb ddwy-flynedd yn gyrru buddsoddiad o £1.35 biliwn mewn tai fforddiadwy dros bedair blynedd. Byddai hefyd yn darparu o leiaf £68 miliwn y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf i liniaru effaith toriadau’r DU mewn budd-daliadau lles ynghyd ag arian ychwanegol eleni i gyfyngu ar effeithiau’r dreth stafell wely.
Dywedodd: ‘Bydd y Llywodraeth hon yn cymryd camau diymdroi i ddelio ag effeithiau anfad y dreth stafell wely. Byddaf yn darparu £20 miliwn i ariannu cynnig Shelter yr Alban i helpu’r rheini sy’n dioddef fwyaf oherwydd y dreth. Bydd y cyllid hwn yn galluogi awdurdodau lleol i gynyddu taliadau tai disgresiynol i gwrdd â rhai o oblygiadau’r dreth stafell wely.’
Yn ôl STS yr Alban, mae’r cynlluniau’n golygu cyllideb arfaethedig o £390 miliwn ar gyfer y cyflenwad tai fforddiadwy yn 2015/16 ac ychwanegiad pellach at y gyllideb cyflenwad tai dair-blynedd gyfredol (2012/13 i 2014/15) i gyfanswm o £970 miliwn.
Dywedodd y pennaeth polisi a materion cyhoeddus, David Bookbinder: ‘Mewn amserau cyllidol anodd, mae’n newyddion gwych bod bras-gyllideb 15/16 o £390 miliwn nid yn unig yn cadarnhau’r ychwanegiadau a welsom i’r gyllideb bresennol ond hefyd yn cynrychioli cynnydd o ryw 21 y cant ar y gwariant blynyddol o £323 miliwn ar gyfartaledd o fewn y rhaglen gyfredol.’
Gogledd Iwerddon
Strategaeth newydd yn targedu cartrefi gwag
Mae’r gweinidog tai, Nelson McCausland, wedi lansio cynllun newydd i ailddechrau defnyddio cartrefi gwag ledled Gogledd Iwerddon.
Bydd y strategaeth yn para pum mlynedd hyd at 2018, ac mae’n cynnwys sefydlu gwefan newydd a thîm pwrpasol o fewn Gweithgor Tai Gogledd Iwerddon ynghyd â gweithio mewn partneriaeth glòs â sefydliadau eraill yn cynnwys Gwasanaethau Tir ac Eiddo ac awdurdodau lleol.
Amcangyfrifir bod yna 32,000 o gartrefi gwag yng Ngogledd Iwerddon. Gallai mentrau eraill yn y misoedd nesaf gynnwys cynlluniau trosglwyddo a chyllido, a rhestr o eiddo peilot mewn ardaloedd lle mae angen tai.
Meddai Nelson McCausland: ‘Dwi am fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle i ddiwallu’r angen am dai, lleihau malltod, a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Dwi’n gweld adfywio cartrefi gwag fel modd pwysig o gyflawni hyn.’
LLYWODRAETH CYMRU
Cartrefi newydd i rai sy’n symud oherwydd y ‘dreth stafell wely’
Mae cymorth wrth law i ddioddefwyr y dreth stafell wely sydd am symud i gartref llai o dan gynllun £20 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd yr arian yn helpu cymdeithasau tai i adeiladu 357 o gartrefi un- a dwy-lofft ar gyfer y rhai a gosbwyd am ‘dan-feddiannu’ eiddo mwy o faint. Effeithiwyd ar fwy na 35,000 o deuluoedd yng Nghymru.
Meddai’r gweinidog tai, Carl Sargeant: ‘Dwi’n benderfynol o wneud hynny a allaf i gefnogi tenantiaid er mwyn sicrhau y gwneir cyn lleied â phosib o niwed i’n cymunedau, ond gwn mai dim ond cyfran fechan yw’r cartrefi newydd hyn o’r hyn sydd ei angen i ddadwneud effaith newidiadau budd-daliadau llywodraeth y DU.’
Gweinidog yn adolygu gofynion allyriadau a gosod chwistrellwyr
Cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Carl Sargeant, gynllun cam-wrth-gam i osod systemau chwistrellu mewn tai annedd, a diwygiodd y targed lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer cartrefi newydd yng Nghymru.
Mae’r gostyngiad o 8 y cant mewn allyriadau ar lefelau 2010 yn is na’r 40 y cant a gynigwyd yn wreiddiol. Ond mewn datganiad ar ysgogi adeiladu cartrefi yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, dywedodd: ‘Credaf bod hon yn ffordd gytbwys o fynd ati – gwella’n safle parthed allyriadau heb danseilio’r nod o adeiladu.’
Ynglŷn â systemau chwistrellu dywedodd ‘mewn cyfnod o adnoddau cyfyng, fy mwriad yw canolbwyntio’n hymdrechion dechreuol ar eiddo risg-uchel lle caiff y mesur fwyaf o effaith.’ Bydd y rheoliadau mewn grym yn achos eiddo fel cartrefi gofal, neuaddau preswyl a thai llety o fis Ebrill, a phob tŷ a fflat newydd ac addasedig o fis Ionawr 2016.
Roedd adeiladwyr tai wedi beirniadu’r cynlluniau gwreiddiol. Ond yn ôl Stuart Rowlands, rheolwr-gyfarwyddwr Redrow South Wales, roedd y gweinidog wedi gwrando ar lais y diwydiant. ‘Yn sicr, mae wedi llacio rhai meysydd allweddol, sy’n ollyngdod i’r diwydiant mewn cyfnod anodd iawn.’
Ond galwodd amgylcheddwyr y cynlluniau ynni newydd ‘yn wastraff cyfle’. Dywedodd Alun James, swyddog polisi ac eiriolaeth WWF Cymru, fod gweinidogion wedi ‘ildio i bwysau gan y sector adeiladu’.
‘Mae gennym sefyllfa’, meddai, ‘lle mae mesurau a allai ostwng costau gwresogi cartrefi newydd yn aruthrol wedi eu gohirio am flynyddoedd er bod Lywodraeth Cymru wedi eu haddo, bod y rhan fwyaf o bobl yn eu cefnogi, ac y byddent yn fuddiol iawn o ran cynyddu gwerth adwerthol yr eiddo.’
Tasglu’n mynd i’r afael â chyflenwad
Cafwyd mwy o fanylion am y Tasglu ar y Cyflenwad Tai a ffurfiwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar sut i gynyddu’r cyflenwad ac elwa i’r eithaf ar y swyddi a’r twf a ddaw yn sgîl adeiladu cartrefi.
Bydd hefyd yn cyflwyno cynigion ymarferol i fynd i’r afael â\’r rhwystrau i adeiladu tai ac annog mwy o ddatblygiadau. Aelodau’r Tasglu yw:
• Cadeirydd: Robin Staines, Cyfarwyddydd Tai, Cyngor Sir Gaerfyrddin
• Is-gadeirydd: Stephen Cook, Tai Cymoedd i’r Arfordir
• Sasha Davies, Cyfarwyddydd Strategol ar gyfer Economi a Lle, Cyngor Bwrdeistref Conwy
• Geoff Petty, Prif Swyddog Cyllid, Heddlu De Cymru
• Andy Jones, Cyfarwyddydd Cysylltiadau, Barclays Cymru a De-orllewin Lloegr
• Jane Carpenter, Cyfarwyddydd Cynllunio De Cymru, Redrow Group Services
• Richard Price, Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi.
Clywodd y tasglu dystiolaeth eisoes gan sefydliadau allweddol yn sector adeiladu tai Cymru a bydd yn clywed gan swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Hydref. Bydd yn adrodd wrth y Gweinidog Tai, Carl Sargeant, ym mis Mis Rhagfyr.
Gweler nodwedd arbennig WHQ ar gyflenwad a galw, yn dechrau ar dud. 22, ac erthygl gan Gadeirydd y Tasglu, Robin Staines, ar swigod tai a chyflenwad ar dud. 46.
Deddf newydd i ddiogelu preswylwr cartrefi symudol
Caiff pobl sy’n byw mewn cartrefi symudol yng Nghymru hawliau newydd wedi i ACau gymeradwyo deddf newydd ddiwedd mis Medi.
Bil Cartrefi Symudol (Cymru) oedd y Bil Aelod Cynulliad preifat cyntaf erioed o dan bwerau newydd y Cynulliad, ac fe’i cyflwynwyd gan Peter Black, AC Democrataidd Rhyddfrydol De-orllewin Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Ei nod yw amddiffyn pobl trwy sefydlu prosesau teg, hawdd eu defnyddio a hawliau clir ar gyfer preswylwyr cartrefi symudol a pherchenogion safleoedd
Meddai Peter Black:
‘Fe es i mewn i wleidyddiaeth er mwyn newid bywydau pobl, a dyna’n union a wna’r Bil yma. Bydd y Bil yn helpu i ddatrys Ilawer o’r problemau mae perchenogion Cartrefi Symudol yn ymdrin â nhw bob dydd. O dan y ddeddf gyfredol, does braidd dim amddiffyniad i breswylwyr yn erbyn perchenogion diegwyddor, y gall fod lleiafrif ohonynt yn manteisio ar eu safle er budd personol. Bydd y Bil yn atal yn annhegwch yma.’
Mae’r Bil yn cynnwys prawf person ‘cymwys a phriodol’ ar gyfer pechenogion safleoedd sefydlog a system drwyddedu fel y gall trigolion fod yn hyderus bod eu safle’n cael ei rheoli’n effeithiol.
Papurau ymgynghori
Bydd nifer o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ:
• Mynd i’r afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu – Ymatebion erbyn Hydref 18
• Mae\’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Ymgynghori ar y cynnig i newid y ddyletswydd i awdurdod lleol i ddarparu ar gyfer cyn- garcharor o ganlyniad i\’w statws angen blaenoriaeth – Ymatebion erbyn 28 Hydref
I geisio barn rhanddeiliaid ar y cynnig i newid statws angen blaenoriaethol cyn-garcharorion mewn perthynas â dyletswyddau digartrefedd awdurdodau lleol.
• Ymgynghoriad ar Bwerau Disgresiwn i Awdurdodau Lleol Gynyddu’r Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi – Ymatebion erbyn 28 Hydref
Mae ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar-lein yn
http://wales.gov.uk/consultations/?skip=1&lang=cy
CYHOEDDIADAU
10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW
1 Monitro Tlodi ac Allgau Cymdeithasol yng Nghymru 2013 – Y Sefydliad Polisi Newydd/Sefydliad Joseph Rowntree, Medi 2013
www.jrf.org.uk/sites/files/jrf/MPSE2013W.pdf
2 Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol – Llywodraeth Cymru, Medi 2013
http://wales.gov.uk/topics/equality/rightsequality/disability/framework-for-action/?skip=1&lang=cy
3 A High Cost to Pay – Research and recommendations on benefit sanctions for people experiencing homelessness – Homeless Link, Medi 2013
http://homeless.org.uk/sites/default/files/site-downloads/A%20High%20Cost%20to%20Pay%20Sept13_0.pdf
4 The Top of the Ladder – Demos, Medi 2013
www.demos.co.uk/publications/topoftheladder
5 A Role for Equity Finance in UK Housing Markets – Sefydliad Joseph Rowntree, Medi 2013 www.jrf.org.uk/publications/equity-finance-and-uk-housing
6 Rebuilding the Relationship Between Philanthropy and Affordable Housing –
Sefydliad Smith, Medi 2013 www.smith-institute.org.uk/file/Philanthropy%20and%20Affordable%20Housing.pdf
7 Beyond the High Street: Why our city centres really matter – Centre for Cities, Medi 2013
www.centreforcities.org/research/2013/09/10/beyond-the-high-street/
8 Turning the Tide – Social justice in five seaside towns – Centre for Social Justice, Awst 2013
9 Scenarios for the Welsh Government Budget to 2025-26 – Institute for Fiscal Studies, Medi 2013
http://www.ifs.org.uk/publications/6867
10 Impact of under-occupation – three months since implementation – TPAS Cymru, Gorffennaf 2013
www.tpascymru.org.uk/wp-content/uploads/downloads/2013/08/Impact-of-Under-Occupation-Final-Report-for-Publication-E.pdf
CYMRU
Cynllun grantiau i gefnogi 1,000 o gartrefi fforddiadwy newydd
Cafodd cynllun cyllid tai newydd arloesol i gefnogi cyd-fenthyca er mwyn codi mwy na 1,000 o gartrefi newydd fforddiadwy ledled Cymru ei lansio gan weinidogion ym mis Medi.
Mae cynllun Grantiau Cyllid Tai Cymru yn cynnwys £120 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru dros y 30 mlynedd nesaf. Mae rhyw 20 o gymdeithasau tai yn cymryd rhan, sy’n gweithio ym mhob un o’r 22 ardal awdurdod lleol. Bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn 2013.
Fel rhan o’r cynllun, bydd M&G Investments yn mynd yn ffynhonnell newydd bwysig o gyllid ar gyfer LCCiaid, sydd wedi dioddef o ddiffyg cyllid tymor-hir gan fanciau a chymdeithasau adeiladu.
Daw gweddill y cyllid oddi wrth Affordable Housing Finance ccc, is-gwmni i’r Gorfforaeth Cyllid Tai, a gefnogir â gwarant gan lywodraeth y DU.
Meddai’r gweinidog tai, Carl Sargeant: ‘Dim ond cam cyntaf yw hwn yn fy ymgais i ddarganfod ffyrdd newidd o gynyddu cyflenwad tai Cymru. Mae adeiladu tai newydd yn bwysig nid yn unig er mwyn ateb gofynion tai cynyddol cymunedau ond hefyd fel ffordd o ddarparu swyddi i helpu pobl allan o dlodi ac i wrthbwyso effeithiau tra niweidiol ‘treth stafell wely’ llywodraeth y DU.’
Mae Steve Evans, Cartrefi Cymunedol Cymru, yn esbonio’r syniadau y tu ôl i’r cynllun newydd fel rhan o nodwedd arbennig WHQ ar gyflenwad a galw yn y rhifyn hwn, gweler tt. 22-31.
Caerdydd yn chwilio am bartner cartrefi newydd
Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am bartner neu gonsortiwm datblygu i wireddu ei gynllun i ddatblygu mwy na 1,000 o unedau newydd o dai yn y ddinas yn y 10 mlynedd nesaf.
Y nod yw darparu cartrefi deiliadaeth-gymysg o ansawdd uchel er mwyn ymateb i’r galw cynyddol am dai yn y ddinas, tra’n rhedeg projectau adfywio er mwyn creu cymunedau cynaliadwy. Cyllidir a rheolir yn unedau tai fforddiadwy gan Gyngor Caerdydd.
Cyhoeddodd y cyngor Hysbysiad Rhag-wybodaeth (PIN) yn Nyddlyfr Swyddogol yr UE i ganiatáu iddo roi prawf ar y farchnad a gweithio gyda darpar-ddatblygwyr i’w helpu i lunio ffordd o fynd ati.
Dywedodd yr aelod cabinet dros gymunedau, tai ac adfywio cymdogaethau, y Cyng Lynda Thorne: ‘Mae sicrhau fod cartrefi a llety o ansawdd da ar gael i bobl ledled y ddinas yn ysgogiad allweddol i’r cyngor. Rydym yn adfywio rhannau o Gaerdydd ar gyfer y dyfodol ac yn adeiladu cymunedau trwy fuddsoddi mewn datblygu safleoedd tir-llwyd i ddarparu cartrefi cynaliadwy ar gyfer pobl ledled y ddinas, yn cynnwys cyfran sylweddol o eiddo cyngor i ateb y galw mawr.’
Mae’r Cyngor yn buddsoddi £33 miliwn yn y cynllun a nodwyd nifer o safleoedd tir-llwyd o’i eiddo a allai fod yn addas at ddatblygu o leiaf 1,000 o unedau eiddo. Bydd 40 y cant o’r rhain yn gartrefi cyngor newydd i’w rhentu a’u gwerthu fel cartrefu cost-isel. Mae yna safleoedd eraill a allai hwythau, ar ôl ymchwil pellach, fod yn addas i’w hailddatblygu.
Pedwar person ifanc yn ennill prentisiaethau
Mae dwy gymdeithas tai wedi uno i sicrhau prentisiaethau seiri coed a thrydanol i bobl ifanc yn ne Cymru mewn partneriaeth â chwmni adeiladu.
Cynigwyd y prentisiaethau tymor-hir i Newydd a Cadwyn gan Willis Construction fel rhan o’i gynigion ar gyfer cynaliadwyedd cymunedol a oedd ynghlwm wrth gyflawni cytundebau cynnal-a-chadw’r ddwy gymdeithas.
Cynigir prentisiaethau seiri dwy-flynedd a thrydanwyr tair-blynedd i rai rhwng 16 a 25 oed sy’n gweithio ar foderneiddio stafelloedd ymolchi a cheginau i’r ddwy gymdeithas a gosod offer gwresogi i Cadwyn.
Ceid proses ddethol lem yn cynnwys prawf ysgrifenedig ac ymarferiad chwarae rôl ar safle adeiladu, gyda chyfweliad i ddilyn. Yn y llun (chwith i’r dde) ceir y pedwar ymgeisydd llwyddiannus: Rhys Heathfield o’r Barri, Carlyn Payne o Groes Cwrlwys, Jake Hughes o Lanrhymni a Craig Wilford o Drelái.
Meddai Paul Roberts, prif weithredydd Cymdeithas Tai Newydd,‘Mae Cymdeithasau Tai yn llawer mwy na brics a morter; rydym am fuddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc mewn cymunedau lleol am flynyddoedd i ddod. Yn y farchnad swyddi sydd ohoni, mae prentisiaethau’n bwysicach nag erioed ac mae mentrau gyda phartneriaid parod fel Willis Construction o bwys hanfodol. Gobeithiwn gynnig mwy o brentisiaethau ar gytundebau mawr eraill yn y dyfodol.’
Gweinidog yn ymweld â datblygiad arloesol yn Abergele
Gwelodd y gweinidog tai, Carl Sargeant, hynt syniad newydd arloesol mewn tai ar gyfer pobl hŷn, tra’n ymweld â datblygiad gofal ychwanegol cyntaf Abergele.
Mae project £11 miliwn Hafod y Parc yn cael ei ddatblygu gan Dai Gogledd Cymru a Chyngor Conwy, gyda chefnogaeth grant tai cymdeithasol o £6.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cynllun yn cynnwys 49 o fflatiau un- a dwy-lofft gyda llu o ofodau cymunedol. Mae gofal ychwanegol yn gysyniad cymharol newydd sy’n cynnig byw annibynnol gyda chymorth rhaglen ofal bwrpasol y gellir ei haddasu wrth i anghenion newid. Mae’r ffordd hon o fynd ati yn cynnig dewis amgen i fyw annibynnol traddodiadol neu fyw a derbyn gofal mewn cartref nyrsio.
Meddai Carl Sargeant: ‘Mae’n wych gweld y cynllun tai ardderchog hwn bron yn gyflawn. Mae’n siŵr y caiff y cyfle i bobl leol dros eu 60 fyw’n annibynnol yn y cartrefi newydd hyn yn Abergele groeso mawr.’
Linc yn sicrhau £15m o gyllid datblygu
Mae Linc Cymru wedi cytuno ar becyn cyllido gwerth £15 miliwn gyda’r Royal Bank of Scotland (RBS) i gefnogi ei raglenni datblygu corfforaethol.
Mae’r pecyn yn cefnogi gwaith adeiladu ar gynlluniau newydd ym Mhen-y-bont a Chasnewydd. Yng Nghoety, Pen-y-bont, cychwynnodd gwaith ar gynllun deiliadaeth-gymysg o 100 o fflatiau a thai ar dir a werthwyd gan Lywodraeth Cymru o dan ei phrotocol rhyddhau tir. Ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd, mae’r gwaith adeiladu ar saith tŷ i’w rhentu’n gymdeithasol ynghyd â chynllun tai â chymorth o chwe byngalo unigol bron ar ben.
Strwythurodd RBS y cytundeb £15 miliwn gan ddefnyddio Cynllun Cyllido Benthyca Banc Lloegr, sy’n darparu cyllid mwy hygyrch ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint.
Tîm tai cymdeithasol y cyfreithwyr Hugh James a weithredodd ar y pecyn ar ran Linc, a dywedodd un partner, David James: ‘Rydym bellach yn gweld ymchwydd mewn benthyca trwy’r holl sector, yn enwedig trwy fodel ‘bond tai Cymreig’ ac rydym wrthi’n cynghori nifer o gymdeithasau tai ar eu hanghenion.’
Prentis yn helpu i godi gartrefi ar y safle lle cafodd ei eni
Mae llanc ifanc o Gaerffili wedi dychwelyd i safle’r ysbyty lle cafodd ei eni i helpu i adeiladu’r cam nesaf yn ei hanes.
Ganed Jamie Baird yn Ysbyty’r Glöwyr, Caerffili 17 flynedd yn ôl, ond dychwelodd yn brentis saer ac mae’n rhan o’r tîm sy’n gweithio ar Bentre’r Ffawydd sy’n cael ei adeiladu ar y safle.
Mae’r datblygiad newydd o 82 o gartrefi lleol yn cael ei ddarparu trwy bartneriaeth rhwng United Welsh a’r datblygwyr Lovell, gyda chefnogaeth Cyngor Caerffili a Llywodraeth Cymru.
Mae Jamie’n gweithio ar y safle trwy gynllun Y Prentis sy’n galluogi pobl ifanc yn ne Cymru i gwblhau prentisiaeth ddwy-flynedd trwy ddarparu lleoliadau gwaith ar safleoedd adeiladu yn ne Cymru, a bydd yn gweithio ar safle’r pentref tan fis Mai. Dywedodd: ‘Dyma’r tro cyntaf i mi weithio ar safle go iawn felly dwi’n dysgu drwy’r amser. Dwi eisoes wedi cael cyfle i gwblhau gorchwylion, yn cynnwys ffitio to, adeiladu waliau ffrâm, crogi drysau a gosod ffenestri i mewn. A finne wedi cael fy ngeni yma, ac yn dal i fyw yn y cylch, mae’n rhoi cysylltiad personol i fi â’r safle, sy’n deimlad braf.’
Meddai Steve Cranston, pennaeth buddsoddi cymunedol United Welsh: ‘Mae’n stori wych. Buom yn gweithio gyda phobl leol yng Nghaerffili ers pedair blynedd a mwy i adfer prif adeilad yr ysbyty i’w ogoniant blaenorol fel canolbwynt i falchder y gymuned, ochr yn ochr â’r cartrefi fforddiadwy mae cymaint o alw amdanynt.’